Profi cwestiwn refferendwm yr UE
Overview
Gwnaethom sylwadau ar eglurder geiriad arfaethedig cwestiwn y refferendwm. Gwnaethom argymell y dylai'r cwestiwn gael ei newid i'r canlynol:
"A ddylai'r Deyrnas Unedig aros yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd neu adael yr Undeb Ewropeaidd?”
Aros yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd
Gadael yr Undeb Ewropeaidd
Derbyniodd y Llywodraeth a Senedd y DU ein newidiadau yn Nhŷ'r Cyffredin ar 7 Medi 2015.
Geiriad arfaethedig cwestiwn y refferendwm
Geiriad arfaethedig cwestiwn y refferendwm yn Neddf Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd oedd:
"A ddylai'r Deyrnas Unedig aros yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd?"
"Should the United Kingdom remain a member of the European Union?"
Yr opsiynau ar gyfer ymateb i'r cwestiwn hwn oedd 'dylai' neu 'na ddylai'.
Sut y gwnaethom asesu geiriad arfaethedig cwestiwn y refferendwm
Ystyriwyd geiriad arfaethedig y cwestiwn o safbwynt y pleidleiswyr. Roeddem am weld a oedd wedi'i ysgrifennu mewn ffordd y gallai'r pleidleiswyr ei ddeall a'i ateb yn hawdd.
Yn ogystal ag ystyried y cwestiwn ein hunain, gwnaethom gasglu tystiolaeth er mwyn ein helpu gyda'n hasesiad. Roedd yn cynnwys:
- cynnal ymchwil gyda phleidleiswyr o gefndiroedd gwahanol ac o feysydd gwahanol, drwy grwpiau ffocws a chyfweliadau unigol
- gofyn am gyngor gan arbenigwyr ar hygyrchedd ac iaith glir
- siarad â grwpiau ymgyrchu posibl, grwpiau ac unigolion eraill â diddordeb, gan gynnwys pleidiau gwleidyddol a all ddymuno ymgyrchu yn y refferendwm
Ein canfyddiad
Ein canfyddiad oedd bod y cwestiwn wedi'i ysgrifennu mewn iaith glir ac roedd yn hawdd i'r bobl ei ddeall a'i ateb.
Fodd bynnag, roedd gennym bryderon fod y cwestiwn yn annog pleidleiswyr i ystyried un ymateb yn fwy ffafriol na'r llall. Gallai hyn godi pryderon am ddilysrwydd canlyniad y refferendwm.
Nododd ein hymchwil gyda'r cyhoedd hefyd fod angen i'r cwestiwn wneud statws presennol y DU fel aelod o'r UE yn glir.
Awgrymodd ein hasesiad ei bod yn bosibl gofyn cwestiwn na fyddai'n peri pryderon am niwtraliaeth, a fyddai hefyd yn cael ei ddeall yn hawdd, drwy gynnwys y ddau ganlyniad – aros a gadael – yn y cwestiwn a defnyddio'r rhain fel yr opsiynau ateb yn hytrach nag ie/nage.
Ein hadroddiadau
Gallwch lawrlwytho ein hadroddiadau.
Ymchwil flaenorol
Gwnaethom hefyd gynnal ymchwil i gwestiwn ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd yn 2013, ar ôl i Fil Aelod Preifat ei sbarduno.
Y cwestiwn yn y Bil hwn oedd:
“Do you think that the United Kingdom should be a member of the European Union?”
Yr opsiynau ar gyfer ymateb i'r cwestiwn hwn oedd 'yes' neu 'no'.
Roeddem o'r farn y gallai'r cwestiwn hwn arwain at gamddealltwriaeth, am nad oedd rhai pobl yn glir ynghylch statws presennol y DU fel aelod o'r UE.
Roedd newid y cwestiwn er mwyn egluro statws presennol y DU fel aelod a chadw ateb ydw neu nac ydw fel yr opsiynau ymateb yn gwneud i rai pobl feddwl bod y cwestiwn yn dangos tueddfryd.
Gwnaethom bennu dau argymhelliad i'r Senedd yn ein hadroddiad.
Os bydd y Senedd am gadw ie/nage fel yr opsiynau ymateb, gwnaethom argymell y dylid newid y cwestiwn i'r canlynol:
a) "A ddylai'r Deyrnas Unedig aros yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd?"
Os bydd y Senedd yn penderfynu peidio â chadw cwestiwn ie/nage, gwnaethom argymell y canlynol:
b) "A ddylai'r Deyrnas Unedig aros yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd neu adael yr Undeb Ewropeaidd?"
Gwnaethom hefyd gynnal ymchwil ychwanegol i ystyried unrhyw faterion sy'n deillio o beidio â defnyddio cwestiwn 'Dylai' a 'Na ddylai'.
Roedd hyn yn cadarnhau bod cwestiwn b) uchod yn glir ac yn syml i'r pleidleiswyr ac mai hyn oedd y geiriad mwyaf niwtral o'r amrywiaeth o opsiynau y gwnaethom eu hystyried a'u profi.
Ein hadroddiadau
Gallwch lawrlwytho ein hadroddiadau.