Ein rôl ni fel rheoleiddiwr
Summary
Fel rheoleiddiwr, rydym yn:
- cynnal cofrestrau o bleidiau gwleidyddol ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon, ac yn cofrestru ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
- darparu canllawiau i unrhyw un sydd am sefyll neu ymgyrchu mewn etholiad
- cyhoeddi data cyllid gwleidyddol
- rheoleiddio'r rheolau argraffnodau ar gyfer pleidiau ac ymgyrchwyr
- cymryd camau os oes gennym reswm i amau bod y gyfraith o ran cyllid gwleidyddol wedi’i thorri
Cofrestru pleidiau gwleidyddol
Rydym yn cynnal y cofrestrau o bleidiau gwleidyddol ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Os yw plaid am sefyll ymgeiswyr mewn etholiad gan ddefnyddio enw plaid, disgrifiad neu arwyddlun, mae’n rhaid iddynt gofrestru gyda ni.
Rhagor o wybodaeth am sut y caiff pleidiau gwleidyddol eu cofrestru
Mae cais i gofrestru yn cynnwys:
- enw'r blaid
- dogfennau swyddogol, gan gynnwys cyfansoddiad y blaid, a’i strwythur ariannol, sy’n dangos bod y blaid yn gallu cydymffurfio â’r gyfraith o ran cyllid etholiadau
- manylion rolau pwysig, megis arweinydd, trysorydd a swyddog enwebu
Gall cais hefyd gynnwys disgrifiadau ac arwyddluniau plaid (mae’r rhain yn ddewisol).
Rydym yn gwirio pob cais i sicrhau mai dim ond enwau, disgrifiadau, ac arwyddluniau a ganiateir sy’n cael eu cymeradwyo i’w defnyddio ar bapurau pleidleisio. Mae’n rhaid iddynt oll fynd trwy wiriadau cyfreithiol penodol, gan gynnwys osgoi’r risg o bleidleiswyr yn cael eu drysu neu eu camarwain pan fyddant yn edrych ar bapur pleidleisio.
Unwaith y bydd wedi ei chofrestru, mae gan blaid gyfrifoldebau cyfreithiol yn ôl y gyfraith etholiadol, gan gynnwys dim ond derbyn arian o ffynonellau penodol a ganiateir, a chyflwyno adroddiadau ariannol rheolaidd i ni.
Wyddech chi?
- Gall unrhyw un roi sylwadau ar gais cofrestru plaid.
- Gall pleidiau gael hyd at 12 disgrifiad cofrestredig. Gall ymgeiswyr ddewis defnyddio unrhyw un o’r rhain ar y papur pleidleisio.
- Mewn rhai etholiadau, gall ymgeiswyr ddefnyddio disgrifiad plaid, yn lle enw’r blaid, ar y papur pleidleisio. Mae’n rhaid iddi fod yn glir pa blaid y mae’n sefyll ar ei chyfer.
- Yn etholiadau Senedd yr Alban, gall pleidiau ychwanegu ‘Scottish' i’w henw heb orfod cofrestru disgrifiad ychwanegol.
- Yn etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau cynghorau lleol yng Nghymru, gall pleidiau ychwanegu 'Welsh' neu 'Cymreig' i’w henw heb orfod cofrestru disgrifiad ychwanegol.
Cofrestru ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
Unigolion neu sefydliadau sy’n ymgyrchu cyn etholiadau, ond nad ydynt yn sefyll fel pleidiau gwleidyddol neu ymgyrchwyr, yw ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau. Maent yn aml yn ymgyrchu ar faterion penodol, neu o blaid neu yn erbyn pleidiau neu ymgeiswyr penodol.
Pan fyddant yn gwario dros swm penodol ar ymgyrchu, mae’n rhaid iddynt gofrestru gyda ni, ac adrodd ar eu cyllid. Rydym yn cyhoeddi rhestr o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau cofrestredig.
Helpu pleidiau ac ymgyrchwyr i gydymffurfio â'r rheolau
Rydym yn darparu canllawiau i unrhyw un sydd am sefyll neu ymgyrchu mewn etholiad, o bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr i ymgeiswyr a’u hasiantiaid.
