Ymgynghoriad ar gyfarwyddyd drafft i Swyddogion Canlyniadau: Cymorth gyda phleidleisio i bobl sydd ag anableddau
Consultation closed
Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi dod i ben. Defnyddiwyd yr adborth a ddarparwyd yn ystod yr ymgynghoriad hwn i lywio datblygiad pellach y canllawiau, cyn ein hymgynghoriad statudol sy’n rhedeg o 5 Rhagfyr 2022 tan 16 Ionawr 2023.
Crynodeb
Crynodeb
Ni ddylai yna fod unrhyw rwystrau i bleidleisio i bobl sydd ag anableddau. Dylai pawb gael yr hawl i bleidleisio ar eu pen eu hunain yn gyfrinachol.
Mae Deddf Etholiadau 2022 yn cynnwys darpariaethau yn ymwneud â chynorthwyo pobl sydd ag anableddau i bleidleisio, ac yn cyflwyno dyletswydd ar y Comisiwn i ddarparu cyfarwyddyd i Swyddogion Canlyniadau ar y gofyniad i roi cyfarpar rhesymol i helpu pleidleiswyr sydd ag anableddau mewn gorsafoedd pleidleisio. Mae'n rhaid i Swyddogion Canlyniadau ystyried y cyfarwyddyd hwn, a fydd yn eu cynorthwyo i wneud trefniadau hygyrchedd ar gyfer etholiadau mis Mai 2023 a thu hwnt.
Drwy ofyn am hyn, mae’r Ddeddf wedi rhoi cyfle amserol i ni adolygu ein cyfarwyddyd presennol er mwyn helpu sicrhau y gall pawb pleidleisio’n annibynnol ac yn hyderus. Rydym am i’r cyfarwyddyd sydd wedi’i ddiweddaru helpu Swyddogion Canlyniadau a’u timau i ddeall y rhwystrau y mae’r rheiny sydd ag anableddau yn eu hwynebu a gwneud penderfyniadau cytbwys ar yr hyn y gallant wneud i helpu sicrhau bod pleidleisio yn hygyrch i bawb.
Bydd gan eich barn rôl bwysig wrth sicrhau bod y cyfarwyddyd (y byddwn yn ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghori ffurfiol yn hwyr ym mis Tachwedd 2022) yn nodi camau all gael dylanwad positif a real ar bleidleiswyr sydd ag anableddau, a helpu i lywio Swyddogion Canlyniadau gyda chynllunio ar gyfer etholiadau yn y dyfodol.
Bydd yr ymgynghoriad hwn hefyd ar gael mewn fformatau Hawdd ei Ddarllen ac Iaith Arwyddion Prydain.
Sut i ymateb
Mae’r ymgynghoriad ar agor o 5 Medi 2002 tan 17 Hydref 2022.
Gallwch ymateb drwy:
- lenwi ein ffurflen ar-lein
- anfon eich safbwyntiau i [email protected] neu
- ysgrifennu atom yn:
Electoral Administration Guidance Team
The Electoral Commission
3 Bunhill Row
London EC1Y 8YZ
Bydd eich adborth yn llywio datblygiad pellach y cyfarwyddyd, cyn ein hymgynghoriad statudol. Disgwyliwn y bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg o 28 Tachwedd 2022 tan 10 Ionawr 2023.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch er mwyn ymateb, cysylltwch â ni ar 0333 103 1928.
Sut rydym wedi datblygu’r cyfarwyddyd drafft
Er mwyn helpu i lywio’r cyfarwyddyd, rydym wedi ymgysylltu ag ystod o sefydliadau cymdeithas sifil, sefydliadau elusennol a sefydliadau trydydd sector ar draws y DU gyfan. Mae’r rhain yn cynrychioli pobl sydd ag anableddau dysgu ac anableddau corfforol, cyflyrau iechyd meddwl ac anableddau anweledig. Gwnaethom ofyn iddynt am:
- y rhwystrau mae bleidleiswyr sydd ag anableddau yn eu profi mewn gorsafoedd pleidleisio
- datrysiadau posibl i wneud pleidleisio yn fwy hygyrch
- sut y gellid defnyddio’r newidiadau a wnaed gan y Ddeddf Etholiadau i wella hygyrchedd etholiadau.
Gwnaethom hefyd rannu gwybodaeth drwy swyddogion yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau gydag aelodau eu gweithgor Mynediad i Etholiadau. Rhoddodd hyn y cyfle i aelodau gysylltu â ni’n uniongyrchol a chymryd rhan wrth ddatblygu’r cyfarwyddyd.
Yn ogystal, gwnaethom drafod y newidiadau a gyflwynwyd gan y Ddeddf Etholiadau a datblygiad y cyfarwyddyd gyda chynrychiolwyr Cymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch Reolwyr yr Awdurdodau Lleol (Solace) ac aelodau o’r Gweithgor Etholiadau, Refferenda, a Chofrestru (ERRWG), sy’n cynnwys Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol (AEA), gweinyddwyr etholiadol a swyddogion y llywodraeth.
Yr hyn sydd yn y cyfarwyddyd drafft
Mae'r cyfarwyddyd drafft yn cynnwys:
- Deall ac adnabod y rhwystrau i bleidleisio y mae’r rheiny sydd ag anableddau neu anghenion hygyrchedd penodol yn eu hwynebu
- Rhoi gwybodaeth hygyrch am yr hyn i’w ddisgwyl mewn gorsaf bleidleisio, sut i bleidleisio yno a pha gymorth sydd ar gael
- Y cyfarpar a ddylai fod ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio fel gofyniad sylfaenol, a pha cyfarpar neu gymorth arall a allai fod yn ddefnyddiol i’w darparu
- Rhoi hyfforddiant penodol ynghylch hygyrchedd i staff gorsafoedd pleidleisio a’r hyn y dylai’r hyfforddiant hwnnw ei gynnwys
- Gweithio gyda sefydliadau cymdeithas sifil, sefydliadau elusennol a sefydliadau trydydd sector i godi ymwybyddiaeth o fesurau hygyrchedd ymhlith pleidleiswyr
Gwnaeth rhai o’r grwpiau y gwnaethom ymgysylltu â nhw godi pwyntiau hefyd ynghylch sut y gallai gwybodaeth i bleidleiswyr fod yn fwy hygyrch, er enghraifft gwybodaeth am fathau gwahanol o etholiadau a sut i gofrestru i bleidleisio a gwneud cais am bleidlais absennol. Er nad yw hyn yng nghwmpas y cyfarwyddyd penodol hwn, rydym yn ystyried sut y gallwn fynd i’r afael â hyn yn ein cyfarwyddyd ehangach a’n hadnoddau i bleidleiswyr.
Pethau arall a godwyd yn gyson gan y rheiny y gwnaethom siarad â nhw oedd gwybodaeth gynnar a hygyrch cyn etholiadau am yr ymgeiswyr a’r pleidiau sy’n sefyll, a’u polisïau a’u maniffestos.
Er mai cyfrifoldeb y pleidiau gwleidyddol a’r ymgeiswyr yw rheoli’r wybodaeth, rydym yn flaenorol wedi galw am gamau gweithredu yn y maes hwn. Rydym wedi argymell bod pleidiau gwleidyddol yn gwneud yn siŵr bod eu gwybodaeth yn hawdd i’w darllen a’i deall, yn sicrhau eu bod yn anfon eu gwybodaeth mewn da bryd fel bod pawb yn gallu ei darllen, ac yn cyhoeddi maniffesto hygyrch ar yr un pryd â fersiynau eraill. Byddwn yn parhau i annog pleidiau ac ymgeiswyr i wneud hyn ac yn amlygu’r adborth hwn yn ein hymgysylltiad parhaus gyda phleidiau gwleidyddol yn benodol.
Cefndir
Pwy ydym ni
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb.
Rydym yn rhoi cyfarwyddyd cynhwysfawr i Swyddogion Canlyniadau sy’n cwmpasu gwybodaeth am yr hyn y dylent ei wneud i helpu pleidleiswyr sydd ag anableddau gymryd rhan. Mae’n cynnwys adnoddau penodol i helpu a chefnogi pleidleiswyr sydd ag anableddau mewn gorsafoedd pleidleisio. Er enghraifft, rydym yn cynhyrchu rhestr wirio hygyrchedd ar gyfer gorsafoedd pleidleisio i amlygu ystyriaethau ymarferol, a llawlyfr i staff gorsafoedd pleidleisio sydd â gwybodaeth ynghylch sut i sicrhau bod pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio yn hygyrch. Rydym hefyd wedi gweithio gydag RNIB a Mencap i greu fideos i’w defnyddio wrth hyfforddi staff gorsafoedd pleidleisio, i helpu staff i ddeall yn well yr heriau y gall pleidleiswyr sydd ag anableddau eu hwynebu wrth fynd i orsaf bleidleisio.
Ceir rhagor o wybodaeth am ein rôl a’n cyfrifoldebau ar ein gwefan.
Deddf Etholiadau 2022
Mae Deddf Etholiadau y DU 2022 yn cynnwys darpariaethau yn ymwneud â chynorthwyo pobl sydd ag anableddau i bleidleisio p’un a ydynt yn ddall, yn rhannol ddall neu p’un a oes ganddynt anabledd arall.1
Yn sgil y darpariaethau hyn bydd rhaid i Swyddogion Canlyniadau ddarparu cyfarpar sy’n rhesymol at ddibenion galluogi pobl berthnasol i bleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol, neu wneud hi’n haws iddynt wneud hynny.
- Caiff pobl berthnasol eu diffinio yn y ddeddfwriaeth fel pobl sy’n ei chael hi’n anodd neu’n amhosib pleidleisio oherwydd eu bod yn ddall, eu bod yn rhannol ddall neu fod anabledd arall ganddynt.
- Mae ‘yn annibynnol’ yn cyfeirio at bleidleisio heb gymorth gan berson arall, nid heb unrhyw fath o ddyfais gynorthwyol.
Bydd y darpariaethau hyn yn berthnasol i:
- Etholiadau cyffredinol Senedd y DU
- Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr
- Etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon ac etholiadau lleol yng Ngogledd Iwerddon
- Etholiadau lleol yn Lloegr
Mae Swyddogion Canlyniadau yn gyfrifol yn bersonol am gynnal etholiadau. Yng Ngogledd Iwerddon, y Prif Swyddog Etholiadol sy'n gyfrifol am gofrestru etholiadol a'r rhestr o bleidleiswyr absennol. Felly, dylid ystyried bod cyfeiriadau at ‘Swyddogion Canlyniadau’ drwy’r ddogfen hon a’r cyfarwyddyd hefyd yn cynnwys y Prif Swyddog Etholiadol.
- 1. Deddf Etholiadau 2022 ↩ Back to content at footnote 1