Adroddiad ar etholiadau mis Mai 2021 yng Nghymru

Cynhaliwyd yr etholiadau yn llwyddiannus mewn amgylchiadau heriol

Ym mis Gorffennaf 2020, yn ystod amser o bryder cynyddol ynghylch y pandemig coronafeirws, dechreuwyd trafodaethau ynghylch rheoli a gweinyddu etholiadau’r Senedd mewn amgylchedd pandemig. Er bu dyfalu y gallai’r etholiadau gael eu gohirio, ym mis Chwefror 2021 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bwriad clir y byddai’r etholiadau’n cael eu cynnal fel y bwriadwyd ar 6 Mai 2021. Cadarnhaodd Llywodraeth y DU hefyd y byddai etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a ohiriwyd o fis Mai 2020 yn cael eu cynnal ar yr un dyddiad.

Llywodraeth Cymru wnaeth y rheolau ar gyfer etholiadau’r Senedd tra Llywodraeth y DU wnaeth y rheolau ar gyfer etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Gwnaeth y cyfuno hyn, a oedd yn cynnwys y gwahaniaeth mewn cymhwystra pleidleiswyr rhwng y ddau set o etholiadau, arwain at lefel uchel o gymhlethdod ar gyfer y rheiny oedd yn gweinyddu’r etholiadau.

Fodd bynnag, roedd pobl yn gallu cofrestru i bleidleisio a chymryd rhan yn yr etholiadau. Bu 51,500 o geisiadau i gofrestru rhwng 26 a 27 Ebrill, ac roedd cyfanswm o 2.3 miliwn o bobl wedi’u cofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau yng Nghymru. Am y tro cyntaf, roedd pobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed a dinasyddion tramor sy’n preswylio yng Nghymru yn gallu cofrestru i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd.

Roedd nifer y bobl a bleidleisiodd ar draws yr etholiadau’n debyg i flynyddoedd blaenorol, sy’n awgrymu na wnaeth Covid-19 stopio pobl rhag cymryd rhan. Cafodd pleidleisio drwy’r post neu benodi dirprwy eu hamlygu fel opsiynau ar gyfer y rheiny nad oeddent yn teimlo’n gyffyrddus, neu’n ddiogel, yn pleidleisio’n bersonol, ac roedd cynnydd bach yn y nifer o bobl wnaeth gais i bleidleisio drwy’r post yn yr etholiadau hyn.

Ochr yn ochr â’r heriau arferol ar gyfer Swyddogion Canlyniadau a gweinyddwyr etholiadol wrth gynnal a goruchwylio etholiadau llwyddiannus, roedd nifer o ofynion ychwanegol (a osodwyd oherwydd Covid-19) i gydymffurfio â chanllawiau iechyd y cyhoedd, a rheoliadau i sicrhau y gallai pawb gyfranogi’n ddiogel. Mae profiad yr etholiadau hyn wedi amlygu pryderon ynghylch gwydnwch a chapasity strwythurau gweinyddu etholiadol yn y DU, ynghyd â’r heriau o gynnal etholiadau o fewn fframwaith cyfraith etholiadol sydd wedi dyddio ac sy’n gynyddol gymhleth.

Achosodd y rheoliadau a chyfyngiadau newidiol o ran iechyd y cyhoedd ansicrwydd i ymgyrchwyr, a bu rhaid iddynt addasu eu cynlluniau gan fod canllawiau swyddogol wedi newid cyn ac yn ystod y cyfnod ymgyrchu. Roedd ymgyrchwyr yn gallu cyfathrebu gyda phleidleiswyr drwy ddefnyddio nifer o ddulliau, gan gynnwys ar-lein, trwy ddeunydd argraffedig ac, yn y pen draw, wyneb-yn-wyneb. Fodd bynnag, mae adborth gan ymgeiswyr yn dangos y bu ymgyrchu cyn yr etholiadau hyn yn heriol.

Roedd ymgyrchu digidol yn enwedig yn bwysig i ymgyrchwyr ar gyfer etholiadau mis Mai, ac mae’r tuedd hwn yn debygol o barhau yn y dyfodol. Mae tryloywder ynghylch pwy sy’n gyfrifol am gynhyrchu deunydd ymgyrchu ar-lein yn dal i fod o bwys mawr, a dylid ystyried gwersi ynghylch rheolau argraffnodau digidol, o rannau eraill y DU, ar gyfer etholiadau datganoli yn y dyfodol sy’n cael eu cynnal yng Nghymru. 

Yn gyfan gwbl, mae’r dystiolaeth a’r adborth rydym wedi’u casglu’n dangos bod etholiadau 2021 yng Nghymru ar 6 Mai 2021 wedi’u cynnal yn llwyddiannus ac roedd gan bleidleiswyr ac ymgyrchwyr hyder yn sut y cafodd yr etholiadau eu rheoli, er gwaethaf yr anawsterau a gawsant oherwydd cyfyngiadau Covid-19.

Overview

Ar 6 Mai 2021, cynhaliwyd etholiad i ethol 60 aelod i’r Senedd, 40 yn cynrychioli etholaethau Cymru ac 20 yn cynrychioli’r rhanbarthau. Cyfunwyd yr etholiad gydag etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, a ohiriwyd o fis Mai 2020 oherwydd y pandemig Covid-19. Mewn rhai etholaethau, cynhaliwyd is-etholiadau gan awdurdodau lleol hefyd. 

Roedd yr etholfraint ar gyfer pob etholiad yn wahanol gyda phobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed a dinasyddion tramor sy’n preswylio’n gyfreithlon yng Nghymru yn gallu pleidleisio yn etholiad y Senedd am y tro cyntaf. Defnyddiwyd dwy system bleidleisio wahanol: y System Aelod Ychwanegol yn etholiad y Senedd, a’r Bleidlais Atodol ar gyfer etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. 

Yn gyson gyda chanllawiau’r Comisiwn Etholiadol, rhoddodd Swyddogion Canlyniadau weithdrefnau newydd ar waith mewn gorsafoedd pleidleisio i gydymffurfio â chanllawiau iechyd y cyhoedd ac i sicrhau bod pleidleiswyr yn hyderus y gallent bleidleisio’n ddiogel. Er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb yn gwybod am yr opsiynau pleidleisio gwahanol oedd ar gael iddynt a’r mesurau diogelwch oedd ar waith, gwnaeth y Comisiwn, ynghyd â’r awdurdodau lleol, gymryd rôl flaenllaw wrth gyfathrebu’r negeseuon hyn cyn yr etholiadau.

Mae pleidleiswyr yn parhau i fod â safbwyntiau cadarnhaol ynghylch sut y caiff etholiadau eu cynnal

Er gwaethaf heriau cyfres gymhleth o etholiadau a gynhaliwyd yn ystod y pandemig Covid-19, roedd lefelau bodlonrwydd pobl gyda’r broses o gofrestru i bleidleisio a phleidleisio yn uchel, ac roeddent o’r farn bod ganddynt ddigon o wybodaeth am yr etholiadau i’w galluogi i gymryd rhan ynddynt. Dengys ein hymchwil y canlynol: 

  • roedd 86% o bobl yn fodlon gyda'r broses o gofrestru i bleidleisio
  • roedd 95% o bobl a bleidleisiodd yn yr etholiad yn fodlon gyda'r broses bleidleisio
  • dywedodd y rhan fwyaf (94%) o bleidleiswyr yng Nghymru ei bod hi’n hawdd llenwi eu papur pleidleisio ar gyfer etholiad y Senedd tra dim ond 83% o’r rheiny a bleidleisiodd yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a ddywedodd yr un peth

roedd pleidleiswyr tro cyntaf yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn anfodlon gyda’r broses o bleidleisio (10%) ac yn sylweddol fwy tebygol o ystyried y system etholiadol yn ddryslyd o gymharu â phleidleiswyr sy’n pleidleisio dro ar ôl tro (55% o gymharu â 22%)
Dywedodd tri chwarter o bobl eu bod yn hyderus bod yr etholiadau wedi’u cynnal yn llwyddiannus; serch hynny, doedd o leiaf un o bob deg ddim yn hyderus. Mae’r ffigur hwn yn is na’r gyfran o bobl yn 2016 a oedd o’r farn bod yr etholiadau wedi’u cynnal yn llwyddiannus (83%).

Rhesymau a roddwyd gan y rheiny a oedd o’r farn na chynhaliwyd yr etholiad yn llwyddiannus: 

  • doedd dim digon o wybodaeth am yr ymgeiswyr (25%) 
  • ddim yn meddwl ei bod hi’n ddiogel i bobl pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio oherwydd Covid-19 (22%)
  • ddim yn teimlo ei bod hi’n briodol cynnal etholiad yn ystod y pandemig (20%)
  • doedd dim digon o wybodaeth am yr etholiadau (20%)

Ymddengys nad yw’r pandemig wedi stopio pobl rhag pleidleisio

Roedd nifer y bobl a bleidleisiodd, sef 46.8%, ychydig yn uwch na’r nifer a bleidleisiodd yn etholiadau 2016 (45.6%). Ymddengys bod nifer y bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed a bleidleisiodd yn cyd-fynd i raddau helaeth â grwpiau oedran iau eraill, ac yn is na nifer y bobl dros 55 mlwydd oed a bleidleisiodd.

Cafodd pleidleisio post a phleidleisio drwy ddirprwy eu hamlygu fel dulliau gwahanol o bleidleisio oherwydd y pandemig, a gwnaeth nifer y pleidleiswyr a ddewisodd y dulliau hyn gynyddu, er efallai nid i'r graddau a ddisgwylid mewn amgylchedd pandemig, gyda 458,928 o bobl wedi cael pleidlais bost yn 2021 o gymharu â 395,878 yn 2016 (19.2% o gymharu ag 17.6%). 

