Oriau estynedig (y tu allan i 9am – 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener)
Ar agor o 7am ar ddydd Mawrth; yn cau am 10pm ar ddydd Iau
Cyfrif
Cwblhawyd ar unwaith ar ôl i'r mannau llofnodi gau am 5pm
Llofnodi'r ddeiseb
Er mwyn i ddeiseb adalw arwain at adalw Aelod Seneddol (AS), mae'n rhaid i 10% o'r bobl sy'n gymwys i'w llofnodi wneud hynny o fewn y cyfnod llofnodi chwe wythnos. Gallwn weld o ddata'r ddeiseb fod y mwyafrif o'r rhieni a lofnododd wedi gwneud hynny o fewn y pythefnos cyntaf ar ôl i'r ddeiseb agor.
Nifer y bobl a oedd yn gymwys i lofnodi
69,673
Nifer y llofnodion yr oedd eu hangen er mwyn adalw'r AS
6,967
Nifer y bobl a lofnododd
19,261 - sef 28% o'r bobl a oedd yn gymwys i lofnodi
Papurau llofnodi a ddifethwyd
62
Mae'r data hyn hefyd yn dangos ym mha ffordd y dewisodd pobl lofnodi'r ddeiseb.
Ymgyrchu
Roedd yn ofynnol i bobl neu sefydliadau a oedd yn dymuno ymgyrchu o blaid neu yn erbyn deiseb adalw ac a oedd yn bwriadu gwario mwy na £500 roi gwybod i'r Swyddog Deisebau eu bod yn dymuno bod yn ymgyrchydd cofrestredig. Roedd pum ymgyrchydd cofrestredig yn Peterborough. Dim ond tri o'r rhain sydd wedi cyflwyno ffurflenni rhoddion a gwariant.