Summary

Mae etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (CHTh) yn cael eu cynnal yng Nghymru a Lloegr ar 2 Mai 2024.

Mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn sicrhau bod yr heddlu lleol yn eu hardal yn diwallu anghenion y gymuned.

Mae 39 o ardaloedd heddlu ar draws Cymru a Lloegr gyda Chomisiynydd Heddlu a Throseddu. Mae gan bob ardal un comisiynydd.

Yn Llundain Fwyaf, Manceinion Fwyaf a Gorllewin Swydd Efrog, mae'r maer yn dal yr un cyfrifoldebau â Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Pwy all bleidleisio yn yr etholiadau hyn

Os ydych yn gymwys i bleidleisio ac wedi cofrestru i bleidleisio mewn ardal sydd â Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, gallwch bleidleisio yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.

Gwiriwch a ydych yn gymwys i bleidleisio.

Sut i bleidleisio

Byddwch yn derbyn un papur pleidleisio. Bydd y papur pleidleisio yn rhestru’r ymgeiswyr ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Dim ond dros un ymgeisydd y byddwch yn gallu pleidleisio, drwy roi croes [X] yn y blwch wrth ymyl eich dewis. Yr ymgeisydd sydd â'r gyfran fwyaf o'r pleidleisiau sy'n ennill.

Gallwch ddod o hyd i’ch gorsaf bleidleisio leol a phwy yw'r ymgeiswyr yn eich ardal trwy roi eich cod post yn ein hadnodd chwilio. Gallwch wneud cais i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy.