Adroddiad ymchwil ar agweddau at gofrestru pleidleiswyr
Agweddau'r cyhoedd at gofrestru i bleidleisio
Agweddau'r cyhoedd at gofrestru i bleidleisio
Mae'r ymchwil ansoddol hon yn ystyried agweddau'r cyhoedd at gofrestru i bleidleisio, gyda phwyslais penodol ar rwystrau i gofrestru a wynebir gan bobl sy'n gymwys i bleidleisio yn y DU. Cynhaliwyd cyfanswm o 133 o gyfweliadau. Roedd 93 ohonynt yn gyfweliadau 30 munud o hyd a drefnwyd ymlaen llaw ac roedd 40 yn gyfweliadau arddull neuadd 20 munud o hyd, a oedd yn ystyried agweddau amrywiaeth o grwpiau gwahanol. Roedd y cyfweliadau yn canolbwyntio ar ymwybyddiaeth o'r broses o gofrestru i bleidleisio a'r hyn sy'n galluogi pobl i gofrestru ac yn eu rhwystro rhag gwneud hynny.
Roedd y cyfranogwyr yn gadarnhaol ynghylch y llwybrau i gofrestru
Roedd cyfranogwyr a oedd wedi'u cofrestru i bleidleisio yn fwy tebygol o gofio cael gwybodaeth am gofrestru a chofio'r broses bleidleisio na'u cymheiriaid nad oeddent wedi'u cofrestru.
Roedd llythyrau yn brif ddull ysgogi i gyfranogwyr, yn eu hatgoffa i gofrestru i bleidleisio ac yn rhoi gwybodaeth am y broses gofrestru. Roedd hyn yn arbennig o wir ymhlith cyfranogwyr a oedd wedi'u cofrestru.
Roedd cyfranogwyr a oedd wedi'u cofrestru yn cofio bod y broses o gofrestru yn syml, ac roedd y cyfranogwyr nad oeddent wedi'u cofrestru yn tybio y byddai'r broses yn hawdd.
Ar y cyfan, roedd y cyfranogwyr yn gadarnhaol ynghylch y llwybrau i gofrestru, gan nodi y byddent yn mynd ar-lein pe bai angen rhagor o wybodaeth arnynt ynghylch cofrestru i bleidleisio.
Yr hyn sy'n galluogi pobl i gofrestru
Y prif beth a oedd yn galluogi ac yn cymell pobl i gofrestru oedd y cyfle i ddweud eu dweud a gallu bwrw pleidlais. Daeth i'r amlwg bod cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd yn bwysig i'r cyfranogwyr a oedd wedi'u cofrestru a'r rhai nad oeddent wedi'u cofrestru.
Roedd gan normau cymdeithasol rôl amlwg ac roedd y cyfranogwyr yn aml yn efelychu ymddygiadau a safbwyntiau aelodau o'u teuluoedd a'u ffrindiau. Nodwyd yn aml fod dylanwadwyr mewn lleoliadau addysgol yn hyrwyddo cofrestru a phleidleisio ymhlith pobl iau.
Roedd manteision unigol, megis gwelliannau i statws credyd, yn apelgar oherwydd ystyriwyd eu bod yn ymarferol ac yn wirioneddol.
Roedd dealltwriaeth gyffredinol bod casglu data drwy gofrestru pleidleiswyr ar gyfer cynghorau lleol a'r Llywodraeth yn fuddiol ond nid oedd yn effeithio ryw lawer ar gymhelliant.
Yr hyn sy'n rhwystro pobl rhag cofrestru
Nodwyd tri grŵp o rwystrau i gofrestru:
- meddylfryd mewn perthynas â phleidleisio
- rhwystrau o ran gwybodaeth
- rhwystrau ymarferol
Roedd y cyfranogwyr â rhwystrau o ran meddylfryd yn cynnwys y rheini a oedd yn mynegi difaterwch (dim diddordeb mewn pleidleisio) a dadrith (diffyg ymddiriedaeth yn y system wleidyddol ac mewn gwleidyddiaeth). Lle roedd rhwystr o ran meddylfryd, roedd hyn yn brif rwystr i bleidleisio.
Roedd rhwystrau o ran gwybodaeth yn cynnwys diffyg ymwybyddiaeth o gymhwystra, diffyg gwybodaeth a hyder i fwrw pleidlais ar sail gwybodaeth, diffyg dealltwriaeth o'r broses bleidleisio a thybiaethau anghywir ynghylch statws cofrestru.
Roedd rhwystrau ymarferol yn canolbwyntio ar ddiffyg brys neu flaenoriaeth i gofrestru i bleidleisio. Roedd rhwystrau ymarferol eraill yn cynnwys pryderon ynghylch dogfennaeth ofynnol, preifatrwydd gwybodaeth bersonol a'r amser y byddai'n ei gymryd i gofrestru.
Meddylfryd cymhellol
Drwy gymhwyso fframwaith ymddygiadol COM-B nodir mai cymhelliant yw'r prif beth sy'n rhwystro neu'n galluogi pobl i gofrestru.
Arsylwodd yr ymchwil ar dri meddylfryd cymhellol sy'n un o elfennau sylfaenol ymddygiad cofrestru. Mae dau o'r rhain yn feddylfrydau rhwystro ac yn cynnwys dadrith mewn perthynas â'r system wleidyddol neu wleidyddion, a difaterwch ynghylch pleidleisio.
Mae'r trydydd yn feddylfryd galluogi sy'n canolbwyntio ar achub ar gyfle i ddweud eich dweud neu fynegi eich barn. Awgryma'r ymchwil fod amrywiaeth o sbardunau cymhellol sy'n seiliedig ar allu a chyfle, a allai annog pobl â'r tri meddylfryd i gofrestru.
Methodoleg
Cynhaliwyd cyfanswm o 133 o gyfweliadau manwl ar ffurf cyfweliadau a drefnwyd ymlaen llaw a chyfweliadau arddull neuadd Datblygwyd maint y sampl er mwyn galluogi'r ymchwil i gasglu ac ystyried agweddau grwpiau gwahanol y nodwyd eu bod yn llai tebygol o fod wedi'u cofrestru i bleidleisio mewn ymchwil flaenorol gan y Comisiwn Etholiadol. Roedd y grwpiau hyn yn cynnwys:
- Pobl iau dan 34 oed. Er bod pwyslais ar y grŵp oedran hwn, roedd yr ymchwil hefyd yn cynnwys sampl o bobl 35+ oed er mwyn sicrhau bod pobl o grwpiau oedran gwahanol yn cael eu cynnwys
- Pobl a oedd wedi symud yn ddiweddar (y rhai a oedd wedi symud tŷ yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf)
- Pobl o gefndir ethnig lleiafrifol Roedd yr ymchwil yn cynnwys o leiaf bum cyfweliad manwl gyda chyfranogwyr o bob un o'r cefndiroedd canlynol: Indiaidd, Pacistanaidd, Bangladeshaidd, Du Affricanaidd a Du Caribïaidd.
- Pobl sy'n rhentu'n breifat
Datblygwyd cynllun sampl i ganolbwyntio ar y grwpiau hyn a chynnwys cyfranogwyr a oedd wedi'u cofrestru a rhai nad oeddent wedi'u cofrestru. Roedd hyn yn galluogi'r ymchwil i ystyried y rhesymau dros gofrestru a'r rhwystrau i gofrestru.
Cafodd cyfranogwyr ar gyfer y cyfweliadau manwl a drefnwyd ymlaen llaw eu recriwtio o bob rhan o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Cynhaliwyd y cyfweliadau arddull neuadd yn Wolverhampton a Leeds. Mae'r ddau leoliad yn cynnwys etholaethau lle pleidleisiodd nifer isel yn Etholiad Cyffredinol 2019 ac felly nodwyd y gallent fod yn ardaloedd â lefelau cofrestru is.
O ystyried cwmpas ac amserlen yr astudiaeth hon, roedd statws cofrestru pob unigolyn yn seiliedig ar yr hyn a nodwyd gan y bobl eu hunain.
Datblygwyd cwestiynau sgrinio er mwyn llunio adroddiad mor gywir â phosibl ynghylch statws cofrestru pawb. Roedd hyn yn cynnwys cwestiynau am y ffyrdd roedd pobl wedi cofrestru, unrhyw gardiau pleidleisio roeddent wedi'u derbyn ac adegau pan oeddent wedi pleidleisio.
Amcanion
Nod yr ymchwil hon oedd ystyried agweddau at gofrestru ymhlith y cyhoedd. Yn benodol, ystyriodd yr ymchwil:
- Yr hyn sy'n rhwystro pobl rhag cofrestru. Deall pam nad yw pobl wedi'u cofrestru i bleidleisio a beth allai annog pobl nad ydynt wedi'u cofrestru i wneud hynny.
- Yr hyn sy'n galluogi pobl i gofrestru. Deall pam mae pobl wedi'u cofrestru i bleidleisio.
- Ymwybyddiaeth ynghylch cofrestru. Deall lefelau gwybodaeth cyfredol ynghylch sut i gofrestru ac unrhyw gamdybiaethau ynghylch y broses.
Lawrlwytho'r adroddiad llawn
Os hoffech gael copi o'r adroddiad yn Gymraeg, anfonwch gais atom.