Adroddiad yr Ymchwiliad: y broses cofrestru ar gyfer pleidleisio i ddinasyddion yr UE sy'n preswylio yn y DU ar gyfer etholiadau Senedd Ewrop a gynhelir yn y DU

Overview

Cafodd rhai o ddinasyddion aelod-wladwriaethau eraill yr UE a oedd yn byw yn y DU, ac a oedd am bleidleisio yn etholiadau Senedd Ewrop yn 2019 yn y DU, anawsterau wrth geisio sicrhau eu bod wedi eu cofrestru i bleidleisio. Yn y pen draw, golygodd hyn nad oedd rhai pobl oedd â hawl i bleidleisio ac a oedd am bleidleisio yn etholiadau Senedd Ewrop yn y DU yn gallu gwneud hynny.

Gwnaethom edrych ar y broses gofrestru ar gyfer dinasyddion yr UE a oedd yn preswylio yn y DU mewn perthynas ag etholiadau Senedd Ewrop, a'r hyn a ddigwyddodd yn ymarferol cyn y diwrnod pleidleisio ym mis Mai 2019 i alluogi dinasyddion yr UE i gofrestru i bleidleisio ac i bleidleisio yn y DU, Gwnaethom hefyd gasglu tystiolaeth o'r effaith ar ddinasyddion yr UE a'u gallu i gofrestru a phleidleisio yn etholiadau Senedd Ewrop yn y DU.

Mae'n nodi yn fanwl:

  • y broses ar gyfer cofrestru i bleidleisio i ddinasyddion Aelod-wladwriaethau eraill yr UE
  • y cefndir i'r polisi a'r ddeddfwriaeth
  • beth a wnaeth y Comisiwn Etholiadol, Llywodraeth y DU a Swyddogion Cofrestru Etholiadol i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r broses gofrestru i ddinasyddion yr UE
  • data am gofrestru dinasyddion yr UE 

Ein canfyddiad

I grynhoi, gwnaeth yr adborth a'r sylwadau a gawsom gan ddinasyddion yr UE, eu teuluoedd a chynrychiolwyr etholedig amlygu tri maes a oedd yn achosi pryder:

  • nid oeddent wedi bod yn ymwybodol o'r angen i gwblhau datganiad ychwanegol yn ogystal â chais i gofrestru i bleidleisio
  • nid oeddent wedi gallu cyflwyno datganiad mewn pryd cyn y dyddiad cau a nodir yn y gyfraith
  • roeddent yn credu eu bod wedi cyflwyno datganiad mewn pryd, ond ni chawsant eu cynnwys ar y gofrestr etholiadol ac nid oeddent yn gallu pleidleisio

Nid yw'n bosibl cadarnhau'n derfynol sawl un yr effeithiwyd arnynt. Mae hyn am nad oes ffynonellau data cynhwysfawr ar gael i ni nac unrhyw gorff arall a fyddai'n dweud wrthym sawl pleidleisiwr oedd am gofrestru ac a fethodd â gwneud hynny, neu a fyddai'n dweud wrthym sawl un a aeth i orsaf bleidleisio ar 23 Mai ond na chafodd bapur pleidleisio.

Mae data a ddarparwyd gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar ôl yr etholiadau yn dangos, yn yr wythnosau cyn y dyddiad cau, fod mwy na 40,000 o ddinasyddion yr UE wedi cyflwyno datganiad a gafodd ei dderbyn a'i brosesu, a oedd yn golygu eu bod, felly, yn gallu pleidleisio yn y DU yn etholiadau Senedd Ewrop yn 2019.

At ei gilydd, cafodd tua 450,000 eu cofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau Senedd Ewrop hyn o ganlyniad i ddychwelyd datganiad ('ffurflen UC1'), sef ychydig dros un rhan o bump o ddinasyddion o Aelod-wladwriaethau eraill yr UE, a oedd wedi cael eu cynnwys yng nghofrestr llywodraeth leol Mai 2019.

Ni chyflwynodd tua phedwar o bob pump o ddinasyddion yr UE (1.7 miliwn) a oedd wedi cofrestru i bleidleisio'n flaenorol, ddatganiad ychwanegol mewn pryd i gael eu cofrestru i bleidleisio yn etholiadau Seneddol Ewrop yn y DU.

Efallai bod rhai o'r bobl hyn wedi dymuno pleidleisio yn y DU ond nad oeddent wedi gallu cyflwyno datganiad mewn pryd cyn y dyddiad cau, er nad oes gennym unrhyw ddata sy'n ein galluogi i asesu sawl un oedd yn y sefyllfa hon.

Yn yr un modd, nid yw'n bosibl asesu faint o'r bobl hyn a ddewisodd bleidleisio yn Aelod-wladwriaeth yr UE lle roedd ganddynt ddinasyddiaeth, neu a benderfynodd beidio â phleidleisio yn yr etholiadau o gwbl. 

Dinasyddion yr UE nad oeddent yn ymwybodol o'r gofyniad o ran datganiad

Dinasyddion yr UE nad oeddent yn ymwybodol o'r gofyniad o ran datganiad

Y pryder a godwyd amlaf oedd nad oedd rhai o ddinasyddion Aelod-wladwriaethau eraill yr UE yn ymwybodol bod angen iddynt gwblhau datganiad ychwanegol er mwyn cael eu cynnwys ar y gofrestr o etholwyr Senedd Ewrop.

Roedd hyn yn cyfrif am dros hanner yr holl ymholiadau a gawsom gan ddinasyddion yr UE a daeth y rhan fwyaf ohonynt oddi wrth aelod o'r teulu a oedd yn holi ar eu rhan. Roedd yn cynnwys pobl:

  • a oedd wedi cwblhau cais i gofrestru i bleidleisio yn llwyddiannus (fel etholwr llywodraeth leol), ond nad oeddent wedi sylweddoli bod angen datganiad pellach er mwyn gallu pleidleisio yn etholiadau Senedd Ewrop yn y DU
  • a ddywedodd na wnaeth y gydnabyddiaeth, a oedd yn cadarnhau eu bod wedi'u cofrestru i bleidleisio fel etholwyr llywodraeth leol, ddweud wrthynt fod angen datganiad pellach, ac felly eu bod wedi tybio eu bod hefyd wedi'u cofrestru i bleidleisio yn etholiadau Senedd Ewrop yn y DU
  • a gafodd ffurflen datganiad gan eu Swyddog Cofrestru Etholiadol, ond nad oeddent yn deall bod angen iddynt ei chwblhau er mwyn gallu pleidleisio yn etholiadau Senedd Ewrop yn y DU

Dinasyddion yr UE nad oeddent wedi cyflwyno datganiad mewn pryd

Dinasyddion yr UE nad oeddent wedi cyflwyno datganiad mewn pryd

Daeth nifer llai o ymholiadau gan ddinasyddion o Aelod-wladwriaethau eraill yr UE a oedd wedi deall y byddai'n rhaid iddynt gwblhau datganiad ar wahân er mwyn cael eu cynnwys ar y gofrestr o etholwyr Senedd Ewrop, ond nad oeddent wedi gallu ei gyflwyno cyn y dyddiad cau, sef 7 Mai 2019. Roedd hyn yn cynnwys pobl:

  • a ddywedodd nad oeddent wedi cael ffurflen datganiad gan eu Swyddog Cofrestru Etholiadol ond eu bod wedi dod i wybod am y gofyniad o ffynhonnell arall; a oedd wedi lawrlwytho, cwblhau a chyflwyno'r ffurflen drwy'r post, ond wedi canfod nad oedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol wedi ei derbyn cyn y dyddiad cau
  • a ddywedodd nad oeddent wedi cael ffurflen datganiad gan eu Swyddog Cofrestru Etholiadol ond eu bod wedi dod i wybod am hynny drwy gysylltu â'u Swyddog Cofrestru Etholiadol ynghylch materion eraill ond roedd yn rhy hwyr i allu cyflwyno'r datganiad
  • a oedd wedi cael ffurflen datganiad gan eu Swyddog Cofrestru Etholiadol, ond nad oeddent wedi cael digon o amser i'w chwblhau a'i hanfon at y Swyddog Cofrestru Etholiadol drwy'r post cyn y dyddiad cau

Dinasyddion yr UE a gyflwynodd ddatganiad mewn pryd ond a oedd yn dal wedi methu pleidleisio

Dinasyddion yr UE a gyflwynodd ddatganiad mewn pryd ond a oedd yn dal wedi methu pleidleisio

Gwnaeth tua un rhan o chwech o'r ymholiadau, bron pob un a dderbyniwyd yn uniongyrchol gan ddinasyddion o Aelod-wladwriaethau eraill yr UE, dynnu sylw at y ffaith eu bod wedi gallu cwblhau a chyflwyno datganiad cyn y dyddiad cau, sef 7 Mai 2019, ond eu bod yn dal wedi methu pleidleisio. Roedd hyn yn cynnwys pobl:

  • a oedd wedi cwblhau a chyflwyno'r ffurflen datganiad drwy e-bost neu drwy ddefnyddio'r gwasanaeth ar-lein, ond a ddywedodd nad oedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn fodlon derbyn cyflwyniad yn y ffordd honno
  • a oedd yn credu eu bod wedi cwblhau a chyflwyno'r ffurflen datganiad drwy'r post cyn y dyddiad cau, ond a ddywedodd fod y Swyddog Cofrestru Etholiadol wedi honni nad oedd wedi derbyn y ffurflen erbyn y dyddiad cau
  • a oedd yn credu eu bod wedi cwblhau a chyflwyno'r ffurflen datganiad drwy'r post cyn y dyddiad cau, ond a ddywedodd na chawsant eu cynnwys ar y gofrestr o etholwyr Senedd Ewrop ar y diwrnod pleidleisio oherwydd gwall clercol gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol.