Y broses i’w dilyn er mwyn herio AS presennol: adolygiad o ddeisebau adalw 2019

Hyd y cyfnod llofnodi

Mae data a ddarparwyd gan y ddau swyddog Deisebau yn dangos bod y mwyafrif o'r bobl a benderfynodd llofnodi'r deisebau wedi gwneud hynny yn gynnar yn y cyfnod llofnodi chwe wythnos.  

  • Yn Peterborough, roedd 79% o'r rheini a aeth i fan llofnodi neu a ddychwelodd daflen lofnodi drwy'r post (22% o'r rheini a oedd yn gymwys i lofnodi) wedi gwneud hynny yn ystod pythefnos cyntaf y cyfnod llofnodi. 
  • Ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, roedd 70% o'r rheini a aeth i fan llofnodi neu a ddychwelodd daflen lofnodi drwy'r post (14% o'r rheini a oedd yn gymwys i lofnodi) wedi gwneud hynny yn ystod pythefnos cyntaf y cyfnod llofnodi

Yn y ddwy etholaeth, dechreuodd nifer y bobl a lofnododd y ddeiseb bob wythnos leihau ar ôl pythefnos cyntaf y cyfnod llofnodi, ac roedd y trothwy wedi’i gyrraedd erbyn hynny. Fodd bynnag, bu'n rhaid i gyfnod llawn y broses ddeisebu ddod i ben cyn y gellid cyfrif y canlyniad a’i gyhoeddi.

Siart 2: Cyfran y bobl gymwys a oedd wedi llofnodi'r deisebau yn ystod y cyfnod llofnodi

Taflenni llofnodi drwy'r post

Gallai pobl hefyd ddewis llofnodi'r ddeiseb drwy'r post. Roedd llawer o'r llofnodion a gofnodwyd yn y ddwy etholaeth gan bobl a oedd wedi cwblhau taflenni llofnodi drwy'r post, ac wedi'u dychwelyd at y Swyddog Deisebau. Roedd hyn yn cynnwys cyfran sylweddol a ddychwelwyd yn ystod pythefnos cyntaf y cyfnod llofnodi.

Tabl 1: Nifer y taflenni llofnodi drwy'r post a ddosbarthwyd ac a ddychwelwyd  
  Peterborough Brycheiniog a Sir Faesyfed
Cyfanswm y taflenni llofnodi drwy'r post a ddosbarthwyd

13,395

(19% o'r rheini a oedd yn gymwys i lofnodi'r ddeiseb)

8,795

(17% o'r rheini a oedd yn gymwys i lofnodi'r ddeiseb)

Nifer y taflenni llofnodi drwy'r post a ddychwelwyd yn ystod pythefnos cyntaf y cyfnod llofnodi

6,914

(45% o'r holl daflenni llofnodi a gofnodwyd yn ystod y pythefnos cyntaf)

3,288

(46% o'r holl daflenni llofnodi a gofnodwyd yn ystod y pythefnos cyntaf)

Cyfanswm y taflenni llofnodi drwy'r post a ddychwelwyd erbyn diwedd y cyfnod llofnodi

7,848

(41% o'r holl daflenni llofnodi a gofnodwyd yn ystod y cyfnod llofnodi)

3,790

(37% o'r holl daflenni llofnodi a gofnodwyd yn ystod y cyfnod llofnodi)

 

Anfonwyd taflen llofnodi drwy'r post yn awtomatig at bawb a oedd wedi gwneud cais blaenorol i bleidleisio drwy’r post yn etholiadau Seneddol y DU yn yr etholaethau hyn ar ddechrau'r cyfnod llofnodi. Roedd hyn yn golygu bod cyfran sylweddol o bobl yn Peterborough ac ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed wedi derbyn taflen lofnodi drwy'r post heb orfod gwneud cais newydd na mynegi eu barn drwy'r post.

Mewn gwrthgyferbyniad, yng Ngogledd Iwerddon, dim ond pobl a all roi rheswm pam na ellir disgwyl yn rhesymol iddynt fynd i'w gorsaf bleidleisio a gaiff bleidleisio drwy'r post. Dim ond 4% o bobl a oedd yn gymwys i lofnodi yng Ngogledd Antrim a dderbyniodd taflen lofnodi drwy'r post.

