Beth yw pleidleisio ymlaen llaw?

Byddai pleidleisio ymlaen llaw (neu'n gynnar) yn rhoi'r dewis i bobl bleidleisio'n bersonol mewn canolfan bleidleisio ymlaen llaw bwrpasol cyn y prif ddiwrnod pleidleisio ar gyfer etholiad. Ni fyddai’n rhaid i bleidleiswyr wneud cais i ddefnyddio pleidleisio ymlaen llaw, gallent droi i fyny a phleidleisio mewn canolfan pleidleisio ymlaen llaw fel y byddent ar y diwrnod pleidleisio. 

Buddiannau posiblHeriau posibl
Gwella hygyrchedd a dewis pleidleiswyr ynghylch pryd a ble i bleidleisioDod o hyd i leoliadau addas a sicrhau eu bod yn hygyrch i bob pleidleisiwr yn yr ardal etholiadol berthnasol
Cynyddu lefelau o foddhad gan bleidleiswyr yn y broses bleidleisioCael digon o bobl i staffio'r lleoliadau
Annog pobl na fyddent fel arfer yn pleidleisio i bleidleisio, yn enwedig pe bai lleoliadau mewn ardaloedd â nifer uchel o ymwelwyrSicrhau bod papurau pleidleisio a deunyddiau etholiadol eraill yn cael eu storio'n ddiogel cyn y cyfrif
 Diweddaru cofrestrau etholiadol cyn y diwrnod pleidleisio
 Effaith ar amseriad ymgyrchu gwleidyddol a chydlynu gweithgarwch ymwybyddiaeth y cyhoedd

Profiad rhyngwladol

Mae data a gasglwyd gan y Sefydliad Rhyngwladol dros Ddemocratiaeth a Chymorth Etholiadol (IDEA) yn awgrymu:

Mae rhai gwledydd yn ei gwneud yn ofynnol i bleidleisiwr wneud cais i allu defnyddio pleidleisio ymlaen llaw. Mae rhai yn darparu pleidleisio ymlaen llaw i bob pleidleisiwr, tra bod eraill ond yn ei gynnig i'r rhai sy'n bodloni meini prawf penodol. 

Weithiau cynigir pleidleisio ymlaen llaw i bleidleiswyr yn eu gorsaf bleidleisio arferol yn unig, ac weithiau mewn gorsaf bleidleisio ymlaen llaw mewn lleoliad arall, fel arfer o fewn yr etholaeth berthnasol neu ardal etholiadol arall. 

Yn etholiadau lleol mis Mai 2022 yng Nghymru, treialodd pedwar awdurdod lleol bleidleisio cynnar. Cafodd y cynlluniau peilot eu rhedeg yn dda gan Swyddogion Canlyniadau. Er nad oedd tystiolaeth bod pleidleisio ymlaen llaw ei hun yn cynyddu’r nifer a bleidleisiodd, fe’i croesawyd gan y rhai a’i defnyddiodd a gwnaeth gynnig dewis ychwanegol i bleidleiswyr.

Model sylfaenol

Gwnaethom edrych ar sut y gallai pleidleisio ymlaen llaw weithio ar lefel sylfaenol ar gyfer etholiadau yn y DU. Rydym wedi nodi prif nodweddion model y credwn y byddai ei angen pe bai llywodraeth o fewn y DU yn penderfynu gweithredu pleidleisio ymlaen llaw. 

Opsiynau pellach

Gwnaethom hefyd edrych ar rai opsiynau eraill y gellid eu hychwanegu at y model sylfaenol.

Cymhwysedd

  • Mae rhai modelau pleidleisio ymlaen llaw ar gael i grwpiau penodol o bleidleiswyr yn unig. Er enghraifft, caniataodd y cynllun peilot ym Mhen-y-bont ar Ogwr yng Nghymru yn 2022 i ddisgyblion a oedd wedi’u cofrestru i fwrw eu pleidlais yn gynnar yn yr ysgol.
  • Gallai fod yn ofynnol i bleidleiswyr roi ‘rheswm dilys’ dros fod angen pleidleisio ymlaen llaw. Gallai hyn fod oherwydd bod eu dyletswyddau swyddogol yn golygu na allant bleidleisio’n hawdd ar y diwrnod pleidleisio (fel staff pleidleisio neu staff gwasanaethau brys), oherwydd bod ganddynt gyfrifoldebau gofalu, neu y byddent y tu allan i’r etholaeth ar y diwrnod pleidleisio.
  • Gallai cyfyngu ar gymhwysedd leihau effeithiolrwydd cost y mesurau.

Lleoliadau

  • Gallai pleidleisio ymlaen llaw fod ar gael mewn mannau a ddefnyddir yn aml ar gyfer gorsafoedd pleidleisio, megis swyddfeydd cynghorau lleol, llyfrgelloedd, ysgolion neu ganolfannau cymunedol. Gellid ei gynnig hefyd mewn lleoliadau llai traddodiadol, er enghraifft canolfannau siopa, canolfannau hamdden neu hybiau trafnidiaeth.
  • Gallai pleidleiswyr gael yr opsiwn i fwrw eu pleidlais mewn lleoliad y tu allan i'r ardal y maent wedi cofrestru ynddi. Gallai hyn gymhlethu’r broses gan y byddai angen marcio pleidleiswyr oddi ar y gofrestr cyn gynted ag y byddant wedi pleidleisio i ddileu’r risg o bleidleisio dwbl.
  • Gallai'r Swyddog Canlyniadau benderfynu faint o ganolfannau pleidleisio ymlaen llaw sydd eu hangen ar sail eu gwybodaeth o'r ardal. Byddai hyn er mwyn sicrhau mynediad rhesymol a chyfartal at bleidleisio’n bersonol.

Diwrnodau ac oriau gweithredu

  • Mae opsiynau amrywiol o ran faint o ddiwrnodau y dylai’r canolfannau pleidleisio ymlaen llaw fod ar agor, sy’n cynnwys sicrhau cydbwysedd rhwng dyddiau’r wythnos a phenwythnosau. Gall rhai pleidleiswyr ddefnyddio'r cyfleuster oherwydd ymrwymiadau gwaith neu ofal, felly mae angen i ganolfannau fod ar agor y tu allan i oriau busnes arferol.
  • Byddai angen i bleidleisio ymlaen llaw weithio o fewn cyfyngiadau'r amserlen etholiadol. Mewn egwyddor, fodd bynnag, gallai pleidleisio ymlaen llaw ddechrau cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cau'r enwebiadau a chynhyrchu papurau pleidleisio.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hyn fyddai ei angen i gyflwyno pleidleisio ymlaen llaw yma.