Adroddiad ar weinyddiaeth yr etholiadau a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd, 2012
Ynglŷn â'r adroddiad hwn a’n rôl ni
Mae'r Comisiwn Etholiadol yn gorff annibynnol sy'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU. Rydym yn rheoleiddio pleidiau gwleidyddol ac etholiadau ac yn gosod safonau ar gyfer etholiadau sy’n cael eu rhedeg yn dda. Rydym yn rhoi pleidleiswyr yn gyntaf drwy weithio i gefnogi democratiaeth iach, lle mae etholiadau a refferenda yn seiliedig ar ein hegwyddorion o ymddiriedaeth, cyfranogiad, a dim dylanwad gormodol. Rydym yn gyfrifol am gyhoeddi adroddiadau ar weinyddu etholiadau a refferenda.
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi ein hasesiad o ba mor dda y cafodd yr etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (CHTh) cyntaf erioed a ynhaliwyd ar 15 Tachwedd, 2012 ar draws Lloegr (heblaw Llundain) a Chymru, eu rhedeg, a pha mor dda y sefydlwyd y fframwaith ar gyfer yr etholiadau CHTh newydd. Mae'n cynnwys asesiad o dri isetholiad Seneddol y DU yng Nghanol Manceinion, Corby a Chaerdydd, etholiad maer lleol ym Mryste, a refferendwm lleol yn Hartlepool i benderfynu a ddylid cadw'r strwythur i ethol maer yn uniongyrchol, a gynhaliwyd hefyd ar 15 Tachwedd.
Mae ein dadansoddiad yn adlewyrchu profiad pleidleiswyr, yn seiliedig ar ymchwil barn gyhoeddus a data etholiadol a ddarparwyd gan Swyddogion
Canlyniadau Lleol (LROs), yn ogystal ag adborth a barn am weinyddiaeth yr etholiad gan ymgeiswyr ac asiantau, y rhai oedd yn gyfrifol am ddarparu’r bleidlais, a chyfranogwyr eraill.
Cefndir yr etholiadau
Yn dilyn yr etholiad cyffredinol Senedd y DU ym Mai 2010, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei rhaglen ar gyfer llywodraeth, a oedd yn cynnwys ymrwymiad i 'gyflwyno mesurau i wneud yr heddlu'n fwy atebol drwy oruchwyliaeth gan unigolyn wedi'i ethol yn uniongyrchol, a fydd yn destun gwiriadau a balansau llym gan gynrychiolwyr a etholwyd yn lleol'1
. Fel yr adran arweiniol ar gyfer plismona,
cyhoeddodd y Swyddfa Gartref Bapur Gwyn, Plismona yn yr 21ain Ganrif: Ailgysylltu'r heddlu a'r bobl, ar gyfer ymgynghoriad ym mis Gorffennaf 2010.
Cyflwynwyd y Mesur Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol (PRSR) yn Nhŷ'r Cyffredin ar 30 Tachwedd 2010. Roedd y Mesur PRSR yn darparu ar gyfer ethol Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu i ddisodli awdurdodau'r heddlu mewn 41 o ardaloedd heddlu yng Nghymru a Lloegr o fis Mai 2012.
Mae’r 41 o ardaloedd heddlu yng Nghymru a Lloegr yn amrywio'n fawr o ran maint a phoblogaeth, o Fanceinion Fwyaf gyda dwy filiwn o etholwyr i Heddlu Dyfed Powys sydd â llai na 400,000.
Ym mis Medi 2011, yn ystod ei hynt drwy'r Senedd, cyflwynodd Llywodraeth y DU welliannau i'r Mesur i newid dyddiad etholiadau cyntaf Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu o 3 Mai 2012 i 15 Tachwedd 2012. Derbyniodd y Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol Gydsyniad Brenhinol ar 15 Medi 2011.
Deddfwriaeth ar gyfer yr etholiadau
Roedd y rheolau manwl ar gyfer yr etholiadau CHTh ar 15 Tachwedd 2012 wedi’u cynnwys mewn deddfwriaeth eilaidd. Er gwaethaf cydnabyddiaeth gan Lywodraeth y DU o bwysigrwydd sicrhau bod y rheolau manwl yn glir o leiaf chwe mis cyn y diwrnod pleidleisio, ni osodwyd rhai darnau allweddol o ddeddfwriaeth tan lawer yn ddiweddarach:
- Cafodd y Gorchymyn yn nodi'r rheolau manwl ar gyfer cynnal yr etholiadau ei osod yn Senedd y DU ar 15 Mai 2012 a daeth i rym ar 25 Gorffennaf, ychydig dros ddeng wythnos cyn dechrau cyfnod yr etholiad.
- Cafodd y Gorchymyn yn nodi'r uchafsymiau a oedd ar gael i Swyddogion Canlyniadau (Swyddogion Canlyniadau) ar gyfer adennill costau am eu gwasanaethau a rhedeg yr etholiad ei wneud ar 12 Medi 2012 a daeth i rym y diwrnod wedyn, dim ond 3 wythnos a hanner cyn dechrau cyfnod yr etholiad.
- Cafodd Gorchymyn 2012 yn nodi papur pleidleisio dwyieithog i'w defnyddio ar gyfer etholiadau CHTh yng Nghymru ei osod yn Senedd y DU ar 29 Hydref 2012, a daeth i rym ar 31 Hydref, dim ond 14 diwrnod cyn y diwrnod pleidleisio.2
Cyfranogiad yn yr etholiadau
Ychydig dros 36 miliwn o bobl oedd wedi'u cofrestru i bleidleisio yn etholiadau CHTh yn Nhachwedd 2012. Cafodd cyfanswm o 5.49m o bleidleisiau eu bwrw yn yr etholiadau hyn, yn cynrychioli canran pleidleiswyr o ddim ond 15.1% - y lefel isaf a gofnodwyd o ran cyfranogiad mewn etholiad heb fod yn un llywodraeth leol yn y DU yn ystod cyfnod o heddwch.