Nid ydym wedi cael gwybod am unrhyw broblemau sylweddol o ran y broses ar gyfer llofnodi drwy’r post. Roedd bron pawb a lenwodd ein harolwg o farn y cyhoedd yn Peterborough, a ddywedodd eu bod wedi llofnodi drwy'r post, o'r farn ei bod yn beth hawdd ei wneud, gan gynnwys dwy ran o dair a ddywedodd ei bod yn hawdd iawn.

Barn ar hyd y cyfnod llofnodi 

Roedd rhai pobl a oedd wedi ymwneud â'r deisebau o'r farn bod y cyfnodau llofnodi'n rhy hir, ac y gellid eu byrhau o bosibl. Yn eu hadborth, tynnwyd sylw at y pryderon canlynol:

  • Roedd darparu lleoliadau llofnodi a staff am gyfnod o chwe wythnos yn gost sylweddol o ran arian y cyhoedd, ac roedd rheoli'r ddeiseb yn faich ychwanegol ar adnoddau a chapasiti awdurdodau lleol.
  • Roedd diddordeb y cyhoedd yn y ddeiseb wedi lleihau'n sylweddol dros y cyfnod chwe wythnos.
  • Dywedodd rhai o'r staff yn y mannau llofnodi y bu'r mannau hyn yn dawel iawn ar y rhan fwyaf o ddiwrnodau'r ddeiseb adalw. 

Yn ôl ein hymchwil gyda'r cyhoedd yn Peterborough, teimlai mwy na dwy ran o dair (69%) o'r bobl fod digon o amser yn ystod y cyfnod llofnodi, tra bod un o bob pump (21%) o'r farn bod y cyfnod yn rhy hir. Roedd y bobl na wnaethant lofnodi'r ddeiseb yn llai tebygol o lawer o ddweud eu bod o'r farn bod y cyfnod yn rhy hir (9%, o gymharu â 30% o'r rhai a lofnododd) ac roeddent ychydig yn fwy tebygol o ddweud eu bod o'r farn bod y cyfnod yn rhy fyr.

Mae tystiolaeth o'r deisebau adalw yn Peterborough ac ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed yn awgrymu bod lle i fyrhau'r cyfnod llofnodi heb gyfyngu'n sylweddol ar fynediad y rheini sy'n dymuno llofnodi. Argymhellwn y dylai Llywodraeth y DU adolygu'r rheolau ar gyfer deisebau adalw er mwyn nodi'r hyd priodol ar gyfer cyfnod deiseb byrrach, sy'n para llai na chwe wythnos. Dylai hyn ddechrau drwy ystyried a fyddai cyfnod o bedair wythnos yn ddigonol.

Gall Swyddogion Deisebau ddynodi hyd at 10 man llofnodi ar gyfer deiseb adalw, y mae'n rhaid iddynt fod ar agor rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, am gyfanswm o chwe wythnos. Gall Swyddogion Deisebau ddewis cynnig oriau agor ychwanegol, hirach hefyd. Mae'r penderfyniadau am fannau llofnodi ac oriau agor a wnaed gan y Swyddogion Deisebau yn Peterborough ac ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed wedi'u nodi yn Nhabl 2.

 

Tabl 2: Mannau llofnodi ac oriau agor
  Peterborough Brycheiniog a Sir Faesyfed
Nifer y mannau llofnod 10 6
Oriau agor estynedig Ar agor am 7am ar ddydd Mawrth. Cau am 10pm ar ddydd Iau. Ar agor am 8am ar ddydd Mawrth. Cau am 8pm ar ddydd Mercher.
Nifer y bobl a lofnododd yn ystod yr oriau agor estynedig

1,410

(7% o'r cyfanswm)

483

(5% o'r cyfanswm)

Barn am fannau llofnodi ac oriau agor

Dywedodd y Swyddogion Deisebau yn Peterborough ac ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed fod hyd y cyfnod llofnodi yn ei gwneud yn anos iddynt ddod o hyd i leoliadau addas ar gyfer mannau llofnodi a oedd ar gael am y cyfnod chwe wythnos cyfan. Amser cymharol fyr oedd ganddynt i wneud hyn hefyd, sef 10 diwrnod gwaith. Dywedodd y ddau na allent ddefnyddio lleoliadau a oedd wedi ennill eu plwyf fel gorsafoedd pleidleisio mewn etholiadau, am fod pobl eraill eisoes wedi trefnu i'w defnyddio yn ystod y cyfnod llofnodi.

