Newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Etholiadau 2022
Roedd cyfreithiau a gyflwynwyd gan Senedd y DU pan sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn ein galluogi i ddwyn erlyniadau yn erbyn y rhai a dorrodd gyfraith etholiadol yn gysylltiedig â phleidiau ac ymgyrchwyr. Mae Deddf Etholiadau 2022 yn ein hatal rhag gallu dwyn erlyniadau o’r fath.
Ein barn
Mae camau gorfodi effeithiol pan gaiff y rheolau eu torri yn rhoi hyder i bleidleiswyr yn y system etholiadol. Nid yw Llywodraeth y DU o'r farn bod hwn yn faes gwaith y dylem ymgymryd ag ef ac ystyriwyd ei fod yn dyblygu gwaith Gwasanaeth Erlyn y Goron a Gwasanaeth Erlyn Cyhoeddus Gogledd Iwerddon.
Er budd y cyhoedd ac i lenwi unrhyw fwlch rheoleiddio, bydd angen i'r Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, y Gwasanaeth Erlyn Cyhoeddus, a Gwasanaeth Procuradur Ffisgal Swyddfa'r Goron (ar gyfer yr Alban) weithio gyda ni i fwrw ymlaen ag erlyniadau priodol. Mae hyn yn golygu erlyn yr ystod lawn o droseddau, o'r troseddau lefel is sy'n aml yn dod i'r amlwg trwy ein gwaith ymchwilio, hyd at y troseddau mwy arwyddocaol.
Mae gan bleidleiswyr yr hawl i ddisgwyl y bydd unrhyw blaid wleidyddol neu ymgyrchydd sy'n torri'r gyfraith etholiadol yn fwriadol neu'n ddi-hid yn wynebu cael ei erlyn.