Summary

Mae Maer Llundain a Chynulliad Llundain yn cynrychioli'r bobl sy'n byw yn Llundain.

Maent yn gweithio gyda chynghorau Llundain, llywodraeth ganolog a sefydliadau eraill ar wahanol agweddau ar fywyd Llundain.

Mae Maer Llundain yn gosod gweledigaeth ar gyfer y ddinas, a'r gyllideb i roi'r weledigaeth honno ar waith.

Mae Cynulliad Llundain yn dwyn y maer i gyfrif ac yn ymchwilio i faterion sy'n bwysig i Lundain.

Mae yna 25 Aelod Cynulliad i gyd. Mae 14 yn cynrychioli etholaethau, ac 11 yn cynrychioli Llundain i gyd.

Darganfyddwch fwy am Faer Llundain a Chynulliad Llundain

Pleidleisio yn yr etholiadau hyn

Cynhelir Etholiadau Maer Llundain a Chynulliad Llundain bob pedair blynedd. Cynhelir yr etholiadau nesaf ym mis Mai 2024. 

Yn yr etholiadau hyn, rydych chi'n pleidleisio dros:

  • Maer Llundain
  • eich Aelod Cynulliad Llundain yn etholaeth Llundain
  • yr Aelodau Cynulliad ledled Llundain

Etholiad Maer Llundain

Ar hyn o bryd, mae etholiad Maer Llundain yn defnyddio'r system Pleidlais Atodol. O 4 Mai 2023 ymlaen, bydd etholiad Maer Llundain yn defnyddio system y cyntaf i'r felin.

Papur pleidleisio pinc a ddefnyddir ar gyfer etholiad Maer Llundain fel arfer. Bydd yn rhestru'r ymgeiswyr ar gyfer rôl y maer.

Dim ond ar gyfer un ymgeisydd y byddwch yn gallu pleidleisio, drwy roi croes [X] yn y blwch wrth ymyl eich dewis.

Aelod Cynulliad Llundain yn etholaeth Llundain

Mae etholiad Aelod Cynulliad Etholaeth Llundain yn defnyddio system y cyntaf i'r felin.

Papur pleidleisio melyn a ddefnyddir ar gyfer etholiad Aelod Cynulliad Etholaeth Llundain fel arfer. Bydd yn rhestru'r ymgeiswyr ar gyfer eich etholaeth Cynulliad yn Llundain (mae hyn yn wahanol i'ch etholaeth seneddol).

Pleidleisiwch dros un ymgeisydd yn unig drwy roi croes [X] yn y blwch nesaf at eich dewis.

Aelodau Cynulliad ledled Llundain

Mae etholiad Cynulliad Llundain yn defnyddio'r system aelodau ychwanegol.

Papur pleidleisio oren a ddefnyddir ar gyfer etholiad Aelod Cynulliad Llundain gyfan fel arfer. Bydd yn rhestru'r pleidiau sydd ag ymgeiswyr.

Pleidleisiwch dros un ymgeisydd yn unig drwy roi croes [X] yn y blwch nesaf at eich dewis.