Mae data gan y Swyddogion Deisebau ynghylch pryd y llofnododd pobl y ddeiseb (a nodir yn nhabl 2 uchod) yn dangos bod nifer sylweddol o bobl wedi manteisio ar yr oriau agor estynedig a gynigiwyd gan y Swyddogion Deisebau i lofnodi'r desiebau. Argymhellwn y dylai’r Swyddogion Deisebau ar gyfer deisebau adalw yn y dyfodol sicrhau eu bod yn cynnig rhywfaint o oriau agor estynedig y tu hwnt i'r oriau gofynnol o 9am tan 5pm.

Ar 10 Mai, cawsom gopi o lythyr a anfonwyd at y Swyddog Deisebau gan Glyn Mathias (cyn Gomisiynydd Etholiadol) a Syr Paul Silk (cyn swyddog seneddol) a oedd ill dau yn gymwys i lofnodi’r ddeiseb ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Roedd y llythyr yn nodi eu pryderon am y dull o weinyddu'r ddeiseb adalw. Roedd y pryderon hyn yn ymwneud yn bennaf â nifer y mannau llofnodi a ddyrannwyd, y ffaith bod dau o'r mannau llofnodi mewn adeiladau swyddfeydd y cyngor yn hytrach na chanol y dref ac oriau agor y mannau llofnodi. Ni ddaethom o hyd i unrhyw dystiolaeth i gadarnhau'r honiad hwn.

Er bod y Swyddog Deisebau ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed wedi bodloni'r rhwymedigaethau i ddarparu mannau llofnodi o dan Ddeddf Adalw 2015, awgrymwn ar gyfer deisebau adalw yn y dyfodol y dylai Swyddogion Deisebau ymgynghori â'r Comisiwn Etholiadol ynghylch nifer y mannau llofnodi a'u lleoliadau awgrymedig fel rhan o'u proses gynllunio.

Awgrymodd y Swyddog Deisebau a'i staff y byddai'n ddefnyddiol petai pob Swyddog Canlyniadau, fel rhan o brosesau cynllunio wrth gefn, yn cynnal adolygiad o drefniadau i gynnwys cynllunio ar gyfer deisebau adalw posibl a allai gael eu cynnal yn ei awdurdod lleol. Byddai hyn yn golygu y byddai’n gallu cyfeirio at ei ddogfennau cynllunio wrth gefn petai deiseb adalw yn cael ei chynnal. Awgrymwyd y gallai'r adolygiadau o orsafoedd pleidleisio a gynhelir bob pum mlynedd fod yn fan cychwyn defnyddiol.

Argymhellwn y dylai Swyddogion Canlyniadau adolygu eu cynlluniau wrth gefn er mwyn cynnwys trefniadau ar gyfer cyflawni unrhyw ddeisebau adalw a allai gael eu cynnal yn eu hetholaethau o bosibl, yn arbennig er mwyn nodi lleoliadau posibl ar gyfer mannau llofnodi. Petai'r cyfnod llofnodi’n cael ei fyrhau hefyd, byddai hyn yn helpu Swyddogion Deisebau i ddod o hyd i leoliadau addas sydd ar gael i'w defnyddio fel mannau llofnodi am y cyfnod llofnodi cyfan. Dylai Swyddogion Deisebau sicrhau bod digon ohonynt ar gael fel bod safle wedi'i leoli'n ddigon agos i bob etholwr ei gyrraedd yn hawdd.

Fel rhan o'n hymchwil yn Peterborough, gofynnwyd i bobl am eu barn am y mannau llofnodi. Ar y cyfan, fel y dangosir yn Siart 3, roedd tua dwy ran o dair o'r bobl a arolygwyd o'r farn ei bod yn hawdd cyrraedd eu man llofnodi dynodedig. Nododd y mwyafrif o'r bobl a ddywedodd eu bod wedi llofnodi'r ddeiseb yn bersonol yn y man llofnodi fod yr adeilad yn briodol i'w ddefnyddio fel man llofnodi a'i fod yn hawdd ei gyrraedd. 
 

Siart 3: Barn ar gyrraedd mannau llofnodi yn Peterborough

Tryloywder a chyfrinachedd

Yn wahanol i etholiadau, dim ond cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol a all arsylwi ar bob rhan o’r broses o lofnodi deiseb adalw yn ystod y cyfnod chwe wythnos cyfan. Ar gyfer y ddwy ddeiseb, arsylwodd cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol ar y broses ddeisebu mewn mannau llofnodi (gan gynnwys diwrnodau ag oriau agor estynedig), y broses ddyddiol ar gyfer dilysu nifer y papurau llofnodi a gwblhawyd y diwrnod hwnnw, a'r cyfrifiad terfynol.

Dim ond y cyfrifiad llofnodon terfynol y caiff unigolion sydd wedi'u hachredu o dan gynllun arsylwi etholiadol y Comisiwn Etholiadol ei fynychu, ac ni chaiff sefydliadau achrededig arsylwi ar unrhyw gam o'r broses o gwbl. Ni wnaeth unrhyw arsylwr unigol achrededig fynychu'r cyfrifiadau.

Mae cyfyngu ar yr hawl i arsylwi yn y modd hwn yn helpu i sicrhau cyfrinachedd i'r rheini sy'n llofnodi deiseb adalw, a hefyd yn atal eraill rhag brasamcanu a yw'r trothwy 10% wedi'i gyrraedd cyn diwedd cyfnod y ddeiseb. Fodd bynnag, mae hyn yn golygu bod tryloywder y broses lofnodi, a'r gallu i graffu arni, yn gyfyngedig hefyd. Argymhellwn y dylai Llywodraeth y DU adolygu'r cwmpas o ran pwy all arsylwi ar y broses mewn mannau llofnodi er mwyn gwella tryloywder a'r gallu i graffu, gan sicrhau y cedwir cyfrinachedd i'r bobl sy'n llofnodi'r ddeiseb. 

Mae'r rheoliadau deisebau yn cynnig rhai mesurau cyfrinachedd i bobl sy'n llofnodi'r ddeiseb. Dylai Swyddogion Deisebau ystyried yr angen am breifatrwydd wrth ddyrannu mannau llofnodi yn eu hetholaethau. Yn ystod cyfnod y ddeiseb, mae hefyd yn drosedd cyhoeddi datganiad a allai nodi bod unigolyn wedi llofnodi'r ddeiseb neu beidio, neu gyhoeddi unrhyw ragolygon am ganlyniad y ddeiseb.

Ar ôl i ddeiseb adalw ym Mhrydain ddod i ben, mae'n bosibl y bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn trefnu bod copi wedi'i farcio o'r gofrestr etholiadol (sy’n dangos pwy sydd wedi llofnodi'r ddeiseb) ar gael i'r cyhoedd, er mwyn iddynt ei archwilio ar gais. Dim ond os yw'n fodlon ei bod yn bosibl y bu'r ddeiseb yn destun twyll y mae'n ofynnol i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol drefnu i'r dogfennau hynny fod ar gael mewn ymateb i gais i’w harchwilio.

Bwriedir i'r mesurau cyfrinachedd hyn gyfyngu ar y potensial ar gyfer dylanwad a phwysau gormodol ar bobl i lofnodi deiseb neu beidio, gan gynnig amddiffyniad rhag twyll ar yr un pryd.

Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw gwynion am gyfrinachedd y mannau llofnodi, nac achosion o fygwth neu lofnodi twyllodrus yn ystod yr un o'r deisebau hyn. Canfu ein hymchwil yn Peterborough y canlynol: 

  • dim ond 6% o'r bobl a ddywedodd eu bod wedi llofnodi'r ddeiseb yn bersonol yn y man llofnodi a nododd nad oedd digon o breifatrwydd yn y man llofnodi
  • dim ond 17% o'r bobl a ddywedodd eu bod wedi llofnodi'r ddeiseb yn bersonol yn y man llofnodi a nododd nad oedd digon o breifatrwydd o gwmpas y man llofnodi
  • cytunodd bron traean o'r bobl fod y broses o lofnodi gan ddefnyddio llofnod yn ddigon anhysbys
  • roedd tua hanner yn cytuno bod y broses yn golygu bod modd iddynt lofnodi yn gyfrinachol

Yng Ngogledd Iwerddon, nid oes unrhyw ddarpariaeth yn y ddeddfwriaeth i ganiatáu i'r gofrestr a farciwyd gael ei harchwilio mewn achosion lle ceir amheuaeth o dwyll, nac i'r Swyddogion Deisebau ei chyflwyno i'r heddlu, y Comisiwn Etholiadol nac unrhyw un sy'n gwneud cais amdani.   Argymhellwn y dylai Llywodraeth y DU adolygu'r rheoliadau deisebau adalw ar gyfer Gogledd Iwerddon er mwyn sicrhau y gellir cael mynediad priodol i archwilio'r gofrestr a farciwyd os oes pryderon rhesymol am dwyll mewn deisebau adalw yn y dyfodol. 

