Tryloywder mewn ymgyrchu digidol: ymateb i ymgynghoriad technegol Swyddfa’r Cabinet ar argraffnodau digidol

Cynnig 3: Manylion yr argraffnod

Cwestiynau 20, 21 a 22: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno gyda’r cynnig o ran y manylion i’w cynnwys o fewn yr argraffnod, hynny yw enw a chyfeiriad hyrwyddwr y deunydd ac enw a chyfeiriad unrhyw berson yr ydys yn cyhoeddi’r deunydd ar eu rhan nhw? Rhowch unrhyw fanylion pellach i esbonio eich ymateb fan hyn. Oes gennych unrhyw sylwadau eraill ar gynnig 3?  

Cytunwn yn gryf â’r Llywodraeth y bydd gofyn am y wybodaeth hon yn cefnogi amcanion polisi deuol y gyfundrefn argraffnodau digidol. Bydd yn darparu tryloywder ar gyfer pleidleiswyr o ran pwy sy’n ceisio dylanwadu ar eu pleidlais. Bydd hefyd yn helpu’r heddlu a’r Comisiwn i orfodi’r rheolau gwario.

Mae gofyn am enw’r hyrwyddwr ac unrhyw person yr ydys yn cyhoeddi’r deunydd ar ei ran yn golygu na all ymgyrchwyr gynnwys slogan ymgyrchu na ellir ei olrhain yn ôl i unigolyn. Mae gofyn am gyfeiriad yn golygu y gallwn ni, neu’r heddlu, gysylltu ag ymgyrchwyr os oes angen i ni ymchwilio i eithriadau neu bryderon gyda’r rheolau gwario neu gyfraith berthnasol arall, megis cyfraith difenwi. Bydd cyfeiriad hefyd yn helpu i ddangos bod ymgyrchydd wedi ei leoli yn y DU a lleihau canfyddiadau o ymyrraeth dramor.

Cydnabyddwn y gall rhai ymgeiswyr neu ymgyrchwyr sydd heb gyfeiriad swyddfa ddymuno peidio â chynnwys eu cyfeiriad cartref ar ddeunydd ymgyrchu. Yn yr achosion hyn, gallai Blwch SP neu gyfeiriad blwch post ein galluogi ni a’r heddlu i ohebu ag ymgyrchydd neu gyflwyno papurau cyfreithiol, a bwrw ei fod yn gyfeiriad go iawn ar eu cyfer.