Pleidleisio drwy'r post

Application deadlines
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yng Nghymru a Lloegr
Y dyddiad cau i gofrestru am bleidlais bost ar gyfer yr etholiadau ar 6 Mai yw 5pm dydd Mawrth 20 Ebrill. Rhaid i chi hefyd fod wedi cofrestru i bleidleisio erbyn canol nos dydd Llun 19 Ebrill.
Overview
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru
Er mwyn pleidleisio mewn unrhyw etholiad yn y DU, mae'n rhaid eich bod wedi cofrestru i bleidleisio.
Gwneud cais am bleidlais bost yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban
I wneud cais i bleidleisio drwy'r post yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban, bydd angen i chi lawrlwytho, argraffu a chwblhau ffurflen gais am bleidlais bost.
Gallwch wneud cais ar gyfer etholiad neu refferendwm penodol, ar gyfer cyfnod penodol o amser, neu ar gyfer pleidlais bost barhaol.
Ar ôl i chi gwblhau'r ffurflen a sicrhau eich bod wedi'i llofnodi, mae angen i chi ei dychwelyd i'ch swyddfa cofrestru etholiadol.
Os nad ydych yn siŵr a oes gennych bleidlais bost yn barod, cysylltwch â'ch swyddfa gofrestru etholiadol i gael gwybod.
Bydd angen i chi gwblhau cais newydd am bleidlais bost os byddwch wedi symud tŷ.
Pleidleiswyr dramor
Os ydych yn bleidleisiwr tramor, bydd angen i chi gynnwys y cyfeiriad lle gwnaethoch gofrestru ddiwethaf i bleidleisio yn y DU ar y ffurflen. Mae adran i chi nodi eich cyfeiriad gohebiaeth. Gallwch nodi eich cyfeiriad tramor yn yr adran hon.
Nodwch eich cod post
Dewch o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol leol er mwyn dychwelyd eich ffurflen
Ask the electoral services team at your local council for help
Os na allwch argraffu'r ffurflen gais neu fod angen i chi ei chael mewn fformat hygyrch, cysylltwch â'ch swyddfa cofrestru etholiadol leol am gymorth.
Gwneud cais am bleidlais bost yng Ngogledd Iwerddon
Os ydych wedi cofrestru i bleidleisio yng Ngogledd Iwerddon, mae'n rhaid i chi roi rheswm dilys pam na allwch fynd i'r orsaf bleidleisio'n bersonol.
Gallai hyn fod oherwydd:
- salwch
- anabledd
- gwyliau
- trefniadau gwaith
O dan amgylchiadau penodol, gallwch hefyd wneud cais am bleidlais bost benagored. Gallwch wneud hyn ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn.
Lawrlwythwch y ffurflen pleidlais absennol am ragor o wybodaeth gan Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon.
Os gwnaethoch gofrestru i bleidleisio ar-lein, bydd angen i chi ddarparu eich Rhif Cofrestru Digidol (DRN) ar eich cais am bleidlais bost.
Os nad ydych yn siŵr a oes gennych bleidlais bost yn barod, cysylltwch â Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon i gael gwybod.
Pryd y byddwch yn derbyn eich papur pleidleisio
Ar ôl i'r terfyn amser ar gyfer cofrestru fel ymgeisydd fynd heibio (tua thair wythnos cyn y diwrnod pleidleisio), caiff papurau pleidleisio eu cynhyrchu a'u hargraffu. Yna, caiff eich un chi ei anfon atoch, yn eich pecyn pleidleisio drwy'r post.
Ar ôl i chi dderbyn eich pecyn pleidleisio drwy'r post, sicrhewch eich bod yn ei gadw mewn man diogel. Peidiwch â chaniatáu i neb arall drin ag ef, a pheidiwch â'i adael mewn man lle y gallai rhywun arall fynd ag ef.
British citizens overseas
Dinasyddion Prydeinig dramor
Os ydych yn byw y tu allan i'r DU, dylech fod yn ymwybodol y gall gwasanaethau post tramor gymryd llawer mwy o amser na phost yn y DU.
Dysgwch ragor am bleidleisio fel dinesydd Prydeinig dramor
Cwblhau eich papur pleidleisio
Darllenwch y cyfarwyddiadau'n ofalus
Darllenwch y papur pleidleisio'n ofalus. Efallai y bydd gwahanol etholiadau yn defnyddio gwahanol systemau etholiadol, felly mae'n bwysig sicrhau eich bod yn gwybod sut i'w lenwi'n gywir. Bydd rhai etholiadau'n gofyn am un groes mewn un blwch, ac efallai y bydd eraill yn gofyn am i chi roi'r ymgeiswyr mewn trefn gan ddefnyddio rhifau.
Cwblhewch y papur pleidleisio
Cwblhewch y papur pleidleisio yn unol â'r cyfarwyddiadau. Sicrhewch eich bod yn ei gwblhau ar eich pen eich hun, ac yn gyfrinachol.
Sicrhewch ei fod wedi'i lofnodi a'i selio
Ar ôl i chi gwblhau eich papur pleidleisio, rhowch ef yn yr amlen leiaf a'i selio. Wedyn, cwblhewch a llofnodwch y datganiad pleidleisio drwy'r post, a rhowch bopeth yn yr amlen fawr a'i selio.
Dylech ei chadw'n ddiogel tan eich bod yn barod i'w phostio.
If you lose your ballot paper or fill it in incorrectly
Os byddwch yn colli'ch papur pleidleisio neu'n gwneud camgymeriad wrth ei gwblhau
Gallwch gael papur pleidleisio newydd yn bersonol gan eich Swyddog Canlyniadau yn eich swyddfa cofrestru etholiadol leol hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio.
Dychwelyd eich pleidlais bost
Pan fyddwch yn barod i ddychwelyd eich pleidlais bost, dylech fynd â hi i'r blwch post yn bersonol.
Os na allwch ei phostio'n bersonol, gofynnwch i rywun rydych yn ei adnabod ac yn ymddiried ynddo ei phostio ar eich rhan, neu gallwch gysylltu â'ch awdurdod lleol i ofyn a allant ei chasglu gennych.
Dylech osgoi gofyn i ymgeisydd neu rywun sy'n gweithio i blaid wleidyddol ei phostio ar eich rhan.
Mae angen i'ch pleidlais bost fod gyda'ch awdurdod lleol erbyn 10pm ar y diwrnod pleidleisio er mwyn iddi gael ei chyfrif.
Os na allwch bostio'ch pecyn pleidleisio drwy’r post mewn pryd, gallwch fynd ag ef i'r orsaf bleidleisio neu'ch awdurdod lleol ar y diwrnod pleidleisio.
Voting in person
Os oes gennych bleidlais bost, ni allwch bleidleisio'n bersonol ar y diwrnod pleidleisio.
Ond gallwch fynd â'ch pecyn pleidleisio drwy'r post i'ch gorsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio os hoffech wneud hynny.
Cysylltwch â'ch awdurdod lleol os hoffech ganslo eich pleidlais bost.
Pam y mae angen i chi roi eich dyddiad geni a'ch llofnod er mwyn cael pleidlais bost
Mae'n ofynnol i bawb sy'n pleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy roi eu dyddiad geni a'u llofnod pan fyddant yn gwneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy.
Pan fyddwch yn dychwelyd eich pecyn pleidleisio drwy'r post, caiff eich llofnod a'ch dyddiad geni eu gwirio yn erbyn y rheiny ar eich cais er mwyn cadarnhau pwy ydych.
Caiff eich llofnod a'ch dyddiad geni eu gwahanu oddi wrth eich papur pleidleisio cyn y bydd neb yn edrych arno neu ei gyfrif, felly ni fydd rhoi'r wybodaeth hon yn effeithio ar gyfrinachedd eich pleidlais.
Gellir gwneud darpariaeth arbennig i bobl na allant lofnodi eu ffurflen, neu na allant ei llofnodi mewn ffordd gyson. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'ch Swyddog Cofrestru Etholiadol lleol.