Ymateb i ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ymgyrchwyr Di-blaid

Crynodeb

Mae rhai unigolion a sefydliadau nad ydynt yn bleidiau gwleidyddol yn ymgyrchu ar faterion neu achosion yn ymwneud ag etholiadau heb ymgeiswyr sefydlog eu hunain. Maent yn chwarae rhan arwyddocaol wrth ddarparu gwybodaeth ac amrywiaeth o leisiau i bleidleiswyr.

Mae'r Comisiwn yn galw'r unigolion a'r sefydliadau hyn yn ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau. Mewn cyfraith etholiadol fe'u gelwir yn drydydd pleidiau. 

Mae Deddf Etholiadau 2022 yn cynnwys gofynion newydd ar gyfer cofrestru a gwariant gan ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.  Mae'r Ddeddf hefyd yn cyflwyno dyletswydd ar y Comisiwn Etholiadol i gynhyrchu Cod Ymarfer ar y cyfreithiau sy'n ymwneud â gwariant ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.

Rhwng 24 Tachwedd 2022 a 20 Ionawr 2023, fe wnaethom gynnal ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer drafft. Derbyniodd yr ymgynghoriad 17 o ymatebion gan academyddion, undebau llafur, ac amrywiaeth o elusennau, ac ymgyrchwyr eraill nad ydynt yn bleidiau. Isod rydym yn nodi crynodeb o’r themâu a’r materion allweddol a ddaeth i’r amlwg yn yr ymgynghoriad, a sut rydym wedi ystyried pob un ohonynt wrth ddiweddaru’r Cod ac yn ein gwaith ehangach i gefnogi ymgyrchwyr

Rydym yn ddiolchgar i bawb a roddodd adborth i ni. Rydym wedi defnyddio hwn i lywio datblygiad pellach y Cod, ac i’w wneud mor glir a defnyddiol â phosibl. Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw hi bod y bobl a fydd yn defnyddio’r Cod yn ei gefnogi. 

Gweld y Cod