Adroddiad ar etholiad cyffredinol Cynulliad Cenedlaethol Cymru 5 Mai 2011
Am yr adroddiad
Mae’n hadroddiad yn edrych ar sut cafodd etholiad cyffredinol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a gynhaliwyd ar 5 Mai 2011, ei weinyddu. Mae’n tynnu sylw at faterion allweddol a ddaeth i’r amlwg ac at brofiadau pleidleiswyr o’r etholiad, ac yn cyflwyno sylwadau ar hynny. Mae hefyd yn adolygu effaith cyfuno’r etholiad â’r refferendwm ar system bleidleisio Seneddol y DU.
Ffeithiau a ffigurau
Mae’n hadroddiad yn canolbwyntio’n benodol ar brofiad y pleidleiswyr, ar sail gwaith ymchwil barn y cyhoedd a data ymchwil arall. Roedd 2,289,735 o bobl wedi’u cofrestru i bleidleisio yng Nghymru a phleidleisiodd 41.8% ohonynt. Gofynnodd 17% o’r etholwyr am bleidlais bost a defnyddiodd cyfran uchel o’r rheini, 71%, eu pleidlais bost. Roedd pleidleisiau post yn cyfrif am 28% o’r holl bleidleisiau a fwriwyd yn yr etholiad. Mae’n hadroddiad yn adolygu profiad pobl o bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio neu drwy’r post.
Ymgyrchodd 176 o ymgeiswyr etholaethol i gael eu hethol ac roedd 13 o bleidiau gwleidyddol wedi enwebu rhestri o ymgeiswyr rhanbarthol. Roedd hyn 21 yn llai o ymgeiswyr etholaethol a thri yn llai o bleidiau gwleidyddol nag yn etholiadau’r Cynulliad yn 2007. Mae’n hadroddiad yn rhoi mwy o fanylion am ymgyrchu yn yr etholiad.
Oedd pobl yn teimlo’n wybodus
Gwnaethom gynnal ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus i godi ymwybyddiaeth pobl o etholiadau’r Cynulliad a refferendwm y DU. Anfonwyd llyfryn gwybodaeth i bob cartref yng Nghymru a defnyddiwyd hysbysebion ar deledu, ar radio ac arlein i roi gwybod i bobl am yr etholiadau. Gwnaethom werthuso lefelau Gwnaethom gynnal ymgyrch wybodaeth gyhoeddus i godi ymwybyddiaeth pobl drwy gynnal ymchwil barn y cyhoedd cyn ac ar ôl ein hymgyrch. O’r rheini a holwyd, roedd 78% yn adnabod o leiaf un elfen o’n hymgyrch. Ar ôl y diwrnod pleidleisio, pan ofynnwyd iddynt a oeddent yn ymwybodol o etholiadau’r Cynulliad, dywedodd 82% o’r bobl eu bod yn ymwybodol ohonynt.
Dywedodd saith o bob 10 a holwyd fod ganddynt ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniad gwybodus ar sut i bleidleisio yn yr etholiad. Roedd 79% o’r rheini a oedd yn 55 oed a hŷn yn teimlo eu bod yn cael gwybodaeth, o’i gymharu â 60% o’r rhai a oedd dan 35.
O ran pobl yn teimlo’n wybodus, mae sylw yn y cyfryngau i etholiadau’r Cynulliad yn dal yn destun dadlau. Wrth edrych ar safbwyntiau pobl am lefel y sylw a roddwyd i’r etholiadau yn y cyfryngau, roedd ein gwaith ymchwil barn y cyhoedd wedi canfod bod y sefyllfa yng Nghymru yn wahanol i’r sefyllfa yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Roedd dros hanner y bobl a holwyd yng Nghymru yn meddwl bod llawer o sylw yn y cyfryngau i etholiad y Cynulliad, tra roedd 72% o’r bobl a holwyd yn yr Alban a 70% yng gogledd Iwerddon yn meddwl bod llawer o sylw yn y cyfryngau i’r etholiadau a oedd yn cael eu cynnal yno.
Profiad pobl o bleidleisio
Mae pobl yng Nghymru’n dal yn fodlon iawn â’r broses o bleidleisio. Dywedodd 97% o’r rhai a bleidleisiodd mewn gorsafoedd pleidleisio eu bod yn fodlon â’r broses o bleidleisio ac roedd 98% o’r rheini a bleidleisiodd drwy’r post yn fodlon. Mae manylion llawn am ganfyddiadau’n gwaith ymchwil i’w gweld yn yr adroddiad.
Un o flaenoriaethau allweddol y Comisiwn yw bod pleidleiswyr yn gallu pleidleisio yn rhwydd ac yn hyderus, gan wybod y bydd eu pleidlais yn cael ei chyfrif yn y ffordd a fwriadwyd. Roedd papurau pleidleisio etholiad y Cynulliad, a gafodd eu rhagnodi mewn deddfwriaeth gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi cael eu dylunio yn ôl ein canllawiau ymarfer da ar hygyrchedd. Mewn ymchwil barn y cyhoedd, dywedodd bron bob un o’r pleidleiswyr (96%) bod eu papurau pleidleisio yn hawdd eu llenwi. O’r rheini a oedd wedi pleidleisio yn etholiad y Cynulliad ac yn refferendwm y DU a gynhaliwyd yr un diwrnod, sy’n golygu eu bod wedi llenwi tri phapur pleidleisio, dywedodd 96% ei bod yn hawdd llenwi mwy nag un papur pleidleisio.
Gwersi a ddysgwyd: beth ddylai newid
Amseru cyfrif pleidleisiau
Daeth amseru cyfrif pleidleisiau etholiad y Cynulliad yn fater dadleuol yn niwedd mis Mawrth, ar ôl i’r cyhoedd ddod i wybod bod Swyddogion Cyfrif yn rhanbarth etholiadol Gogledd Cymru wedi penderfynu cyfri’r pleidleisiau y diwrnod ar ôl y cyfnod pleidleisio yn hytrach na dros nos. Mae’n hadroddiad yn egluro’r cefndir ac yn adolygu’r mater, yn ogystal â chynnwys data ynglŷn â pha bryd y cyhoeddwyd canlyniadau ar gyfer pob etholaeth a rhanbarth etholiadol.
Erbyn diwedd Tachwedd 2011, byddwn yn dosbarthu Papur Materion am amser cyfrif pleidleisiau etholiadau, gan nodi’r materion sydd wedi codi mewn etholiadau ledled y DU yn ddiweddar. Byddwn yn gofyn am farn pobl sydd â diddordeb yn amseru cyfrif yr etholiad, gan gynnwys llywodraethau, pleidiau gwleidyddol, Swyddogion Canlyniadau, darlledwyr a phleidleiswyr.
Yn dilyn dadansoddiad o’r sylwadau a gafwyd, byddwn yn ceisio gwneud argymhellion yn gynnar yn 2012 ar amseru cyfrif pleidleisiau etholiad a sut cânt eu trefnu, gan ystyried y math o etholiadau ac amrywiaeth o amgylchiadau perthnasol.