Nifer y bobl a bleidleisiodd o gymharu ag etholiadau eraill

  2016 2021
Etholiad y Senedd 45.6% 46.8%
Etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 45.2% 45.7%

Roedd pobl yn hyderus y gallent bleidleisio gan ddefnyddio’u dull dewisol

Er bod cyfyngiadau iechyd y cyhoedd ar waith ar adeg yr etholiadau, roedd gan bobl ddewis ynghylch sut y byddent yn pleidleisio. Gallent ddewis pleidleisio yn eu goraf bleidleisio, pleidleisio drwy’r post, neu ofyn i rywun arall i bleidleisio ar eu rhan (pleidio drwy ddirprwy). 

Dywedodd 94% o bobl a bleidleisiodd eu bod wedi gallu defnyddio’u dull dewisol o bleidleisio. 

Roedd pleidleiswyr a ddefnyddiodd gorsafoedd pleidleisio yn hyderus eu bod yn fannau diogel i bleidleisio

Ar draws Gymru, roedd mesurau ar waith i sicrhau bod pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mor ddiogel â phosibl yn ystod y pandemig. 

Er mwyn cefnogi a chynghori ar ba newidiadau y dylid eu gwneud i’r broses o bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio, gweithiodd y Comisiwn Etholiadol gydag arbenigwyr iechyd y cyhoedd ar draws y DU er mwyn darparu canllawiau i weinyddwyr etholiadol. Mae Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru hefyd wedi gweithio’n agos gyda Chymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol (AEA) Cymru i osod safon diogelwch sylfaenol y dylai Swyddogion Canlyniadau etholaethau ei roi ar waith mewn gorsafoedd pleidleisio.

Darparodd y Comisiwn hefyd adnoddau i awdurdodau lleol oedd wedi’u cynllunio i roi sicrwydd y byddai gorsafoedd pleidleisio yn fannau diogel i bleidleisio, gan gynnwys amlygu’r dulliau eraill o bleidleisio, i’r rheiny sy’n agored i niwed neu sy’n gofidio, ac i annog pleidleiswyr i ddechrau meddwl am eu dull pleidleisio dewisol yn gynnar.

Roedd adnoddau’n cynnwys deunydd i’w defnyddio ar gyfryngau cymdeithasol, fideos animeiddio, posteri a thempledi datganiadau i’r wasg. 

Dywedodd bron bawb o’r atebwyr i’n hymchwil a bleidleisiodd yn bersonol eu bod wedi teimlo’n ddiogel mewn gorsaf bleidleisio gyda’r darpariaethau ar waith:

  • dywedodd 95% o etholwyr a bleidleisiodd eu bod wedi teimlo’n ddiogel mewn gorsaf bleidleisio gyda darpariaethau diogelwch Covid-19 ar waith - gyda bron i ddwy ran o dair ohonynt yn teimlo’n ddiogel iawn. Dim ond cyfran fach iawn o bleidleiswyr a ddywedodd nad oeddent yn teimlo’n ddiogel
  • roedd bron i dri chwarter o etholwr 35-54 a 55+ mlwydd oed yn teimlo eu bod hi’n ddiogel o gymharu â dros hanner (57%) o bobl 16-34 mlwydd oed
  • dywedodd bron bawb (99%) o bleidleiswyr gorsafoedd pleidleisio eu bod wedi sylwi ar o leiaf un o’r darpariaethau diogelwch a roddwyd ar waith
     
Roedd pobl yn fwyaf tebygol o sylwi Roedd pobl yn lleiaf tebygol o sylwi
Darparu hylif diheintio dwylo wrth gyrraedd a gadael Glanhau pensiliau
Staff yn gwisgo gorchuddion wyneb  Glanhau bythau
System un ffordd yn unig gydag arwyddion ar y llawr   

Roedd staff gorsafoedd pleidleisio hefyd o’r farn bod gorsafoedd pleidleisio’n fannau diogel i weithio (gwnaeth 90% o’r staff wnaeth ymateb i’n harolwg gytuno) a bod diogelwch y pleidleiswyr wedi’i ddarparu’n ddigonol gan y newidiadau a gyflwynwyd (91%).

Roedd ymgeiswyr hefyd yn fodlon gyda’r mesurau diogelwch Covid-19 mewn gorsafoedd pleidleisio, gyda thri chwarter ohonynt yn dweud eu bod eithaf bodlon ac yn fodlon iawn. 

Roedd y mesurau diogelwch newydd, gan gynnwys cyfyngiadau ar y nifer o bobl allai fynd mewn i’r orsaf bleidleisio, yn golygu bod pleidleisio wedi cymryd yn hirach i rai pobl. Efallai bod cyfuno’r etholiadau, lle roedd gan bleidleiswyr fwy nag un papur pleidleisio i’w llenwi, hefyd wedi cyfrannu at hyn. Dengys ein hymchwil y canlynol: 

  • dywedodd hanner o’r bobl a gwestiynwyd bod pleidleisio yn yr etholiadau hyn wedi cymryd tua’r un amser ag arfer er gwaethaf y darpariaethau diogelwch Covid-19 oedd ar waith. Fodd bynnag, dywedodd 42% ei bod wedi cymryd yn hirach
  • dywedodd 48% o etholwyr a bleidleisiodd yn bersonol eu bod wedi aros llai na phum munud, dywedodd 34% eu bod wedi aros pump i ddeg munud, a dywedodd 16% eu bod wedi aros dros ddeg munud cyn gallu pleidleisio
     

Roedd adroddiadau yn y cyfryngau ar y diwrnod pleidleisio o giwiau mewn rhai gorsafoedd pleidleisio ac achosion lle nad oedd pleidleiswyr yn teimlo eu bod yn gallu pleidleisio oherwydd hynny. 

Er mwyn deall y sefyllfa ar draws Gymru yn well, gwnaethom ofyn i |Swyddogion Canlyniadau a gweinyddwyr etholiadol i roi manylion o brofiad pleidleiswyr yn eu hardaloedd. Atebodd pob awdurdod ac adroddodd 10 eu bod wedi cael ychydig o gwynion ynghylch ciwio, gan gynnwys: 

  • gwnaeth nifer fach (21) o bobl ar draws Gymru gwyno eu bod wedi’u difreinio (11 mewn un ardal awdurdod)
  • roedd y gorsafoedd pleidleisio olaf i gau yng Nghaerdydd am 23:40, yn Rhondda Cynon Taf am 23:20 ac yng Nghasnewydd am 00:45
  • y rhesymau a nodwyd dros pam y ffurfiwyd ciwiau oedd: cydymffurfio â’r canllawiau Covid-19, a llai o adeiladau addas ar gael i’w defnyddio fel gorsafoedd pleidleisio oherwydd gofynion yn gysylltiedig â’r pandemig

Dangosai hyn, er bod achosion o giwio, nad oedd pleidleiswyr yn ei ystyried yn broblem gyffredin yng Nghymru. Yn gyffredinol, roedd pleidleiswyr yn deall bod gweithdrefnau Covid-19 yn cael eu dilyn, ac yn y rhan fwyaf o achosion roedd pobl yn barod i giwio. 
Roedd yr etholwyr yn gwerthfawrogi’r camau sy’n cael eu cymryd i sicrhau eu diogelwch.

Teimlai Swyddogion Canlyniadau bod cael ‘swyddogion’ neu ‘cyfarchwyr’ gorsafoedd pleidleisio wedi gweithio’n dda, a bod yr aelodau hyn o staff wedi gallu helpu pleidleiswyr gan wneud y profiad yn fwy ‘croesawgar’, yn enwedig i bleidleiswyr ifanc a newydd. Mae Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru wedi dod i’r casgliad y dylid parhau gyda’r trefniant hwn mewn etholiadau yn y dyfodol, cyn belled â bod adnoddau’n caniatáu hynny.

Roedd gan bobl nad oeddent am fynd i orsaf bleidleisio opsiynau ar gyfer pleidleisio o bell

Gall pobl nad ydynt am bleidleisio’n bersonol yn yr orsaf bleidleisio wneud cais i bleidleisio drwy’r post neu benodi rhywun, a elwir yn ddirprwy, i bleidleisio ar eu rhan. Os yw eu sefyllfa’n newid yn agos at etholiad oherwydd gwaith neu anabledd, gall pobl benodi dirprwy mewn argyfwng hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio i bleidleisio ar eu rhan. 

Newidiwyd y gyfraith cyn yr etholiadau hyn fel bod unrhyw un a oedd yn gorfod hunanynysu yn agos at ddiwrnod yr etholiad, oherwydd eu bod wedi profi’n bositif am Covid-19 neu wedi bod mewn cysylltiad agos a rhywun oed wedi profi’n bositif, yn gallu penodi dirprwy. 
Roedd y rhan fwyaf o bobl yn gwybod pa opsiynau oed ganddynt os nad oeddent am bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio. Dengys ein hymchwil y canlynol:

  • dywedodd 75% eu bod wedi’i chael hi’n hawdd cael gwybodaeth am y dulliau gwahanol o bleidleisio y gallent ddewis ohonynt
  • roedd pleidleiswyr hŷn yn fwy tebygol na phleidleiswyr ifanc i ddweud ei bod hi’n haws i gael yr wybodaeth hon
  • dywedodd un o bob pump o'r pleidleiswyr tro cyntaf eu bod wedi dewis pleidleisio drwy’r dull yna oherwydd eu bod wedi cael eu hannog gan wybodaeth a anfonwyd gan eu hawdurdod lleol. Dywedodd nifer tebyg (21%) eu bod wedi dewis pleidleisio drwy’r post oherwydd eu bod wedi gweld hysbysebu gan y Comisiwn Etholiadol
  • dywedodd dros dri chwarter (78%) o’r gweinyddwyr etholiadol wnaeth ymateb i’n harolwg eu bod wedi cynnal ymgyrch ynghylch pleidleisio post yn eu hardaloedd

Roedd y rhan fwyaf o alwadau gan y cyhoedd i linell gymorth gwybodaeth i’r cyhoedd y Comisiwn Etholiadol yn ymwneud â’r broses pleidleisio post - diffyg mynediad i argraffydd yn golygu bod galwyr ddim yn gallu argraffu a llenwi’r ffurflen, neu alwyr ddim yn siŵr ble dylent ddychwelyd eu ffurflen gais am bleidlais bost.
 

Parhaodd y pleidleisio o bell

Yn yr etholiadau hyn gwnaethom weld cynnydd bach yng nghyfran y pleidleiswyr a ddewisodd pleidleisio drwy’r post, ond gwnaeth nifer y pleidleiswyr drwy ddirprwy aros ar yr un lefel: 

  2021 2016
% o bleidleiswyr post 19.2% 17.6%
% o bleidleisiwr drwy ddirprwy 0.14% 0.13%

O’r rheiny oedd yn bleidleiswyr post tro cyntaf, dywedodd hanner ohonynt eu bod wedi pleidleisio drwy’r dull yma oherwydd pryderon diogelwch o ran Covid-19, tra dywedodd 25% ei fod yn fwy cyfleus. Gwnaeth traean o etholwyr a bleidleisiodd drwy’r post hynny am y tro cyntaf.

Dywedodd y mwyafrif helaeth (96%) ei bod hi’n hawdd deall beth i’w wneud er mwyn dychwelyd eu pleidlais bost. 
Pleidleiswyr tro cyntaf (15%) a’r rheiny sy’n 16-34 mlwydd oed (14%) oedd fwyaf tebygol o ddweud ei bod hi’n anodd. Y rhesymau mwyaf cyffredin dros ddweud ei bod yn anodd oedd cael mwy o bapurau pleidleisio na beth roeddent yn disgwyl, heb fod yn siŵr pa amlen y dylent ddychwelyd y bleidlais/pleidleisiau ynddi a heb fod yn siŵr pa wybodaeth oedd angen iddynt ei rhoi.
 

Pan ddychwelir pecyn pleidleisio post i’r Swyddog Canlyniadau, caiff y llofnod a’r dyddiad geni (a elwir y dynodyddion personol) a ddarperir ar y datganiad pleidlais bost eu gwirio yn erbyn y rheiny a ddarparwyd yn flaenorol gan yr etholwr. Os yw’r llofnod neu’r dyddiad geni, neu’r ddau ohonynt, ar goll neu ddim yn cyd-fynd gyda’i gilydd, caiff y bleidlais bost ei gwrthod ac ni chaiff ei chynnwys yn y cyfrif. Mesur diogelwch yw hwn i sicrhau bod y papur pleidleisio wedi cael ei dychwelyd gan yr etholwr y cafodd ei hanfon iddo.

Mae data o’r gweinyddwyr etholiadol yn dangos na chafodd 13,695 (3.9%) o bleidleisiau post a ddychwelwyd eu cynnwys yn y cyfrif ar ôl y gwiriadau angenrheidiol ar ddynodyddion personol pleidleiswyr. Mae cyfradd y pleidleisiau a wrthodwyd bach yn uwch na chyfradd etholiad y Senedd 2016, lle gwrthodwyd 9,291 (3,24%) o bleidleisiau post oherwydd eu bod yn annilys.

Y rhesymau mwyaf cyffredin dros wrthod oedd dynodyddion sydd ddim yn cyd-fynd gyda’i gilydd (llofnod/dyddiad geni). Mae’r rhain yn cyfrif am 46% o wrthodiadau. 

Y rhesymau mwyaf cyffredin dros wrthod % o bleidleisiau post a wrthodwyd Dyddiad geni ddim yn cyd-fynd Llofnod ddim yn cyd-fynd
2016 3.2% 20% 16%
2021 3.9% 28% 12%

Er bod canran y pleidleisiau post nad ydynt wedi’u cynnwys yn y cyfrif yn weddol fach, mae’n dal i fod yn destun pryder nad yw rhai pleidleisiau post yn cael eu cyfrif oherwydd nad yw pleidleiswyr yn llenwi’r datganiad pleidlais bost yn gywir. 

Bydd y Comisiwn Etholiadol yn parhau i weithio gyda Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol i gefnogi pleidleiswyr gyda’u dealltwriaeth o sut i lenwi a dychwelyd eu pecyn pleidleisio drwy’r post yn gywir. Mae gan y deunydd ysgrifennu a ddefnyddir ar gyfer pleidleisio drwy’r post rôl bwysig wrth helpu pleidleiswyr i ddeall y broses ymgeisio a phleidleisio, a dylent barhau i adolygu’r wybodaeth y maent yn ei rhoi er mwyn gwneud yn siŵr ei bod mor glir a defnyddiol a phosibl i bleidleiswyr. 
 

Gall pleidleiswyr y mae eu sefyllfa’n newid yn agos at etholiad oherwydd gwaith neu anabledd benodi dirprwy mewn argyfwng hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio i bleidleisio ar eu rhan. Rhoddodd y newidiadau hyn i’r rheolau ym mis Mawrth 2021 yr opsiwn i bleidleiswyr wneud cais am ddirprwy mewn argyfwng os byddent yn profi’n bositif am Covid-19 yn agos at y diwrnod pleidleisio, neu os byddent yn gorfod hunanynysu oherwydd bod rhywun agos atynt wedi profi’n bositif. 

O’r holl ddirprwyon a benodwyd, roedd 5% yn ddirprwyon mewn argyfwng a 2% oherwydd Covid-19.

Argymhelliad 1: Cadw dewis dirprwy mewn argyfwng ar gyfer pleidleiswyr sy’n hunanynysu

Mae deddfwriaeth a gyflwynwyd ar gyfer yr etholiadau hyn i ganiatáu pleidleisiau drwy ddirprwy mewn argyfwng ar gyfer unrhyw un a brofodd yn bositif am Covid-19, neu a fu’n rhaid hunanynysu, wedi helpu i ddarparu diogelwch ar gyfer unrhyw un y gwnaeth eu hamgylchiadau newid yn agos at yr etholiadau, a sicrhau nad oeddent wedi’u rhwystro rhag cyfranogi. Er nad oedd angen dibynnu ar y ddarpariaeth yn ymarferol i raddau helaeth, roedd yn newid pwysig i sicrhau nad oedd unrhyw un yn colli eu gallu i bleidleisio.

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod yr opsiwn hwn yn parhau i fod ar gael os oes angen i bobl hunanynysu fel rhan o’r ymateb iechyd y cyhoedd i Covid-19.

Mae angen addysg ac ymgysylltu pellach er mwyn cefnogi pleidleiswyr newydd i ddeall a chyfranogi mewn etholiadau yng Nghymru

Gwnaeth Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 ymestyn yr etholfraint bleidleisio ar gyfer etholiadau yng Nghymru i bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed a dinasyddion tramor cymwys. Roedd hyn yn golygu bod tua 100,000 o bleidleiswyr newydd yn gymwys i bleidleisio am y tro cyntaf yn etholiad y Senedd.

Er mwyn sicrhau bod pleidleiswyr newydd yn deall y newid hwn c yn gwybod sut i gofrestru, gwnaeth y Comisiwn Etholiadol weithio gyda Llywodraeth Cymru, Comisiwn y Senedd a phartneriaid ar draws Gymru, gan gynnwys UCM Cymru, Cyngor Ffoaduriaid Cymru a’r Trussell Trust i annog cofrestru ac addysgu pleidleiswyr newydd am eu pleidlais.

Mae angen addysg ac ymgysylltu pellach er mwyn cefnogi pleidleiswyr newydd i ddeall a chyfranogi mewn etholiadau yng Nghymru: torri lawr

Yn y cyfnod cyn yr etholiad gwnaethom gynnal ymgyrch cofrestru pleidleiswyr newydd wedi’i dargedu at y rheiny sydd newydd eu rhyddfreinio. Enw’r ymgyrch oedd ‘Croeso i dy bleidlais’. Cafodd hwn ei gynnal ochr yn ochr â’n hymgyrch cofrestru ‘Oes 5 ‘da ti?’, wnaeth dargedu’r holl etholwyr yng Nghymru, ond roedd yn fwy tuag at gynulleidfaoedd wedi’u tan-gofrestru, megis rhentwyr preifat a’r rheiny o dan 35 mlwydd oed. 

Ochr yn ochr â’r ymgyrchoedd, gwnaethom anfon llyfryn gwybodaeth i bleidleiswyr at bob aelwyd yng Nghymru oedd yn cynnwys negeseuon etholiadol allweddol, gan gynnwys sut i gofrestru, sut i bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy a’r hyn i’w ddisgwyl wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio. Gwnaeth cyfryngau rhad ac am ddim hefyd ein helpu i rannu’r negeseuon hyn. 

Yn ystod y cyfnod ymgyrchu, gwnaeth cyfanswm o 71,562 o bobl yng Nghymru gais i gofrestru i bleidleisio, gan gynnwys 7,704 o bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed a 935 o ddinasyddion tramor cymwys. Roedd y nifer fwyaf o geisiadau gan wladolion tramor o’r Unol Daleithiau, Syria, Tsiena a Thwrci. 

