Noder bod y dyddiad cau ar gyfer prosesu ceisiadau cyn etholiad cyffredinol y DU ar 4 Gorffennaf bellach wedi mynd heibio. Er y byddwn yn parhau i brosesu pob cais a dderbynnir, ni allwn warantu y byddant yn cael eu prosesu mewn pryd i chi allu arsylwi ar 4 Gorffennaf.
Cyn i chi wneud cais
Cyn i chi wneud cais i fod yn arsyllwr etholiadol, mae angen i chi ddarllen y canlynol:
y Cod Ymarfer ar gyfer arsyllwr etholiadol achrededig
ein hysbysiad preifatrwydd
Pan fyddwch chi'n cwblhau eich cais, bydd angen i chi gadarnhau eich bod wedi darllen yr holl ddogfennau hyn a'ch bod yn eu deall.
Mae arsylwi etholiadol yn rôl wirfoddol sy'n helpu i sicrhau bod etholiadau'n cael eu cynnal mewn ffordd sy'n dryloyw, hygyrch, diduedd a diogel. I gael gwybodaeth am rolau taledig ar y diwrnod pleidleisio, cysylltwch â'ch cyngor lleol.
Beth sydd ei angen arnoch i wneud cais
I wneud cais i gofrestru fel unigolyn, bydd angen:
eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt
i chi ddweud wrthym am faint yr hoffech i'ch achrediad bara, ac i ble yr hoffech i'ch bathodyn gael ei anfon
i chi uwchlwytho llun pasbort a'ch ID ffotograffig
Mae angen bod y llun yn bodloni'r canlynol:
mae'n eich cynnwys chi yn unig
mae'n cynnwys eich pen a'ch ysgwyddau
mae'n dangos eich wyneb yn glir gyda'ch llygaid ar agor
mae wedi ei dynnu yn erbyn cefndir plaen
Mae angen i'ch ID ffotograffig ddangos eich enw a'ch oedran. Gallwch uwchlwytho copi o'ch:
pasbort
trwydded yrru
cerdyn adnabod cenedlaethol
cerdyn adnabod etholiadol Gogledd Iwerddon
700KB yw uchafswm maint ffeil ar gyfer y llun a'r ID. Ni ellir prosesu unrhyw beth yn fwy na hyn.
Gallwch gysylltu â ni os nad oes gyda chi'r math yma o ID.