Penderfynu ar geisiadau am bleidlais bost yn dilyn y broses eithriadau neu'r broses ardystio

Penderfynu ar geisiadau am bleidlais bost yn dilyn y broses eithriadau neu'r broses ardystio


Os bydd angen dilysu dynodyddion personol ar gyfer ceisiadau am bleidlais bost a bod angen y bleidlais bost ar gyfer etholiad sydd ar ddod, dylech gysylltu â’r Swyddog Canlyniadau (lle nad chi yw’r Swyddog Canlyniadau hefyd) i gynllunio sut byddwch yn cydlynu sut y caiff pecynnau pleidleisiau post eu pennu a’u hanfon wedyn ar gyfer yr etholiad. Mae ein canllawiau ar benderfynu ar gais yn agos at y dyddiad cau yn cynnwys rhagor o wybodaeth am hyn.


Penderfynu ar gais pan fydd tystiolaeth ddogfennol ychwanegol wedi'i darparu

Os byddwch yn fodlon bod darparu tystiolaeth ddogfennol ychwanegol wedi cadarnhau pwy yw ymgeisydd, dylech gymeradwyo'r cais.

Os na fyddwch yn fodlon ar y dystiolaeth ddogfennol a ddarparwyd, gallwch ofyn am ragor o dystiolaeth, neu ardystiad neu wrthod y cais.
 

Penderfynu ar gais pan fydd ardystiad wedi'i ddarparu

Os ydych wedi gallu penderfynu bod ardystiad yn ddilys ac felly wedi cadarnhau pwy yw'r ymgeisydd yn llwyddiannus, dylech gymeradwyo'r cais am bleidlais bost.

Os na fyddwch yn fodlon bod yr ardystiad yn ddilys, gallwch ofyn am ardystiad arall, gofyn am ragor o dystiolaeth, neu wrthod y cais.

Os bydd ymgeisydd yn gwrthod neu os na fydd yn ymateb i'ch cais cyn neu ar y dyddiad cau ar gyfer darparu tystiolaeth ddogfennol ychwanegol neu ardystiad

Os bydd ymgeisydd yn gwrthod neu os na fydd yn ymateb i'ch cais cyn neu ar y dyddiad cau ar gyfer darparu tystiolaeth ddogfennol ychwanegol neu ardystiad, cewch wrthod y cais am bleidlais bost.

Pa benderfyniad bynnag a wnewch, rhaid i chi ysgrifennu at yr etholwr i roi gwybod iddo.1 Mae ein canllawiau ar gadarnhau canlyniad ceisiadau am bleidlais bost yn cynnwys rhagor o wybodaeth. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2023