Ym mha etholiadau y gallwch chi bleidleisio
All nations
Please note that this page is only relevant to voters living in Wales
Sicrhewch eich bod wedi cofrestru
Sicrhewch eich bod wedi cofrestru
I bleidleisio mewn unrhyw etholiadau yn y DU, mae'n rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio.
Cymhwysedd
Mae’r etholiadau y gallwch bleidleisio ynddynt yn dibynnu ar y canlynol:
Atebwch ambell gwestiwn i ddarganfod pa etholiadau y gallwch bleidleisio ynddynt
Dinasyddiaeth
Dinasyddion Prydain, Gweriniaeth Iwerddon neu ddinasyddion cymwys y Gymanwlad
Os ydych yn ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig neu'n ddinesydd cymwys y Gymanwlad, gallwch bleidleisio ym mhob etholiad a gynhelir.
Dinasyddion yr UE
Gall holl ddinasyddion yr UE gofrestru i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau cynghorau lleol yng Nghymru. Gallwch bleidleisio mewn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu os ydych naill ai’n ddinesydd un o’r gwledydd canlynol:
- Denmarc, Gwlad Pwyl, Lwcsembwrg, Portiwgal a Sbaen sy’n byw yn y DU, sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, neu i aros ynddynt, neu sydd heb angen caniatâd o’r fath
- unrhyw wlad arall yn yr UE a oedd ar neu cyn 31 Rhagfyr 2020 yn preswylio’n gyfreithiol yn y DU, a oedd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, neu nad oedd angen caniatâd, ac mae hyn wedi parhau heb doriad
Ni allwch bleidleisio yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU.
Er eu bod hefyd yn aelod-wladwriaethau o’r UE mae dinasyddion Cyprus, Malta ac Iwerddon yn gymwys i gofrestru i bleidleisio ym mhob etholiad a gynhelir yn y DU.
Dinesydd tramor cymwys
Os ydych yn ddinesydd tramor cymwys sy'n byw yng Nghymru, gallwch bleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac mewn etholiadau llywodraeth leol.
Rhestr o ddinasyddion cymwys y Gymanwlad a dinasyddion yr UE
Mae diffiniad 'dinesydd y Gymanwlad' yn cynnwys dinasyddion Tiriogaethau Dibynnol y Goron a Thiriogaethau Prydeinig Tramor. Dinesydd ‘cymwys’ y Gymanwlad yw rhywun sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros yn y DU, neu rywun nad oes angen y fath ganiatâd arnynt.
Gwledydd y Gymanwlad | ||
---|---|---|
Antigwa a Barbwda | Awstralia | Bangladesh |
Barbados | Belîs | Botswana |
Brwnei Darussalam | Camerwn | Canada |
Cenia | Ciribati | Cyprus |
De Affrica | Dominica | Fanwatw |
Gaiana | Ghana | Grenada |
Gweriniaeth Unedig Tansanïa | India | Jamaica |
Lesotho | Malasia | Malawi |
Malta | Mawrisiws | Mosambic |
Namibia | Nawrw | Nigeria |
Pacistan | Papua Gini Newydd | Rwanda |
Sambia | Samoa | Sant Kitts-Nevis |
Sant Lwsia | Seland Newydd | Seychelles |
Sierra Leone | Simbabwe | Singapore |
Sri Lanca | St Vincent a'r Grenadies | Teyrnas Eswatini |
Tonga | Trinidad a Thobago | Twfalw |
Wganda | Y Bahamas | Y Gambia |
Ynysoedd Ffiji | Ynysoedd Solomon | Ynysoedd y Maldives |
Nid yw'r tabl hwn yn cynnwys y DU.
Tiriogaethau Dibynnol y Goron |
---|
Ynys Manaw |
Ynysoedd y Sianel (gan gynnwys Jersey, Guernsey, Sarc, Alderney, Herm ac Ynysoedd cyfannedd eraill y Sianel) |
Tiriogaethau Prydeinig Tramor | ||
---|---|---|
Anguilla | Ardaloedd gorsafoedd sofran ar Cyprus | Bermwda |
De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De | Gibraltar | Monserrat |
St Helena a thiriogaethau dibynnol (Ynys y Dyrchafael a Tristan da Cunha) | Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor yr India | Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig |
Ynysoedd Falkland | Ynysoedd Prydeinig yr Wyryf | Ynysoedd Turks a Caicos |
Ynysoedd y Caiman | Ynys Pitcairn |
Hong Kong |
---|
Mae cyn-drigolion Hong Kong sydd â phasport Tiriogaeth Ddibynnol Brydeinig, pasbort Prydeinig Tramor, neu Wladolion Prydeinig (Tramor) yn gymwys i gofrestru. |
Gwledydd eraill yr UE yw:
- Yr Almaen
- Awstria
- Bwlgaria
- Croatia
- Cyprus
- Yr Eidal
- Estonia
- Y Ffindir
- Ffrainc
- Groeg
- Gweriniaeth Tsiec
- Gwlad Belg
- Hwngari
- Yr Iseldiroedd
- Latfia
- Lithwania
- Malta
- Romania
- Slofacia
- Slofenia
- Sweden
Dinesydd tramor cymwys yw dinesydd gwlad arall sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros yn y DU, neu sydd heb angen caniatâd o’r fath.
Oedran
Yng Nghymru, gallwch bleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau cynghorau lleol pan fyddwch yn 16 oed.
Gallwch gofrestru i bleidleisio pan fyddwch chi'n 14 oed. Darganfyddwch fwy am gofrestru
Gallwch bleidleisio ym mhob etholiad arall pan fyddwch yn 18 oed.
Lle rydych yn byw
Mae etholiadau cyffredinol Senedd y DU ac etholiadau cynghorau lleol yn digwydd ledled y DU.
Mae rhai etholiadau, fodd bynnag, ond yn digwydd mewn ardaloedd penodol.
Yng Nghymru, gallwch bleidleisio yn etholiadau’r Senedd, a thros eich Comisiynydd Heddlu a Throseddu.
Darganfyddwch ragor am gofrestru i bleidleisio a phleidleisio os ydych:
- yn fyfyriwr
- â phartner yn y lluoedd arfog
- heb gyfeiriad sefydlog na pharhaol
- am gofrestru’n ddi-enw
Pleidleisio fel myfyriwr
Nid yw cofrestru yn eich cyfeiriad cartref ac yn eich cyfeiriadau yn ystod y tymor o reidrwydd yn golygu y cewch bleidleisio ddwywaith.
Bydd angen i chi ddewis un cyfeiriad a phleidleisio yn yr ardal honno yn unig pan fyddwch yn pleidleisio mewn:
- Etholiadau Senedd y DU
- Etholiadau Senedd Cymru
- Refferenda'r DU
Ni allwch bleidleisio yn eich cyfeiriad yn ystod y tymor a'ch cyfeiriad cartref yn yr etholiadau hyn. Mae pleidleisio mewn mwy nag un lleoliad yn drosedd.
Ar gyfer etholiadau eraill, gallwch bleidleisio yn eich cyfeiriad yn ystod y tymor ac yn eich cyfeiriad cartref.
Gallwch ddewis pleidleisio yn y naill ardal neu'r llall neu yn y ddwy ardal (cyhyd â bod y cyfeiriadau mewn ardaloedd cyngor gwahanol) pan fyddwch yn pleidleisio mewn:
- Etholiadau cyngor lleol yng Nghymru
- Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y rheolau ar gyfer yr etholiadau rydych yn pleidleisio ynddynt.
Pwy sy’n methu â phleidleisio
Ni fyddwch yn gallu pleidleisio os ydych:
- yn berson euogfarnedig yn y ddalfa yn unol â’ch dedfryd, ac eithrio dirmyg llys (er y gall carcharorion ar remánd, carcharorion sydd eu cael yn euog, a charcharorion sifil bleidleisio os ydynt ar y gofrestr etholiadol)
- wedi eich cael yn euog o arferion llwgr neu anghyfreithlon yng nghyswllt etholiad yn y pum mlynedd blaenorol