Gwnaethom hefyd ychwanegu gwaith partneriaeth at ein hymgyrchoedd er mwyn egluro’n llawn cymhlethdod yr etholiad i bleidleiswyr newydd a grwpiau eraill sydd fel arfer wedi’u tan-gofrestru neu eu difreinio. Gwnaethom weithio gydag awdurdodau lleol a 33 o sefydliadau democrataidd a trydydd sector gwahanol ar nifer o fentrau. Mae’r rhain yn cynnwys darparu adnoddau pwrpasol a sesiynau ‘hyfforddi’r hyfforddwr’ a gweithio gyda Chomisiwn y Senedd ar weithgareddau ar y cyd i bleidleiswyr 16-17 mlwydd oed yn ystod ‘Wythnos Croeso i Dy Bleidlais’. 

Sefydlwyd is-grŵp o Fwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru hefyd i edrych yn benodol ar gyfathrebu gyda’r cynulleidfaoedd newydd hyn. Bydd y grŵp yn parhau i weithredu gan symud ymlaen at yr etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru blwyddyn nesaf.

Astudiaeth achos partneriaethau: The Democracy Box

Ym mis Ionawr 2021, fel rhan o’n gwaith partneriaeth cyn etholiadau mis Mai, daeth y Comisiwn yn gydweithredwr ar brosiect The Democracy Box – prosiect ymchwil a datblygu gwleidyddol di-blaid sy’n edrych ar sut y gall pobl ifanc hysbysu ac ymgysylltu yn greadigol â phob cenhedlaeth yn ein democratiaeth yn y DU. Gwnaeth ymchwil y prosiect ganfod nad oes gan lawer o bobl ddealltwriaeth sylfaenol o ddemocratiaeth y DU a sut mae llywodraethau lleol, llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU yn gweithio gyda’i gilydd a pham.

Roedd nod y prosiect, sef hysbysu ac addysgu pobl am y gweinyddiaethau gwahanol, systemau pleidleisio a chyfranogiad democrataidd, yn alinio’n agos gyda nodau ein gwaith addysg ein hunain.

Gwnaeth 32 o bobl ifanc 16-30 mlwydd oed ledled Cymru arwain ar y prosiect fel creawdwyr am dâl, gan nodi sut a ble yr hoffent weld y cynnwys addysgiadol. Hyd yma maent wedi cynhyrchu podlediad, Instagram, TikTok a sianeli YouTube, gyda phob un yn archwilio themâu allweddol megis sut i gysylltu â’ch AS, sut i bleidleisio a datganoli.

Mae’n gyfle gwych i mi ddefnyddio fy sgiliau ym meysydd gwleidyddiaeth, technoleg, meddalwedd, dylunio a golygu fideos. “Mae’n gyfle gwych i wneud rhywbeth cwbl gadarnhaol, a helpu pobl i fynd i'r afael â democratiaeth.” Cyd-greawdwr Ifanc 16 mlwydd oed

Gwnaethom gefnogi’r prosiect drwy ein hadnoddau addysg a gwnaethom fynychu sesiynau adborth a thaflu syniadau gyda’r cyd-greawdwyr ifanc. Gwnaeth hyn ganiatáu i ni gael mewnwelediad gwerthfawr i effeithiolrwydd yr adnoddau a’n hymgyrch ‘Croeso i Dy Bleidlais’.
 

Mae angen addysg ac ymgysylltu pellach er mwyn cefnogi pleidleiswyr newydd i ddeall a chyfranogi mewn etholiadau yng Nghymru: Parhad

Mae ein hymchwil wedi canfod bod y rhan fwyaf o bobl yn fodlon gyda’r prosesau cofrestru i bleidleisio a phleidleisio. Fodd bynnag, roedd pleidleiswyr tro cyntaf yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn anfodlon gyda’r broses o bleidleisio (10% o gymharu â 3% o bleidleiswyr sy’n pleidleisio dro ar ôl tro) ac yn sylweddol fwy tebygol o ystyried y systemau etholiadol lluosog yn ddryslyd o gymharu â phleidleiswyr sy’n pleidleisio dro ar ôl tro (55% o gymharu â 22%). Roedd pleidleiswyr tro cyntaf hefyd yn llai tebygol na phleidleiswyr tro ar ôl tro i ddweud ei bod hi’n hawdd cael gwybodaeth am sut i gofrestru (82% o gymharu â 94%) a phleidleisio (75% o gymharu â 88%).

Gwnaeth tua 50% (32,121 o 70,000 amcangyfrifedig) o bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed sydd newydd eu rhyddfreinio gofrestru i bleidleisio yn yr etholiad hwn. Does dim digon o ddata ar gael i ni allu adrodd ar wladolion tramor cymwys.
 

Y llynedd, cyhoeddodd y Comisiwn gyfres newydd o adnoddau ar-lein i addysgu pobl ifanc am y broses ddemocrataidd. Diben yr adnoddau oedd cefnogi pobl ifanc, gan gynnwys y rheiny oedd yn pleidleisio am y tro cyntaf yn etholiadau’r Senedd, a pharatoi addysgwyr i ddysgu ynghylch llythrennedd gwleidyddol gyda hyder. Gwnaethom weithio gyda’n partneriaid i hyrwyddo’r adnoddau a chael adborth arnynt. Cafodd yr adnoddau eu cyhoeddi hefyd ar y platfform Hwb ynghyd ag adnoddau gan Lywodraeth Cymru a Chomisiwn y Senedd. Gwnaeth Covid-19 effeithio ar allu ysgolion a cholegau i ddarparu hyfforddiant llythrennedd gwleidyddol cyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai.

Rydym yn bwriadu ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein rhaglen addysg cyn yr etholiadau llywodraeth leol yn 2022 ac etholiad y Senedd yn 2026. Rydym eisiau adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi’i gyflawni drwy ymgysylltu mwy gyda phobl ifanc ac addysgwyr ar draws Gymru i nodi rhagor o themâu a thestunau y gall ein hadnoddau fynd i’r afael â nhw. 

Byddwn yn gweithio gyda phob partner priodol yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Senedd, i sicrhau bod ffocws y Comisiwn yn y maes hwn yn briodol ac yn effeithiol. Gallai hyn olygu nid yn unig gwella adnoddau presennol ond hefyd datblygu rhaglenni cymorth ar gyfer y rheiny sy’n gweithio gyda’r grwpiau hyn, yn ogystal ag ymestyn rhwydweithiau gyda’r grwpiau eu hunain. 

Ymgyrchu yn y trosolwg etholiadau

Mae ymgyrchu yn elfen hanfodol o ddemocratiaeth iach. Mae hyn yn cynnwys cyhoeddi a dosbarthu deunydd ymgyrchu, anfon cyfathrebiadau ynghylch etholiadau i etholwyr, arddangos hysbysfyrddau a baneri, canfasio o ddrws i ddrws a siarad gyda phleidleiswyr ar y diwrnod pleidleisio. 

Roedd yn rhaid i ymgyrchwyr addasu eu gweithgareddau oherwydd y pandemig ac roedd yna ddiffyg sicrwydd wrth gynllunio ar gyfer yr etholiadau a olygodd nad oedd hi’n syml i ymgyrchwyr gynllunio a darparu eu gweithgareddau.
 

Ymddengys nad oedd pleidiau ac ymgeiswyr wedi’u rhwystro rhag cyfranogi yn yr etholiad

Gwnaeth cyfanswm o 308 o ymgeiswyr sefyll mewn etholiad ar draws40 etholaeth y Senedd yn 2021. Mae nifer yr ymgeiswyr etholaeth yn cynrychioli cynnydd o’r 248 o ymgeiswyr wnaeth sefyll yn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2016.

Ym mis Mai 2021, gwnaeth cyfanswm o 326 o ymgeiswyr sefyll ar restr ranbarthol yn etholiadau’r Senedd. Roedd hyn eto yn gynnydd ar y 305 o ymgeiswyr wnaeth sefyll ar restr ranbarthol yn 2016.

Ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, gwnaeth 21 o ymgeiswyr sefyll ym mis Mai 2021, a oedd yn gynnydd ar yr 19 o ymgeiswyr yn 2016.

Achosodd y cyd-destun newidiol o ran iechyd y cyhoedd ansicrwydd i ymgyrchwyr

O ystyried cyd-destun newidiol y pandemig, roedd hi’n naturiol yn fwy anodd i Lywodraeth Cymru sicrhau bod newidiadau i ddeddfwriaeth ar waith o leiaf chwe mis cyn bod angen i ymgyrchwyr neu weinyddwyr etholiadol gydymffurfio â nhw. Fodd bynnag, gwnaed rhai newidiadau i helpu’r broses enwebu yn agos iawn at bryd y byddent yn cael effaith ar ymgyrchwyr, a gwnaeth hyn ychwanegu at yr ansicrwydd a’r risgiau ar gyfer ymgeiswyr a gweinyddwyr etholiadol.

Gwnaeth dros hanner o’r ymgeiswyr wnaeth ymateb i’n harolwg (56%) gytuno eu bod wedi cael gwybodaeth dda am newidiadau deddfwriaethol a wnaed o ganlyniad i’r pandemig, fodd bynnag gwnaeth lleiafrif sylweddol (24%) anghytuno. 

O dan gyfyngiadau iechyd y cyhoedd yn ystod y cyfnod ymgyrchu, ni ellid dechrau gweithgareddau dosbarthu taflenni yng Nghymru tan 15 Mawrth 2021. Cyn y dyddiad hwn, cynhaliwyd ymgyrchu ar-lein yn bennaf. Canfasio drws i ddrws oed yr unig weithgaredd ymgyrchu a ganiatawyd yng Nghymru ar ôl 12 Ebrill, ac roedd yn rhaid i ymgyrchwyr ddilyn canllawiau Covid-19 penodol.

