Yr hyn mae rheolwyr yn gyfrifol amdano
Mae gan nifer o reoleiddwyr gylchoedd gwaith sy’n cwmpasu gwahanol agweddau ar ymgyrchu etholiadol. Gall deall cyfrifoldebau pob un o’r sefydliadau hyn eich helpu i wybod pwy sydd orau i gysylltu â nhw ynghylch unrhyw bryderon neu gwynion. Gallwch gael mwy o wybodaeth am bob rheoleiddiwr ar eu gwefan.
Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig. Mae’n gweithio er mwyn hybu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb.
Mae cyfrifoldebau’r Comisiwn Etholiadol yn cynnwys:
- cynnal cofrestrau o bleidiau gwleidyddol yng ngwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon, a chofrestru ymgyrchwyr nad ydynt yn aelod o blaid
- darparu arweiniad i unrhyw un sydd am sefyll neu ymgyrchu mewn etholiad
- darparu arweiniad a chymorth i Swyddogion Canlyniadau sy’n cynnal etholiadau
- cynnal ymgyrchoedd fel bod pobl yn gwybod pryd yw’r dyddiadau cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio, a gwneud cais am bleidlais bost a phleidlais ddirprwy
- sicrhau bod gan bobl yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i bleidleisio, gan gynnwys sut i ddod o hyd i’w gorsaf bleidleisio
- cyhoeddi data cyllid gwleidyddol, gan gynnwys gwariant ymgyrchu etholiadol
- rheoleiddio’r rheolau argraffnod ar gyfer pleidiau ac ymgyrchwyr
- cymryd camau os bydd rheswm i amau bod cyfraith cyllid gwleidyddol wedi’i thorri
Yr Awdurdod Safonau Hysbysebu yw rheoleiddiwr hysbysebu annibynnol y Deyrnas Unedig ar draws yr holl gyfryngau, gan gwmpasu hysbysebu cyffredinol, hyrwyddiadau gwerthu a marchnata uniongyrchol. Rhaid i bob hysbyseb fod “yn gyfreithlon, yn weddus, yn onest ac yn wir”.
Yr Awdurdod Safonau Hysbysebu sy’n gweinyddu’r Codau Hysbysebu. Mae codau ar wahân ar gyfer hysbysebion nad ydynt yn cael eu darlledu (sef Cod CAP) a hysbysebion darlledu (sef Cod BCAP). Mae gan y ddau god reolau cymharol gyson sy’n gwahardd triniaeth wahaniaethol a/neu niwed a thramgwydd.
Mae honiadau mewn hysbysebion yn y cyfryngau nad ydynt yn cael eu darlledu (posteri, papurau newydd ac ati) lle mae eu prif swyddogaeth yw dylanwadu ar bleidleiswyr mewn etholiadau neu refferenda lleol, rhanbarthol, cenedlaethol neu ryngwladol wedi’u heithrio o’r Cod PAC. Mae Cod BCAP yn gwahardd gwneud ymddangosiadau gwleidyddol ar deledu a radio (Ofcom sy’n gyfrifol am orfodi’r gwaharddiad ar hysbysebion gwleidyddol ar gyfryngau darlledu).
Dysgwch fwy am waith yr Awdurdod Safonau Hysbysebu o ran rheoleiddio honiadau a wneir mewn deunydd ymgyrchu, a pham nad yw’n rheoleiddio hysbysebion gwleidyddol.
Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr sy’n gyfrifol am gofrestru a rheoleiddio elusennau yng Nghymru a Lloegr i sicrhau bod y cyhoedd yn gallu cefnogi elusennau yn hyderus.
Fel cofrestrydd, mae’n gyfrifol am gynnal cofrestr gywir a chyfredol o elusennau. Mae hyn yn cynnwys penderfynu a yw sefydliadau yn elusennol ac a ddylent fod wedi’u cofrestru.
Mae cyfrifoldebau Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr yn cynnwys:
- cymryd camau gorfodi pan fo achos o gamarfer neu gamymddwyn
- sicrhau bod elusennau’n bodloni eu gofynion cyfreithiol, gan gynnwys darparu gwybodaeth am eu gweithgareddau bob blwyddyn
- sicrhau bod gwybodaeth briodol am bob elusen gofrestredig ar gael yn eang i’r cyhoedd
- rhoi arweiniad i helpu elusennau i redeg mor effeithiol â phosib
Mae blog diweddar gan Gadeirydd y Comisiwn Elusennau yn amlinellu’r gwaith mae elusennau yn ei wneud wrth lywio trafodaeth gyhoeddus yn ystod cyfnod etholiad, yn ogystal â gwaith y Comisiwn Elusennau yn rheoleiddio’r gweithgaredd hwn
Wrth benderfynu a yw elusen wedi cydymffurfio â’r gyfraith mae’r Comisiwn Elusennau yn blaenoriaethu ei hadnoddau gwaith achos tuag at fynd i’r afael â’r risgiau mwyaf, y rhai sydd â’r potensial i achosi’r lefel uchaf o niwed i ffydd a hyder y cyhoedd yn y sector elusennau, neu a allai effeithio ar allu ymddiriedolwyr i gydymffurfio â’u dyletswyddau.
Mae rheoleiddwyr elusennau ar wahân yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Dysgwch fwy am Swyddfa Rheoleiddiwr Elusennau yr Alban, a Chomisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon.
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yw corff annibynnol y Deyrnas Unedig a sefydlwyd i gynnal hawliau gwybodaeth. Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn gyfrifol am hyrwyddo a gorfodi Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) y Deyrnas Unedig, Deddf Diogelu Data 2018, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig 2003.
Yn ystod ymgyrch etholiadol, efallai y bydd Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn edrych ar sut mae data personol yn cael ei ddefnyddio gan bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr i sicrhau bod hyn yn cydymffurfio. Gall Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth hefyd edrych ar sut mae negeseuon ymgyrch farchnata yn cael eu cyfleu i unigolion drwy e-bost, negeseuon testun neu alwadau ffôn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu gwynion ynghylch sut y caiff eich data personol ei ddefnyddio gan bleidiau gwleidyddol neu grwpiau eraill yn ystod ymgyrch etholiadol, efallai y bydd yr ateb neu’r camau nesaf y dylech eu cymryd ar dudalennau gwybodaeth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cynhyrchu canllawiau ar eich data ac etholiadau sy’n amlinellu sut gallai eich data gael ei ddefnyddio yn ystod cyfnod etholiad, ac yn nodi’r hyn y gall pleidleiswyr ei ddisgwyl yma.
Os oes gennych bryderon ynghylch sut yr ymdriniwyd â’ch data personol, dylech godi’ch pryderon gyda’r blaid wleidyddol neu’r sefydliad perthnasol yn gyntaf. Os byddwch yn parhau i fod yn anfodlon ar ôl hyn gallwch wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Ofcom sy’n rheoleiddio gwasanaethau teledu, radio a fideo ar-alw. Rhaid i ddarlledwyr sydd â thrwydded Ofcom gadw at y rheolau a nodir yn y Cod Darlledu ac mae Ofcom yn asesu pob rhaglen a chwyn yn erbyn y rheolau hyn.
Yn ystod cyfnod etholiad, rhaid i ddarlledwyr hefyd gadw at y rheolau yn Adran Chwech y Cod Darlledu sy’n ymwneud ag etholiadau a refferenda. Mae hyn yn cynnwys rheolau sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddarlledwyr sicrhau bod pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr annibynnol yn cael sylw priodol.
Bydd Ofcom yn asesu pob cwyn cyn penderfynu a ddylid ymchwilio ai peidio. O ystyried pwysigrwydd etholiadau, gallant gyflymu cwynion am sylw i’r etholiad.
Yn ystod cyfnodau etholiad, mae Ofcom yn cynnull Pwyllgor Etholiad, sy’n cynnwys aelodau o’u prif Fwrdd a’u Bwrdd Cynnwys arbenigol. Mae’r pwyllgor yn delio ag anghydfodau rhwng darlledwyr a phleidiau gwleidyddol ynghylch dyraniadau darllediadau etholiadol pleidiau, yn ogystal ag edrych ar gwynion sylweddol a gânt am raglenni a ddarlledir yn ystod cyfnod yr etholiad.
O dan Siarter y BBC, y BBC sydd fel arfer yn delio â chwynion am raglenni’r BBC i ddechrau – yn ystod etholiadau mae Ofcom yn disgwyl i’r BBC ddelio â chwynion mae’n eu cael cyn gynted â phosib. Fodd bynnag, os bydd rhywun yn anfodlon â’r ffordd mae’r BBC wedi delio â’u cwyn, gallant gysylltu ag Ofcom ynglŷn â’u hachos (os yw’r gŵyn yn ymwneud â darllediad teledu neu radio’r BBC), a bydd Ofcom yn ei asesu i benderfynu a yw’n codi unrhyw faterion o dan eu Cod sy’n gofyn am ymchwiliad.
Dysgu mwy am gyfrifoldebau Ofcom yn ystod etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig
Mae Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig a’i gangen weithredol, y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, ill dau yn gyrff hyd braich annibynnol sydd ar wahân i’r llywodraeth. Mae ganddynt amcan statudol o hyrwyddo a diogelu’r broses o gynhyrchu a chyhoeddi ystadegau swyddogol sy’n ‘gwasanaethu lles y cyhoedd’.
Mae lles y cyhoedd yn cynnwys:
- hysbysu’r cyhoedd am faterion cymdeithasol ac economaidd
- cynorthwyo i ddatblygu a gwerthuso polisi cyhoeddus
- rheoleiddio ansawdd a herio’n gyhoeddus y camddefnydd o ystadegau
Gall ystadegau roi cefnogaeth bwerus i ddadleuon gwleidyddol. Mae Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig, gyda chefnogaeth y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, yn cynghori arweinwyr pleidiau cyn etholiadau a refferenda bod camddefnyddio ystadegau yn niweidio eu huniondeb, yn achosi dryswch ac yn tanseilio ymddiriedaeth. Gall hefyd arwain dadl i ganolbwyntio gormod ar yr ystadegau eu hunain, gan dynnu sylw oddi ar y materion dan sylw. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn ystod y craffu cyhoeddus dwys ar ymgyrch etholiadol, lle gall gwybodaeth anghywir ledaenu’n gyflym.
Mae gan Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig a’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau bolisi ymyriadau sy’n llywio eu gwaith ar wneud datganiadau ar y defnydd o ystadegau mewn dadl gyhoeddus. Mae’r polisi hwn yn cydnabod bod ymgeiswyr am berswadio pleidleiswyr gyda’u cynigion, ac mae’n rhan o ddadl wleidyddol arferol iddynt ddefnyddio ystod eang o ffynonellau gan gynnwys ystadegau i gyflwyno eu hachos. Yn hynny o beth, nid yw Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig na’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau yn gwirio cywirdeb pob datganiad a wneir na gwirio pob honiad sy’n swnio fel ffaith. Yn hytrach, maent yn sicrhau, mewn dadl wleidyddol, nad yw’r ystadegau sylfaenol yn cael eu camliwio – ac os ydynt, yn helpu i egluro sut y dylid eu dehongli.
Dysgwch fwy am waith Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig a’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau mewn etholiadau.