Ymgynghoriad ar God Ymarfer drafft i Ymgyrchwyr nad ydynt yn Bleidiau
Crynodeb
Crynodeb
Mae rhai unigolion a sefydliadau nad ydynt yn bleidiau gwleidyddol yn ymgyrchu ar faterion neu achosion ar adeg etholiadau heb sefyll fel ymgeiswyr eu hunain. Maent yn chwarae rôl bwysig o ran rhoi gwybodaeth i bleidleiswyr a chynnig lleisiau amrywiol.
Mae'r Comisiwn yn galw'r unigolion a'r sefydliadau hyn yn ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau. Yn ôl cyfraith etholiadol, fe'u gelwir yn drydydd partïon.
Mae Deddf Etholiadau 2022 yn cynnwys gofynion newydd o ran cofrestru a gwario gan ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
Mae'r Ddeddf yn cyflwyno dyletswydd ar y Comisiwn Etholiadol i lunio Cod Ymarfer ar y cyfreithiau sy'n ymwneud â gwariant ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, gan gynnwys yr hyn sy'n gymwys i fod yn dreuliau, rhoi gwybod am wariant a rhoddion a reolir, ac ymgyrchu ar y cyd. Bydd y Cod yn gymwys i etholiadau cyffredinol Senedd y DU a Chynulliad Gogledd Iwerddon.
Ar ôl i'r Cod Ymarfer gael ei lunio'n derfynol, caiff ei gyflwyno i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. Yna, caiff y Gweinidog addasu'r Cod, cyn ei osod gerbron Senedd y DU i'w gymeradwyo.
Bydd eich safbwyntiau yn ein helpu i sicrhau bod y Cod a gyflwynwn i'r Ysgrifennydd Gwladol mor glir a defnyddiol â phosibl.
Bydd yn rhaid i'r Comisiwn roi sylw i'r Cod hwn wrth arfer ei swyddogaethau o dan Ran 6 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA). Mae'n amddiffyniad i ymgyrchydd nad yw'n blaid ddangos ei fod wedi cydymffurfio â'r Cod hwn wrth benderfynu a oedd ei weithgarwch ymgyrchu yn weithgarwch a reoleiddir.
Sut i ymateb
Bydd yr ymgynghoriad ar agor rhwng 24 Tachwedd 2022 a 20 Ionawr 2023.
Gallwch ymateb:
- drwy lenwi ein ffurflen ar-lein
- drwy e-bostio'ch sylwadau i [email protected] neu
- drwy ysgrifennu atom yn y cyfeiriad canlynol:
Regulatory Support Team
The Electoral Commission
3 Bunhill Row
London EC1Y 8YZ
Drwy gydol y cyfnod ymgynghori, byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r gymuned etholiadol a'r gymuned ymgyrchu. Rydym yn fodlon cyfarfod ag unrhyw grwpiau neu unigolion sydd â diddordeb ar gais.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu ar 0207 271 0546.
Sut y gwnaethom ddatblygu'r Cod drafft
Aethom ati i siarad ag amrywiaeth o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ledled y DU i lywio'r Cod drafft.
Gwnaethom eu holi ynghylch:
- eu dealltwriaeth o'r darpariaethau newydd
- eu profiadau o ymgyrchu o dan fframwaith cyfreithiol Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA)
- sut maent yn gweld ymgyrchu gan ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn datblygu yn y dyfodol
pens in new window
Holiadur
Cefndir
Pwy ydym ni
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb.
Rydym yn cefnogi ymgeiswyr, pleidiau ac ymgyrchwyr drwy ddarparu canllawiau ac adnoddau cynhwysfawr i'w helpu i ddeall beth y dylent ei wneud i gydymffurfio â'r gyfraith, ac sy'n eu galluogi i ganolbwyntio eu hymdrechion ar ymgysylltu â phleidleiswyr.
Ceir rhagor o wybodaeth am ein rôl a'n cyfrifoldebau ar ein gwefan.
Y ddeddfwriaeth bresennol ynglŷn ag ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
Mae cyfreithiau sefydledig yn rheoleiddio gweithgareddau ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn y cyfnodau cyn etholiadau. Mae'r rhain yn cynnwys cyfreithiau ynglŷn â phwy sy'n gallu gwario ar adeg etholiadau, faint o arian y gallant ei wario, sut mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â'r rhai y maent yn derbyn rhoddion ganddynt a pha wybodaeth sydd ei hangen arnynt i roi gwybod am eu gwariant a rhoddion a dderbynnir.
Ceir rhagor o wybodaeth am y cyfreithiau hyn yn ein canllawiau cyfredol.
Deddf Etholiadau 2022
Mae Deddf Etholiadau 2022 yn cynnwys darpariaethau sy'n gwneud y trothwy hysbysu yn is i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn etholiadau Senedd y DU. Mae hefyd yn cyfyngu ar wariant gan ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau nad oes ganddynt gysylltiad yn y DU â'r etholiadau hyn nag etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon.
Mae adran 29 o Ddeddf Etholiadau 2022 yn cynnwys dyletswydd benodol ar y Comisiwn i lunio Cod Ymarfer statudol i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ac etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon.
Mae'n rhaid i'r Cod Ymarfer hwn, yn wahanol i'r rhan fwyaf o ganllawiau'r Comisiwn, gael ei gymeradwyo gan y Gweinidog perthnasol, a Senedd y DU.