Sut i bleidleisio trwy’r post
This page
Please note that this page is only relevant to voters living in Wales.
Crynodeb
Mae newidiadau i'r trefniadau pleidleisio drwy'r post. Gallwch nawr wneud cais ar-lein i bleidleisio drwy'r post a bydd angen i chi brofi pwy ydych chi wrth wneud cais. Bydd angen i chi hefyd wneud cais arall am bleidlais bost bob tair blynedd. Dysgu mwy
Mae'r newidiadau yn gymwys i'r canlynol
- Etholiadau cyffredinol Senedd y DU, is-etholiadau a deisebau adalw yng Nghymru, Lloegr a'r Alban
- Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Os oes gennych bleidlais bost hirdymor ar gyfer etholiadau Senedd y DU y gwnaethoch gais amdani cyn 31 Hydref 2023, bydd hon bellach yn dod i ben ar 31 Ionawr 2026. Bydd tîm gwasanaethau etholiadol eich cyngor lleol yn cysylltu â chi cyn i'ch pleidlais bost ddod i ben.
Pryd y byddwch yn derbyn eich pecyn pleidleisio drwy'r post
Ar ôl i'r terfyn amser ar gyfer cofrestru i ddod yn ymgeisydd fynd heibio (tua tair wythnos cyn y diwrnod pleidleisio), caiff papurau pleidleisio eu cynhyrchu a'u hargraffu. Yna, caiff eich un chi ei anfon atoch, yn eich pecyn pleidleisio drwy'r post.
Ar ôl i chi dderbyn eich pecyn pleidleisio drwy'r post, sicrhewch eich bod yn ei gadw mewn man diogel. Peidiwch â chaniatáu i neb arall ddelio ag ef, a pheidiwch â'i adael mewn man lle y gallai rhywun arall fynd ag ef.
Sut i bleidleisio drwy'r post
Cam un
Pan fyddwch yn cael eich pecyn pleidleisio drwy'r post, ewch drwy'r cynnwys yn ofalus. Dylai eich pecyn gynnwys:
- cyfarwyddiadau ar sut i fwrw eich pleidlais a sut i ddychwelyd y bleidlais bost
- datganiad pleidleisio drwy’r post
- amlen A ar gyfer eich papur pleidleisio ar ôl i chi ei gwblhau
- amlen ddychwelyd B
- y papur neu'r papurau pleidleisio ar gyfer yr etholiadau a gynhelir
Cam dau
Cwblhewch y datganiad pleidleisio drwy'r post yn ofalus gan ddilyn y cyfarwyddiadau.
Cam tri
Darllenwch y cyfarwyddiadau ar y papur pleidleisio'n ofalus. Mae rhai etholiadau yn defnyddio systemau pleidleisio gwahanol, felly mae angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn llenwi pob papur pleidleisio yn gywir.
Cam pedwar
Cwblhewch eich papur pleidleisio. Sicrhewch eich bod yn ei gwblhau ar eich pen eich hun, ac yn gyfrinachol. Peidiwch ag ysgrifennu dim byd arall ar y papur, neu efallai na chaiff eich pleidlais ei chyfrif.
Cam pump
Rhowch eich papur pleidleisio yn yr amlen fach, sef amlen A.
Cam chwech
Rhowch eich datganiad pleidleisio drwy'r post ac amlen y papur pleidleisio yn yr amlen ddychwelyd, sef amlen B, a'i selio. Sicrhewch fod y cyfeiriad dychwelyd yn glir.
Cam saith
Rhowch eich pleidlais bost mewn man diogel tan eich bod yn barod i'w phostio.
Dychwelyd eich pleidlais bost
Dychwelwch eich pleidlais bost wedi'i chwblhau cyn gynted â phosibl drwy fynd â hi i flwch post eich hun.
Os na allwch ei phostio eich hun, gallwch naill ai ofyn i rywun rydych yn ei adnabod ac yn ymddiried ynddo i'w phostio ar eich rhan, neu gallwch gysylltu â thîm etholiadau eich cyngor lleol i ofyn a allant ei chasglu oddi wrthych.
Ceisiwch osgoi gofyn i ymgeisydd neu weithiwr plaid ei phostio ar eich rhan. Yn etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, mae'n drosedd i ymgyrchwyr, ymgeiswyr a gweithwyr plaid drin pleidleisiau post unrhyw un nad yw'n berthynas agos neu rywun y maent yn gofalu amdano.
Mae angen i'ch pleidlais bost fod gyda thîm etholiadau eich cyngor lleol erbyn 10pm ar y diwrnod pleidleisio i gael ei chyfrif.
Os na allwch bostio eich pleidlais bost mewn pryd, gallwch fynd â hi i'ch gorsaf bleidleisio. Efallai y byddwch hefyd yn gallu ei chyflwyno i swyddfa leol eich cyngor, ond dylech gysylltu â'ch Swyddog Cofrestru Etholiadol i wirio a yw hyn yn bosibl.
Cyflwyno pleidleisiau post mewn gorsaf bleidleisio
Cyflwyno pleidleisiau post mewn gorsaf bleidleisio
Etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Dim ond eich pleidlais bost eich hun y gallwch chi ei chyflwyno, a phleidleisiau post hyd at bum person arall, mewn gorsaf bleidleisio neu i'ch cyngor lleol. Wrth gyflwyno pleidleisiau post, bydd angen i chi lenwi ffurflen. Bydd angen i chi nodi eich enw a'ch cyfeiriad, faint o bleidleisiau post yr ydych yn eu cyflwyno a pham yr ydych yn cyflwyno'r pleidleisiau post hynny.
Bydd ymgyrchwyr dim ond yn gallu cyflwyno’u pleidlais bost eu hunain, a phleidleisiau post ar gyfer hyd at bum person arall sydd naill ai’n berthynas agos neu’n rhywun y maent yn darparu gofal rheolaidd ar ei gyfer.
Sut i ganslo eich pleidlais bost
Os hoffech ganslo eich pleidlais bost, dylech gysylltu â'ch cyngor lleol i wneud cais am hyn. Rhaid i chi wneud hynny cyn 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn yr etholiad y byddwch yn pleidleisio ynddo.
Os ydych eisoes wedi cwblhau a dychwelyd eich pleidlais bost, ni allwch ei chanslo ar gyfer yr etholiad hwnnw.
Crynodeb
Caiff papurau pleidleisio drwy'r post eu hystyried mewn ffordd wahanol o dan gyfraith etholiadol i bapurau pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio, felly gall pleidleiswyr dynnu llun o'u papur pleidleisio drwy'r post eu hunain a'i rannu (gan gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol) os ydynt yn dymuno.
Dewis personol y pleidleisiwr yw p'un a fydd yn penderfynu tynnu llun o'i bapur pleidleisio drwy'r post a'i rannu. Mae'n drosedd perswadio neu gymell person arall i rannu llun o'i bapur pleidleisio drwy'r post.