Daeth rhai newidiadau i reolau sy’n gysylltiedig ag ymgyrchu i rym ar ôl dechrau’r cyfnod a reoleiddir, yn enwedig y diweddariadau i gyfyngiadau Covid-19 ar gyfer ymgyrchu. Dywedodd pedwar o bob pump (79%) o’r ymgeiswyr wnaeth ymateb i’n harolwg bod eu pryderon ynghylch y cyfyngiadau a osodwyd ar ymgyrchu wedi cael ‘cryn dipyn’ o effaith ar eu hymgyrch. Dim ond 3% a ddywedodd na bu unrhyw effaith o gwbl.

Roedd hi’n anodd iawn cynnal ymgyrch. Roedd gen i dipyn o orbryder oherwydd yr ansicrwydd.

I gefnogi ymgeiswyr ac asiantiaid yn yr etholiadau hyn sy’n ddiogel o ran Covid-19, gwnaethom gyhoeddi canllaw sydd â’r cyngor arbenigol diweddaraf gan gyrff iechyd y cyhoedd. O’r rhai a ddefnyddiodd y canllaw, roedd 73% o’r farn ei bod yn glir ac yn ddefnyddiol.

O fis Rhagfyr 2020 ymlaen, ac ar sail dreiglol ar ôl pob tair wythnos gan y Prif Weinidog, gwnaethom hefyd anfon at bleidiau gwleidyddol y canllawiau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru oedd yn adlewyrchu newidiadau i’r dulliau ymgyrchu a ganiatawyd o dan y rheolau ‘aros yn lleol’ a chadw pellter cymdeithasol mewn perthynas â Covid-19.

Roedd ymgyrchwyr yn gallu ymgysylltu â phleidleiswyr wrth ddilyn rheoliadau a chanllawiau iechyd y cyhoedd

Er y cyfyngiadau gwreiddiol ar weithgareddau ymgyrchu personol yn gynnar yn 2021, gwnaeth pobl barhau i gael gwybodaeth am ymgeiswyr a phleidiau yn yr etholiadau o ystod o ffynonellau gwahanol, ac mewn amrywiaeth o fformatau. Mae’r dulliau mwyaf cyffredin o weld gwybodaeth am bleidiau ac ymgeiswyr y gwnaeth pleidleiswyr roi gwybod amdanynt yn y tabl canlynol:

Dulliau ymgyrchu
Ar daflen, naill ai gan ymgeisydd/plaid wleidyddol (52%) neu ffynhonnell arall (29%)
Arweinwyr pleidiau’n cael trafodaeth ar y teledu (21%)
Ar wefannau newyddion (17%)
Mewn papurau newydd (16%)
Posteri neu fyrddau posteri (15%)
Hysbyseb neu neges ar y teledu (14%)
Ar gyfryngau cymdeithasol (14%)
Ar air (14%)
Ar wefan eu cyngor lleol (10%)

Ar ôl yr etholiadau, gwnaethom holi’r ymgeiswyr am eu gweithgarwch ymgyrchu. Dywedodd rhai ymgeiswyr wrthym fod ymgyrchu digidol yn enwedig yn bwysig yn gynnar yn 2021, pan nad oedd hi mor hawdd i gyflawni gweithgareddau personol, a doeddent ddim yn siŵr sut y byddai pleidleiswyr yn ymateb i gnocio ar y frws ac ymgyrchu wyneb-yn-wyneb. Fodd bynnag, dywedodd ymgeiswyr eraill wrthym fod dibynnu ar gyfryngau cymdeithasol i ymgyrchu o ganlyniad i bandemig wedi cyfyngu ar gyfleoedd i gael rhannu eu barn gyda phleidleiswyr:

Llai o ddigwyddiadau hustyngau gyda’r ymgeiswyr i gyd, ac roedd cael ein cyfyngu i raddau helaeth i ond allu darlledu ein neges yn golygu mai prin oedd y cyfleoedd i wrando ar bleidleiswyr yn lle dweud wrthynt beth yw ein barn.

Roedd ymgyrchu digidol yn weithgaredd pwysig i rai ymgeiswyr wnaeth ymateb i’n harolwg. Amcangyfrifodd un o bob deg (12%) bod dros 75% o’u hymgyrch yn weithgarwch digidol, a dywedodd 15% bod gweithgarwch digidol yn 51-75% o’u hymgyrch.
Fodd bynnag, dywedodd y rhan fwyaf o ymgeiswyr wnaeth ymateb nad oedd gweithgarwch digidol yn rhan mor bwysig o’u hymgyrch: dywedodd dau o bob pump (40%) o’r ymgeiswyr ei fod yn llai na 25% o’u hymgyrch, ac amcangyfrifodd bron chwarter (23%) ei fod rhwng 25 a 50% o’u gweithgarwch ymgyrchu. 

Rhoddodd ymgeiswyr wybod i ni eu bod wedi defnyddio mwy o negeseuon cyfryngau cymdeithasol di-dâl o gymharu â hysbysebion am dâl. Gwnaeth dau o bob tri (68%) o’r ymgeiswyr wnaeth ymateb ysgrifennu ynghylch eu hymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol, a gwnaeth dros hanner (53%) ofyn i gefnogwyr rannu’r hyn roeddent wedi’i ysgrifennu. Dulliau poblogaidd eraill oedd uwchlwytho fideos i gyfryngau cymdeithasol (44%) ac e-bostio cefnogwyr (38%). Talu am hysbysebion ar gyfryngau cymdeithasol oedd y dull mwyafpoblogaidd o ymgyrchu digidol â thâl (32%).

Er bod ymgyrchwyr wedi defnyddio amrywiaeth o ddulliau i rannu eu neges gyda phleidleiswyr cyn yr etholiad, dengys ein hymchwil bod 57% o bobl wedi ymateb gan ddweud eu bod wedi cael digon o wybodaeth i wneud penderfyniad gwybodus, sydd i lawr o 75% yn 2016.

Dywedodd dros hanner (55%) o’r ymgeiswyr wnaeth ymateb i’n harolwg nad oeddent wedi gallu ymgyrchu yn effeithiol oherwydd effaith y pandemig Covid-19. Dywedodd traean (32%) eu bod wedi gallu ymgyrchu ‘yn eithaf effeithiol’ a dim ond 5% a ddywedodd eu bod yn gallu ymgyrchu ‘yn effeithiol iawn’.

Roedd yr effaith fwyaf ar ymgyrchu oherwydd Covid-19 yn gysylltiedig â’r cyfleoedd ar gyfer ymgyrchu wyneb-yn-wyneb. Dywedodd bron naw o bob deg (87%) bod pryderon ynghylch ymgyrchu wyneb-yn-wyneb wedi effeithio ‘cryn dipyn’ ar eu hymgyrch.

Dylai’r etholiad fod wedi’i ohirio. Doedd dim caniatâd gennym i ddosbarthu taflenni tan ei bod lawer yn rhy hwyr. Erbyn i ni gael caniatâd i ganfasio doedd hynny ddim yn opsiwn posibl mwyach gan mai fi oedd fy nhîm ymgyrchu. Mae pob cnoc ar ddrws yn cymryd deg i ugain gwaith yn hirach na dosbarthu taflenni. Rwyf o’r farn bod methu â gohirio’r etholiad wedi bod o fantais i ymgeiswyr sydd yn ddeiliaid seddi ac wedi rhwystro’r gweddill ohonom.

Nid oeddem yn gallu gwneud canfasio drws i ddrws llawn oherwydd cyfyngiadau amser/nifer cyfyngedig o wirfoddolwyr oherwydd gofidion ynghylch Covid-19.
 

Dros y 10 mlynedd diwethaf mae ymgyrchu digidol wedi dod yn gyffredin, ac erbyn hyn mae pleidleiswyr yn cael llawer o hysbysebion gwleidyddol ar gyfryngau cymdeithasol a thrwy ddulliau eraill ar-lein. Mae ymgyrchu digidol yn cyfrif am gyfran gynyddol fawr o wariant a adroddir gan ymgyrchwyr ar ôl etholiadau. 

Mae argraffnod ar ddeunydd wedi’i argraffu, sy’n cynnwys manylion sy’n dangos pwy sydd wedi cynhyrchu a thalu am y deunydd, yn ofyniad cyfreithiol. Rydym wedi argymell yn hir y gallai ymgyrchu digidol gael ei wella ymhellach i bleidleiswyr pe bai rheolau argraffnodau’n cael eu hymestyn i gynnwys pob deunydd gan ymgyrchwyr. Byddai hyn yn helpu gwella hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd mewn ymgyrchoedd digidol. 

Gwnaeth ein hymchwil ar ôl yr etholiad gadarnhau bod pobl yn parhau i werthfawrogi tryloywder ynghylch pwy sy’n gyfrifol am weithgarwch ymgyrchu gwleidyddol ar-lein mewn etholiadau, gyda:

  • mwyafrif (69%) o bobl yn cytuno ei fod yn bwysig iddynt wybod pwy a wnaeth gynhyrchu’r wybodaeth wleidyddol maent yn ei gweld ar-lein 
  • tri o bob pump (59%) yn cytuno y byddent yn ymddiried mwy mewn deunydd ymgyrchu digidol pe baent yn gwybod pwy oedd wedi’i gynhyrchu

Yn etholiadau Senedd yr Alban 2021, cafodd y gofyniad ar gyfer argraffnodau ar ddeunydd ymgyrchu ei gyflwyno am y tro cyntaf mewn unrhyw etholiad yn y DU. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi Bil a fyddai’n cyflwyno rheolau argraffnodau digidol ar gyfer etholiadau cyffredinol Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru.

Argymhelliad 2: Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddeddfu ar gyfraith argraffnod digidol

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddeddfu i sicrhau bod angen argraffnod ddigidol ar gyfer deunyddiau ymgyrchoedd ar-lein ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru yn y dyfodol.
 

Gwnaeth y prosesau ar gyfer cyflwyno enwebiadau flaenoriaethu mynediad a diogelwch

Cynhaliwyd cyhoeddiad yr hysbysiad etholiad wythnos yn gynharach na’r arfer i ganiatáu am gyfnod hirach o amser i ymgeiswyr a phleidiau i gyflwyno’u ffurflenni enwebu. Cyflwynwyd oriau estynedig ar gyfer cyflwyno hefyd i helpu gyda’r broses o wirio’n anffurfiol y ffurflenni enwebu ac yna cyflwyno’r gwaith papur yn ffurfiol.

Er bod dal i fod angen ffurflenni enwebu wedi’u llenwi â llaw, gwnaeth gweinyddwyr etholiadol newidiadau i’w prosesau i leihau’r risg i’r rheiny a oedd yn cymryd rhan:

  • gwnaed newid deddfwriaethol i alluogi ffurflen cydsyniad i enwebu gael ei llofnodi a’i chyflwyno drwy ddull electronig yn lle â llaw
  • cafodd gwirio ffurflenni enwebu yn anffurfiol cyn eu cyflwyno ei chynnig yn fwy aml gan ddefnyddio e-bost
  • trefniadau ar gyfer dosbarthu ffurflenni enwebu â llaw yn ddiogel, gan sicrhau bod mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith
  • cafodd sesiynau briffio ymgyrchwyr ac asiantiaid eu cynnal yn gyffredinol drwy fideogynadledda

O’r ymgeiswyr wnaeth ymateb i’n harolwg etholiad, cytunodd naw o bob deg (90%) bod y broses enwebu wedi’i chynnal yn llwyddiannus. Cytunodd bron i dri o bob pump (58%) bod oriau hirach ar gyfer dosbarthu ffurflenni enwebu yn ddefnyddiol.Cytunodd pedwar o bob pump (80%) bod cyflwyno ffurflenni caniatâd drwy ddull electronig yn ddefnyddiol.

Yr adborth a gafwyd gan grwpiau rhanddeiliaid yng Nghymru oedd bod digideiddio wedi’i gweithio’n dda yn yr etholiadau hyn, gan wella’r broses enwebu drwy wiriadau ar-lein a chynyddu’r niferoedd oedd yn mynychu drwy symud sesiynau briffio ar-lein. Gallai cynnwys y newidiadau hyn ar gyfer etholiadau yn y dyfodol fod o fudd i ymgeiswyr a gweinyddwyr etholiadol. Gallai ystyriaeth bellach o sut gallai dulliau electronig wella’r broses enwebu fod o fudd iddynt hefyd.

Rhoddodd codau ymarfer eglurder ar wariant

O dan ddeddfwriaeth etholiadol, gall y Comisiwn baratoi canllawiau ar beth sydd wedi’i gynnwys, ac sydd heb ei gynnwys, yng nghategorïau’r gwariant ymgyrchu sy’n ymddangos ar ffurflenni gwariant pleidiau ac ymgeiswyr. Ar gyfer etholiadau’r Senedd, datblygodd y Comisiwn godau ymarfer ar wariant ar gyfer ymgeiswyr a phleidiau oedd yn cymryd rhan. Y codau yw’r codau statudol cyntaf o’u math yn y DU. 

Mae’r codau’n helpu pleidiau, ymgeiswyr ac asiantiaid i fodloni eu rhwymedigaethau cyfreithiol a gwella tryloywder i bleidleiswyr.

Mae’r codau’n darparu:

  • eglurder ar wariant ymgyrchu
  • sut y dylid adrodd am y gweithgarwch ymgyrchu hwn
  • p’un a ddylai’r gwariant ymddangos ar ffurflen gwariant ymgeisydd neu blaid
  • rhoi hyder i bobl bod gwariant etholiadol yn cael ei hadrodd yn gywir

O’r rheiny wnaeth ddefnyddio codau ymarfer y Comisiwn, dywedodd dau o bob tri (66%) eu bod yn glir ac yn ddefnyddiol.

Gwnaeth rheoleiddwyr gryfhau’r cydweithio yn ystod cyfnod yr etholiad

Ar gyfer etholiadau mis Mai 2021, gwnaethom weithio gyda phartneriaid rheoleiddio i gynnal ymgyrch ar-lein ynghylch ymwybyddiaeth y cyhoedd ac annog pleidleiswyr i gael rhagor o wybodaeth o ran newydd o’n gwefan. Nod yr ymgyrch oedd annog pobl i feddwl yn fwy gofalus am yr hysbysebion ymgyrchu gwleidyddol y maent yn eu gweld ar-lein. Rhoddodd wybodaeth ynghylch pa reoleiddwyr neu sefydliadau eraill y gallent gysylltu â nhw os oedd ganddynt bryderon.

Dangosodd gwerthusiad o’r ymgyrch bod dros 7.6 miliwn o bobl ar draws Prydain wedi gweld ein hysbysebion ar wefannau a phlatfformau cyfryngau cymdeithasol. Mae’r nifer o bobl sydd wedi clicio trwy i ddod o hyd i ragor o wybodaeth o’r hysbysiadau’n galonogol, ac yn rhoi sylfaen dda ar gyfer gweithgarwch codi ymwybyddiaeth pellach mewn etholiadau yn y dyfodol. 

Cyflwyno trosolwg yr etholiadau

Yn gyffredinol, dengys ein tystiolaeth bod yr etholiadau wedi’u cynnal yn llwyddiannus. Gwnaeth pleidleiswyr ac ymgyrchwyr adrodd am lefelau uchel o fodlonrwydd a hyder, a dim ond mewn rhai ardaloedd y bu nifer fach o broblemau gafodd effaith ar eu profiad. 

Ar gyfer Swyddogion Canlyniadau a gweinyddwyr etholiadol, fodd bynnag, mae’r etholiadau hyn wedi cynnwys heriau unigryw ac anodd a dim ond trwy eu hymdrechion a’u hymrwymiadau bu modd cynnal yr etholiadau yn llwyddiannus. 
 

Gwnaeth cynllunio cynnar helpu gyda rheoli’r etholiadau

Golygai’r etholiadau a ohiriwyd o fis Mai 2020 bod etholiadau’r Senedd ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu wedi’u cyfuno ar draws Gymru. Gwnaeth sefydlu Grŵp Cynllunio Etholiadau’r Prif Weinidog ym mis Mehefin 2020 ddarparu fforwm defnyddiol ar gyfer trafodaeth a gwneud penderfyniadau cynnar. Gwnaeth y grŵp, a oedd yn dod at ei gilydd pleidiau gwleidyddol, Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol, swyddogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol a’r Comisiwn, gwrdd yn rheolaidd i ystyried y newidiadau oedd eu hangen i ddeddfwriaeth er mwyn amlhau cyfranogiad democrataidd wrth hefyd ddiogelu iechyd y cyhoedd. 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi sefydlu Grŵp Gweithrediadau Etholiadau’r Senedd sydd eto’n darparu fforwm i drafod sut caiff yr etholiadau eu rheoli a’u gweithredu yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad.

Sefydlwyd Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru yn 2017. Mae’r Bwrdd yn cydlynu’r gwaith cynllunio ar gyfer yr holl ddigwyddiadau etholiadol yng Nghymru, yn ogystal â gweithgareddau sy’n gysylltiedig â moderneiddio a diwygio etholiadol, ac yn hwyluso’r cydweithio rhwng Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol a Lleol, Swyddogion Cofrestru Etholiadol a phartneriaid allweddol yng Nghymru.

Roedd gan y Bwrdd rôl sylweddol a phwysig wrth gynllunio a pharatoi ar gyfer yr etholiadau hyn, ac wrth sicrhau y gellid darparu’r gofynion diogelu ar draws Gymru yn effeithiol a chyson.

Cynrychiolwyd y Bwrdd ar Grŵp Cynllunio Etholiadau’r Prif Weinidog, a chyfranogodd yng Ngrŵp Gweithrediadau Etholiadau’r Senedd gan ddarparu cysylltiad rhwng y llywodraeth a Swyddogion Canlyniadau drwy gydol y cyfnod estynedig cyn yr etholiad.

Mae enghreifftiau allweddol o bwysigrwydd y grŵp yn cynnwys:

  • cyflwyno gofynion diogelwch sylfaenol ar gyfer gorsafoedd pleidleisio a chytuno ar y cyfrif drwy weithio ar y cyd effeithio rhwng Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru a Chymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol (AEA) Cymru
  • cyngor a roddwyd i Weinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru am newidiadau arfaethedig i’r rheolau, gan gynnwys y rheiny sydd a’r nod o sicrhau bod yr etholiadau yn ddiogel o ran Covid
  • cytundeb ar gyfrif yn ystod y dydd ar draws Gymru
  • lliw y papurau pleidleisio

Gwnaethom argymell yn ein hadroddiad mis Mai 2017 ar etholiadau llywodraeth leol y dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gellid datblygu rôl y Bwrdd i gefnogi rhaglen foderneiddio etholiadol trosfwaol Llywodraeth Cymru. Gwnaethom hefyd argymell bod y Llywodraeth yn ystyried bod y Bwrdd yn dod yn grŵp statudol, fel sydd wedi digwydd yn yr Alban.

Ar ôl pedair blynedd, mae’r argymhelliad hwn hyd yn oed yn fwy perthnasol nawr, o ystyried bod Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ddeddfu ar gyfer etholiadau yng Nghymru ac yn bwriadu dod ag ystod o ddiwygiadau etholiadol ymlaen yn y blynyddoedd sydd i ddod.

Argymhelliad 3: Rôl statudol ar gyfer Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru

Mae Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru mewn sefyllfa unigryw i ddarparu cysylltiad rhwng llywodraethau a Swyddogion Canlyniadau yng Nghymru ac i roi cyngor ar ddarparu etholiadau a chyflwyno diwygiadau etholiadol. 

Rydym yn argymell y dylai’r Bwrdd cael ei gryfhau a’i fod yn cael rôl statudol, yn debyg i rôl y Bwrdd Rheoli Etholiadol yn yr Alban.

Mae capasiti a gwydnwch timau gweinyddu etholiadol a chyflenwyr yn peri risgiau sylweddol i etholiadau yn y dyfodol

Cafodd y cyfyngiadau Covid-19 effaith ar allu’r gweinyddwyr etholiadol i gynllunio a chyflawni eu gwaith yn y misoedd cyn yr etholiadau:

  • dywedodd 88% bod y cyfyngiadau Covid-19 wedi gwneud eu swydd yn fwy anodd, gyda 75% o ymatebwyr yn dweud bod eu llwyth gwaith wedi cynyddu oherwydd y cyfyngiadau Covid-19 yn ystod yr etholiadau
  • dywedodd 63% eu bod yn gofidio am eu hiechyd eu hunain oherwydd Covid-19

Rhoddodd rhai gweinyddwyr etholiadol wybod i ni eu bod wedi gweld effaith sylweddol ar gapasiti a lles eu timau. Mae eraill wedi rhoi gwybod i ni fod cynnal yr etholiad wedi gwneud iddynt deimlo eu bod wedi’u gorlwytho a bod dim dewis ganddynt ond rhoi eu gwaith cyn eu bywyd teuluol. Oherwydd Covid-19, doedd cymorth o rannau eraill o’r awdurdod lleol, a fyddai wedi cael ei ddibynnu arno mewn etholiadau blaenorol, ddim ar gael.

…daw etholiadau sydd wedi’u cynnal yn llwyddiannus ar draul - rwy’n credu y byddwch yn gweld llawer o swyddogion etholiad yn gadael y swydd hon oherwydd ein bod yn poeni am ein hiechyd.

Amlygodd gweinyddwyr hefyd yr anhawster oedd ganddynt o ddod o hyd i leoliadau addas i’w defnyddio fel gorsafoedd pleidleisio. Roedd cyfyngiadau Covid-19 yn golygu ei bod hi’n anoddach cysylltu â phobl i archebu, ac mewn rhai lleoliadau roedd problemau gyda’r cyfleusterau oherwydd roeddent wedi bod ar gau am gyfnodau hir o flaenllaw oherwydd cyfyngiadau symud. Roedd hi hefyd yn anodd cael gafael ar gabanau dros dro gan fod llawer ohonynt yn cael eu defnyddio fel canolfannau brechu.

Roedd llawer o orsafoedd pleidleisio wedi’u cau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf – roedd rhaid i ni gynnal chwe phroses clorineiddio gan nad oedent wedi gwirio dŵr – roedd rhaid gwirio hyn i gyd.” 

Rhoddodd cymhlethdod yr etholiadau hyn a’r gofynion ychwanegol oedd eu hangen o ran cyfyngiadau Covid-19 a roddwyd ar waith, bwysau ychwanegol ar Swyddogion Canlyniadau a thimau etholiadol yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad, ar y diwrnod pleidleisio a thrwy gydol y cyfrif. 

Dywedodd 76% o’r bobl wnaeth ymateb i’n harolwg eu bod wedi cael anhawster recriwtio staff gorsafoedd pleidleisio. Lleisiwyd pryderon hefyd ynghylch y gostyngiad yn nifer y Swyddogion Llywyddu profiadol, a nodwyd bod clercod pleidleisio gyda blynyddoedd o brofiad yn amharod i gamu ymlaen.

Argymhelliad 4: Adeiladu gwydnwch a chapasiti ar gyfer gweinyddu etholiadol

Rydym dro ar ôl tro wedi amlygu pryderon ynghylch gwydnwch a chapasiti strwythurau gweinyddu etholiadol yn y DU, ynghyd â’r heriau o gynnal etholiadau o fewn fframwaith cyfraith etholiadol sydd wedi dyddio ac sy’n gynyddol gymhleth.

Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth gyda Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru a’r gymuned etholiadol ehangach i ddatblygu a chyflawni cynigion i gynorthwyo gwasanaethau etholiadol gwydn ar gyfer y dyfodol, ond bydd angen cefnogi’r dull hwn drwy adnoddau priodol.

Gwnaeth cadarnhau deddfwriaethau ac ymyriadau’n hwyr hi’n anodd i rai Swyddogion Canlyniadau gynllunio mewn rhai ardaloedd

Ar 26 Chwefror 2021, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddai etholiad y Senedd yn cael ei gynnal at 6 Mai a darparodd £1.5 miliwn i gynorthwyo Swyddogion Canlyniadau gyda chael gafael ar leoliadau, staff a chynnal etholiadau sy’n ddiogel o ran Covid-19. Gwnaeth Swyddfa’r Cabinet ddarparu cyllid ychwanegol i gefnogi'r gwaith o gynnal etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.

Cyflwynwyd Deddf y Coronafeirws 2020 (Bil Brys) ar 16 Mawrth, gan roi’r pŵer i’r Llywydd ohirio’r etholiad pe byddai angen gwneud hyn am resymau iechyd y cyhoedd. 

Ni dderbyniodd y gorchymyn ymddygiad sy’n nodi’r rheolau ar gyfer yr etholiad cydsyniad brenhinol tan 18 Mawrth, dim ond pedwar diwrnod cyn y dyddiad ar gyfer cyhoeddi’r hysbysiad etholiad a saith wythnos cyn y diwrnod pleidleisio.

Yn ogystal â’n cyfres graidd arferol o ganllawiau ac adnoddau i gynorthwyo gweinyddwyr etholiadol gyda chynnal etholiadau, rydym hefyd wedi gweithio gyda chyrff iechyd y cyhoedd, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a’r gymuned etholiadol i ddatblygu a chyhoeddi canllaw atodol i gynorthwyo gyda chynnal etholiadau sy’n ddiogel o ran Covid-19.

Anfonwyd hwn ar sail dreiglol o fis Medi 2020, a chafodd ei hysbysu gan ofynion gweinyddwyr a’r cyngor arbenigol diweddaraf gan gyrff iechyd y cyhoedd. Cafodd ei gadw dan arolwg trwy gydol cyfnod yr etholiad, a fe’i diweddarwyd i adlewyrchu’r newidiadau deddfwriaethol i’r broses enwebu a’r broses pleidleisio drwy ddirprwy o ganlyniad i Covid-19.

Dywedodd llawer o weinyddwyr etholiadol bod yr ansicrwydd o amgylch yr etholiadau wedi’i gwneud hi’n anodd iddynt gynllunio’n effeithiol. Dywedodd tri chwarter o weinyddwyr (75%) wnaeth ymateb i’n harolwg ar ôl yr etholiadau bod yr ansicrwydd cychwynnol ynghylch p’un a fyddai’r etholiadau’n cael eu cynnal wedi’i gwneud hi’n anodd iddynt gynllunio. 

Roedd yr amgylchiadau penodol a arweiniodd at ddatblygu a chyflwyno newidiadau i’r gyfraith etholiadol cyn yr etholiadau ym mis Mai 2021 yn ddigynsail. Er bod y newidiadau deddfwriaethol yn ddealladwy oherwydd Covid-19, gwnaethant ddangos, yn ymarferol, yr heriau a’r risgiau o gyflwyno deddfwriaeth hwyr. Roedd amseru’r newidiadau hyn wedi creu heriau a risgiau ychwanegol o ran cynnal yr etholiadau. Gwnaeth effeithio ar bryd y gellid darparu canllawiau ac adnoddau’r Comisiwn Etholiadol, megis ffurflenni enwebu diwygiedig, i gynorthwyo gyda chynnal yr etholiadau, a phryd y gallai gweinyddwyr etholiadol eu rhoi ar waith. 

Gwnaeth cadarnhau deddfwriaethau ac ymyriadau’n hwyr hi’n anodd i rai Swyddogion Canlyniadau gynllunio mewn rhai ardaloedd: torri lawr

Gwnaeth Llywodraeth Cymru hefyd ystyried cyflwyno diwygiadau etholiadol sylweddol ar gyfer etholiadau’r Senedd yn y misoedd olaf cyn y bleidlais. Roedd newidiadau dichonadwy’n cynnwys cyflwyno canolfannau pleidleisio cynnar, a newidiadau i’r datganiad pleidleisio post.

Yn y diwedd, ni chyflwynwyd y naill neu’r llall o’r opsiynau hyn ym mis Mai 2021, ond arweiniodd y trafodaethau ynghylch y cynigion hyn at gymysgwch, ansicrwydd a dyfalu yn ystod y broses cynllunio etholiad, mewn amgylchedd lle’r oedd eisoes llawer o bwysau. 

Dylid osgoi’r dull hwn ar gyfer etholiadau cenedlaethol yn y dyfodol, a dylai’r egwyddor chwe mis barhau i gael ei roi ar waith wrth ddatblygu unrhyw ddeddfwriaeth newydd. Mae egluro deddfwriaeth yn gynnar, ynghyd â chyfathrebu ac ymgysylltu da, yn cynorthwyo sut y caiff etholiadau eu paratoi’n effeithiol a’u cynnal yn llwyddiannus. Mae hefyd yn sicrhau bod canllawiau ac adnoddau ar gael i weinyddwyr etholiadol ac ymgeiswyr ac asiantiaid ymhell cyn yr etholiadau, a bod cynllunio cymhleth ddim yn cael ei ddifetha gan newid annisgwyl. Bydd hefyd yn cynorthwyo’r ddarpariaeth o wybodaeth glir a chynnar i bleidleiswyr, i’w helpu i ddeall yr hyn i’w ddisgwyl a sut y gallant gymryd rhan yn yr etholiadau.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth sy’n gysylltiedig â diwygiadau etholiadol neu newidiadau i’r broses bleidleisio ar waith chwe mis cyn yr etholiad, a dylid rhannu bwriadau Gweinidogion gyda’r gymuned etholiadol ymhell cyn yr adeg hon. 

Cyrhaeddwyd consensws cenedlaethol ar y cyfrif gan Fwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru yn gynnar ym mis Ionawr, gan arwain at benderfyniad y dylai cyfrif etholiad y Senedd ddigwydd y diwrnod ar ôl diwrnod y bleidlais, ac nid dros nos. Roedd hyn yn angenrheidiol oherwydd byddai angen mwy o staff ar y prosesau dilysu a chyfrif a byddent yn cymryd yn hirach oherwydd cyfyngiadau Covid-19. 

Er bu adborth cadarnhaol gan Swyddogion Canlyniadau a gweinyddwyr etholiadol i ddull amseru’r cyfrif, cawsom ychydig o adborth gan bleidiau gwleidyddol wnaeth awgrymu bod ychydig o bryder ynghylch mabwysiadu’r dull hwn ym mhob etholiad yng Nghymru yn y dyfodol. Mae rhai pleidiau gwleidyddol wedi awgrymu y dylai etholiadau sy’n cael eu cynnal y tu allan i sefyllfa pandemig droi’n ôl i gyfrif dros nos yn lle cyfrif y diwrnod nesaf, gan y byddai’n well gan ymgeiswyr wybod canlyniad yr etholiad cyn gynted â phosibl. Hefyd roedd yna bryder na fyddai digon o asiantiaid cyfrif ar gael i graffu’r prosesau dilysu a chyfrif yn effeithlon pe byddai diwrnod y bleidlais a diwrnod y cyfrif yn cael eu cynnal ar draws nifer o ddiwrnodau.

Dylai Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru ystyried yn ofalus pob safbwynt, gan gynnwys
safbwyntiau pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr, cyn unrhyw benderfyniad ar amseru ar gyfer etholiadau 2026.
 

Yn gyffredinol, gwnaeth y prosesau pleidleisio redeg yn esmwyth, er gwaethaf yr amodau heriol

Dangoswyd bod y cynllunio a’r paratoi cyn yr etholiad yn fuddiol drwy’r nifer fach o broblemau fu gyda chynnal y prosesau pleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad. 

Yn gyffredinol, gwnaeth y prosesau pleidleisio redeg yn esmwyth, er gwaethaf yr amodau heriol: torri lawr

Yn rhanbarth Gogledd Cymru bu gwall argraffu leol a arweiniodd at enw ymgeisydd annibynnol yn cael ei hepgor oddi ar y papur pleidleisio rhanbarthol a ddosbarthwyd mewn dwy etholaeth yng Ngogledd Cymru. Effeithiodd y gwall ar bapurau pleidleisio a ddosbarthwyd drwy’r post ac mewn gorsafoedd pleidleisio. Cafodd y gwall ei nodi yn ystod ail awr yr etholiad a chymerwyd camau ar unwaith i fynd i’r afael â’r broblem. 

Wrth adnabod y pwysau y mae Swyddogion Canlyniadau a’u timau’n ei wynebu am amgylchiadau heriol yr etholiadau, mae’n bwysig bod gan bleidleiswyr, ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol hyder yn y broses etholiadol a bod y papurau pleidleisio maent yn eu cael yn gywir. 

Ar ôl yr etholiadau, gwnaethom ystyried y broblem yn unol â’n safonau perfformiad ar gyfer Swyddogion Canlyniadau, a daethom i’r casgliad yn y ddau achos nad oed y Swyddogion Canlyniadau wedi bodloni’r safonau hynny’n llawn1 .  Mae’r ddau Swyddog Canlyniadau wedi cytuno i ildio rhan o’r ffi maent yn ei gael am gyflawni eu swydd.

Mae Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru hefyd yn ymgymryd â gwaith pellach i ddatblygu protocol a chanllaw er mwyn cynorthwyo Swyddogion Canlyniadau wrth iddynt wirio papurau pleidleisio mewn etholiadau yn y dyfodol. 

Y timau etholiadau wedi diweddaru prosesau cyfrif er mwyn cefnogi cadw pellter cymdeithasol wrth gadw tryloywder

Cafodd canolfannau cyfrif rhai awdurdodau eu defnyddio fel canolfannau brechu torfol ac felly roedd angen dod o hyd i leoliadau a fyddai’n ddigon mawr i alluogi staff y cyfrif ac arsylwyr i gadw pellter cymdeithasol. Cafodd y gofynion sylfaenol o ran Cyfarpar Diogelu Personol a gytunwyd gan Fwrdd Cydlynu’r Comisiwn Etholiadol eu rhoi ar waith ar draws pob canolfan cyfrif yng Nghymru. 

Cadwodd canolfannau cyfrif gadw at yr holl fesurau cadw pellter cymdeithasol a osodwyd yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru ac a adlewyrchwyd yn y canllaw atodol a gyhoeddwyd gan y Comisiwn.

Roedd hyn yn cynnwys:

  • arwyddion clir yn annog pobl i gadw pellter o ddau fetr 
  • sicrhau bod pawb yn gwisgo gorchudd wyneb ar bob adeg (oni bai eu bod wedi’u heithrio)
  • systemau unffordd a mynedfa ac allanfa ar wahân
  • defnyddio sgriniau persbecs i wahanu staff y cyfrif rhag yr arsylwyr

At ei gilydd, ystyriwyd y dulliau newydd a gyflwynwyd mewn canolfannau cyfrif er mwyn mynd i’r afael â chadw pellter cymdeithasol yn ychwanegiadau calonogol i’r broses. Er enghraifft, yng Nghyngor Sir Ceredigion2 , er mwyn mynd i’r afael â’r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o ymgeiswyr ac asiantiaid oedd yn gallu bod yn y ganolfan gyfrif, cafodd gweithgareddau eu ffrydio’n fyw i neuadd gyfagos o fewn yr un lleoliad cyfrif.

Roedd camera uwchben pob bwrdd cyfrif yn caniatáu i fynychwyr mewn neuadd gyfagos weld yn llawn y broses ddilysu a chyfrif ar gyfer pob bwrdd. Roedd yr ymgeiswyr a’r asiantiaid yn gallu gofyn bod yr onglau’n cael eu newid yn ôl yr angen, a gwnaethpwyd hyn o bell. Cafodd papurau pleidleisio amheus eu gosod hefyd ar dechnoleg delweddu a dangoswyd y delweddau ar sgriniau fel bod yr ymgeiswyr a’r asiantiaid yn gallu eu gweld.

Election teams updated count processes to support social distancing while maintaining transparency breakdown

Cafwyd adborth cadarnhaol gan ymgeiswyr ac asiantiaid ynghylch y trefniadau a roddwyd ar waith i sicrhau uniondeb yr etholiadau ond hefyd i gadw pawb sy’n bresennol mor ddiogel â phosibl. 

Fodd bynnag, er bod y mwyafrif o ymgeiswyr yn hyderus bod yr etholiadau wedi’u cynnal yn llwyddiannus, roedd llai yn fodlon gyda’u gallu i arsylwi a chraffu’r cyfrif. 

Tra bod 72% o ymgeiswyr yn cytuno bod staff yr etholiad wedi’i gwneud hi’n glir beth oedd yn digwydd trwy gydol y broses gyfrif, a bod 75% yn cytuno bod y cyfrif a ohiriwyd/cyfrif yn ystod y dydd yn dderbyniol ar gyfer diogelwch o ran Covid-19, dim ond hanner (51%) a gytunodd ei bod hi’n bosibl arsylwi a chraffu’r cyfrif yn effeithiol, ac anghytunodd dros draean (38%).

Mae rhai pleidiau wedi adrodd, oherwydd y ddarpariaeth diogelwch o ran Covid-19 oedd ar waith yn lleoliadau’r cyfrif, nad oedd caniatâd ganddynt i benodi cymaint o asiantiaid cyfrif ag yr oeddent yn ystyried i fod yn angenrheidiol i gyflawni craffu llawn, a bod cynllun rhai o’r canolfannau cyfrif yn aneglur ac yn atal arsylwi iawn o’r prosesau dilysu a chyfrif. 

Darparwyd gwaith cadarnhaol yn genedlaethol ac yn lleol drwy gyfathrebu da rhwng y pleidiau gwleidyddol a rheolwyr etholiad, ac er nad oed oeddent bob tro’r hyn y byddem yn eu disgwyl yn arferol, ar y cyfan roedd y trefniadau yn effeithiol wrth sicrhau tryloywder yn yr amgylchiadau.

Dylai cyfathrebu rheolaidd ac effeithiol rhwng Swyddogion Canlyniadau a phleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr drwy fforymau megis Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru, barhau i sicrhau y gelir ystyried a gweithredu ar bryderon pob plaid a phob ymgeisydd.

tystiolaeth ategol

Page history

Cyhoeddwyd gyntaf: 13 Medi 2021

Diweddarwyd ddiwethaf: