Pleidleisio drwy'r post
Eich lleoliad:
This page
Please note that this page is only relevant to voters living in Wales.
Crynodeb
Mae newidiadau i'r trefniadau pleidleisio drwy'r post. Gallwch nawr wneud cais ar-lein i bleidleisio drwy'r post a bydd angen i chi brofi pwy ydych chi wrth wneud cais. Bydd angen i chi hefyd wneud cais arall am bleidlais bost bob tair blynedd.
Mae'r newidiadau yn gymwys i'r canlynol:
- Etholiadau cyffredinol Senedd y DU, is-etholiadau a deisebau adalw yng Nghymru, Lloegr a'r Alban
- Etholiadau lleol yn Lloegr
- Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr
Gwneud yn siŵr eich bod wedi cofrestru i bleidleisio
Er mwyn pleidleisio mewn unrhyw etholiad yn y DU, mae'n rhaid eich bod wedi cofrestru i bleidleisio. Dysgwch a ydych yn gymwys i gofrestru a sut i wneud cais
Os nad ydych yn siŵr a oes gennych bleidlais bost yn barod, cysylltwch â thîm gwasanaethau etholiadol eich cyngor lleol i gael gwybod.
Pleidleisio drwy'r post
Os byddwch yn gwybod na fydd modd i chi gyrraedd eich gorsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio, gallwch bleidleisio drwy'r post.
Gallwch wneud cais am bleidlais bost os byddwch i ffwrdd ar wyliau neu am fod ymrwymiadau gwaith yn golygu na allwch fynd i'r orsaf bleidleisio. Gallwch hefyd ddewis pleidleisio drwy'r post gan y byddai hynny'n fwy cyfleus i chi.
Bydd pecyn pleidleisio drwy'r post yn cael ei anfon atoch cyn yr etholiad. Rhagor o wybodaeth am sut i bleidleisio drwy'r post.
Cwblhau ffurflen gais
Mae'r broses gwneud cais am bleidlais bost yng Nghymru yn dibynnu ar y math o etholiad:
- Ar gyfer pob etholiad, gallwch lawrlwytho, argraffu a chwblhau ffurflen gais i bleidleisio drwy'r post (PDF)
- Gallwch hefyd wneud cais ar-lein drwy GOV.uk neu drwy lenwi cais i bleidleisio drwy'r post ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
- Gallwch lenwi cais i bleidleisio drwy'r post ar gyfer etholiadau'r Senedd ac etholiadau cynghorau lleol yng Nghymru
Gallwch ddewis gwneud cais am bleidlais drwy’r post ar gyfer etholiad penodol, math arbennig o etholiad, neu'r holl etholiadau yr ydych yn gymwys i bleidleisio ynddynt.
Dim ond i wneud cais am yr holl etholiadau yr ydych yn gymwys i bleidleisio ynddynt y gallwch ddefnyddio'r ffurflen gais uchod. Os hoffech wneud cais i bleidleisio drwy'r post ar gyfer etholiad penodol neu fath arbennig o etholiad, mae angen i chi gysylltu â'r tîm gwasanaethau etholiadol yn eich cyngor lleol.
Gallwch wneud cais ar gyfer etholiad neu refferendwm penodol, ar gyfer cyfnod penodol o amser, neu ar gyfer pleidlais bost hirdymor. Mae hyd pleidlais bost hirdymor yn dibynnu ar y math o etholiad.
Ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, gall pleidlais bost bara am hyd at dair blynedd cyn y bydd angen i chi wneud cais arall.
Ar gyfer etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau llywodraeth leol, gallwch gael pleidlais bost am gyfnod amhenodol, ond bydd tîm gwasanaethau etholiadol eich cyngor lleol yn cysylltu â chi i ofyn i chi ddiweddaru eich llofnod ar ôl pum mlynedd.
Bydd angen i chi gwblhau cais newydd am bleidlais bost os byddwch wedi symud tŷ.
Os hoffech bleidleisio drwy'r post yn etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ym mis Mai 2024, bydd angen i chi gyflwyno cais ar wahân am bleidlais bost os ydych:
- yn ddinesydd o'r Undeb Ewropeaidd
- yn ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig neu'r Gymanwlad sydd â phleidlais bost ar gyfer etholiadau llywodraeth leol ond nid etholiadau Senedd y DU
- yn ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig neu'r Gymanwlad sydd heb bleidlais bost bresennol, ac nad ydych am bleidleisio drwy'r post yn etholiadau Senedd y DU
- yn Arglwydd
Lawrlwythwch ffurflen gais am bleidlais bost (PDF)
l pleidleiswyr tramor hefyd wneud cais trwy lawrlwytho, argraffu a chwblhau ffurflen gais am bleidlais bost.
Help gyda'r ffurflen
Help gyda'r ffurflen
Os na allwch argraffu'r ffurflen gais neu os bydd angen i chi ei chael mewn fformat hygyrch, cysylltwch â thîm gwasanaethau etholiadol eich cyngor lleol am help.
Llenwi eich cais
Mae cyfarwyddiadau ar sut i gwblhau'r cais yn gywir ar gael ar y ffurflenni papur ac ar-lein.
Bydd angen i chi roi eich dyddiad geni a'ch llofnod ar eich ffurflen gais. Ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, bydd angen i chi gynnwys eich rhif Yswiriant Gwladol hefyd. Caiff y rhain eu defnyddio i gadarnhau pwy ydych chi pan fyddwch yn pleidleisio drwy'r post.
Os na allwch ddarparu eich rhif Yswiriant Gwladol, bydd angen i chi esbonio pam yn eich cais. Bydd tîm gwasanaethau etholiadol eich cyngor lleol yn cysylltu â chi i drafod pa fathau eraill o brawf adnabod y bydd angen i chi eu darparu.
Cysylltwch â thîm gwasanaethau etholiadol eich cyngor lleol i gael rhagor o wybodaeth os na allwch lofnodi'r ffurflen, neu os na allwch roi llofnod cyson.
Cyflwyno eich cais gorffenedig
Os byddwch yn defnyddio ffurflen gais bapur, ar ôl i chi gwblhau'r ffurflen a sicrhau eich bod wedi'i llofnodi, bydd angen i chi ei hanfon i dîm gwasanaethau etholiadol eich cyngor lleol.
Gallwch anfon eich ffurflen drwy'r post. Mae'n bosibl hefyd y bydd tîm gwasanaethau etholiadol eich cyngor lleol yn derbyn copi wedi'i sganio o'ch ffurflen drwy e-bost, ond dylech gadarnhau hyn gyntaf.
Os byddwch yn gwneud cais ar-lein i bleidleisio drwy'r post, bydd angen i chi gwblhau'r cais i gyd ar yr un pryd a dilyn y cyfarwyddiadau ar GOV.uk i gyflwyno eich cais.
Rhaid i chi gyflwyno eich cais erbyn 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn y bleidlais.
Darganfod ble i anfon eich ffurflen
Rhowch eich cod post i ddarganfod cyfeiriad eich tîm gwasanaethau etholiadol lleol
Sut i ganslo eich pleidlais bost
Os hoffech ganslo eich pleidlais bost, yna dylech gysylltu â'ch cyngor lleol i wneud cais am hyn. Rhaid i chi wneud hynny cyn 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn yr etholiad y byddwch yn pleidleisio ynddo.
Os ydych eisoes wedi cwblhau a dychwelyd eich pleidlais bost, yna ni allwch ei chanslo ar gyfer yr etholiad hwnnw.
Ffurflenni cais am bleidlais bost gan bleidiau ac ymgyrchwyr
Ffurflenni cais am bleidlais bost gan bleidiau ac ymgyrchwyr
Gall pleidiau ac ymgyrchwyr annog pleidleiswyr i bleidleisio drwy'r post drwy roi ffurflenni cais am bleidlais bost iddynt. Gallai hyn gynnwys ffurflen bapur a anfonir drwy'r post, neu wefan â gwybodaeth.
Nid yw pleidiau'n torri unrhyw reolau os byddant yn annog pleidleiswyr i wneud cais i bleidleisio drwy'r post ac mae ein Cod Ymddygiad i ymgyrchwyr yn cynnwys gwybodaeth am hyn.
Dysgwch fwy am ffurflenni cais am bleidlais bost gan bleidiau ac ymgyrchwyr
Eich lleoliad: