Gweithio mewn etholiadau
Make elections happen
Rhagarweiniad
Mae ein democratiaeth yn dibynnu ar filoedd o bobl sy'n gweithio ar y diwrnod pleidleisio. Maent yn agor gorsafoedd pleidleisio ledled y wlad yn y bore, yn cyfarch pleidleiswyr ac yn rhoi papurau pleidleisio iddynt.
Mae 40,000 o orsafoedd pleidleisio ar agor ledled y DU ar y diwrnod pleidleisio. Mae dros 150,000 o staff gorsafoedd pleidleisio yn gweithio i sicrhau bod ein hetholiadau yn cael eu cynnal yn rhydd, yn deg ac yn agored i bawb.
Gall unrhyw un wneud cais, nid oes angen unrhyw gymwysterau penodol arnoch.
Dysgwch ragor a chymerwch ran yng ngweithrediad y diwrnod pleidleisio.
Pam gweithio mewn etholiadau?
Gallwch wasanaethu eich cymuned wrth ennill sgiliau newydd i'ch helpu i ddatblygu eich gyrfa, a chael eich talu am eich amser.
• Gallwch ennill sgiliau newydd o ran datrys problemau a gwneud penderfyniadau, wrth weithio fel tîm
• Dysgwch ragor am sut mae democratiaeth yn gweithio a sut mae eich pleidlais yn cael ei chyfrif
• Cewch brofiad a hyfforddiant unigryw – nid oes dau ddiwrnod pleidleisio yr un peth
• Cewch eich talu am eich amser
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'ch cyngor
Diddordeb? Ewch i wefan eich cyngor i ddod o hyd i gyfleoedd yn eich ardal. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich cyngor, nodwch eich cod post ar ein gwefan.
Gallwch gysylltu â'ch cyngor lleol i gael gwybod am y cyfleoedd sydd ar gael ar unrhyw adeg o'r flwyddyn. Gan amlaf, cynhelir etholiadau ar y dydd Iau cyntaf ym mis Mai. Fodd bynnag, gall etholiadau gael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn.
Pryd i wneud cais
Mae etholiadau yn cael eu cynnal ar y dydd Iau cyntaf ym mis Mai, ond gellir cynnal etholiadau unrhyw bryd. Cysylltwch â’ch cyngor, a byddant yn ychwanegu eich enw at restr o ddarpar staff os nad oes etholiadau ar y gweill.