Gweithio mewn gorsaf bleidleisio
Working at a polling station
Mae staff gorsafoedd pleidleisio yn chwarae rhan bwysig wrth gynnal etholiadau. O agor gorsafoedd pleidleisio yn y bore, i roi papurau pleidleisio i bleidleiswyr a’u helpu, maent yn sicrhau bod y diwrnod pleidleisio yn cael ei gynnal yn dda.
Beth mae gweithio mewn gorsaf bleidleisio yn ei olygu
Byddwch yn dechrau eich diwrnod tua 6am, gan wneud yn siŵr bod yr orsaf bleidleisio wedi'i pharatoi cyn i'r gorsafoedd pleidleisio agor am 7am. Wrth i bleidleiswyr gyrraedd, byddwch yn rhoi papurau pleidleisio i bleidleiswyr ac yn marcio cofrestrau.
Byddwch yn siarad â phleidleiswyr wrth iddynt gyrraedd ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod beth i'w wneud. Chi hefyd fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer rhywun sydd angen cymorth.
Y rhan fwyaf o'r amser byddwch chi wrth ddesg yn helpu pleidleiswyr o bob rhan o'ch cymuned. Mae naws gymunedol go iawn i’r rôl a byddwch yn cael siarad â llawer o bobl o’ch ardal leol a’u helpu.
Fel arfer, byddwch yn gweithio tan 11pm.
Darperir hyfforddiant yn yr wythnosau cyn yr etholiad.
Sgiliau y byddwch chi'n eu dysgu wrth weithio mewn gorsaf bleidleisio
- Gwneud penderfyniadau dan bwysau
- Gweithio fel tîm
- Sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid
- Datrys problemau
- Sylw i fanylder
- Mewnbynnu data
Sgiliau gofynnol
Nid oes angen unrhyw gymwysterau penodol arnoch, ond mae rhywfaint o brofiad gwaith yn ddefnyddiol. Mae'r rôl yn addas i chi os ydych chi'n mwynhau gweithio gyda phobl ac eisiau gwneud rhywbeth er budd eich cymuned.
Fodd bynnag, mae rhai gofynion y mae'n rhaid i chi eu bodloni i wneud cais. Mae’n rhaid i chi:
- fod dros 18 oed
- bod â hawl i weithio yn y DU
- gallu siarad Saesneg i safon dda
- heb weithio i ymgeisydd sy'n sefyll yn yr etholiad rydych am weithio ynddo
Bydd angen i chi ddatgan ar eich cais os ydych:
- yn aelod o blaid wleidyddol
- yn berthynas agos i ymgeisydd
- yn ymgyrchu’n frwd mewn etholiadau
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'ch cyngor
Diddordeb? Ewch i wefan eich cyngor i ddod o hyd i gyfleoedd yn eich ardal. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich cyngor, nodwch eich cod post ar ein gwefan.
Gallwch gysylltu â'ch cyngor lleol i gael gwybod am y cyfleoedd sydd ar gael ar unrhyw adeg o'r flwyddyn. Gan amlaf, cynhelir etholiadau ar y dydd Iau cyntaf ym mis Mai. Fodd bynnag, gall etholiadau gael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn.