Ymateb i ymgynghoriad ar ganllawiau statudol drafft: argraffnodau digidol
Summary
Cynhaliom ymgynghoriad ar ganllawiau statudol drafft ar argraffnodau digidol rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2022.
Mae'r drefn argraffnod digidol bellach ar waith (o fis Tachwedd 2023 ymlaen), a gallwch weld ein canllawiau statudol yma.
Summary
Crynodeb
Ychwanegir ‘argraffnodau’ at ddeunydd gwleidyddol neu ddeunydd sy'n gysylltiedig ag etholiad er mwyn dangos pwy sy'n gyfrifol amdano. Mae hyn yn helpu i sicrhau tryloywder ar gyfer pleidleiswyr ynghylch pwy sy'n gwario arian i ddylanwadu arnynt.
Mae Deddf Etholiadau 2022 yn cynnwys darpariaethau sy'n mynnu bod argraffnodau ar ddeunydd ymgyrchu digidol.
Mae'r Ddeddf yn cyflwyno dyletswydd newydd ar y Comisiwn i baratoi canllawiau statudol yn esbonio'r drefn o ran argraffnodau digidol a'r modd y bydd y Comisiwn a'r heddlu yn eu dilyn i arfer eu swyddogaethau gorfodi.
Pan ddaw'r canllawiau statudol i rym, rhaid i'r Comisiwn a'r heddlu ystyried y canllawiau wrth iddynt orfodi'r drefn. Ar gyfer ymgyrchwyr, bydd dangos eu bod wedi cydymffurfio â'r canllawiau yn amddiffyniad statudol i unrhyw drosedd o dan y cyfreithiau newydd.
Rhwng 31 Hydref 2022 ac 20 Rhagfyr 2022, gwnaethom gynnal ymgynghoriad ar fersiwn ddrafft o'r canllawiau. Cafwyd 22 o ymatebion i'r ymgynghoriad gan bleidiau gwleidyddol, academyddion, ac amrywiaeth o grwpiau eraill, gan gynnwys undebau llafur a sefydliadau yn cynrychioli elusennau. Nodwn isod grynodeb o'r themâu allweddol a ddaeth i'r amlwg yn ystod yr ymgynghoriad a'r ffordd rydym wedi ystyried pob un ohonynt wrth ddiweddaru'r canllawiau ac wrth ymgymryd â'n gwaith ehangach i gefnogi ymgyrchwyr.
Rydym yn ddiolchgar i bawb a roddodd adborth i ni. Rydym wedi defnyddio'r adborth hwn i ddatblygu'r canllawiau ac i'w gwneud mor glir a defnyddiol â phosibl. Rydym yn cydnabod pa mor bwysig ydyw bod y bobl a fydd yn defnyddio'r canllawiau yn eu cefnogi.
Sut y gwnaethom ddatblygu'r canllawiau drafft ar gyfer yr ymgynghoriad
Cyn i ni ddechrau datblygu'r canllawiau, gwnaethom siarad ag amrywiaeth o bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ledled y DU er mwyn llywio'r fersiwn ddrafft.
Gwnaethom eu holi ynghylch:
- eu dealltwriaeth o'r darpariaethau o ran argraffnodau
- y modd maent yn defnyddio deunydd digidol yn eu hymgyrchu gwleidyddol
- pa lwyfannau digidol a ddefnyddir ganddynt i gyrraedd pleidleiswyr
- sut maent yn gweld ymgyrchu digidol yn datblygu yn y dyfodol
Gwnaethom ddefnyddio'r cam cyn ymgynghori hwn i fanteisio ar eu harbenigedd, yn ogystal â'n profiad o reoleiddio etholiadau er mwyn llunio drafft a fyddai'n destun ymgynghoriad cyhoeddus.
Y prif newidiadau i'r canllawiau ar ôl yr ymgynghoriad
Yn gyffredinol, roedd yr adborth yn gadarnhaol ac roedd rhanddeiliaid yn teimlo bod y canllawiau drafft yn “syml ac wedi'u hysgrifennu'n dda ar y cyfan” ac yn “ymdrin â threfn statudol gymhleth, ac amwys ar adegau, mewn ffordd hygyrch”. Roedd rhannau lle gofynnwyd am eglurder neu enghreifftiau ychwanegol er mwyn ei gwneud yn haws i bleidiau ac ymgyrchwyr ddeall y gyfraith a sut i'w chymhwyso yn ymarferol.
Mewn ymateb i'r adborth, rydym wedi gwneud newidiadau i'r canllawiau drafft. Byddwn yn mynd drwy fanylion y rhain isod ond, yn gryno, mae'r prif newidiadau fel a ganlyn:
- Cynnwys mwy o enghreifftiau ac amrywiaeth o ddelweddau drwy'r canllawiau er mwyn helpu ymgyrchwyr i ddeall y rheolau ac ym mha sefyllfaoedd y maent yn gymwys.
- Nodi'n gliriach pa ffactorau sy'n berthnasol i bennu a yw'n ‘rhesymol ymarferol’’ i gynnwys yr argraffnod fel rhan o'r deunydd.
- Ychwanegu siart lif i esbonio'r esemptiad rhannu a chynnwys adran newydd sy'n nodi pwy sy'n atebol pan gaiff deunydd ei rannu.
- Diweddaru rhywfaint o'r derminoleg er mwyn ei gwneud yn haws i ymgyrchwyr ei deall a'i defnyddio.
- Ailddrafftio'r adran ar bwy yw'r hyrwyddwr, gan nodi'n gliriach, pan gaiff deunydd ei gyhoeddi gan sefydliad, mai'r sefydliad ei hun fydd yr hyrwyddwr fel arfer, ac felly nid oes angen i enw unrhyw unigolyn ymddangos.
- Cynnwys rhagor o wybodaeth am y ffactorau y bydd y Comisiwn yn eu hystyried wrth bennu a yw camau gorfodi yn gymesur.
O fewn yr adroddiad hwn, rydym wedi nodi lle rydym yn cytuno ag argymhellion i wella eglurder y canllawiau. Rydym hefyd wedi nodi pam ein bod wedi cadw'r geiriad gwreiddiol mewn rhai mannau. Mewn rhai achosion, nid oeddem yn gallu gwneud y diwygiadau a awgrymwyd oherwydd eu bod yn gwrthdaro â'r gyfraith yn Neddf Etholiadau 2022 neu oherwydd eu bod yn awgrymu sut y gellid gwneud y gyfraith ei hun yn gliriach. Mewn achosion eraill, nid oedd darnau o adborth yn cyd-fynd â'i gilydd.
Themâu a nodwyd yn ystod yr ymgynghoriad
Deunydd lle mae angen argraffnod
Cefndir
Deunydd digidol yw unrhyw ddeunydd ar ffurf electronig sy'n cynnwys testun, delweddau sy'n symud, delweddau llonydd, iaith lafar neu gerddoriaeth. Fodd bynnag, nid yw'n cynnwys galwadau ffôn na negeseuon SMS.
Mae dwy set wahanol o feini prawf sy'n pennu a oes angen argraffnod ar ddeunydd digidol.
Os bydd rhywun wedi talu i gyhoeddi'r deunydd fel hysbyseb, bydd angen argraffnod os yw'n ‘ddeunydd gwleidyddol'.
Os na fydd unrhyw un wedi talu i'r deunydd gael ei gyhoeddi fel hysbyseb, yna mae'n ‘ddeunydd organig’. Mae angen argraffnod ar ddeunydd organig os yw'r deunydd yn unrhyw un o'r canlynol:
- deunydd etholiad
- deunydd refferendwm
- deunydd deiseb adalw
Fodd bynnag, bydd ond angen argraffnod ar ddeunydd organig os caiff y deunydd ei gyhoeddi gan neu ar ran ‘endid perthnasol’, sef unrhyw un o'r canlynol:
- plaid gofrestredig
- ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid
- ymgeisydd neu ddarpar ymgeisydd
- deiliad swydd etholedig
- ymgyrchydd refferendwm cofrestredig
- ymgyrchydd deiseb adalw cofrestredig
Y gwahaniaeth rhwng ‘hysbysebion y telir amdanynt’ a deunydd ‘organig’
Roedd 80% o'r ymatebwyr yn teimlo bod y canllawiau yn ddefnyddiol o ran esbonio ystyr ‘talu i gael ei gyhoeddi fel hysbyseb’ Fodd bynnag, gofynnodd rhai ymatebwyr am eglurhad pellach o ran y gwahaniaeth rhwng y ddau fath o ddeunydd.
Rydym felly wedi cynnwys rhai enghreifftiau ychwanegol i esbonio y bydd deunydd ond yn cael ei ystyried yn hysbyseb y telir amdani os bydd y llwyfan sy'n lletya'r hysbyseb wedi cael ei dalu am gyhoeddi'r hysbyseb honno. Gwnaethom gynnwys gwybodaeth er eglurder ac i nodi'r canlynol:
- byddai cynnwys gan ddylanwadwr ar y cyfryngau cymdeithasol neu lysgennad a delir sy'n cyhoeddi deunydd ar ei sianeli cyfryngau cymdeithasol arferol ei hun, yn cael ei ystyried yn ddeunydd organig yn hytrach na hysbyseb y telir amdani, hyd yn oed os bydd yn cael ei dalu gan ymgyrchydd
- byddai hysbysebion talu fesul clic a thalu fesul argraff yn hysbysebion y telir amdanynt
- byddai talu llwyfan i hyrwyddo postiad penodol (drwy gyfleuster fel hwb ar Facebook) yn ei droi'n hysbyseb y telir amdani, ond ni fyddai talu am wasanaeth cyffredinol (megis y tic glas ar Twitter) yn troi'r holl ddeunydd a gaiff ei bostio o'r cyfrif hwnnw yn hysbyseb y telir amdani
Bydd y newidiadau hyn a'r enghreifftiau penodol yn helpu ymgyrchwyr i ddeall yn well sut y caiff gwahanol fathau o ddeunydd eu dosbarthu'n ymarferol a sut i gymhwyso hyn i wirioneddau modern ymgyrchu.
Cefnogi ymgyrchwyr i ddeall beth yw deunydd etholiad a beth yw deunydd gwleidyddol
Esboniodd 60% o'r ymatebwyr fod y canllawiau yn nodi'n effeithiol beth yw deunydd gwleidyddol, a dywedodd 73% fod y wybodaeth am sut i gymhwyso'r profion yn glir ar y cyfan. Dywedodd 73% y byddai rhagor o enghreifftiau yn ddefnyddiol.
Nododd sawl ymatebydd fod y profion y mae angen i ymgyrchwyr eu cymhwyso yn gymhleth, gan ddweud “mae'n debygol y bydd yn rhaid i'r rhai sy'n cyhoeddi wneud penderfyniadau anodd o ran a oes angen argraffnod ar eu deunydd ai peidio…y rhai sy'n cyhoeddi fydd yn bennaf cyfrifol am bennu a yw cynnwys yn cyrraedd y trothwy hwn”.
Mae hyn yn wir a gwyddom fod ymgyrchwyr yn bryderus am hyn, gan mai hyrwyddwr y deunydd, ac unrhyw un arall y caiff y deunydd ei gyhoeddi ar ei ran, sy'n gyfrifol am gynnwys argraffnod. Rydym yn cydnabod bod y gyfraith yn gymhleth ac rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y canllawiau mor glir a defnyddiol â phosibl. Rydym wedi diwygio geiriad y drafft a fydd yn helpu ymgyrchwyr mewn dwy ffordd:
- rydym wedi bod yn glir drwy argymell y dylai ymgyrchwyr gynnwys argraffnod ar bob deunydd digidol fel arfer orau
- rydym wedi esbonio'n fanylach y meini prawf sy'n pennu a fyddai deunydd yn ddeunydd etholiad neu'n ddeunydd gwleidyddol
Gofynnodd nifer o ymatebwyr am i'r canllawiau gynnwys rhagor o argymhellion ac awgrymiadau o arferion gorau i'w helpu i gydymffurfio â'r gyfraith. Rydym felly wedi ychwanegu rhagor drwy'r canllawiau, ac wedi nodi'n glir mai'r arfer orau i ymgyrchwyr yw cynnwys argraffnod ar eu holl ddeunyddiau. Rydym hefyd wedi esbonio os byddant yn mabwysiadu polisi arfer orau o gynnwys argraffnod ar eu holl ddeunyddiau, byddai hyn yn osgoi'r angen i ymdrin â manylion y profion cyfreithiol.
Dywedodd sawl ymatebydd fod y categorïau a ddefnyddiwyd yn y diffiniadau o ddeunydd gwleidyddol a deunydd etholiad yn ddryslyd, gan esbonio ei bod yn anodd cymhwyso'r diffiniadau yn ymarferol.
Er mwyn helpu ymgyrchwyr i ddeall y gwahaniaeth yn well, rydym wedi cynnwys delwedd enghreifftiol ar gyfer pob math o senario lle gall rhywbeth fod yn ddeunydd gwleidyddol neu'n ddeunydd etholiad. Roedd hyn hefyd yn ymdrin ag adborth mwy cyffredinol a gawsom gan ymatebwyr a esboniodd y byddai mwy o enghreifftiau a graffigau yn y canllawiau yn rhoi gwell eglurder a sicrwydd iddynt.
Rydym wedi ychwanegu esemptiadau at y siart lif hefyd i grynhoi ar ba ddeunydd y mae angen argraffnod, er mwyn gwneud yn siŵr ei bod mor gynhwysfawr â phosibl.
Dywedodd nifer o ymatebwyr wrthym fod yr ymadrodd ‘deunydd sy'n gysylltiedig ag etholiad’ yn ddryslyd iawn. Rydym felly wedi defnyddio ‘deunydd etholiad’ yn lle ‘deunydd sy'n gysylltiedig ag etholiad’ er mwyn sicrhau bod y derminoleg mor glir a hawdd ei deall â phosibl.
Rydym hefyd wedi diweddaru'r derminoleg o ‘endidau gwleidyddol’ i ‘endidau perthnasol’ er mwyn ymdrin â phryderon a godwyd gan rai ymatebwyr sef na fydd rhai mathau o ymgyrchwyr, gan gynnwys ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau, o reidrwydd yn ystyried eu bod yn ‘wleidyddol’ yn yr ystyr arferol ac felly'n credu nad yw'r gyfraith yn berthnasol iddynt o bosibl.
Defnyddio'r canllawiau
Awgrymodd ambell ymatebydd y gallai'r canllawiau fod yn haws eu defnyddio pe baent wedi'u strwythuro yn ôl y math o ddarllenydd (ymgeisydd, plaid wleidyddol, ymgyrchydd nad yw'n blaid, a deiliad swydd etholedig) yn hytrach nag yn ôl pwnc.
Rydym yn cytuno y gall strwythuro'r canllawiau yn ôl y math o ddarllenydd ei gwneud yn haws i ymgyrchwyr eu darllen a'u defnyddio, a dyma'r dull y byddem yn ei fabwysiadu fel arfer wrth lunio ein canllawiau anstatudol ein hunain. Fodd bynnag, mae'r gofyniad i'r Comisiwn lunio'r canllawiau hyn wedi'i nodi yn ôl y gyfraith ac mae'n rhaid iddynt ymwneud â Rhan 6 (ac Atodlenni 11 a 12) o Ddeddf Etholiadau 2022 yn ei chyfanrwydd, gan gwmpasu'r drefn argraffnodau digidol newydd a hynny'n unig. Rydym felly wedi llunio un set o ganllawiau y gall pob ymgyrchydd ei defnyddio a, lle y bo modd, rydym wedi cynnwys cyfeiriadau i'w helpu i ddeall rhannau cysylltiedig o'r gyfraith gymaint â phosibl.
Er mwyn gwneud y canllawiau mor hawdd eu deall â phosibl i ddefnyddwyr gwahanol, rydym wedi cynnwys adrannau newydd yn benodol ar gyfer ymgeiswyr/darpar ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol, ac rydym wedi symud a diweddaru'r adran ar ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau. Mae hyn wedi ein galluogi i roi canllawiau penodol ac wedi'u targedu i'r mathau hynny o ddarllenwyr, nad ydynt yn berthnasol i eraill o bosibl, ac sy'n adlewyrchu sut maent yn gweithio yn ymarferol.
Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
Cefndir
Unigolion neu sefydliadau sy'n ymgyrchu mewn etholiadau ond nad ydynt yn sefyll fel ymgeiswyr eu hunain yw ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau. Mae ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn chwarae rôl hanfodol yn ein proses ddemocrataidd, ac rydym yn ymrwymedig i roi cymaint o eglurder â phosibl iddynt i sicrhau nad ydynt yn cael eu hannog i beidio ag ymgyrchu'n weithredol.
Ymgyrchwyr seiliedig ar faterion yw llawer o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau. Mae hyn yn golygu, yn wahanol i bleidiau neu ymgeiswyr, a fydd fel arfer yn cynnwys argraffnodau ar eu holl ddeunyddiau, neu'r rhan fwyaf ohonynt, fel rheol bydd ymgeiswyr nad ydynt yn bleidiau yn cyhoeddi deunydd y gall fod angen argraffnod arno neu beidio, yn dibynnu ar yr achos penodol.
Roedd un rhan o dair o'r ymatebion i'r ymgynghoriad gan ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, neu grwpiau yn eu cynrychioli.
Deall ar beth mae angen argraffnod
Cafwyd ceisiadau gan ymatebwyr am ragor o fanylion am y gofynion sy'n pennu a oes angen argraffnod ar ddeunydd ai peidio, yn enwedig gan eu bod yn ymwneud ag ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau a'r math o ddeunydd nad oes angen argraffnod arno. Dywedodd ymgyrchwyr wrthym eu bod yn bryderus ynghylch gwneud yr asesiad hwn yn ymarferol ac y gallai fod yn anodd gwahaniaethu rhwng y mathau gwahanol o ddeunydd a ddefnyddir ganddynt.
Rydym felly wedi ychwanegu enghreifftiau manwl penodol sy'n ymwneud ag ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau. Mae hyn yn cynnwys deunydd ymgyrchu rhai nad ydynt yn bleidiau nad oes angen argraffnod arno, ymgyrch seiliedig ar faterion nad yw'n ymwneud ag etholiadau, ac ymgyrch yn erbyn deddfwriaeth y llywodraeth.
Pan wnaethom lunio'r canllawiau, gwnaethom gynnwys manylion i esbonio os bydd elusen gofrestredig yn dilyn cyfraith a chanllawiau elusennau gan y rheoleiddiwr elusennau perthnasol, mae'n annhebygol y bydd angen argraffnod ar unrhyw ddeunydd y bydd yn talu i'w gyhoeddi fel hysbyseb oherwydd ei bod yn annhebygol y bydd ei unig ddiben neu ei brif ddiben yn unol â'r diffiniad o ‘ddeunydd gwleidyddol’.
Cawsom ymatebion gwahanol iawn gan ddau grŵp gwahanol a oedd yn cynrychioli elusennau. Croesawodd y cyntaf ein fersiwn ddrafft gan nodi ei bod yn “ddefnyddiol iawn” deall pryd y byddai angen argraffnod.
Fodd bynnag, roedd ymatebwyr eraill yn “bryderus y gallai'r achos hwn arwain at laesu dwylo a thoriadau esgeulus”. Mae hyn oherwydd, ar gyfer gwariant, mae'r trothwy gwariant (sef £10,000 yn ystod cyfnod a reoleiddir) yn cynnig rhyw fath o glustog ond, ar gyfer argraffnodau, gallai un hysbyseb beri i elusen gyflawni trosedd.
Rydym yn deall pryderon rhai unigolion ond rydym wedi cadw ein geiriad gwreiddiol er mwyn helpu i roi cymaint o sicrwydd â phosibl i elusennau, a ddywedodd wrthym eu bod am reoli'r risgiau o dorri'r gyfraith yn ddamweiniol yn y ffordd orau y gallent.
Rydym felly wedi nodi y gallai elusennau ac ymgyrchwyr eraill gynnwys, fel arfer orau, argraffnod ar bob deunydd a gyhoeddir ganddynt yn ystod adegau etholiad, hyd yn oed mewn achosion pan na fydd angen argraffnod yn ôl y ddeddfwriaeth. Byddai hyn yn cefnogi tryloywder ac rydym wedi ychwanegu rhai awgrymiadau o ran sut y gallai ymgyrchwyr wneud hyn yn ymarferol.
Yn fwy cyffredinol, roedd nifer o ymatebwyr am i ni nodi'n gliriach yn y canllawiau na fyddai elusen (neu ymgyrchydd arall) sy'n rhoi argraffnod ar ei deunydd bob amser yn golygu bod angen argraffnod ar y deunydd yn ôl y gyfraith, ac y byddai unrhyw wariant ar y deunydd yn bodloni'r ‘prawf diben’ cysylltiedig ar gyfer gwariant a reoleiddir gan ymgyrchydd nad yw'n blaid.
Rydym yn cytuno ei bod yn bwysig esbonio hyn felly rydym wedi cynnwys rhywfaint o destun ychwanegol i nodi pe bai ymgyrchwyr yn cynnwys argraffnod ar eu holl ddeunydd fel arfer dda, ni ellir casglu bod angen argraffnod (neu fod gwariant wedi'i reoleiddio) drwy gynnwys yr argraffnod.
Gwybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys
Cefndir
Rhaid i'r argraffnod gynnwys enw a manylion cyfeiriad:
- hyrwyddwr y deunydd
- unrhyw un arall y cyhoeddwyd y deunydd ar ei ran
Roedd y mwyafrif o'r ymatebwyr (90%) yn teimlo bod y canllawiau yn eu cefnogi'n effeithiol i wybod pa wybodaeth i'w chynnwys, a dywedodd llai na hanner y dylid cynnwys rhagor o enghreifftiau.
Y mathau o wybodaeth y mae'n rhaid eu cynnwys
Roedd rhai ymatebwyr yn bryderus iawn ynghylch y gofyniad i gynnwys cyfeiriad, yn enwedig cyfeiriad cartref, am resymau diogelwch. Awgrymodd rhai y dylai cyfeiriad e-bost fod yn dderbyniol, neu y dylid dileu'r gofyniad am gyfeiriad yn gyfan gwbl. Fodd bynnag, mae'r gofyniad i gynnwys cyfeiriad wedi'i nodi yn y ddeddfwriaeth felly mae'n rhaid i'r canllawiau adlewyrchu'r gyfraith fel y'i pasiwyd.
Hefyd, roedd diffyg dealltwriaeth ynghylch manylion pwy sydd eu hangen fel yr hyrwyddwr. Rydym felly wedi diweddaru'r adran hon ac ychwanegu enghreifftiau, gan nodi'n glir os bydd sefydliad yn achosi i ddeunydd gael ei gyhoeddi, yna'r sefydliad yw'r hyrwyddwr, felly rhaid i fanylion y sefydliad ymddangos ar yr argraffnod. Yn yr achos hwn, mae'n bosibl na fydd angen manylion unigolyn.
Lleoliad yr argraffnod
Cefndir
Rhaid i'r argraffnod gael ei gynnwys fel rhan o'r deunydd, oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny. Os nad yw'n rhesymol ymarferol, rhaid i'r argraffnod gael ei gynnwys rywle sy'n uniongyrchol hygyrch o'r deunydd.
Helpu ymgyrchwyr i ddeall beth sy'n rhesymol ymarferol ac yn uniongyrchol hygyrch
Hon oedd yr adran roedd ymatebwyr yn teimlo leiaf hyderus yn ei chylch, gan mai dim ond 38% oedd yn teimlo bod y canllawiau yn eu helpu i ddeall pryd mae'n ‘rhesymol ymarferol’ i gynnwys argraffnod fel rhan o'r deunydd.
I fynd i'r afael â hyn, rydym wedi ychwanegu rhagor o fanylion am yr hyn sy'n berthnasol a'r hyn nad yw'n berthnasol wrth asesu'r hyn sy'n rhesymol ymarferol. Yn benodol, rydym wedi nodi'n glir fod hyn yn seiliedig ar gapasiti technegol y llwyfan a ddefnyddir, ac nid ar ystyriaethau eraill, megis dewisiadau dylunio, effeithiolrwydd, neu faint o amser neu ymdrech y byddai'n ei olygu.
Roedd 81% o'r ymatebwyr am gael rhagor o enghreifftiau o hygyrchedd uniongyrchol ac ymarferoldeb rhesymol. Rhoddodd ymatebwyr nifer o enghreifftiau defnyddiol ac esboniadol o sut y gallai llwyfannau gwahanol a'u swyddogaethau beri problem o ran cynnwys argraffnod yn rhywle sy'n uniongyrchol hygyrch o'r deunydd.
Rydym felly wedi nodi'n gliriach mai dim ond enghreifftiau o ble y gallai argraffnod ymddangos yw'r enghreifftiau yn y canllawiau o broffil a thrydariad wedi'i binio, gan bwysleisio y gall ymgyrchydd ychwanegu dolen i'r argraffnod ei hun – nid oes rhaid defnyddio un o swyddogaethau presennol y llwyfan. Rydym wedi esbonio bod llawer o ffyrdd o wneud argraffnod yn uniongyrchol hygyrch o ddarn o ddeunydd, ac mai mater i'r ymgyrchydd yw dewis yr opsiwn gorau iddo. Rydym wedi ychwanegu enghreifftiau newydd hefyd, gan gynnwys fideo TikTok a hysbyseb mewn chwiliad Google.
Pryderon ynghylch cyfyngiadau technolegol a chyflymder newid technolegol
Codwyd pryder cyffredinol gan y rhai yr ymgynghorwyd â nhw ynghylch cyflymder newid yn y cyfryngau cymdeithasol a sut y byddai'r canllawiau yn ymdopi â hynny – yn enwedig os yw llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn symud tuag at mwy o swyddogaethau a gyfyngir yn fwriadol.
Rydym yn ymwybodol o'r potensial am newid cyflym yn y maes hwn ond nod y canllawiau yw rhoi egwyddorion y gellir eu cymhwyso i unrhyw lwyfan ag unrhyw swyddogaeth, gan gynnwys swyddogaethau nad ydynt wedi'u dyfeisio eto. Mae'r holl enghreifftiau a roddir i ddangos yr egwyddorion hyn wedi'u cyfyngu, o anghenraid, i swyddogaethau presennol ym mis Mawrth 2023.
Rydym hefyd wedi nodi'n glir yn y canllawiau os oedd llwyfan â swyddogaethau cyfyngedig iawn fel y byddai cynnwys argraffnod ar bostiadau yn amhosibl, yna ni fyddai ymgyrchwyr yn gallu postio deunydd sydd angen argraffnod ar y llwyfan hwnnw yn ôl y gyfraith. Mae hyn yn un o ganlyniadau uniongyrchol y ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, nid ydym yn credu bod llwyfan o'r fath yn cael ei ddefnyddio'n gyffredin.
Ailgyhoeddi deunydd
Cefndir
Pan gaiff deunydd ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol, weithiau ni fydd angen argraffnod newydd arno, os yw'n cynnwys yr argraffnod gwreiddiol o hyd. Mae hyn yn gymwys pan fydd rhywun yn rhannu deunydd sydd eisoes wedi'i gyhoeddi ag argraffnod cywir ac nad yw'r rhannwr yn addasu'r deunydd.
Roedd 71% o'r ymatebwyr yn teimlo bod yr adran hon o'r canllawiau yn glir. Fodd bynnag, nododd nifer o ymgyrchwyr fod y cyfreithiau yn arbennig o gymhleth mewn perthynas ag ailgyhoeddi:
“mae esbonio hyn yn glir yn her go iawn, ac mae'r enghreifftiau yn ddefnyddiol”
“Hwn yw'r maes mwyaf cymhleth o'r ddeddfwriaeth, ond rydym yn croesawu'r tablau sy'n cynnig eglurder”
Nid ydym wedi addasu'r adran hon rhyw lawer felly, ond rydym wedi ychwanegu siart lif newydd i grynhoi sut mae'r esemptiad rhannu yn gweithio, yn ogystal â chynnwys enghraifft ychwanegol.
Atebolrwydd
Yr ymholiad mwyaf cyffredin a oedd gan ymatebwyr oedd pwy sy'n atebol pan gaiff deunydd a rennir ei gyhoeddi heb argraffnod sy'n cydymffurfio â'r rheolau – ai'r sawl a gyhoeddodd y deunydd gwreiddiol, neu'r rhai a gyhoeddodd y deunydd a rannwyd?
Roeddem wedi cynnwys manylion am hyn yn y canllawiau drafft ond, mewn ymateb i adborth i'r ymgynghoriad, rydym wedi ychwanegu rhywfaint o destun at yr adran am rannu hefyd, gan nodi'n glir mai'r sawl sy'n ailgyhoeddi sy'n atebol ac nid yr unigolion a gyhoeddodd y deunydd gwreiddiol.
Gorfodi
Cefndir
Mae'r canllawiau yn nodi ein dull o orfodi'r drefn, a dull yr heddlu: mae'n rhaid i'r Comisiwn a'r heddlu ystyried y canllawiau wrth gyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf. Ar gyfer ymgyrchwyr, bydd dangos eu bod wedi cydymffurfio â'r canllawiau yn amddiffyniad statudol i unrhyw drosedd o dan y cyfreithiau newydd.
Yn gyffredinol, cafwyd adborth da i'r adran hon gan ymatebwyr – roedd 73% yn teimlo y bydd y meini prawf y bydd y Comisiwn a'r heddlu yn eu dilyn wrth ystyried camau gorfodi yn briodol. Esboniodd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ei fod “yn cefnogi'r adran ar orfodi (ynghylch cymesuredd) yn gryf”.
Y broses a chymesuredd
Gofynnodd rhai ymatebwyr am wybodaeth ychwanegol sydd eisoes ym Mholisi Gorfodi ar wahân y Comisiwn, sef math arall o ganllawiau statudol a gyflwynwyd gerbron y Senedd yn annibynnol ar y canllawiau statudol hyn, ac sy'n nodi ein dull gorfodi ar gyfer gweddill y drefn cyllid gwleidyddol.
Roedd hyn yn cynnwys gwybodaeth am y weithdrefn pan fydd y Comisiwn yn cael cwyn, pryd a sut y cysylltir ag ymgyrchydd yn dilyn cwyn neu ar ôl dechrau ymchwiliad, beth yw'r trothwy ar gyfer dechrau ymchwiliad, a rhagor o fanylion am ystyr ‘cymesuredd’.
Nid ydym am gopïo cynnwys o Bolisi Gorfodi'r Comisiwn o fewn y canllawiau statudol ar wahân hyn, ond rydym wedi ychwanegu rhai manylion i ymateb i'r cwestiynau cyffredin a gawsom gan ymgyrchwyr. Yn benodol, rydym wedi nodi'n glir y byddwn ond yn dechrau ymchwiliad pan fo'n gymesur gwneud hyn, gan ystyried, er enghraifft, brofiad yr ymgyrchydd, ei gofnod cydymffurfio, ac a aeth i'r afael â'r broblem yn gyflym.
Casgliad
Mae cyflwyno'r gofynion ar gyfer argraffnodau ar ddeunydd digidol yn bwysig i sicrhau tryloywder wrth ymgyrchu, ac mae'n hanfodol bod ymgyrchwyr yn deall y dyletswyddau newydd a roddir arnynt. Mae'r canllawiau statudol yn rhan ganolog o waith y Comisiwn i helpu i sicrhau bod ymgyrchwyr yn hyderus wrth gymhwyso'r gyfraith i'w gweithgareddau.
Mae'r drefn o ran argraffnodau digidol yn gymhleth. Dywedodd llawer o'r ymatebwyr fod rhannau amrywiol o'r canllawiau drafft yn cynnig “eglurder” ac “enghreifftiau defnyddiol”. Rydym yn ddiolchgar i'n holl ymatebwyr ac rydym wedi defnyddio eu harbenigedd a'u gwybodaeth am sut mae ymgyrchu yn gweithio yn ymarferol i wneud y canllawiau mor glir a defnyddiol â phosibl.
Y camau nesaf
Rydym wedi cyflwyno'r fersiwn ddrafft derfynol o'r canllawiau i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. Yna, gall y Gweinidog addasu'r canllawiau, cyn eu cyflwyno gerbron y Senedd i gael eu cymeradwyo. Mae angen datganiad o'r rhesymau er mwyn nodi unrhyw newidiadau a wnaed.
Yna bydd y canllawiau yn destun gweithdrefn negyddol yn y Senedd, sy'n golygu unwaith y cânt eu cyflwyno, cânt eu cymeradwyo oni bai fod y naill Dŷ neu'r llall yn eu gwrthod o fewn 40 diwrnod i'w cyflwyno. Ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo, daw'r canllawiau i rym. Disgwyliwn i hyn ddigwydd ym mis Tachwedd 2023.
Atodiad A – Dadansoddiad o ymatebion i'r ymgynghoriad statudol
Cwestiynau
Ystyriwyd yr holl ymatebion wrth ddiweddaru'r canllawiau ac yn ein gwaith ehangach er mwyn helpu i wneud etholiadau'n hygyrch i bob ymgyrchydd.
Canrannau'r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn yw cyfeiriadau at ganrannau yn y testun uwchben.
Cwestiwn 1: A yw'r canllawiau yn ddefnyddiol o ran esbonio ystyr ‘talu i gael ei gyhoeddi fel hysbyseb’? Ydynt/Nac ydynt/Ddim yn gwybod
Ydynt | Nac ydynt | Ddim yn gwybod | Heb ateb | |
---|---|---|---|---|
% o'r rhai a atebodd y cwestiwn | 80% | 20% | 0% | Dd/G |
Nifer | 12 | 3 | 0 | 7 |
Cwestiwn 2: A yw'r canllawiau yn esbonio'n effeithiol beth yw ‘deunydd gwleidyddol’? Ydynt/Nac ydynt/Ddim yn gwybod
Ydynt | Nac ydynt | Ddim yn gwybod | Heb ateb | |
---|---|---|---|---|
% o'r rhai a atebodd y cwestiwn | 60% | 40% | 0% | Dd/G |
Nifer | 9 | 6 | 0 | 7 |
Cwestiwn 3: A yw'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys am y ffordd mae'r profion argraffnodau digidol yn gymwys i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn glir? Ydy/Nac ydy/Ddim yn gwybod
Ydy | Nac ydy | Ddim yn gwybod | Heb ateb | |
---|---|---|---|---|
% o'r rhai a atebodd y cwestiwn | 71% | 29% | 0% | Dd/G |
Nifer | 10 | 4 | 0 | 8 |
Cwestiwn 4: A oes enghreifftiau eraill y gallwn eu cynnwys a fyddai'n eich helpu i ddeall? Oes/Nac oes/Ddim yn gwybod
Oes | Nac oes | Ddim yn gwybod | Heb ateb | |
---|---|---|---|---|
% o'r rhai a atebodd y cwestiwn | 73% | 27% | 0% | Dd/G |
Nifer | 11 | 4 | 0 | 7 |
Cwestiwn 5: A yw'r canllawiau yn eich helpu i wybod pa wybodaeth y dylech ei chynnwys mewn argraffnod? Ydynt/Nac ydynt/Ddim yn gwybod
Ydynt | Nac ydynt | Ddim yn gwybod | Heb ateb | |
---|---|---|---|---|
% o'r rhai a atebodd y cwestiwn | 93% | 7% | 0% | N/A |
Nifer | 14 | 1 | 0 | 7 |
Cwestiwn 6: A oes enghreifftiau eraill y gallwn eu cynnwys a fyddai'n eich helpu i ddeall? Oes/Nac oes/Ddim yn gwybod
Oes | Nac oes | Ddim yn gwybod | Heb ateb | |
---|---|---|---|---|
% o'r rhai a atebodd y cwestiwn | 43% | 57% | 0% | N/A |
Nifer | 6 | 8 | 0 | 8 |
Cwestiwn 7: A yw'r canllawiau yn esbonio'n glir ble mae'n rhaid i'r argraffnod ymddangos? Ydynt/Nac ydynt/Ddim yn gwybod
Ydynt | Nac ydynt | Ddim yn gwybod | Heb ateb | |
---|---|---|---|---|
% o'r rhai a atebodd y cwestiwn | 87% | 13% | 0% | N/A |
Nifer | 13 | 2 | 0 | 7 |