Gwahardd dau ymgeisydd a etholwyd
Bythefnos ar ôl yr etholiad, cododd mater o ddiddordeb mawr i’r cyhoedd. Nid oedd dau ymgeisydd a etholwyd yn Aelodau Cynulliad wedi ei hethol yn ddilys oherwydd swyddi a oedd ganddynt, a oedd yn golygu eu bod wedi’u gwahardd. Daeth hyn yn destun ymchwiliad gan yr heddlu ac, ar ôl i Wasanaeth Erlyn y Goron ddod i’r casgliad nad oedd troseddau wedi eu cyflawni, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Daeth gweithredoedd y Comisiwn ei hun dan lach y cyhoedd yn sgil camgymeriad yn fersiwn Cymraeg ein cyfarwyddyd i ymgeiswyr ac i asiantau, a oedd yn berthnasol yn un o’r achosion. Gwnaethom ymddiheuro i’r Cynulliad ac i’r sawl a oedd dan sylw. Mae ein hadroddiad yn rhoi sylw manwl i’r mater hwn.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg ers y digwyddiad hwn ac rydym yn falch o weithredu cyfres o argymhellion a wnaethant ar ein cyfer ym mis Medi 2011. Mae’r rhain yn cynnwys gwella ein prosesau ar gyfer delio â dogfennau a chyfarwyddyd yn Gymraeg, er mwyn osgoi unrhyw anawsterau yn y dyfodol. Yn benodol, rydym wedi mynd ati’n drwyadl i ddiwygio ein prosesau ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg ar-lein ar ein gwefan.
Papur pleidleisio rhanbarthol
Roedd fformat y papur pleidleisio rhanbarthol wedi cael ei ddiwygio ar gyfer etholiad 2011, er mwyn iddo gynnwys enwau’r pleidiau gwleidyddol a oedd wedi enwebu ymgeiswyr, ynghyd ag unrhyw ymgeiswyr rhanbarthol annibynnol a oedd yn sefyll, ond nid enwau ymgeiswyr rhanbarthol y pleidiau. Serch hynny, roedd yn rhaid arddangos enwau’r ymgeiswyr yn y gorsafoedd pleidleisio er mwyn i bleidleiswyr allu eu gweld.
Yn gynnar ar y diwrnod pleidleisio, cafwyd cwynion nad oedd enwau ymgeiswyr rhanbarthol wedi cael eu harddangos neu nad oeddent wedi cael eu harddangos yn ddigon clir gan rai Swyddogion Canlyniadau. Roedd nifer bach o bleidleiswyr drwy’r post wedi cwyno hefyd mai’r unig ffordd iddynt allu cael gafael ar enwau ymgeiswyr y rhestr ranbarthol oedd drwy edrych ar hysbysiadau mewn mannau cyhoeddus neu ar wefannau awdurdodau lleol. Mae’n hadroddiad yn egluro’r cefndir a’r camau a gymerwyd ar y diwrnod pleidleisio i ddatrys y mater hwn.
Yn dilyn y profiad yn yr etholiadau, daethom i’r casgliad y dylid ailystyried a ddylid cynnwys enwau ymgeiswyr ar y papur pleidleisio rhanbarthol ai peidio. Serch hynny, nes caiff materion perthnasol penodol eu datrys (materion sy’n cael eu hegluro yn ein hadroddiad), byddai’n rhy gynnar penderfynu ar y papur pleidleisio rhanbarthol. Byddwn yn ailedrych ar y mater hwn cyn mis Rhagfyr 2014 ar yr hwyraf. Byddwn yn gofyn am ragor o safbwyntiau ac yn cyflwyno unrhyw argymhellion angenrheidiol i
Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn da bryd i gael penderfyniad o leiaf flwyddyn cyn etholiad y Cynulliad yn 2016. Byddai hynny’n rhoi o leiaf chwe mis cyn etholiad 2016 ar gyfer rhagnodi unrhyw newid i’r papur pleidleisio mewn deddfwriaeth.
Pleidleisiau post annilys
Fel sydd wedi bod yn digwydd mewn etholiadau blaenorol, bu’n rhaid gwrthod ychydig dan 5% o’r pleidleisiau post a ddychwelwyd gan fod y Swyddogion Canlyniadau wedi datgan eu bod yn annilys, am un o’r rhesymau a ganlyn: roedd y datganiad pleidleisio drwy’r post y mae’n rhaid ei anfon gyda’r papur pleidleisio ar goll; roedd y papur pleidleisio ar goll; neu ni ellid cyfateb y llofnod neu’r dyddiad geni a roddwyd gan bleidleiswyr drwy’r post â’u cais am bleidlais bost. Mae’n hadroddiad yn cynnwys rhagor o wybodaeth a data am bleidleisiau post annilys.
Byddai caniatáu i Swyddogion Canlyniadau ofyn am lofnod wedi’i adnewyddu, a hefyd rhoi adborth i etholwyr os cafodd eu pleidlais ei gwrthod, yn helpu i fynd i’r afael â’r broblem hon.
Gwnaethom yr argymhelliad hwn i Lywodraeth y DU yn wreiddiol yn 2007 ac rydym wedi ei ailadrodd ers hynny. Ym Medi 2011, dywedodd Llywodraeth y DU y byddai’n gweithio gyda’r Comisiwn a gweinyddwyr etholiadol i nodi sut i osgoi’r problemau yr ydym wedi eu hamlygu gyda’r system pleidleisio drwy’r post bresennol, gan ystyried yr angen i sicrhau ei bod yn dal yn ddiogel yn erbyn ceisiadau twyllodrus am bleidleisiau post.
Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau bod y newidiadau priodol yn cael eu gwneud erbyn etholiad cyffredinol Seneddol nesaf y DU.
Casglu pleidleisiau post
Mae un rhan o sicrhau bod pob pleidlais bost yn cael ei chyfrif yn golygu sicrhau bod yr holl bleidleisiau post yn cael eu casglu o ganolfannau post erbyn i’r cyfnod pleidleisio gau. Bydd Swyddogion Canlyniadau unigol yn gyfrifol am drefnu a thalu am ymgyrchoedd ‘ysgubo’ y Post Brenhinol, lle mae unrhyw bleidleisiau post sydd ar ôl yn cael eu casglu o ganolfannau post er mwyn iddynt gael eu cynnwys yng nghyfrif yr etholiad.
Ym mis Mai 2011, dechreuodd y Comisiwn ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros drefnu a thalu cost yr ‘ysgubo’ mewn perthynas â refferendwm y DU. Danfonodd y Post Brenhinol bob pleidlais bost a oedd yn deillio o’r ysgubo yn uniongyrchol i ardaloedd cyfrif y refferendwm, yn hytrach na bod yn rhaid i Swyddogion Cyfrif eu casglu. Roedd hyn yn golygu bod pob Swyddog Canlyniadau’n defnyddio’r un gwasanaeth ar gyfer etholiad y Cynulliad.
At ei gilydd mae’r adborth gan Swyddogion Cyfrif y refferendwm a Swyddogion Canlyniadau’r etholiad am yr ysgubo wedi bod yn gadarnhaol, ond mae amheuaeth o hyd ynghylch ei werth, gyda dim ond nifer fach o bleidleisiau post yn cael eu dychwelyd yn ei sgil.
Ein nod yw datblygu model gweithio gwell gyda’r gwasanaeth post.
Ymgyrchu yn yr etholiad
Roedd Swyddogion Canlyniadau wedi cynnig a chynnal cyfarfodydd briffio gydag ymgeiswyr ac asiantau i ddatrys unrhyw anawsterau cyn enwebu, ac roedd cynrychiolwyr o’r heddlu hefyd yn bresennol yn aml i gynghori ar faterion sy’n ymwneud â hygrededd etholiadol. Serch hynny, mae Swyddogion Canlyniadau a’r heddlu wedi dweud wrthym nad oedd llawer yn bresennol yn y cyfarfodydd hyn, ac ambell waith roedd mwy o staff yr etholiad a swyddogion yr heddlu yn y cyfarfodydd nag ymgeiswyr ac asiantau, neu roedd cyfarfodydd yn cael eu canslo.
Rydym yn dal i annog ymgeiswyr, asiantau a phleidiau i fynychu cyfarfodydd briffio a gynigir gan Swyddogion Canlyniadau i sicrhau eu bod yn cael gwybodaeth am y broses enwebu a gofynion y gyfraith.
Byddwn yn mynd ati gyda Swyddogion Canlyniadau a phleidiau gwleidyddol i ystyried beth arall ellid ei wneud i wella presenoldeb mewn sesiynau briffio lleol ar gyfer ymgeiswyr ac asiantau.
Roedd fformat newydd ein cyfarwyddyd i ymgeiswyr ac asiantau’n cael ei groesawu yn yr adborth a gawsom, ond roedd swyddogion pleidiau sy’n delio â materion cydymffurfio yn teimlo y byddent yn hoffi cael un gyfrol gynhwysfawr a fyddai’n cynnwys ein holl gyfarwyddyd, gyda chyfeiriadau deddfwriaethol.
Byddwn yn ystyried sut gallwn ateb y cais hwnnw ar gyfer etholiadau yn y dyfodol.
Cawsom adborth gan bleidiau gwleidyddol penodol a rhai ymgeiswyr a ddywedodd nad oeddent yn siŵr a allai eu taflenni etholiadol, a oedd yn cael eu danfon dan drefniadau rhadbost gyda’r Post Brenhinol, gynnwys negeseuon yn galw ar bobl i bleidleisio dros ymgeiswyr plaid yn yr etholiad etholaethol ac yn yr etholiad rhanbarthol.
Rydym wedi cyfeirio’r materion hyn at y Post Brenhinol, sydd wedi cytuno i edrych ar ei gyfarwyddyd eto. Byddwn yn mynd ar drywydd hyn gyda’r Post Brenhinol ac yn ceisio sicrhau yr ymgynghorir â’r pleidiau yng Nghymru ynghylch unrhyw ddiwygiadau i’r cyfarwyddyd mewn da bryd cyn etholiadau nesaf y Cynulliad yn 2016.
Ein deunyddiau a’n hadnoddau i Swyddogion Canlyniadau
Cawsom adborth cadarnhaol gan Swyddogion Canlyniadau am y deunyddiau a’r adnoddau ac am y gefnogaeth uniongyrchol a ddarparwyd iddynt, ond roedd yna adborth negyddol hefyd. Roedd rhai’n teimlo bod y Comisiwn wedi ‘micro-reoli’ refferendwm y DU, a bod hynny wedi effeithio ar elfennau cyfun yr etholiad.
Cawsom rywfaint o adborth negyddol ynglŷn â materion cyflwyno hefyd, gyda rhai gweinyddwyr etholiadol yn dweud eu bod yn teimlo ei bod yn anodd dod o hyd i’w ffordd o amgylch ein gwefan, ac y byddai wedi bod yn well ganddynt weld y cyfarwyddyd mewn un gyfrol wedi’i hargraffu a pheidio â derbyn deunydd diweddaru dros yr e-bost, rhag ofn iddynt fynd ar goll.
Rydym wedi ystyried yr adborth a gawsom ynglŷn â chynllunio ein cyfarwyddyd a’n hadnoddau ar gyfer etholiadau 2012 a sut rydym yn cyflwyno’r wybodaeth honno ar ein gwefan.
Costau’r etholiad
Mae’n hadroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â faint oedd cost yr etholiad. Mae Llywodraeth Cymru’n talu costau’r Swyddogion Canlyniadau lleol sy’n darparu’r etholiad. Er nad yw’r union gostau a gafodd y Swyddogion Canlyniadau yn hysbys eto, gan fod Llywodraeth Cymru wedi pennu 5 Ionawr 2012 fel y dyddiad cau er mwyn cyflwyno cyfrifon, y swm uchaf y mae modd ei adennill ar gyfer y 40 etholaeth a’r 5 rhanbarth etholiadol yw £4.7 miliwn. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi talu costau’r Post Brenhinol, bron i £3.4 miliwn, am ddanfon dros 16.5 miliwn o ddarnau o ohebiaeth etholiadol gan ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol.