Diogelwch pleidleisio drwy'r post
Note
Sylwch fod y wybodaeth hon yn berthnasol i
- Etholiadau cyffredinol Senedd y DU, is-etholiadau a deisebau adalw yng Nghymru, Lloegr a'r Alban
- Etholiadau lleol yn Lloegr
- Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr
Mae yna nifer o brosesau y bwriedir iddynt amddiffyn pleidleisiau post rhag twyll.
Gwneud cais i bleidleisio drwy'r post
Pan fyddwch yn gwneud cais am bleidlais bost bydd angen i chi nodi eich dyddiad geni, eich rhif yswiriant gwladol a’ch llofnod ar eich ffurflen gais.
Caiff y rhain eu gwirio yn erbyn cofnodion eraill y llywodraeth cyn y gellir cymeradwyo eich cais.
Mae hyn yn helpu i gadarnhau mai'r unigolyn sy'n gwneud cais am bleidlais bost yw'r un unigolyn sydd wedi'i gofrestru i bleidleisio.
Rhagor o wybodaeth am wneud cais i bleidleisio drwy'r post
Gallwch ofyn i'ch pleidlais bost gael ei hanfon i gyfeiriad gwahanol i'r cyfeiriad rydych wedi'ch cofrestru ynddo. Rhaid i chi roi rheswm pam eich bod am i'ch pleidlais bost gael ei hanfon i gyfeiriad gwahanol. Mae hyn yn helpu eich Swyddog Cofrestru Etholiadol i nodi a ddylai cais amheus gael ei adrodd i'r heddlu.
Dogfennau pleidleisio drwy’r post
Rhaid i chi gwblhau datganiad pleidleisio drwy'r post a gaiff ei ddychwelyd gyda'ch papur pleidleisio. Mae'r datganiad pleidleisio drwy'r post yn cynnwys eich dyddiad geni a’ch llofnod. Pan fydd y Swyddog Canlyniadau yn derbyn eich dogfennau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd, bydd yn eu gwirio a'u cymharu â'r manylion a oedd wedi'u cynnwys yn eich cais gwreiddiol i bleidleisio drwy'r post.
Dim ond os yw'r Swyddog Canlyniadau'n fodlon bod y dyddiad geni a'r llofnod ar eich datganiad pleidleisio drwy'r post yn cyfateb i'r manylion yn eich cais gwreiddiol y caiff eich pleidlais bost ei chyfrif. Mae hyn yn helpu i gadarnhau eich bod wedi cwblhau eich pleidlais bost eich hun yn lle rhywun arall.
Cyflwyno pleidleisiau post mewn gorsaf bleidleisio
Ar gyfer etholiadau a gynhelir ar neu ar ôl 2 Mai 2024, byddwch ond yn gallu cyflwyno eich pleidlais bost eich hun, a phleidleisiau post hyd at bum person arall, mewn gorsaf bleidleisio neu i'ch cyngor lleol.
Os ydych chi'n cyflwyno pleidleisiau post bydd angen i chi lenwi ffurflen yn rhoi eich enw a'ch cyfeiriad, faint o bleidleisiau post rydych chi'n eu cyflwyno a pham rydych chi'n eu cyflwyno.
Rhagor o wybodaeth am gyflwyno pleidleisiau post mewn gorsaf bleidleisio
Troseddau pleidleisio drwy'r post
Mae sawl trosedd yn ymwneud â thwyll etholiadol sy’n cynnwys pleidleisiau post:
- Mae'n drosedd gwneud cais am bleidlais bost tra'n esgus bod yn rhywun arall
- Mae’n drosedd gofyn i’r Swyddog Canlyniadau anfon papur pleidleisio drwy’r post rhywun i gyfeiriad nad oedd wedi cytuno arno
- Mae’n drosedd atal papur pleidleisio drwy’r post (neu gyfathrebiadau eraill sy’n ymwneud â’r bleidlais bost) rhag cael ei ddosbarthu i bleidleisiwr sydd â hawl i bleidleisio drwy’r post
- Mae'n drosedd i esgus bod yn rhywun arall i ddefnyddio ei bleidlais bost
- Mae’n drosedd defnyddio (neu fygwth defnyddio) trais yn erbyn rhywun, difrodi ei eiddo neu enw da, achosi colled ariannol iddo, ei ddychryn, achosi anaf ysbrydol neu roi pwysau ysbrydol gormodol arno, er mwyn gwneud iddo bleidleisio mewn ffordd arbennig neu ei atal rhag pleidleisio
- Mae'n drosedd i ymgyrchydd gwleidyddol drin dogfennau pleidleisio drwy'r post sydd wedi'u dosbarthu i berson arall (ar gyfer etholiadau lle mae'r diwrnod pleidleisio ar neu ar ôl 2 Mai 2024) oni bai bod y person yn berthynas agos neu'n rhywun y mae'n darparu gofal rheolaidd ar ei gyfer.
Gallai rhywun a geir yn euog o’r troseddau uchod gael ei garcharu am hyd at 2 flynedd a/neu gael dirwy ddiderfyn.