Beth yw’r gofynion ar hysbysu ac adrodd?

Trothwy hysbysu

Rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy'n bwriadu gwario mwy na £10,000 ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir yn y cyfnod cyn etholiad cyffredinol i Senedd y DU neu etholiad i Gynulliad Gogledd Iwerddon hysbysu'r Comisiwn17 .

Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau cymwys

Dim ond unigolion neu sefydliadau a ddisgrifir yn adran 88(2) PPERA sy'n gymwys i gyflwyno hysbysiad i'r Comisiwn. 

Gwaharddir sefydliadau rhag cofrestru fel ymgyrchydd nad yw'n blaid ac fel plaid wleidyddol17 .

Ni chaniateir i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau wario mwy na £700 ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir oni bai eu bod:

  • yn gymwys i roi hysbysiad i'r Comisiwn yn rhinwedd adran 88(2) PPERA, neu 
  • yn gymdeithas anghorfforedig sydd â’r cysylltiad angenrheidiol â’r DU18 .

Mae ymgyrchydd nad yw'n blaid y caniateir iddo wario mwy na £700 ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir yn cael gwario hyd at £10,000 ar draws y DU heb hysbysu’r Comisiwn19 .

Cyn gwario mwy na £10,000 ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir ledled y DU, mae’n rhaid i ymgyrchydd nad yw'n blaid gyflwyno hysbysiad i'r Comisiwn20 .

Trothwyon adrodd

Rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau cofrestredig sy'n gwario mwy nag: 

  • £20,000 yn Lloegr, neu
  • £10,000 yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon

gofnodi a chyflwyno adroddiad ar eu gwariant a’u rhoddion21 . Mae’r rhain yn cael eu galw’n drothwyon adrodd. Maen nhw wedi’u diffinio fel y ‘lower tier spending limits’ yn PPERA. 

Adeg yr hysbysiad, mae ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn cael dewis hysbysu'r Comisiwn nad ydyn nhw’n bwriadu gwario mwy na'r trothwyon adrodd22

Does dim gofyn i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau cofrestredig sy'n cynnwys hysbysiad o'r fath gyflwyno adroddiadau am eu gwariant na'u rhoddion cyn belled ag nad yw eu gwariant yn fwy na'r trothwyon adrodd. Maen nhw’n dal yn dod o dan y gyfraith ar ganiatáu rhoddion. 

Unwaith y bydd ymgyrchydd nad yw'n blaid wedi'i gofrestru, caiff newid ei hysbysiad mewn perthynas â'r trothwyon adrodd os bydd ei fwriadau gwariant yn newid ar ôl cofrestru. 

Mae'n drosedd achosi gwariant a reolir sy'n fwy na'r trothwyon adrodd os yw'r ymgyrchydd nad yw'n blaid wedi hysbysu'r Comisiwn na fyddai’n gwario mwy na'r terfynau hynny23 .

Y terfynau gwariant uchaf i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau

Mae yna derfynau gwariant sy'n cyfyngu’r cyfanswm y caiff ymgyrchydd nad yw'n blaid ei wario ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir yn ystod cyfnod a reoleiddir. Mae'r terfynau gwariant hyn yn amrywio gan ddibynnu ar yr etholiad penodol ac fe'u nodir yn Atodlen 10 PPERA.

Y gofynion ar adroddiadau

Rhaid i bob ymgyrchydd nad yw'n blaid cofrestredig gydymffurfio â'r cyfreithiau ar wario a derbyn rhoddion. Dim ond ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau cofrestredig sy'n cyrraedd y trothwy adrodd sy'n gorfod cyflwyno adroddiad ar eu gwariant a'u rhoddion. 

Gwariant hyd at £250,000

Rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau cofrestredig sy'n cyrraedd y trothwy adrodd ac sy'n gwario hyd at £250,000 gyflwyno ffurflen gwariant sy'n manylu ar eu gwariant ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir ac unrhyw roddion sy’n dod i law yn ystod y cyfnod a reoleiddir24 . Rhaid i'r ffurflen gwariant gael ei chyflwyno i'r Comisiwn o fewn tri mis ar ôl diwedd y cyfnod a reoleiddir sy’n berthnasol.

Mwy na £250,000

Rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau cofrestredig sy'n gwario mwy na £250,000 ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir gyflwyno ffurflen gwariant sy'n manylu ar eu gwariant ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir ac unrhyw roddion a ddaw i law yn ystod y cyfnod a reoleiddir. Yn ychwanegol, rhaid cael adroddiad archwilwyr i gyd-fynd â'r ffurflen gwariant25 . Rhaid i'r ffurflen gwariant ynghyd ag adroddiad yr archwilwyr gael eu cyflwyno i'r Comisiwn o fewn chwe mis ar ôl diwedd y cyfnod a reoleiddir sy’n berthnasol. 

Cyflwyno adroddiadau ar roddion 

Rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau cofrestredig y mae'n ofynnol iddyn nhw gyflwyno ffurflen gwariant gynnwys unrhyw roddion sy’n dod i law yn ystod y cyfnod a reoleiddir26 . Gweler yr adran ar roddion. 

Etholiadau cyffredinol i Senedd y DU

Pan fydd tymor Senedd y DU yn mynd i mewn i'w bedwaredd flwyddyn, rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau cofrestredig sy'n cyrraedd y trothwy adrodd gyflwyno adroddiadau chwarterol ar roddion i'r Comisiwn27 .

Rhaid i'r adroddiad chwarterol gynnwys manylion yr holl roddion adroddadwy. Os nad yw ymgyrchydd nad yw'n blaid wedi cael unrhyw roddion adroddadwy yn ystod y cyfnod adrodd perthnasol, does dim angen adroddiad chwarterol28 .

Yn y cyfnod rhwng diddymu'r Senedd ar gyfer etholiad cyffredinol a’r diwrnod pleidleisio, rhaid i ymgyrchwyr nad ysynt yn bleidiau cofrestredig gyflwyno adroddiadau wythnosol ar roddion i'r Comisiwn29 . Rhaid i'r adroddiad wythnosol ar roddion gynnwys manylion unrhyw roddion perthnasol sydd wedi dod i law sy’n werth mwy na £7,500 ('rhodd sylweddol')30 .

Os na fydd ymgyrchydd nad yw'n blaid cofrestredig yn cael unrhyw roddion sylweddol yn ystod y cyfnod adrodd perthnasol, does dim angen adroddiad wythnosol31 .

Does dim angen adroddiadau wythnosol oddi wrth ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau cofrestredig nad ydyn nhw’n cyrraedd y trothwy adrodd. 

Datganiad cyfrifon

Rhaid i ymgyrchydd nad yw'n blaid cofrestredig sy'n cyrraedd y trothwy adrodd mewn etholiad cyffredinol i Senedd y DU baratoi datganiad cyfrifon ar gyfer y cyfnod a reoleiddir oni bai: 

  • mai unigolyn yw'r ymgyrchydd nad yw'n blaid
  • bod yr ymgyrchydd nad yw'n wedi paratoi datganiad cyfrifon at ddiben cyfreithiol arall sy'n ymdrin â'r cyfnod a reoleiddir32

Beth yw gwariant wedi'i dargedu?

Mae gwariant ymgyrchu a reoleiddir gan bob ymgyrchydd nad yw'n blaid cofrestredig yn ystod y cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiad cyffredinol i Senedd y DU sydd â'r nod o hybu llwyddiant etholiadol un blaid wleidyddol gofrestredig benodol neu unrhyw un neu ragor o'i hymgeiswyr yn cael ei alw’n wariant wedi'i dargedu35 .

Bydd gweithgaredd ymgyrchu sy'n enwi plaid wleidyddol neu ei hymgeiswyr mewn ffordd y gellir ystyried ei bod wedi’i bwriadu i ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros y blaid wleidyddol honno yn unig yn cyfrif fel gwariant wedi'i dargedu. 

Mae ymgyrch ar fater arbennig sydd â chysylltiad mor agos a chyhoeddus ag un blaid wleidyddol benodol nes ei bod yn gyfystyr â'r blaid honno yn debygol o gael ei hystyried yn wariant wedi'i dargedu. 

Nid yw ymgyrch negyddol sydd â'r nod o ddylanwadu ar bleidleiswyr i beidio â phleidleisio dros blaid wleidyddol benodol nac unrhyw un neu ragor o'i hymgeiswyr yn wariant wedi’i dargedu.   

Bydd gwariant wedi'i dargedu yn cyfrif tuag at y terfyn gwariant cyffredinol ar gyfer ymgyrchydd nad yw'n blaid ac mae'n dod o dan y cyfreithiau cyffredinol ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir. 

Rhoddion i bleidiau gwleidyddol cofrestredig

Nid yw rhoddion i blaid wleidyddol gofrestredig yn dod o fewn y diffiniad o wariant wedi'i dargedu

Terfynau gwariant

Mae pob ymgyrchydd nad yw'n blaid cofrestredig wedi’i gyfyngu o ran faint o wariant wedi'i dargedu y mae’n cael ei achosi. Mae'r terfynau'n dibynnu ar a yw'r blaid wleidyddol berthnasol wedi awdurdodi'r gwariant ai peidio. 

Gwariant diawdurdod 

Mae ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn cael achosi gwariant wedi'i dargedu hyd at y terfynau gwariant wedi'i dargedu heb awdurdodiad gan y blaid wleidyddol berthnasol. Nodir y terfynau gwariant wedi'i dargedu yn adran 94D PPERA.

Mae'r holl wariant wedi'i dargedu yn cyfrif tuag at gyfanswm y terfyn gwariant ar gyfer ymgyrchydd nad yw'n blaid. 

Rhaid i unrhyw wariant sy'n fwy na'r terfynau gwariant wedi'i dargedu gael ei awdurdodi gan y blaid wleidyddol gofrestredig berthnasol. 

Gwariant awdurdodedig 

Caiff plaid wleidyddol gofrestredig awdurdodi ymgyrchydd nad yw'n blaid i achosi gwariant wedi'i dargedu. Ni chaiff ymgyrchydd nad yw'n blaid fynd dros y swm a awdurdodwyd. 

Mae awdurdodiad gan blaid wleidyddol gofrestredig:

  • yn gorfod bod mewn ysgrifen
  • yn gorfod cael ei lofnodi gan naill ai trysorydd neu ddirprwy drysorydd y blaid 
  • yn gorfod pennu’r rhannau o’r DU lle caniateir i’r gwariant wedi’i dargedu gael ei achosi 
  • yn cael pennu terfyn ar swm y gwariant wedi’i dargedu a awdurdodir36

Rhaid i'r blaid wleidyddol gofrestredig roi copi o'r awdurdodiad ysgrifenedig i'r Comisiwn. Nid yw'r awdurdodiad yn cael effaith nes bod copi wedi'i roi i'r Comisiwn37 .

Mae'r holl wariant wedi'i dargedu yn cyfrif tuag at gyfanswm y terfyn gwariant ar gyfer ymgyrchydd nad yw'n blaid. Bydd unrhyw wariant wedi'i dargedu dros y terfyn gwariant wedi'i dargedu hyd at y swm a awdurdodwyd gan y blaid wleidyddol berthnasol hefyd yn cyfrif tuag at wariant ymgyrchu'r blaid wleidyddol gofrestredig38 .

Tynnu awdurdodiad yn ôl

Caniateir i’r awdurdodiad gael ei dynnu’n ôl gan y blaid wleidyddol gofrestredig unrhyw bryd. Rhaid i’r penderfyniad i’w dynnu’n ôl: 

  • fod mewn ysgrifen 
  • cael ei lofnodi gan drysorydd neu ddirprwy drysorydd y blaid39

Nid yw’r penderfyniad i dynnu awdurdodiad yn ôl yn cael unrhyw effaith nes bod y blaid wleidyddol gofrestredig wedi rhoi copi i'r Comisiwn40 .

Effaith tynnu awdurdodiad yn ôl

Ni chaiff ymgyrchydd nad yw'n blaid achosi unrhyw wariant wedi'i dargedu ychwanegol uwchben y terfyn gwariant wedi'i dargedu os yw'r blaid wleidyddol berthnasol yn tynnu ei hawdurdodiad yn ôl.