Mae’r canllawiau hyn yn eu helpu i ddeall pa reolau y mae’n rhaid iddynt eu dilyn, a’r hyn sy’n rhaid iddynt adrodd i ni.
Dylai fod yn bosibl i ymgyrchu etholiadol fod yn arloesol ac yn atyniadol. I helpu pleidiau i gydymffurfio â’r gyfraith, ac i fod yn arloesol, rydym yn cynnig gwasanaeth cyngor. Rydym ar gael i esbonio i bleidiau ac ymgyrchwyr pa effaith y gallai eu gweithgareddau ymgyrchu gael ar eu hadroddiadau ariannol.
Yn y DU mae yna ddiwylliant cryf o gydymffurfio â’r gyfraith o ran cyllid gwleidyddol. Rydym yn gweithio gyda phleidiau ac ymgyrchwyr cyn etholiadau i sicrhau lefelau uchel o gydymffurfiad, fel na fydd angen i ni gymryd camau gorfodi yn hwyrach.
Cyhoeddi data cyllid gwleidyddol
Rydym yn cyhoeddi data ariannol bob chwarter ynghylch rhoddion a benthyciadau i bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr yn y DU. Mae’r setiau data hyn yn dangos sut y caiff pleidiau ac ymgyrchwyr eu hariannu drwy gydol bob blwyddyn. Rydym yn cyhoeddi datganiadau o gyfrifon yn flynyddol.
Ar ôl etholiadau, rydym yn cyhoeddi ffurflenni gwariant gan bleidiau ac ymgyrchwyr. Mae hyn yn dangos yr hyn y maent wedi’i wario ar ymgyrchu i ddylanwadu ar y ffordd y mae pobl yn pleidleisio.
Mae’n rhaid i bleidiau ac ymgyrchwyr anfon eu hadroddiadau rhoddion a benthyciadau, eu cyfrifon a’u ffurflenni gwariant atom erbyn dyddiadau cau a osodir mewn cyfraith. Gallwn gymryd camau gweithredu os na dderbyniwn hwy mewn da bryd, yn enwedig pan fydd hynny’n oedi tryloywder y data.
Rheoleiddio argraffnodau ar ddeunydd ymgyrchu
Rydym yn rheoleiddio'r rheolau ‘argraffnodau’ ar gyfer pleidiau ac ymgyrchwyr (ond nid ymgeiswyr), sy’n gofyn bod y deunydd ymgyrchu’n cynnwys gwybodaeth sy’n nodi’r person neu’r sefydliad a dalodd amdano.
Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae’n rhaid i holl ddeunydd ymgyrchu argraffedig, megis taflenni, gynnwys yr wybodaeth hon
Yn yr Alban, mae’r rheol hefyd yn berthnasol i ddeunydd ymgyrchu digidol, megis hysbysiadau cyfryngau cymdeithasol.
Yr hyn y mae’n rhaid i argraffnodau gynnwys
Mae’n rhaid i ddeunydd ymgyrchu argraffedig gynnwys enw a chyfeiriad y canlynol:
- yr argraffydd
- yr hyrwyddwr
- pwy sy’n cael ei hyrwyddo (er enghraifft, yr ymgeisydd neu blaid)
Yn yr Alban, mae’n rhaid i ddeunydd ymgyrchu digidol gynnwys y canlynol:
- yr hyrwyddwr
- pwy sy’n cael ei hyrwyddo (er enghraifft, yr ymgeisydd neu blaid)
Beth sy'n digwydd pan gaiff y gyfraith ei thorri
Byddwn yn cymryd camau os oes gennym reswm i amau bod y gyfraith o ran cyllid gwleidyddol wedi’i thorri. Gall yr heddlu hefyd orfodi’r gyfraith ar gyfer pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr eraill, a dim ond yr heddlu all ymchwilio i rai troseddau. Os byddwn yn canfod un o’r troseddau hynny gallwn hysbysu’r heddlu fel y gallant benderfynu p’un a ydynt am ymchwilio ai peidio.