Ymgyrchu digidol tryloyw
Trosolwg
Rydym am i bob pleidleisiwr yn y DU wybod pwy sy'n talu i'w targedu ar-lein yn ystod etholiadau a refferenda.
Crynodeb
Mae mwy o arian yn cael ei wario ar hysbysebu digidol gyda phob etholiad. Ond cafodd y gyfraith etholiadol ei hysgrifennu ymhell cyn i hysbysebu droi'n ddigidol.
Er bod angen dangos yn glir pwy dalodd am hysbysebion ymgyrchoedd etholiadol sydd mewn print, nid oes unrhyw gyfraith yn ymdrin â'r hysbsebion hyn ar-lein.
Rydym yn galw ar lywodraethau'r DU a chwmnïau cyfryngau cymdeithasol i weithio gyda ni er mwyn ei gwneud hi'n amlwg i bleidleiswyr pwy sy'n talu er mwyn dylanwadu arnynt ar-lein.
Newidiadau yr hoffem eu gweld
Mae angen y canlynol ar bleidleiswyr:
- bod pob hysbyseb etholiadol ddigidol yn dangos gwybodaeth glir am bwy sydd wedi talu amdani
- bod cwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn cynnal cronfeydd data ar-lein o hysbysebion gwleidyddol
Rydym am i lywodraethau'r DU newid y gyfraith er mwyn sicrhau bod gennym y canlynol:
- rheolau gwell ynghylch y ffordd y caiff gwariant ar hysbysebion etholiadol digidol ei adrodd i ni, fel y gallwn sicrhau bod ymgyrchwyr yn dilyn y rheolau
- dirwyon mwy, os bydd ymgyrchwyr yn torri'r rheolau
- pwerau cryfach, er mwyn sicrhau bod gennym yr adnoddau cywir i reoleiddio ffyrdd newydd o ymgyrchu, megis ar sianelau'r cyfryngau cymdeithasol neu drwy ddefnyddio systemau talu ar-lein ar gyfer rhoddion ymgyrchu
Yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd
Llywodraeth yr Alban
Mae deddfwriaeth newydd wedi dod i rym yn yr Alban sy’n cwmpasu deunydd ymgyrchu etholiadol digidol sy’n ymwneud â phleidiau ac ymgyrchydd.
Mae hyn yn golygu bod rhaid i ddeunydd ymgyrchu etholiadol digidol y talwyd amdano a hefyd ddeunydd o’r fath na thalwyd amdano gynnwys label glir gyda gwybodaeth am bwy sy’n ei hyrwyddo.
Mae’r ddeddfwriaeth yn gymwys at bob plaid ac ymgyrchydd yn etholiad Senedd yr Alban ym mis Mai 2021.
Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU
Mae rhai o’r pwerau deddfu etholiadol wedi eu dal ar wahân gan lywodraethau Cymru, yr Alban, a’r DU. Rydym wedi bod yn gweithio’n agos â phob un ohonynt wrth iddynt ystyried sut byddant yn rheoleiddio ymgyrchu digidol.
Fe wnaeth Llywodraeth y DU gynnal ymgynghoriad ar y rheolau newydd y mae am eu cymhwyso at ddeunydd ymgyrchu etholiadol digidol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, a ledled y DU yn ystod etholiadau cyffredinol Senedd y DU. Gallwch ddarllen ein hymateb i’r ymgynghoriad fan hyn.
Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru wrth iddi ystyried pa ddull i’w fabwysiadu.
Byddwn yn cyhoeddi diweddariadau pellach ynghylch y datblygiadau hyn pan fyddant ar gael.
Cwmnïau cyfryngau cymdeithasol
Fe wnaethom ddefnyddio’r llyfrgelloedd hynny i fonitro pwy oedd yn cynnal hysbysebion etholiadol yn ystod etholiad cyffredinol Senedd y DU yn 2019. Fe wnaethom argymhellion ynghylch hysbysebu etholiadol ar y cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau digidol yn ein hadroddiadau ar ôl yr etholiad.
Darllenwch ein adroddiad ar etholiad cyffredinol Senedd y DU
Adroddiad: twf ymgyrchu digidol
Yn 2018, gwnaethom ysgrifennu adroddiad am dwf ymgyrchu digidol yn y DU.
Gwnaethom argymhellion i'r llywodraeth er mwyn gwella tryloywder ymgyrchu digidol.