Cynnal y ddeiseb adalw

O dan y Ddeddf Adalw, mae gofyniad i'r Swyddog Deisebau, neu aelod dynodedig o'r staff, ddilysu nifer y papurau llofnodi a gwblhawyd bob dydd yn ystod cyfnod y ddeiseb. Fodd bynnag, mae diffyg eglurder yn y Ddeddf Adalw ynghylch y cyfrifiad terfynol ac nid yw'n nodi’r canlynol: 

  • pryd y dylai'r mannau llofnodi gau ar y diwrnod olaf; 
  • y terfyn amser ar gyfer derbyn papurau llofnodi drwy'r post;
  • na phryd y dylid cynnal y cyfrifiad (ac eithrio y dylai cael ei gynnal "cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod llofnodi”). 

O ganlyniad, gwnaeth y Swyddogion Deisebau yn Peterborough ac ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed benderfyniadau gwahanol am y terfyn amser ar gyfer dychwelyd papurau llofnodi drwy'r post, a gwnaethant ddechrau cyfrif ar amserau gwahanol, a oedd hefyd yn wahanol i'r penderfyniad a wnaed gan y Swyddog Deisebau yng Ngogledd Antrim. 

 

Tabl 3: Cymharu'r trefniadau ar gyfer cau'r ddeiseb a'r amseroedd dechrau cyfrif 
  Peterborough Brycheiniog a Sir Faesyfed Gogledd Antrim
Cau'r mannau llofnodi 5pm ddydd Mercher 1 Mai 5pm ddydd Iau 20 Mehefin 5pm ddydd Mercher 19 Medi
Y terfyn amser ar gyfer dychwelyd papurau pleidleisio drwy'r post 5pm ddydd Mercher 1 Mai Ganol nos, ddydd Iau 20 Mehefin Ganol nos ddydd Mercher 19 Medi
Dechrau'r cyfrif Yn syth ar ôl i'r mannau llofnodi gau am 5pm 9am ddydd Gwener 21 Mehefin 00:01 ddydd Iau 20 Medi

 

Nid oes unrhyw dystiolaeth i ddangos bod y gwahaniaethau hyn wedi cael unrhyw effaith ar y ffordd y cafodd y cyfrifiadau eu cynnal, a'r adborth a gafwyd gan ein cynrychiolwyr yn y cyfrifiadau hyn oedd eu bod wedi gweithio'n dda. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau profiad mwy cyson i'r rheini sy'n dymuno llofnodi deisebau adalw yn y dyfodol, dylai'r ddeddfwriaeth nodi pa amser y dylai'r mannau llofnodi gau ar ddiwrnod olaf cyfnod y ddeiseb a'r terfyn amser ar gyfer derbyn papurau llofnodi drwy'r post.

Ar ôl i'r papurau llofnodi gael eu cyfrif, mae'n rhaid i'r Swyddog Deisebau roi gwybod i Lefarydd Tŷ'r Cyffredin am y canlyniad cyn ei gyhoeddi. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ddarpariaeth yn y gyfraith o ran sut y dylid gwneud hyn na ffurf yr hysbysiad. Roedd y Swyddogion Deisebau yn tri etholaeth wedi cytuno â'r Llefarydd ymlaen llaw y byddent yn anfon e-bost, ac, ar ôl i'r neges gael ei chydnabod, y gallent wedyn gyhoeddi'r canlyniad. Argymhellwn y dylai Llywodraeth y DU adolygu'r ddeddfwriaeth ar ddeisebau adalw er mwyn nodi'n gliriach pryd a sut y dylid hysbysu'r Llefarydd. 

Mewn etholiadau a refferenda, mae'r Comisiwn Etholiadol yn gyfrifol am gofrestru pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy'n dymuno gwario mwy na swm penodol. Yn unigryw yn achos deisebau adalw, y Swyddogion Deisebau sy'n cofrestru'r ymgyrchwyr.

Mae'n rhaid i bobl neu sefydliadau sy'n dymuno ymgyrchu o blaid neu yn erbyn deiseb adalw ac sy'n bwriadu gwario mwy na £500 roi gwybod i'r Swyddog Deisebau eu bod yn dymuno bod yn ymgyrchydd cofrestredig. Mae'n rhaid i'r Swyddogion Deisebau dderbyn ffurflenni rhoddion a gwariant gan ymgyrchwyr cofrestredig o fewn 30 diwrnod i ddiwedd cyfnod rheoleiddiedig y ddeiseb adalw.

Cofrestrodd cyfanswm o wyth o bobl a sefydliadau i ymgyrchu yn ystod y deisebau. Gwnaethant gyflwyno ffurflenni rhoddion a gwariant i'r Swyddogion Deisebau ar ôl y deisebau. Ar adeg cyhoeddi, nid oedd adroddiad rhoddion a gwariant wedi dod i law ar gyfer un unigolyn ac un undeb llafur yn Peterborough. 


Tabl 4: Ymgyrchwyr cofrestredig a gwerth y rhoddion a'r gwariant a nodwyd 
  Peterborough Brycheiniog a Sir Faesyfed
Ymgyrchwyr cofrestredig Dwy blaid wleidyddol, dwy Uned Llafur ac un unigolyn Tair plaid wleidyddol
Gwariant £6,988.79 £13,365.87
Rhoddion £3,212.11 £10,324.50

 

Mae'r Swyddog Deisebau yn trefnu bod y ffurflenni gwariant ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd, a bod copïau'n cael eu hanfon atom, ond nid oes unrhyw ddarpariaeth i asiantaeth statudol graffu ar y ffurflenni. Mae hyn yn wahanol i reolau Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ar gyfer etholiadau a refferenda, lle mae'n ofynnol i'r Comisiwn dderbyn ffurflenni gwariant gan bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr er mwyn i ni gadarnhau eu bod yn cydymffurfio â'r gyfraith. Fodd bynnag, ymddengys fod y Ddeddf Adalw yn seiliedig ar ofynion Deddf Cynrychiolaeth y Bobl (RPA) ar gyfer ymgeiswyr mewn etholiadau cyffredinol seneddol y DU, y mae'n ofynnol iddynt anfon eu ffurflenni at y Swyddog Cofrestru, ac nid yn uniongyrchol atom ni. 

Mae'r diffyg craffu statudol ar roddion a ffurflenni gwariant yn golygu y gallai fod gwariant sylweddol ar weithgaredd gyda'r bwriad o ddylanwadu ar etholwyr mewn deisebau dwyn i gof yn y dyfodol nad ydynt yn cael eu monitro'n llawn i wirio bod ymgyrchwyr wedi cydymffurfio â'r gyfraith. Argymhellwn y dylai Llywodraeth y DU barhau i adolygu’r rheolau ar roddion a gwariant gan ymgyrchwyr wrth i fwy o brofiad gael ei ennill mewn deisebau adalw yn y dyfodol, er mwyn sicrhau y caiff gwariant ymgyrchwyr ei oruchwylio a’i reoleiddio’n briodol. 

Mae'r defnydd o feddalwedd rheoli etholiadol (EMS) yn elfen sefydledig o gynnal digwyddiadau etholiadol. Nid oedd ei defnyddio ar gyfer deiseb adalw, nad yw'n etholiad er ei bod yn cynnwys llawer o'r un prosesau ag etholiad, yn hawdd i'r Swyddogion Deisebau na'u staff.

Nid oedd y systemau EMS a ddefnyddiwyd gan y Swyddogion Deisebau yn cynnig templedi ar gyfer gwaith papur deisebau adalw, ac nid oeddent yn gallu cynnal dau ddigwyddiad â gwahanol amserlenni ochr yn ochr â'i gilydd. Roedd hyn yn fwy heriol am fod y ddau gyfnod llofnodi’n digwydd ar yr un pryd â digwyddiadau etholiadol eraill – sef etholiad llywodraeth leol ar 2 Mai yn Peterborough ac etholiad Senedd Ewrop ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, a gynhaliwyd ar 23 Mai.

Er ei bod yn bosibl na fydd deisebau adalw yn digwydd ar yr un pryd â digwyddiadau etholiadol eraill yn y dyfodol, byddai'n ddefnyddiol pe bai darparwyr EMS yn gallu datblygu eu systemau er mwyn rheoli digwyddiadau lluosog sy'n dilyn amserlenni gwahanol ac yn llunio templedi i'w defnyddio mewn deisebau adalw.