Pan dynnir awdurdodiad yn ôl, ni fydd unrhyw drosedd ôl-weithredol wedi'i chyflawni gan yr ymgyrchydd nad yw'n blaid mewn perthynas â gwariant wedi'i dargedu a achoswyd yn unol â'r awdurdodiad a oedd mewn grym ar y pryd.

Beth yw gwariant tybiannol?

Weithiau gall ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ddefnyddio eiddo, gwasanaethau neu gyfleusterau yn eu hymgyrch nad oedd rhaid iddyn nhw wario arian arnyn nhw, am fod yr eitem neu'r gwasanaethau wedi’u darparu fel budd mewn da, am ddim, neu am ddisgownt anfasnachol. 

Yr enw ar hyn yw ‘gwariant tybiannol’.

Disgowntiau

Disgowntiau anfasnachol

Mae disgowntiau anfasnachol yn ddisgowntiau arbennig a roddir i'r ymgyrchydd nad yw'n blaid. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gyfraddau arbennig nad ydyn nhw ar gael ar y farchnad agored. 

Pan fydd hyn yn digwydd, bydd gwerth masnachol llawn yr eitem neu'r gwasanaethau yn cyfrif tuag at y terfyn gwariant ac mae'n rhaid cyflwyno adroddiad amdano yn y ffurflen gwariant.

Disgowntiau masnachol

Disgowntiau masnachol yw'r rhai sydd ar gael i gwsmeriaid tebyg eraill, megis disgowntiau am archebion swmp neu ostyngiadau tymhorol. Nid yw'r rhain yn cael eu trin fel gwariant tybiannol.

Gwariant tybiannol

Bydd eitemau neu wasanaethau sy'n cael eu defnyddio gan neu ar ran ymgyrchydd nad yw'n blaid yn cael eu trin fel gwariant tybiannol:

  • os cânt eu trosglwyddo neu eu darparu am ddim neu ar ddisgownt o fwy na 10% at ddibenion neu er budd yr ymgyrchydd nad yw'n blaid
  • os yw'r gwahaniaeth mewn gwerth rhwng y gyfradd fasnachol a'r hyn sy'n cael ei dalu gan yr ymgyrchydd nad yw'n blaid yn fwy na £200
  • os cânt eu defnyddio gan neu ar ran yr ymgyrchydd nad yw'n blaid, ac
  • os bydden nhw wedi bod yn wariant a reolir pe bai’r treuliau wedi cael eu hachosi gan neu ar ran yr ymgyrchydd nad yw'n blaid mewn perthynas â'r defnydd hwnnw41 .

Dim ond os yw'r defnydd hwnnw'n cael ei gyfarwyddo, ei awdurdodi neu ei annog gan yr ymgyrchydd nad yw'n blaid neu'r person cyfrifol y mae’r eitemau neu'r gwasanaethau yn cael eu defnyddio ar ran yr ymgyrchydd nad yw'n blaid42 .

Gwerth y gwariant tybiannol yw'r gwahaniaeth rhwng cyfanswm gwerth yr hyn a drosglwyddwyd neu a ddarparwyd a'r swm a dalwyd, os talwyd rhywbeth o gwbl. 

Rhaid i'r ymgyrchydd nad yw'n blaid gofnodi: 

  • gwerth y gwariant tybiannol
  • y cyfanswm a dalwyd.

Ni fydd eitemau neu wasanaethau yn cael eu trin fel gwariant tybiannol:

  • os cawson nhw eu derbyn ar ddisgownt o 10% neu lai, neu
  • os yw gwerth y disgownt yn £200 neu lai 

Gwerth gwariant tybiannol

Pan fydd eitem yn cael ei thrin fel gwariant tybiannol, rhaid i 'swm priodol' gael ei adrodd gan yr ymgyrchydd nad yw'n blaid fel gwariant a reolir. 

Y swm priodol yw'r gyfran y mae’n rhesymol ei phriodoli'n i ddefnyddio'r eitem, o blith naill ai: 

  • ei gwerth ar y farchnad (pan gaiff ei throsglwyddo’n rhad ac am ddim), neu
  • werth y disgownt 

Gwerth y gwariant tybiannol yw'r gwahaniaeth mewn gwerth rhwng y gyfradd fasnachol am eitem neu wasanaeth a'r pris a dalwyd mewn gwirionedd gan yr ymgyrchydd nad yw'n blaid.

Rhoddion

Rhaid i’r nwyddau, y gwasanaethau neu'r cyfleusterau gael eu darparu neu eu trosglwyddo'r i'r ymgyrchydd nad yw'n blaid er mwyn cael eu trin fel gwariant tybiannol. 

Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw wariant tybiannol hefyd yn rhodd i'r ymgyrchydd nad yw'n blaid.

Rhaid i'r gwahaniaeth mewn gwerth rhwng y gyfradd fasnachol a'r pris a dalwyd, os talwyd pris o gwbl, gael ei drin yn unol â'r cyfreithiau ar roddion i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ac efallai y bydd angen cyflwyno adroddiad arno i'r Comisiwn. 

Gweithio gyda phleidiau gwleidyddol cofrestredig

Gall ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau hefyd weithio gyda phlaid wleidyddol gofrestredig, a darparu nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau yn rhad ac am ddim neu am ddisgownt anfasnachol. 

Os bydd y blaid wleidyddol gofrestredig yn defnyddio'r nwyddau, y gwasanaethau neu’r cyfleusterau yn ystod ei hymgyrch, dylid trin hyn fel gwariant tybiannol ar ran y blaid wleidyddol. 

Rhaid i'r blaid wleidyddol gofrestredig gyflwyno adroddiad ar hyn a bydd yn cyfrif tuag at derfyn gwariant y blaid.

Ni fydd yn cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgyrchydd nad yw'n blaid a rhaid peidio â’i gofnodi yn ffurflen gwariant yr ymgyrchydd nad yw'n blaid.

Beth yw ymgyrchu ar y cyd?

Gweithio gydag ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau eraill 

Gall ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau benderfynu cydweithio ar ymgyrch. Mae'r rheolau ar ymgyrchu ar y cyd yn gymwys i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau cofrestredig a rhai sydd heb eu cofrestru. 

Mae ymgyrchydd nad yw'n blaid yn cymryd rhan mewn ymgyrchu ar y cyd:

  • pan fydd yn ymuno â chynllun neu drefniant arall gydag un neu fwy o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau eraill 
  • pan fydd pob ymgyrchydd nad yw'n blaid dan sylw yn bwriadu achosi gwariant a reolir yn unol â'r cynllun neu'r trefniant hwnnw 
  • pan fydd un neu fwy o'r ymgyrchwyr nad yw'n blaid dan sylw yn achosi gwariant a reolir yn unol â'r cynllun neu'r trefniant, a 
  • phan fo’n rhesymol ystyried bod y cynllun neu'r trefniant hwnnw'n un sy'n bwriadu cyflawni diben cyffredin.

Mae'r holl wariant ar yr ymgyrch ar y cyd yn cyfrif tuag at derfyn gwariant pob un o'r ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy'n rhan o'r ymgyrch ar y cyd. 

Beth yw ymgyrchu ar y cyd?

Rhaid bod yna fwy nag un ymgyrchydd nad yw'n blaid

Nid ymgyrchu ar y cyd yw ffurfio sefydliad newydd sy'n cynnwys grŵp o sefydliadau eraill ac yna gwario arian. 

Ni fydd sefydliad ymbarél presennol sy'n gwneud penderfyniadau am eu gweithgaredd ymgyrchu yn annibynnol yn ymgyrchu ar y cyd oni bai eu bod yn ymuno â chynllun neu drefniant gydag ymgyrchydd nad yw'n blaid arall lle mae'r ddau yn bwriadu achosi gwariant a reolir.  

Rhaid bod yna ddealltwriaeth gytûn y bydd gwariant a reolir yn cael ei achosi er mwyn cyflawni'r diben cyffredin

Os nad oes bwriad i achosi gwariant does dim ymgyrchu ar y cyd. 

Er enghraifft, os cytunir y bydd yr holl weithgaredd yn cael ei wneud gan wirfoddolwyr ni fydd unrhyw wariant yn cael ei achosi ac ni fydd yna ymgyrchu ar y cyd. 

Rhaid bod yna ddealltwriaeth gytûn ynghylch rhychwant a diben yr ymgyrch

Nid ymgyrchwyr ar y cyd yw ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy’n digwydd ymgyrchu ar faterion tebyg neu berthynol. 

Rhaid bod yna ddealltwriaeth gytûn rhwng yr ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau y bydd pob un ohonynt yn achosi gwariant a reolir er mwyn cyflawni'r diben cyffredin

Bydd yr holl wariant a reolir a achosir yn unol â'r cynllun neu'r trefniant yn dod o fewn y rheolau ymgyrchu ar y cyd.  

Mae ymgyrchu ar y cyd yn fwy na 

  • throsglwyddo neu fenthyg eitemau i ymgyrchydd arall neu
  • ddarparu arian i ymgyrchydd arall

Rhaid trin hyn fel gwariant tybiannol neu rodd a'i drin yn unol â'r rheolau priodol. 

Hyd yn oed os nad yw un o'r ymgyrchwyr di-blaid sy’n rhan o'r cynllun neu'r trefniant yn achosi eu cyfran nhw o’r gwariant y cytunwyd arno, bydd unrhyw wariant a achoswyd yn dal yn ymgyrchu ar y cyd ac mae'n rhaid iddo gael ei adrodd gan bob ymgyrchydd nad yw'n blaid. 

Enghreifftiau o ymgyrchu ar y cyd 

  • Mae ymgyrchydd A ac ymgyrchydd B yn cytuno i redeg ymgyrch sy'n annog etholwyr i bleidleisio dros ymgeiswyr sy'n cefnogi mater penodol. Mae ymgyrchydd A ac ymgyrchydd B yn bwriadu achosi gwariant a reolir fel rhan o'r ymgyrch. Mae ymgyrchydd A ac ymgyrchydd B ill dau yn achosi gwariant ar yr ymgyrch ar y cyd. Mae hyn yn ymgyrchu ar y cyd, a dylid trin y gwariant felly. 
  • Mae ymgyrchydd A ac ymgyrchydd B yn cytuno i redeg ymgyrch sy'n annog etholwyr i bleidleisio dros blaid wleidyddol benodol. Mae'r ddau yn bwriadu achosi gwariant a reolir fel rhan o'r ymgyrch ar y cyd. Mae ymgyrchydd A yn achosi gwariant ar yr ymgyrch ar y cyd, ond nid yw ymgyrchydd B byth yn gwario’i gyfran arfaethedig yntau. Mae hyn yn ymgyrchu ar y cyd, a dylai'r gwariant gael ei drin felly gan ymgyrchydd A ac ymgyrchydd B fel ei gilydd.
  • Mae ymgyrchydd A ac ymgyrchydd B yn cytuno i redeg ymgyrch sy'n annog etholwyr i bleidleisio dros blaid wleidyddol benodol. Mae'r ddau yn bwriadu achosi gwariant a reolir fel rhan o'r ymgyrch ar y cyd. Yn y pen draw, nid yw'r naill ymgyrchydd na'r llall yn achosi unrhyw wariant a reolir ar yr ymgyrch ar y cyd. Does dim ymgyrchu ar y cyd wedi digwydd. 

Gweithgareddau sy'n ymgyrchu ar y cyd

Mae ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy’n mynd ati i wneud pethau yn y rhestr o weithgareddau a ganlyn, nad yw'n gynhwysfawr, yn debygol o fod yn ymgyrchwyr ar y cyd: 

  • Ymgyrch hysbysebu ar y cyd, boed yn ddigidol, yn electronig neu drwy ddulliau eraill, sy'n cynnwys taflenni ar y cyd neu ddigwyddiadau ar y cyd.
  • Ymgyrch gydlynol; er enghraifft lle cytunir pa ardaloedd i'w cynnwys, pa faterion sy'n cael eu codi neu ba bleidleiswyr sy'n cael eu targedu.
  • Gweithio ar y cyd lle gall un blaid roi feto neu gymeradwyaeth dros ddeunydd plaid arall. 

Gweithgareddau nad ydynt yn ymgyrchu ar y cyd

Mae ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy’n mynd ati i wneud pethau yn y rhestr o weithgareddau a ganlyn, nad yw'n gynhwysfawr, yn annhebygol o fod yn ymgyrchwyr ar y cyd: 

  • Cymeradwyo ymgyrch arall drwy ganiatáu i'ch logo/brand gael ei ddefnyddio heb unrhyw ymrwymiad ariannol neu ymwneud pellach. 
  • Ychwanegu’ch llofnod i lythyr ochr yn ochr ag ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau eraill heb unrhyw ymrwymiad ariannol. 
  • Siarad am ddim mewn digwyddiad a drefnir gan ymgyrchydd nad yw'n blaid arall heb unrhyw ymrwymiad ariannol. 
  • Cynnal trafodaethau am feysydd sydd o ddiddordeb cyffredin heb gydlynu gweithgaredd ymgyrchu.

Atodiad B

Diffiniadau a thermau allweddol

Defnyddir y termau a ganlyn yn y Cod hwn fel y maen nhw wedi’u diffinio yn y ddeddfwriaeth 

Yn y Cod hwn mae’r diffiniadau a ganlyn yn gymwys:

Achosi

Ystyr achosi yw gwneud ymrwymiad cyfreithiol i wario arian. 

Costau

Mae i costau ei ystyr gyffredin o draul eitem neu draul sy’n gysylltiedig ag eitem. Mae’n cynnwys y swm priodol sydd i’w drin fel pe bai wedi’i achosi gan yr ymgyrchydd nad yw'n blaid o dan y rheolau ar wariant tybiannol.

Cyfnod a reoleiddir

Ystyr cyfnod a reoleiddir yw'r 'relevant period’ ar gyfer etholiad fel y’i nodir yn Atodlen 9A PPERA.

Ffurflen gwariant

Ystyr ffurflen gwariant yw ffurflen gwariant a reolir gan ymgyrchydd nad yw'n blaid cofrestredig yn unol â’r gofyniad o dan adran 96 PPERA.

Gwariant a reolir

Mae i gwariant a reolir yr un ystyr ag sydd i 'controlled expenditure' yn adran 85 PPERA.

Gwariant tybiannol

Mae i gwariant tybiannol yr un ystyr ag sydd i 'notional expenditure' yn adran 86 PPERA.

Gwariant ymgyrch

Mae i gwariant ymgyrch yr un ystyr ag sydd i 'campaign expenditure' yn adran 72 PPERA.

Plaid wleidyddol

Ystyr plaid wleidyddol yw plaid sydd wedi'i chofrestru o dan Ran II PPERA.

Rhodd

Mae i rhodd yr un ystyr ag sydd i 'donation' yn Atodlen 11 PPERA.

Swm priodol

Mae i swm priodol yr un ystyr ag sydd i 'appropriate amount' yn adran 86 PPERA.

Trothwy adrodd

Ystyr trothwy adrodd yw'r 'lower tier spending limits’ a nodir yn adrannau 85(5B) a 94(5) PPERA, sef £20,000 yn Lloegr a £10,000 ar gyfer pob un o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. 

Ymgeisydd

Ystyr ymgeisydd yw ymgeisydd mewn etholiad perthnasol o dan adran 22 PPERA.

Ymgyrchydd nad yw'n blaid

Ystyr ymgyrchydd nad yw'n blaid yw unigolyn neu sefydliad sy'n ymgyrchu ynglŷn ag etholiadau heb sefyll ymgeiswyr eu hunain. Yn y ddeddfwriaeth, cyfeirir at ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau fel 'third parties'.

Ymgyrchydd nad yw'n blaid cofrestredig

Ystyr ymgyrchydd nad yw'n blaid cofrestredig yw ymgyrchydd nad yw'n blaid sydd ar y gofrestr a gedwir gan y Comisiwn yn unol â hysbysiad a roddwyd i'r Comisiwn o dan adran 88 PPERA. Cyfeirir at ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau cofrestredig fel 'recognised third parties' yn PPERA (gweler adran 88 i gael y diffiniad statudol).

 

Page history

Cyhoeddwyd gyntaf:

Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Awst 2024