Cwestiwn 8: A yw'n amlwg beth a gaiff ei ystyried yn ‘rhan o'r deunydd’? Ydy/Nac ydy/Ddim yn gwybod
Ydy | Nac ydy | Ddim yn gwybod | Heb ateb | |
---|---|---|---|---|
% o'r rhai a atebodd y cwestiwn | 87% | 13% | 0% | N/A |
Nifer | 13 | 2 | 0 | 7 |
Cwestiwn 9: A yw'r canllawiau yn eich helpu i ddeall pryd y mae'n ‘rhesymol ymarferol’ i gynnwys yr argraffnod fel rhan o'r deunydd? Ydynt/Nac ydynt/Ddim yn gwybod
Ydynt | Nac ydynt | Ddim yn gwybod | Heb ateb | |
---|---|---|---|---|
% o'r rhai a atebodd y cwestiwn | 38% | 62% | 0% | N/A |
Nifer | 6 | 10 | 0 | 6 |
Cwestiwn 10: A yw'r canllawiau yn rhoi digon o wybodaeth am yr hyn a gaiff ei ystyried yn ‘uniongyrchol hygyrch’ o'r deunydd? Ydynt/Nac ydynt/Ddim yn gwybod
Ydynt | Nac ydynt | Ddim yn gwybod | Heb ateb | |
---|---|---|---|---|
% o'r rhai a atebodd y cwestiwn | 50% | 44% | 6% | N/A |
Nifer | 8 | 7 | 1 | 6 |
Cwestiwn 11: A oes enghreifftiau eraill y gallwn eu cynnwys a fyddai'n eich helpu i ddeall? Oes/Nac oes/Ddim yn gwybod
Oes | Nac oes | Ddim yn gwybod | Heb ateb | |
---|---|---|---|---|
% o'r rhai a atebodd y cwestiwn | 81% | 19% | 0% | N/A |
Nifer | 13 | 3 | 0 | 6 |
Cwestiwn 12: A yw'r canllawiau'n esbonio'n glir ar gyfer pa fathau o ailgyhoeddi y bydd angen argraffnod newydd? Ydynt/Nac ydynt/Ddim yn gwybod
Ydynt | Nac ydynt | Ddim yn gwybod | Heb ateb | |
---|---|---|---|---|
% o'r rhai a atebodd y cwestiwn | 71% | 21% | 7% | N/A |
Nifer | 10 | 3 | 1 | 8 |
Cwestiwn 13: A oes unrhyw fathau eraill o enghreifftiau y gallwn eu cynnwys a fyddai'n eich helpu i ddeall? Oes/Nac oes/Ddim yn gwybod
Oes | Nac oes | Ddim yn gwybod | Heb ateb | |
---|---|---|---|---|
% o'r rhai a atebodd y cwestiwn | 43% | 43% | 14% | N/A |
Nifer | 6 | 6 | 2 | 8 |
Cwestiwn 14: A yw'r meini prawf y bydd y Comisiwn a'r heddlu yn eu dilyn wrth ystyried camau gorfodi yn briodol? Ydynt/Nac ydynt/Ddim yn gwybod
Ydynt | Nac ydynt | Ddim yn gwybod | Heb ateb | |
---|---|---|---|---|
% o'r rhai a atebodd y cwestiwn | 73% | 13% | 13% | N/A |
Nifer | 11 | 2 | 2 | 7 |
Cwestiwn 15: A yw'r wybodaeth am y pwerau i gael gwybodaeth ac i dynnu hysbysiadau i lawr yn ddefnyddiol? Ydy/Nac ydy/Ddim yn gwybod
Ydy | Nac ydy | Ddim yn gwybod | Heb ateb | |
---|---|---|---|---|
% o'r rhai a atebodd y cwestiwn | 67% | 20% | 13% | N/A |
Nifer | 10 | 3 | 2 | 7 |
Cwestiwn 16: A oes unrhyw lwyfannau digidol eraill neu fathau eraill o ddeunydd digidol nad ydynt wedi'u cynnwys mewn enghreifftiau y dylent fod wedi'u cynnwys yn eich barn chi? Oes/Nac oes/Ddim yn gwybod
Oes | Nac oes | Ddim yn gwybod | Heb ateb | |
---|---|---|---|---|
% o'r rhai a atebodd y cwestiwn | 69% | 13% | 19% | N/A |
Nifer | 11 | 2 | 3 | 6 |
Cwestiwn 17: A oes unrhyw beth arall yr hoffech ddweud wrthym amdano i'n helpu i lunio fersiwn ddrafft o'r canllawiau hyn? Oes/Nac oes/Ddim yn gwybod
Oes | Nac oes | Ddim yn gwybod | Heb ateb | |
---|---|---|---|---|
% o'r rhai a atebodd y cwestiwn | 69% | 31% | 0% | N/A |
Nifer | 9 | 4 | 0 | 9 |
Ymatebwyr
Cawsom 22 o ymatebion ysgrifenedig. O'r rhai a ddywedodd wrthym, cafwyd yr ymatebion hyn gan:
Math o ymatebydd | Nifer |
---|---|
Plaid wleidyddol | 5 |
Sefydliad academaidd | 4 |
Ymgyrchydd nad yw'n blaid | 5 (yr oedd 2 ohonynt yn elusen/sefydliad trydydd sector) |
Cymdeithas fasnach | 4 (yr oedd 2 ohonynt yn cynrychioli ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau/elusennau/sefydliadau trydydd sector) |
Yr heddlu | 1 |
Cwmni cyfryngau cymdeithasol | 1 |