Roedd y ganran a bleidleisiodd yn y tri isetholiad Seneddol y DU yn amrywio rhwng 18.3% yn etholaeth Canol Manceinion ac 44.8% yn etholaeth Corby.
Roedd y ganran a bleidleisiodd yn yr etholiad maer cyntaf ym Mryste yn 27.9%, ac yn y refferendwm llywodraeth leol yn Hartlepool roedd y ganran a
bleidleisiodd yn 18%.
Anfonwyd mwy na 5.8 miliwn o bleidleisiau post ar gyfer yr etholiadau CHTh - 16.1% o'r etholaeth gymwys. Dychwelwyd tua 2.8 miliwn o bleidleisiau drwy'r post ar gyfer yr etholiadau CHTh. Roedd y pleidleisiau post yn cyfrif am 48.9% o'r holl bleidleisiau a gafodd eu cyfrif, a chafodd 51% o bleidleisiau eu bwrw gan bleidleiswyr neu ddirprwyon penodedig mewn gorsafoedd pleidleisio.
Ychydig o dan 50% o etholwyr a dderbyniodd bleidlais drwy'r post a’i dychwelodd. Dim ond 9.2% o bleidleiswyr ‘personol’ a ddefnyddiodd eu pleidlais.
Enwebwyd a safodd 191 o ymgeiswyr am etholiad i’r 41 o swyddi CHTh. Yn ogystal, safodd 34 ymgeisydd yn y tri isetholiad Seneddol y DU, ac 15 o ymgeiswyr yn yr etholiad maerol ym Mryste.
Cafodd 38 o'r 41 etholiadau CHTh Tachwedd 2012 eu cynnal gan ddefnyddio'r system etholiadol Pleidlais Atodol, ac o'r rheiny, daeth pump i ben heb
orfod symud ymlaen i ail rownd oherwydd bod yr ymgeisydd buddugol wedi derbyn mwy na 50% o’r pleidleisiau dewis cyntaf dilys a fwriwyd. Cynhaliwyd tri etholiad CHTh gan ddefnyddio'r system etholiadol cyntaf-i’r-felin, gan mai dim ond dau ymgeisydd oedd yn sefyll.
Pam nad oedd pobl yn pleidleisio
Y rhesymau mwyaf cyffredin dros beidio â phleidleisio yn etholiadau CHTh oedd diffyg ymwybyddiaeth (37%), yn bennaf diffyg gwybodaeth am yr etholiadau, a ddim yn gwybod pwy oedd yr ymgeiswyr neu ble i ddod o hyd i wybodaeth amdanynt. Roedd y ffigwr hwn dros bum gwaith yn fwy na'r gyfran nad oeddynt wedi pleidleisio a roddodd ymateb tebyg yn dilyn etholiadau lleol Mai 2012 (7%).
Dywedodd dros chwarter (28%) o bobl nad oeddynt yn gwybod 'dim o gwbl' a 48% yn gwybod ‘fawr ddim’ am ddiben yr etholiadau CHTh. Dim ond 24% a ddywedodd eu bod yn gwybod 'llawer iawn' neu ‘cryn dipyn’ am yr etholiadau CHTh.
Mae rhywfaint o dystiolaeth i awgrymu bod y diffyg gwybodaeth am yr etholiadau ac ymgeiswyr wedi cael effaith fwy sylweddol ar gyfranogiad ymhlith
grwpiau sy’n draddodiadol yn fwy tebygol o bleidleisio mewn etholiadau.
'Amgylchiadau' oedd yr ail reswm mwyaf cyffredin a roddwyd gan atebwyr dros beidio â throi allan i bleidleisio (31%), gyda phobl nad oeddynt wedi pleidleisio yn Lloegr yn fwy tebygol o nodi hyn fel rheswm na'r rhai yng Nghymru (32% o'i gymharu â 20% yng Nghymru ). Roedd cyfran y rhai nad oeddynt wedi pleidleisio ym mis Tachwedd 2012 a nododd resymau amgylchiadol dros beidio â phleidleisio gryn dipyn yn llai na'r gyfran a nododd hyn fel rheswm yn dilyn etholiadau Mai 2012 (53%).
Profiad pobl o bleidleisio
Roedd pleidleiswyr yn parhau i adrodd ynghylch lefelau uchel o foddhad â'r broses o fwrw eu pleidlais. Roedd pleidleiswyr gorsafoedd pleidleisio a phleidleiswyr drwy'r post yn parhau’n gadarnhaol ynglŷn â’u profiad. Roedd bron yr holl bleidleiswyr gorsaf bleidleisio yn fodlon ar eu profiad (94%) a 96% yn dweud ei bod yn ffordd gyfleus o bleidleisio. Yn yr un modd, roedd 97% o bleidleiswyr drwy'r post yn fodlon gyda phleidleisio yn y ffordd hon, ac roedd cyfran debyg (96%) hefyd yn dweud ei bod yn ffordd gyfleus o fwrw eu pleidlais.
Dywedodd 94% o'r rhai a bleidleisiodd yn yr etholiad CHTh eu bod wedi cael y papur pleidleisio yn hawdd i'w gwblhau, gyda 77% wedi ei chael yn hawdd iawn. Hefyd dengys ein gwaith ymchwil bod pleidleiswyr wedi deall sut i gwblhau eu papurau pleidleisio yn yr etholiad maerol ym Mryste a'r refferendwm lleol yn Hartlepool.
Gwrthodwyd 155,883 o bapurau pleidleisio CHTh yn ystod y cam cyntaf o’r cyfrif - 2.8% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd. Er fod hynny’n uwch nag etholiadau diweddar a oedd yn defnyddio’r system etholiadol y cyntaf-i’r-felin, mae'r ffigwr hwn yn debyg i etholiadau eraill a gynhaliwyd o dan y system Bleidlais Atodol (SV).
Roedd y gyfran o bapurau pleidleisio a wrthodwyd ar gam dewis cyntaf y cyfrif yn amrywio o 1.7% yng Nglannau Humber i 7.2% yng Ngogledd Swydd Efrog. Mae tystiolaeth anecdotaidd gan ymgeiswyr, Swyddogion Canlyniadau Lleol a sylwedyddion yn awgrymu bod cyfran sylweddol o bapurau pleidleisio a wrthodwyd wedi cael eu difetha’n fwriadol gan etholwyr a oedd eisiau cofrestru eu pryderon am yr etholiadau, er na fu’n bosibl mesur i ba raddau y digwyddodd y math hwn o beth drwy’r data etholiadol sydd ar gael.
Ceir manylion llawn am ein canfyddiadau ymchwil ar ein gwefan
Gwybodaeth i bleidleiswyr
Roedd yr etholiadau CHTh yn etholiadau newydd, ar gyfer rôl newydd, a chawsant eu cynnal ar adeg anghyfarwydd o flwyddyn ac fe'i cynhaliwyd gan ddefnyddio’r system Bleidlais Atodol, nad oedd llawer o bleidleiswyr yn gyfarwydd â hi. Felly, roedd yn bwysig bod pleidleiswyr wedi cael digon o wybodaeth am y system bleidleisio, y materion, a'r ymgeiswyr oedd yn sefyll, er mwyn eu galluogi i wneud penderfyniad gwybodus a gallu cymryd rhan yn hyderus.
Rhedodd y Comisiwn ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd i wneud pobl yn ymwybodol o'r etholiadau ac esbonio sut i gymryd rhan ynddynt. Roedd hyn yn cynnwys anfon llyfryn gwybodaeth i bob cartref mewn ardaloedd lle'r oedd etholiadau yn cymryd lle, yn cynnwys gwybodaeth am ddyddiad yr etholiadau, y testun, a sut i lenwi'r papur pleidleisio Pleidlais Atodol.
Tra bod y wybodaeth hon yn bwysig i bleidleiswyr, y pleidiau a'r ymgeiswyr eu hunain sy'n rhoi rheswm i bobl bleidleisio; prin yw'r dystiolaeth bod ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd yn unig – p’un a ydynt yn cael eu rhedeg gan y Llywodraeth, y Comisiwn neu'r Swyddog Canlyniadau Lleol - yn rhoi cymhelliant i bleidleisio i bleidleiswyr.
Yn y rhan fwyaf o etholiadau eraill sydd ag etholaethau daearyddol mawr,3 byddai ymgeiswyr yn cael ffordd o godi ymwybyddiaeth ymysg yr holl bleidleiswyr eu bod yn sefyll ar gyfer etholiad, i gyfleu eu polisïau ac i annog pobl i bleidleisio. Mae hyn wedi cymryd ffurf ymgyrch bostio am ddim (e.e. etholiad cyffredinol y DU) neu lyfryn gydag anerchiad gan bob ymgeisydd (e.e. etholiadau maerol).Fodd bynnag, cymerodd Llywodraeth y DU benderfyniad i beidio â rhoi’r cyfle hwn i ymgeiswyr ar gyfer yr etholiadau CHTh, ac yn lle hynny dewisodd adeiladu gwefan ganolog a oedd yn cynnwys gwybodaeth gan ymgeiswyr a llinell ffôn y gallai'r cyhoedd ei defnyddio i archebu deunydd printiedig.
Deddfwriaeth ar gyfer yr etholiadau
Er fod y Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol ym mis Medi 2011, mwy na blwyddyn cyn yr etholiadau, nid oedd y ddeddfwriaeth eilaidd fanwl yn ei lle tan yn llawer nes at y diwrnod pleidleisio.
Nid oedd unrhyw reswm pam nad oedd y Llywodraeth wedi gallu osgoi cadarnhad hwyr o’r fath o’r fframwaith manwl ar gyfer cynnal yr etholiadau CHTh. Ffurfiwyd y ddeddfwriaeth gan ddefnyddio deddfwriaeth bresennol, a oedd yn gofyn am newidiadau cymharol syml i adlewyrchu gofynion penodol ar gyfer yr etholiadau CHTh. Mae angen gwell cynllunio, a dull mwy cydweithredol o ddatblygu deddfwriaeth ar draws adrannau'r Llywodraeth (a rhyngddynt), a mwy o eglurder ynglŷn â nodau polisi i gefnogi darpariaeth fwy effeithiol ac amserol o ddeddfwriaeth ar gyfer etholiadau i’r dyfodol.
Rydym yn bwriadu dychwelyd at y materion hyn yn fanylach er mwyn llywio'r broses gynllunio ar ôl mis Mai 2014 ac i wneud yn gyhoeddus ein hasesiad o gyflwr parodrwydd ar gyfer cyfuno, mewn pryd ar gyfer etholiadau yn 2016.
Cyfranogiad gan bleidleiswyr
Y lefel a ddisgwylid i gymryd rhan yn etholiadau CHTh yn Nhachwedd 2012 oedd un o'r materion mwyaf amlwg i gynrychiolwyr etholedig a sylwebwyr y cyfryngau yn ystod y misoedd yn arwain at y diwrnod pleidleisio, ac roedd y nifer isel hanesyddol o ddim ond 15.1% yn bryder i bawb sy'n poeni am ddemocratiaeth. Mae'n bwysig defnyddio'r dystiolaeth a'r data sydd ar gael o’r etholiadau hyn i ddeall pam fod cyfranogiad mor isel, er mwyn gallu dynodi p’un a allai newidiadau i bolisi a dull cyflwyno helpu i wella cyfranogiad mewn etholiadau i’r dyfodol.
Ni ddylai'r Llywodraeth gymryd yn ganiataol y bydd pobl yn awtomatig yn teimlo y gallant gymryd rhan mewn etholiadau newydd. Y diffyg canfyddedig o wybodaeth am y cystadlaethau a'r ymgeiswyr ar gyfer yr etholiadau hyn oedd y prif reswm pam yr oedd pobl yn dweud nad oeddent wedi pleidleisio. Yn benodol, dim ond 22% o bobl a ddywedodd fod ganddynt ddigon o wybodaeth am yr ymgeiswyr i allu gwneud penderfyniad gwybodus.
Nid ydym yn credu bod anghenion gwybodaeth pleidleiswyr yn yr etholiadau hyn wedi cael eu hystyried yn ddigonol wrth benderfynu a ddylid neu sut i gefnogi darparu gwybodaeth ymgeiswyr yn uniongyrchol i etholwyr neu aelwydydd. Er na fyddai darpariaeth well o wybodaeth am ymgeiswyr ynddo'i hun yn ddigon i wella nifer y pleidleiswyr, byddai'n ymdrin â'r lefelau annerbyniol o isel o wybodaeth/ymwybyddiaeth ac yn darparu gwell sail ar gyfer annog cyfranogiad mewn etholiadau i’r dyfodol.
Mae'r casgliad hwn yn awgrymu rhai goblygiadau sylweddol ar gyfer rheoli a chyflwyno’r holl etholiadau newydd a gynigir yn y dyfodol. Dylai penderfyniadau am wybodaeth i bleidleiswyr mewn etholiadau newydd gael eu cefnogi gan ddadansoddiad llawer mwy trylwyr gan lywodraethau o ba fath o wybodaeth sydd ei hangen gan bobl i gymryd rhan a gwneud dewis gwybodus, a sut y dylent allu cael gafael ar y wybodaeth honno.
Bydd angen i Lywodraeth y DU ddechrau cynllunio nawr i gynnal dadansoddiad o’r opsiynau ar gyfer darparu gwybodaeth cyn etholiadau CHTh 2016. Mae gennym set gyfoethog o ddata o'r etholiadau hyn am farn ac anghenion etholwyr, sydd ar gael i hysbysu'r dadansoddiad hwnnw. Hefyd mae angen i unrhyw gynigion ar gyfer etholiadau newydd - gan gynnwys refferenda – gael eu cefnogi gan ddadansoddiad cadarn o anghenion gwybodaeth y pleidleiswyr.
Mae data etholiadol a’n hymchwil gyda phleidleiswyr yn dangos bod y rheiny sydd fel arfer yn pleidleisio wedi cael y system etholiadol pleidlais atodol a phapur pleidleisio ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn hawdd i'w defnyddio a’u cwblhau heb wneud camgymeriadau. Er fod cyfraddau’r papurau pleidleisio a wrthodwyd yn y cam dewis cyntaf o fewn yr ystod a gofnodwyd mewn etholiadau eraill yn y DU sy’n defnyddio systemau pleidleisio blaenoriaeth4 , roeddynt yn uwch nag ar gyfer etholiadau a oedd yn defnyddio’r system etholiadol cyntaf-i’rfelin.
Mae’r nifer a chyfran y papurau pleidleisio na chawsant eu cynnwys yn y cyfrif yn awgrymu fodd bynnag bod lle’n dal i fod ar gyfer gwneud gwelliannau pellach i'r dyluniad a'r geiriad a ddefnyddir ar bapurau pleidleisio, er mwyn lleihau'r risg o etholwyr yn difetha eu papur pleidleisio yn anfwriadol.
Cyfranogiad gan ymgeiswyr ac ymgyrchwyr
Roedd llawer o'r rheolau ar gyfer cymhwyster ac enwebu ymgeiswyr yn yr etholiadau CHTh yn sylweddol wahanol i'r rhai sydd yn eu lle ar gyfer etholiadau eraill yn y DU. Nid oedd llawer o ymgeiswyr wedi deall rhai o'r gwahaniaethau hyn - yn enwedig y rheolau gwaharddiad llymach ar gyfer pobl sydd ag euogfarnau penodol blaenorol - gan arwain at ddryswch ac mewn un achos a gafodd gryn gyhoeddusrwydd, ymgeisydd yn aros ar y papur pleidleisio er gwaethaf cydnabod ei waharddiad.
Mae'r Comisiwn wedi dechrau adolygiad cynhwysfawr o'r gweithdrefnau a ddefnyddir i sefyll etholiad yn y DU. Fel rhan o'r adolygiad hwn, byddwn yn cymryd i ystyriaeth farn a phrofiad ymgeiswyr yn yr etholiadau CHTh cyntaf ym mis Tachwedd 2012. Bydd ein hadolygiad yn ystyried unrhyw rwystrau sy'n atal pobl rhag cyflwyno'u hunain fel ymgeiswyr ar gyfer etholiad, ac a oes unrhyw rwystrau diangen y gellid eu dileu. Bydd yr adolygiad yn cynnwys cymwysterau, gwaharddiadau a'r gofynion ar gyfer cael enwebiad fel ymgeisydd, yn ogystal â'r manteision a chefnogaeth ar gael i ymgeiswyr unwaith y cânt eu henwebu. Rydym yn disgwyl cyhoeddi unrhyw argymhellion ar gyfer newid deddfwriaethol erbyn diwedd 2013.
Fodd bynnag, mae un mater penodol sydd raid ymdrin ag ef cyn yr etholiadau CHTh nesaf ym mis Mai 2016. Mae angen i’r Comisiwn, pleidiau gwleidyddol, Swyddogion Canlyniadau a Llywodraeth y DU ddysgu gwersi am y ffordd orau i sicrhau bod darpar ymgeiswyr yn deall y rheolau ynghylch cymhwyster i sefyll fel ymgeiswyr. Er fod y prif gyfrifoldeb dros sicrhau fod ymgeiswyr unigol yn deall p'un a ydynt yn gymwys neu'n anghymwys i sefyll yn parhau i aros gyda hwy a'u hasiantau etholiad, mae'n amlwg bod nifer fechan ond sylweddol o bobl wedi methu â chael mynediad at gyngor cywir ynghylch a oedd y gwaharddiad sy’n ymwneud â chollfarnau am droseddau carcharol yn berthnasol i'w hamgylchiadau penodol.
Ymddiriedaeth mewn cyflenwi’r etholiadau
Ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, dynododd Llywodraeth y DU 41 o Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu (PAROs) drwy
Orchymyn Seneddol, y byddai eu rôl yn un o gyd-drefnu'r gwaith o weinyddu'r etholiad ar draws pob ardal heddlu, yn ogystal â gwasanaethu fel y Swyddog Canlyniadau Lleol yn eu hawdurdod eu hunain (gweler tudalen 73).
Roedd y strwythur rheoli statudol hwn yn wahanol i'r strwythurau rhanbarthol ledled y DU a oedd ar waith ar gyfer etholiadau Senedd Ewrop a Refferendwm mis Mai 2011 ar y system bleidleisio i etholiadau seneddol y DU, a hefyd i'r strwythur rhanbarthol a ddefnyddir ar gyfer etholiad cyffredinol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
I’r rhan fwyaf o Swyddogion Canlyniadau, yn enwedig yn Lloegr, roedd cydlynu a rheoli ffurfiol ar lefel isranbarthol yn brofiad newydd. Serch hynny, ein hasesiad yw bod y strwythur hwn yn gyffredinol wedi gweithio'n dda ar gyfer yr etholiadau hyn, ac mae Swyddogion Canlyniadau a'r Comisiwn fel ei gilydd wedi dysgu o'r profiad o etholiadau 2012 i wella rheoli a chydlynu ar gyfer etholiadau Mai 2016. Mae angen i Lywodraeth y DU hefyd sicrhau ei bod yn dysgu gwersi am ei rôl a’i dull.
Mewn dwy ardal heddlu, roedd newidiadau annisgwyl ym mhersonél rheoli awdurdod lleol yn golygu nad oedd y PARO bellach yn gallu cyflawni'r rôl. Yn y ddau achos, gweithredodd y PARO o awdurdod gwahanol i'r tîm gwasanaethau etholiadol PARO. Er fod y newidiadau yn sicr o olygu rhywfaint o risg i gyflwyniad llwyddiannus etholiadau yn yr ardaloedd hynny, nid ydym yn ymwybodol o unrhyw effaith negyddol sylweddol ar weinyddu'r etholiadau y gellir ei briodoli, yn unig neu yn rhannol, i'r newid yn y strwythur rheoli.
Ar y cyfan, yn seiliedig ar ddadansoddiad o berfformiad Swyddogion Canlyniadau Lleol a Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu, ein hasesiad yw bod agweddau gweinyddol yr etholiadau hyn wedi rhedeg yn dda. Mae ymchwil a wnaed gyda'r cyhoedd hefyd yn dangos lefelau uchel o foddhad gyda gweinyddiad yr etholiadau. O ystyried y pryderon proffil uchel am y ddarpariaeth o wybodaeth am yr etholiadau a'r ymgeiswyr a drafodwyd yn flaenorol yn yr adroddiad hwn, mae'n bwysig ailadrodd nad oedd Swyddogion Canlyniadau Lleol a Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu eu hunain yn gyfrifol am yr agweddau hynny ar yr etholiadau.
Serch hynny, rydym wedi nodi dwy agwedd benodol o weinyddu'r etholiadau y mae angen eu hadolygu yn fanylach er mwyn nodi gwelliannau ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn y dyfodol. Yn gyntaf, mae angen i bleidleiswyr drwy'r post gael y cyfarwyddiadau cywir ar gyfer marcio eu papurau pleidleisio yn seiliedig ar y system bleidleisio a ddefnyddir yn eu hardal heddlu (cyntaf-i’r-felin neu bleidlais atodol). Yn ail, dylai Swyddogion Canlyniadau Lleol a Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu adolygu a gwerthuso eu cynlluniau ar gyfer rheoli'r dilysu a chyfrif pleidleisiau i nodi gwelliannau effeithlonrwydd cyn yr etholiadau CHTh nesaf.
Cymerodd nifer o gyfrifiadau lawer mwy o amser na'r disgwyl i'w cwblhau. Fodd bynnag, gall y nifer a bleidleisiodd yn etholiadau Mai 2016 fod yn uwch nag ym mis Tachwedd 2012, yn enwedig os yw'r etholiadau CHTh yn cael eu cyfuno gydag etholiadau eraill a drefnwyd, a bydd gweinyddiaeth y cyfrif yn fwy cymhleth o ganlyniad i'r cyfuniad. Bydd Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu a Swyddogion Canlyniadau Lleol angen sicrhau bod eu prosesau cyfrif mor gywir ac effeithlon â phosibl, er mwyn lleihau'r risg o ganfyddiadau negyddol am ansawdd a chymhwysedd gweinyddiaeth etholiadol yn gyffredinol.
Mae'r Comisiwn wedi dechrau gweithio ar ddadansoddiad o'r gweithdrefnau mwyaf effeithlon ar gyfer rheoli'r cyfrif yn yr etholiadau mawr, gyda golwg ar nodi’r adnoddau sydd eu hangen yn fwy manwl gywir, a deall sut mae gwariant yn perthnasu i’r gweithgareddau manwl yr ymgymerir â hwy yng nghyswllt prosesau dilysu a chyfrif a pha mor effeithiol y maent wedi cael eu cyflawni. Byddwn yn cynnal astudiaethau achos yn yr etholiadau a drefnwyd yn 2013 a 2014 er mwyn casglu ac asesu gwybodaeth ariannol a gwybodaeth arall i’n galluogi i ddatblygu model cyfrif cadarn i'w gyhoeddi mewn da bryd ar gyfer ei ddefnyddio yn etholiad cyffredinol Seneddol y DU yn 2015.
Dim dylanwad gormodol
Er gwaethaf ymdrechion rhagweithiol gan Swyddogion Canlyniadau a'r heddlu i leihau'r risg o gamymddygiad etholiadol, mae cyferbyniad pryderus rhwng lefelau isel o achosion a gofnodwyd o gamymddwyn etholiadol honedig, a lefelau uwch o bryder am dwyll etholiadol a fynegwyd gan ymatebwyr yn ein harolwg ar ôl yr etholiad. Serch hynny, mae'n bwysig cydnabod mai ychydig iawn o honiadau sydd wedi cael eu cofnodi mewn perthynas ag etholiadau CHTh Tachwedd 2012.
Mae'r Comisiwn wedi dechrau adolygiad cynhwysfawr o wendidau posibl o fewn y system bleidleisio a phrosesau presennol, a fydd yn anelu at sicrhau consensws am y cydbwysedd gorau rhwng sicrhau hygrededd a hygyrchedd y prosesau etholiadol yn y DU. Bydd yn ystyried a oes angen unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth neu arferion er mwyn sicrhau hyder yn uniondeb etholiadau yn y DU. Rydym yn bwriadu cyhoeddi'r adolygiad hwn mewn pryd i ddeddfwriaeth gael ei dwyn ymlaen yn ystod oes y Senedd DU hon os oes angen.
Rydym hefyd wedi cytuno ar god ymddygiad newydd ar gyfer ymgyrchwyr gyda’r pleidiau’n cael eu cynrychioli ar Banel Pleidiau Gwleidyddol Senedd y DU. Mae'r cod wedi cael ei anfon at yr holl bleidiau gwleidyddol cofrestredig ym Mhrydain Fawr, a bydd Swyddogion Canlyniadau yn dwyn y ddogfen i sylw'r holl ymgeiswyr a'r pleidiau sy’n ymladd etholiadau o fis Mai 2013 ymlaen. Bydd unrhyw bryderon bod y cod wedi ei dorri yn cael ei godi gyda'r blaid berthnasol neu ymgyrchydd os yw'n briodol, a byddwn yn cytuno ar gamau priodol i unioni neu atal unrhyw doriad rhag
digwydd eto. Byddwn yn cyhoeddi canlyniad unrhyw doriadau o'r fath yn ein hadroddiadau statudol ar gyfer etholiadau i’r dyfodol.
Argymhellion
Argymhelliad 1: Gwella cynllunio a rheoli deddfwriaeth ar gyfer etholiadau i’r dyfodol
Ar gyfer etholiadau i’r dyfodol lle bo angen deddfwriaeth newydd neu ddiwygiedig, rhaid i'r adran berthnasol o'r Llywodraeth sy'n gyfrifol am yr etholiadau hynny ddysgu o brofiad etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012, a rhoi yn ei le gwell cynllunio tymor canolig ar gyfer cyflwyno’r holl ddeddfwriaeth angenrheidiol. Heb fod yn hwyrach na dwy flynedd cyn y diwrnod pleidleisio ar gyfer unrhyw etholiadau a drefnwyd, dylai'r Gweinidog sy'n gyfrifol am y polisi etholiadau amlinellu cynllun ynglŷn â sut y maent yn bwriadu rheoli datblygiad polisi, drafftio a chraffu’r prosesau deddfwriaethol sy'n ofynnol i gwrdd â'r cerrig milltir allweddol canlynol a dyddiadau cau:
- Cadarnhad (boed hynny drwy Gydsyniad Brenhinol i ddeddfwriaeth sylfaenol neu osod is-ddeddfwriaeth i'w chymeradwyo gan y Senedd) o'r cyllid ymgyrch a rheolau gwario o leiaf dri mis cyn cychwyn y cyfnod a reoleiddir.
- Lle mae etholiadau'n cael eu cynnal am y tro cyntaf, neu lle mae'r cyllid ymgyrch a rheolau gwariant yn sylweddol wahanol i'r rhai mewn etholiadau blaenorol, dylai'r rheolau gael eu cadarnhau o leiaf chwe mis cyn cychwyn y cyfnod a reoleiddir.
- Cadarnhad o'r holl reolau manwl ar gyfer cynnal etholiadau a chyllid ar gyfer eu cyflwyno (gan gynnwys unrhyw orchmynion sydd eu hangen i nodi papurau pleidleisio a ffurflenni dwyieithog yng Nghymru) ddim llai na chwe mis cyn y diwrnod pleidleisio.
Heb fod yn hwyrach na 18 mis cyn y diwrnod pleidleisio, byddwn yn adolygu cynigion y Llywodraeth ac yn cyhoeddi adroddiad yn nodi ein hasesiad o'r cynnydd tuag at gwrdd â'r cerrig milltir a therfynau amser.
Bydd yn arbennig o bwysig i’r Swyddfa Gartref amlinellu’n glir erbyn Mai 2014 sut y bydd yn gweithio gyda Swyddfa'r Cabinet a Llywodraeth Cymru i reoli'r gwaith o ddatblygu unrhyw newidiadau i'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ym mis Mai 2016, fel bod yr heriau o gyfuno’r etholiad gyda'r etholiad cyffredinol a drefnwyd ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol ac etholiadau llywodraeth leol yn Lloegr yn cael sylw.
Byddwn yn adolygu cynlluniau Llywodraeth y DU erbyn mis Tachwedd 2014 ac yn cyhoeddi ein hasesiad o gynnydd tuag at gyflawni'r cerrig milltir allweddol a'r terfynau amser ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ym mis Mai 2016.
Argymhelliad 2: Gwella mynediad i etholwyr at wybodaeth am ymgeiswyr mewn etholiadau CHTh i’r dyfodol
Dylai Llywodraeth y DU ddiwygio paragraff 52 ac Atodlen 8 y Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 i sicrhau bod etholwyr yn derbyn gwybodaeth brintiedig am ymgeiswyr sy'n sefyll am etholiad fel CHTh yn eu hardal heddlu. Dylai hyn fod ar ffurf llyfryn gydag anerchiad gan bob ymgeisydd, a anfonir gan Swyddog Canlyniadau’r Awdurdod Heddlu perthnasol i bob cartref yn ardal yr awdurdod heddlu.
Dylai Llywodraeth y DU sicrhau bod y newidiadau hyn yn cael eu gwneud i Orchymyn 2012 erbyn mis Tachwedd 2015, yn unol â'r amserlenni a nodir yn ein Hargymhelliad 1 uchod ar gyfer gwella cynllunio a rheoli deddfwriaeth i etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ym mis Mai 2016. Ar gyfer unrhyw etholiadau newydd sy'n cael eu cynnig yn y dyfodol, dylai'r llywodraeth berthnasol ei gwneud yn glir ar adeg cyflwyno deddfwriaeth sut y byddant yn sicrhau bod etholwyr yn cael mynediad priodol at wybodaeth am ymgeiswyr.
Wrth wneud hyn, dylai'r llywodraeth berthnasol yn tynnu ar ddata a gasglwyd gan y Comisiwn Etholiadol ac eraill o'r etholiadau Tachwedd 2012, a dylent ystyried:
- I ba raddau y mae gan etholwyr fynediad dibynadwy a hawdd i ffynonellau cyhoeddedig ar-lein neu rai nad ydynt yn ffisegol o wybodaeth am ymgeiswyr.
- I ba raddau y gall ymgeiswyr eu hunain yn ymarferol gyfleu negeseuon yn uniongyrchol i etholwyr, gan gymryd i ystyriaeth daearyddiaeth yr ardaloedd heddlu a'r cyfyngiadau statudol ar wariant ymgyrch.
- Beth yw'r ffordd orau i roi gwybod i etholwyr am sut y gallant gael gafael ar wybodaeth am ymgeiswyr, gan gynnwys symleiddio'r broses gymaint ag y bo modd i etholwyr.
Argymhelliad 3: Sicrhau gwybodaeth ymwybyddiaeth y cyhoedd cost-effeithiol a niwtral am etholiadau i’r dyfodol
Rhedodd y Swyddfa Gartref a'r Comisiwn Etholiadol ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd cyn yr etholiad.
Er fod y ddwy ymgyrch wedi sicrhau ymwybyddiaeth o'u negeseuon priodol, byddai wedi bod yn fwy cost effeithiol cael un ymgyrch integredig gan ffynhonnell annibynnol a oedd yn cynnwys ymwybyddiaeth ynglŷn â'r etholiadau, diben yr etholiadau, y dyddiad, gwybodaeth ymgeiswyr a'r system bleidleisio.
Rydym wedi dangos ein profiad a'n gallu i ddarparu gweithgareddau ymwybyddiaeth y cyhoedd cost-effeithiol a niwtral mewn amrywiaeth eang o etholiadau a refferenda'r DU. Dylai Seneddau barhau i roi cyfrifoldeb statudol i'r Comisiwn Etholiadol i ddarparu gwybodaeth i bleidleiswyr am etholiadau a sut i bleidleisio ynddynt, ac ni fyddai'n ddefnydd priodol na synhwyrol o arian cyhoeddus i lywodraethau ddyblygu’r gweithgaredd hwnnw.
Ni ddylai unrhyw lywodraeth gomisiynu gweithgaredd ymwybyddiaeth y cyhoedd ar gyfer etholiadau na refferenda i’r dyfodol, gan gynnwys etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ym mis Mai 2016.
Argymhelliad 4: Sicrhau bod papurau pleidleisio ar gyfer etholiadau i’r dyfodol yn hygyrch ac wedi'u cynllunio'n dda
Dylai Llywodraeth y DU adolygu'r opsiynau ar gyfer dyluniad a geiriad y papurau pleidleisio ar gyfer etholiadau i’r dyfodol sy’n defnyddio'r system etholiadol pleidlais atodol, er mwyn lleihau'r risg o bapurau pleidleisio ddim yn cael eu cyfrif oherwydd eu bod wedi cael eu llenwi'n anghywir.
Dylai adolygiad y Llywodraeth wneud y canlynol:
- Ystyried tystiolaeth o'r ystod o etholiadau a gynhaliwyd a ddefnyddiodd y system etholiadol pleidlais atodol, gan gynnwys yr etholiadau awdurdod lleol, maerol a maer Llundain, ac etholiadau CHTh Tachwedd 2012.
- Ystyried y dyluniadau papur pleidleisio dwy golofn sengl (gan ddefnyddio rhifolion i gofnodi’r dewis cyntaf a'r ail) yn ogystal â yluniadau colofn ddwbl (gan ddefnyddio croesau).
- Ystyried y cyfuniadau posibl o etholiadau a gynhelir sy’n defnyddio’r system etholiadol pleidlais atodol ar yr un pryd â'r rheiny sy'n defnyddio'r system cyntaf-i’r-felin.
- Cynnwys ymchwil gyda phleidleiswyr a mewnbwn gan arbenigwyr iaith blaen ac arbenigwyr hygyrchedd er mwyn sicrhau bod dyluniad a geiriad y papurau pleidleisio ar gyfer etholiadau i’r dyfodol yn syml ac yn hawdd i'w ddefnyddio gan ystod mor eang â phosibl o bobl.
Dylai Llywodraeth y DU gyhoeddi canlyniadau ei dadansoddiad ac ymgynghori ar unrhyw gynigion ar gyfer newidiadau i ddyluniad a geiriad y papurau pleidleisio ar gyfer etholiadau a gynhelir gan ddefnyddio’r system etholiadol pleidlais atodol heb fod yn hwyrach na mis Tachwedd 2014, 18 mis cyn y diwrnod pleidleisio ar gyfer etholiadau CHTh a drefnwyd ym mis Mai 2016.
Os nad yw'r Llywodraeth yn penderfynu cynnal yr adolygiad hwn, byddwn yn cynnal ein dyluniad ac ymchwil ein hunain gyda phleidleiswyr ar ddyluniadau papur pleidleisio ar gyfer etholiadau a gynhelir ar y system pleidlais atodol. Byddem yn cychwyn ar y gwaith erbyn mis Hydref 2013 ac yn cyhoeddi unrhyw gynlluniau a argymhellir ar gyfer ymgynghori erbyn mis Tachwedd 2014.
Dylai unrhyw newidiadau i'r ffurflen ragnodedig ar gyfer y papur pleidleisio sydd i'w ddefnyddio yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ym mis Mai 2016 fod yn glir (boed mewn deddfwriaeth sylfaenol sydd wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol neu ddeddfwriaeth eilaidd sydd wedi ei gosod gerbron y Senedd) heb fod yn hwyrach na dechrau Tachwedd 2015 , chwe mis cyn y diwrnod pleidleisio ar gyfer yr etholiadau CHTh nesaf.
Dylai'r Llywodraeth sicrhau bod ffurflenni a gynhyrchir yn unol â'r ddeddfwriaeth yn iawn a chywir cyn gynted â phosibl, a sicrhau y gellir eu defnyddio ar gyfer y set nesaf o etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn 2016 ac unrhyw isetholiadau a allai ddigwydd cyn hynny.
Argymhelliad 5: Sicrhau bod ymgeiswyr yn cael mynediad i ganllawiau a chyngor ar y rheolau ar sefyll etholiad fel CHTh
Bydd y Comisiwn yn gweithio gyda Swyddogion Canlyniadau, pleidiau gwleidyddol a Llywodraeth y DU i ddatblygu cynigion i sicrhau bod yr holl ymgeiswyr ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu y dyfodol yn parhau i gael mynediad at ganllawiau a chyngor am sefyll mewn etholiad.
Yn benodol, byddwn yn adolygu adborth a chanlyniadau ein harolwg o ymgeiswyr er mwyn nodi cyfleoedd i ddarparu mwy o gyngor penodol ynghylch yr amgylchiadau lle y gallai pobl fod yn destun i anghymhwysiad ar sail euogfarn flaenorol.
Byddwn yn gweithio gydag eraill i ddatblygu cynigion i ychwanegu at y canllawiau a chyngor yr ydym yn eu darparu ar gyfraith etholiadol, gan sicrhau y gellir gwneud arbenigedd ar agweddau perthnasol o’r gyfraith cyfiawnder troseddol ar gael i'r rhai sydd ei angen.
Dylai Llywodraeth y DU ystyried a oes angen eglurhad pellach o ddarpariaethau ar gyfer llenwi swydd wag Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i gynnwys amgylchiadau lle y canfyddir bod ymgeisydd yn anghymwys ar ôl y dyddiad cau ar gyfer tynnu enwebiadau’n ôl ond cyn y bleidlais. Dylai'r Llywodraeth sicrhau bod unrhyw newidiadau yn y gyfraith yn cael eu gwneud er mwyn i'r rheolau fod yn glir erbyn mis Tachwedd 2015, chwe mis cyn yr etholiadau CHTh nesaf.
Argymhelliad 6: Sicrhau rheolaeth a chydlynu effeithiol ar gyfer etholiadau CHTh i’r dyfodol
Dylai Llywodraeth y DU adolygu ei dull o gefnogi rheoli a chydlynu etholiadau CHTh i’r dyfodol, gan dynnu ar y gwersi a nodwyd yn yr adroddiad hwn ac unrhyw adborth arall gan Swyddogion Canlyniadau lleol a Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu (PAROs).
Dylai Llywodraeth y DU ymgynghori â Swyddogion Canlyniadau, cymdeithasau proffesiynol, y Comisiwn a Llywodraeth Cymru er mwyn datblygu cynllun cynhwysfawr ar gyfer rheoli a chydlynu etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu Mai 2016 sy’n cynnwys:
- Penodi Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu. Trefniadau wrth gefn ar gyfer ardaloedd lle mae Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu penodedig yn gadael yr awdurdod lle buont yn gweithredu fel Swyddog Canlyniadau.
- Cymorth a gwybodaeth i Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu.
Dylai Llywodraeth y DU gyhoeddi ei chynllun ar gyfer rheoli a chydlynu etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu Mai 2016 erbyn mis Mai 2014, yn unol â'r amserlenni a nodir yn ein Hargymhelliad 1 uchod ar gyfer gwella deddfwriaeth cynllunio a rheoli ar gyfer yr etholiadau CHTh Mai 2016.
Argymhelliad 7: Gwella gweinyddu etholiadau CHTh i’r dyfodol
Dylai Swyddogion Canlyniadau yng Nghymru a Lloegr yn sicrhau eu bod yn adolygu ac yn gwerthuso eu dull o gynllunio a chyflwyno etholiadau CHTh 2012, er mwyn nodi beth weithiodd yn dda yn ogystal â meysydd lle gellid gwella perfformiad.
Bydd y Comisiwn yn adolygu gweithdrefnau ar gyfer rheoli'r cyfrif mewn etholiadau mawr, gyda golwg ar nodi yn fwy manwl gywir yr adnoddau sydd eu hangen a deall sut mae gwariant yn perthnasu i’r gweithgareddau manwl a gynhaliwyd.
Rydym hefyd wedi dynodi’n flaenorol yr angen i adolygu sut y dylai ein canllawiau a fframwaith safonau perfformiad weithredu ar gyfer etholiadau lle mae deiliaid swyddi statudol â grym i gyfarwyddo Swyddogion Canlyniadau lleol.
Byddwn yn cyhoeddi unrhyw ganllawiau diwygiedig, safonau perfformiad a deunyddiau ategol ar gyfer etholiadau CHTh 2016 heb fod yn hwyrach na Rhagfyr 2015.
Lawrlwythwch ein hadroddiad llawn
- 1. Y Glymblaid: ein rhaglen ar gyfer llywodraeth; Swyddfa’r Cabinet, tudalen 13 http://www.cabinetoffice.gov.uk/sites/default/files/resources/coalition_programme_for_government.pdf ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012; Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (Cyfrifoldebau Swyddogion Canlyniadau Lleol a Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu) 2012; Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (Ffurflenni Cymraeg) 2012. ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Cyfleusterau bostio rhadbost neu lyfrynnau yn cael eu darparu i ymgeiswyr mewn etholiadau i Senedd y DU, Senedd Ewrop, Maer Llundain, a Chynulliad Gogledd Iwerddon a chynghorau lleol yng Ngogledd Iwerddon ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Gan gynnwys y system Bleidlais Atodol a systemau Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy. ↩ Back to content at footnote 4