Honiadau a wneir mewn deunydd ymgyrchu
Os ydych wedi gweld honiad mewn deunydd ymgyrchu rydych yn bryderus yn ei gylch, mae sawl sefydliad a all ymdrin â'ch pryderon, yn dibynnu ar natur eich cwyn.
Mae rhai cyfyngiadau ar yr hyn y gall ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol neu ymgyrchwyr ei ddweud mewn deunyddiau ymgyrchu. Mae'r cyfyngiadau hyn yn cynnwys gwneud neu gyhoeddi datganiad ffug ynghylch cymeriad personol neu ymddygiad ymgeisydd, neu gyhoeddi deunydd sarhaus.
Fodd bynnag, nid yw hynny'n golygu na allwch fynegi pryderon. Gallwch gysylltu â naill ai'r unigolyn neu'r sefydliad a gynhyrchodd y deunydd neu un o'r sefydliadau a restrir isod.
Datganiadau ffug ynghylch cymeriad personol neu ymddygiad ymgeisydd
Mae'n drosedd gwneud neu gyhoeddi unrhyw ddatganiad ffeithiau ffug ynghylch cymeriad personol neu ymddygiad ymgeisydd. Mae hefyd yn anghyfreithlon cyhoeddi'n fwriadol ddatganiad ffug bod ymgeisydd wedi tynnu'n ôl o etholiad at ddiben hyrwyddo neu sicrhau llwyddiant ymgeisydd arall yn yr etholiad.
Mater i'r heddlu yw cwynion am ddatganiadau ffug o'r fath. Gallwch roi gwybod am eich pryderon i'r heddlu lleol.
Ni fydd yr heddlu yn cymryd camau gweithredu yn erbyn datganiadau ffug ynghylch polisi ymgeisydd neu blaid wleidyddol, gan nad yw'r rhain wedi'u cwmpasu gan unrhyw gyfraith.
Honiadau am fater gwleidyddol penodol
Nid oes gan y Comisiwn Etholiadol rôl o ran rheoleiddio cynnwys deunydd ymgyrchu. Dysgwch fwy am rôl y Comisiwn Etholiadol fel rheoleiddiwr.
Nid yw'r Awdurdod Safonau Hysbysebu yn rheoleiddio honiadau mewn hysbysebion lle mai eu prif swyddogaeth yw dylanwadu ar bleidleiswyr mewn etholiadau neu refferenda cenedlaethol, lleol, rhanbarthol neu ryngwladol. Dysgwch pam nad yw'n rheoleiddio hysbysebion gwleidyddol.
O dan rai amgylchiadau, pan fydd hysbyseb yn ymddangos mewn man y telir amdano ac nad yw'n bwriadu dylanwadu ar bleidleiswyr, bydd yr Awdurdod Safonau Hysbysebu yn rheoleiddio hysbysebion am faterion gwleidyddol – er enghraifft, cynnig i ehangu maes awyr, a osodir gan unigolyn, busnes, elusen, grŵp ymgyrchu/buddiant neu fath arall o sefydliad. Nid yw ei gylch gwaith yn cwmpasu ‘achosion a syniadau’ mewn mannau hysbysebu nas telir amdanynt, megis taflenni neu wefannau.
Weithiau mae'n anodd pennu a yw hysbyseb yn ymwneud â mater gwleidyddol, yn cael ei chynnal gan y llywodraeth, neu'n rhan o ymgyrch etholiadol. Os bydd unrhyw amheuaeth, mae'r Awdurdod Safonau Hysbysebu yn argymell eich bod yn cysylltu â'r blaid wleidyddol sy'n gyfrifol yn y lle cyntaf er mwyn mynegi eich barn.
Os na fyddwch yn fodlon ar y canlyniad, gallwch wedyn wneud cwyn i'r Awdurdod Safonau Hysbysebu.
Honiadau mewn hysbyseb a wneir gan lywodraeth leol neu ganolog
Mae'r Awdurdod Safonau Hysbysebu yn rheoleiddio honiadau a wneir mewn hysbysebion gan lywodraeth leol neu ganolog, nad ystyrir eu bod yn rhan o ymgyrch etholiad neu refferendwm – er enghraifft, ymgyrch ‘Rhoi'r Gorau i Smygu’ gan adran iechyd.
Honiadau yn ymwneud ag ystadegau swyddogol
Mae Awdurdod Ystadegau'r DU a'i gangen weithredol, y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, yn gweithio i hyrwyddo a diogelu'r broses o gynhyrchu a chyhoeddi ystadegau swyddogol.
Os ydych yn bryderus y gall ystadegau swyddogol fod wedi cael eu camddefnyddio yn ystod yr ymgyrch etholiadol, efallai yr hoffech ddarllen y canllawiau ar sut y dylid defnyddio ystadegau swyddogol yn ystod y cyfnod cyn etholiad, a'r polisi ymyriadau sy'n helpu i benderfynu a fydd yn ymateb i'r achos o gamddefnyddio ystadegau swyddogol.
Cyn etholiad cyffredinol 2024, ysgrifennodd Cadeirydd Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig at arweinwyr y pleidiau gwleidyddol, yn eu hannog i sicrhau:
- bod honiadau a datganiadau ystadegol yn seiliedig ar ddata y mae gan bawb fynediad cyfartal ato
- bod honiadau a datganiadau ystadegol yn cael eu diffinio’n glir ac yn dryloyw
- bod ymgyrchwyr yn cydnabod unrhyw ansicrwydd a chyd-destun y mae angen i bobl fod yn ymwybodol ohonynt er mwyn gallu dehongli honiadau a datganiadau ystadegol yn realistig
Honiadau a wneir gan elusen
Mae gan elusennau yng Nghymru a Lloegr yr hawl gyfreithiol i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymgyrchu a gwleidyddol lle mae hyn yn hyrwyddo eu dibenion elusennol ac er lles pennaf yr elusen, ond mae'n rhaid iddynt wneud hynny yn unol â'r gyfraith. Wrth ystyried eu deunydd ymgyrchu, mae'n rhaid i elusennau ystyried yr egwyddorion pwysig canlynol:
- mae'n rhaid i elusen bwysleisio ei bod yn annibynnol a sicrhau bod unrhyw gysylltiad sydd ganddi â phleidiau gwleidyddol yn gytbwys; ni chaiff elusen gefnogi nac ariannu plaid wleidyddol, ymgeisydd na gwleidydd
- gall elusen gefnogi polisïau penodol a gaiff eu hyrwyddo gan bleidiau gwleidyddol, neu fynegi pryderon yn eu cylch, os byddai gwneud hynny yn helpu i gyflawni ei dibenion elusennol, ar yr amod ei bod yn dangos yn glir ei bod yn annibynnol ar unrhyw blaid wleidyddol
- mae'n rhaid i ymddiriedolwyr amddiffyn eu helusen a pheidio â chaniatáu iddi gael ei defnyddio fel dull o fynegi safbwyntiau gwleidyddol unrhyw ymddiriedolwr neu aelod o staff unigol neu gan blaid neu ymgeisydd
Fel y nodir yng nghanllawiau Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr, wrth wneud penderfyniadau ynghylch gweithgarwch yn ystod y cyfnod cyn etholiad, mae'n rhaid i ymddiriedolwyr ddilyn proses gwneud penderfyniadau briodol, gan ystyried yr ystod o opsiynau posibl. Mae'n rhaid i elusennau ystyried ffactorau priodol, ystyried ffactorau perthnasol yn unig, a gwneud penderfyniadau y byddai ymddiriedolwyr rhesymol yn eu gwneud.
Mae canllawiau Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr ar ymgyrchu a gweithgareddau gwleidyddol yn nodi'n fanylach y rheolau y mae'n rhaid i elusennau eu dilyn wrth ymgymryd â gweithgareddau gwleidyddol ac ymgyrchu.
Os bydd elusen yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol fel rhan o'i gweithgareddau ymgyrchu, dylai hefyd ddilyn canllawiau Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr ar y cyfryngau cymdeithasol.
Gan nad yw cyfraith elusennau union yr un peth ledled y DU, mae rheoleiddwyr elusennau ar wahân yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon. Dysgwch fwy am Swyddfa Rheoleiddiwr Elusennau'r Alban, ac am Gomisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon.
Hysbysebion gwleidyddol ar y teledu neu'r radio
Ni chaniateir hysbysebion gwleidyddol ar y teledu na'r radio yn y DU. Mae hyn yn cynnwys hysbysebion â'r dibenion canlynol:
- dylanwadu ar ganlyniad etholiadau a refferenda
- hyrwyddo buddiannau plaid
- ysgogi newidiadau i'r gyfraith
- dylanwadu ar farn gyhoeddus mewn perthynas â mater dadleuol
Yn hytrach, caniateir i bleidiau gwleidyddol wneud darllediadau gwleidyddol na chânt eu hystyried yn hysbysebion.
Os ydych yn bryderus bod hysbyseb rydych wedi'i gweld neu ei chlywed yn hysbyseb wleidyddol, gallwch gwyno i Ofcom. Gall Ofcom hefyd ystyried a yw rhaglenni ar y teledu neu'r radio wedi cydymffurfio â'i reolau mewn perthynas â didueddrwydd a chywirdeb dyladwy.
Honiadau a wneir ar y cyfryngau cymdeithasol
Mae gan gwmnïau cyfryngau cymdeithasol eu polisïau eu hunain o ran pa gynnwys all ymddangos ar eu llwyfannau, gan gynnwys mewn unrhyw hysbysebion gwleidyddol. Er enghraifft, fel arfer mae llwyfannau yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysebwyr gadarnhau eu bod wedi'u lleoli yn y DU os yw eu hysbyseb yn ymwneud ag etholiadau'r DU.
Nid yw rhai llwyfannau yn caniatáu hysbysebion gwleidyddol o gwbl.
Os oes gennych bryderon bod cynnwys rydych wedi'i weld ar y cyfryngau cymdeithasol yn erbyn polisïau'r llwyfan, gallwch godi'r mater hwn yn uniongyrchol â'r llwyfan.
Polisïau cyfryngau cymdeithasol
Cyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Llywodraeth yn postio am bolisi
Llywodraeth ganolog
Fel rheol, nid yw postiadau gan adrannau’r llywodraeth sy’n rhoi gwybodaeth am bolisi yn dod o dan gyfraith etholiadol. Mae hyn yn golygu na chaiff y maes hwn ei reoleiddio.
Yn ystod etholiad cyffredinol, gall adrannau’r llywodraeth barhau i ddarparu esboniadau ffeithiol o bolisi, datganiadau a phenderfyniadau cyfredol y llywodraeth.
Rhaid iddynt beidio ag ymyrryd â materion etholiadol mewn ffordd bleidiol. Mae gan wefan Llywodraeth y DU ganllawiau ar ymddygiad gweision sifil yn ystod cyfnod etholiad.
Os hoffech wneud cwyn yn erbyn un o adrannau’r llywodraeth, byddai angen i chi gysylltu â hi yn uniongyrchol.
Llywodraeth leol
Mae cyfyngiadau tebyg yn gymwys i gyfathrebu gan awdurdodau llywodraeth leol yn ystod cyfnod yr etholiad.
Ni ddylai awdurdodau gyhoeddi unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd sy’n ceisio dylanwadu ar bleidleiswyr.
Mae’r Gymdeithas Llywodraeth Leol wedi cynhyrchu canllawiau ynghylch sut y dylai cynghorau gyfathrebu yn ystod ymgyrch etholiadol.
Os hoffech wneud cwyn yn erbyn cyngor, byddai angen i chi gysylltu â nhw yn uniongyrchol.
Dysgwch fwy am beth y mae rheoleiddwyr yn gyfrifol amdanynt mewn agweddau gwahanol o ymgyrchu etholiadol.