Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn rhoi pwrpas clir i ysgolion ddarparu addysg ddemocrataidd effeithiol. Mae hyn yn gofyn am ddull ysgol gyfan, gyda chyfleoedd i ddysgu y tu mewn a'r tu allan i'r ystafell ddosbarth a diwylliant clir sy'n cefnogi dysgwyr i gymryd rhan yng nghymuned eu hysgol a thu hwnt.
Gellir darparu addysg ddemocrataidd dda i ddysgwyr Blwyddyn 6 yn unol â'r egwyddorion canlynol sy'n seiliedig ar dystiolaeth a'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau cysylltiedig. Mae'r ddogfen hon yn amlinellu'r chwe egwyddor gydag enghreifftiau o sut y gallai hyn edrych yn ymarferol, ac adnoddau, offer ac astudiaethau achos ategol. Cymerir rhai enghreifftiau o'r tu hwnt i gyd-destun Cymreig ond ym mhob achos maent yn cyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru, yn enwedig gyda Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau.
Mae nifer o offer eisoes ar waith i gefnogi ysgolion cynradd wrth iddynt ddarparu addysg ddemocrataidd effeithiol:
Mae'n ofynnol i gorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir yng Nghymru, ac eithrio ysgolion meithrin ac ysgolion babanod a gynhelir, sefydlu cyngor ysgol (School Councils (Wales) Regulations 2005)
Defnyddio cerrig pleidleisio i roi cyfle i ddysgwyr gyfrannu at benderfyniadau am ddysgu yn rheolaidd e.e. dewis stori neu weithgaredd nesaf y dosbarth
Mae'r canlynol yn amlinellu ffyrdd o archwilio gwleidyddiaeth drwy gyfres o ymweliadau, teithiau a phrosiectau sy'n archwilio democratiaeth yng Nghymru ac a fydd yn galluogi dysgwyr i fodloni camau dilyniant un, dau a thri ym Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau. Mae'r awgrymiadau'n ddangosol a gellir eu haddasu i gyd-fynd â chyd-destun eich ysgol, gan gynnwys ymweliadau lleol neu rithwir.
Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac wedi’u llunio gan weithredoedd a chredoau dynol.
Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol