Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn rhoi pwrpas clir i ysgolion ddarparu addysg ddemocrataidd effeithiol. Mae hyn yn gofyn am ddull ysgol gyfan, gyda chyfleoedd i ddysgu y tu mewn a'r tu allan i'r ystafell ddosbarth a diwylliant clir sy'n cefnogi dysgwyr i gymryd rhan yng nghymuned eu hysgol a thu hwnt.
Mae’r tudalen hon yn amlinellu enghreifftiau o sut i gefnogi addysg ddemocrataidd effeithiol drwy ei gynnwys ym Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau y Cwricwlwm i Gymru a thrwy gynllunio ystod eang o brofiadau i ddysgwyr.
Prosiectau addysg ddemocrataidd gyda chamau dilyniant
Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol
Cam dilyniant 3:
Gallaf ddeall bod canlyniadau i’m gweithredoedd a gweithredoedd pobl eraill, a bod y rhain yn effeithio ar faterion lleol, cenedlaethol a byd-eang
Gallaf gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, a gallaf rannu fy marn a thystiolaeth gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a chynrychiolwyr etholedig yn fy nghymuned
Rwyf wedi cynllunio a chymryd rhan weithgar mewn ymateb i heriau a chyfleoedd yn fy nghymuned leol, neu yng Nghymru neu'r byd ehangach, ac rwyf wedi gwneud hynny'n unigol neu fel rhan o dîm.
Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac wedi’u llunio gan weithredoedd a chredoau dynol.
Cam dilyniant 3:
Gallaf ddeall a disgrifio sut mae fy nghymuned yn cael ei llywodraethu a sut mae pobl yn cael eu cynrychioli.
Ymweliadau, teithiau a phrosiectau am arweinwyr
Mannau: Senedd Cymru (gallwch ymweld yn bersonol neu drefnu ymweliad i ddod atoch)
Pobl i wahodd i'ch ysgol: Cynghorydd lleol
Prosiectau: Wythnos gwrth-fwlio, Y gynghrair gwrth-fwlio
Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol
Cam dilyniant 4:
Gallaf ddadansoddi ac egluro bod yna ystod o ffactorau sy'n dylanwadu ar fy ymddygiadau, gweithredoedd a phenderfyniadau i, a rhai pobl eraill, a bod y rhain yn cynnwys barnau a safbwyntiau moesegol a moesol.
Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac wedi’u llunio gan weithredoedd a chredoau dynol.
Cam dilyniant 4:
Mae gen i ddealltwriaeth o ystod o systemau llywodraethu a sut mae pobl wedi cael eu cynrychioli ar lefelau lleol, cenedlaethol a byd-eang, gan gynnwys sut mae systemau llywodraethu yng Nghymru yn gweithredu nawr ac yn y gorffennol, a gallaf gymharu ac egluro gwahaniaethau rhwng y systemau hyn.
Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol
Cam dilyniant 4:
Gallaf ddadansoddi ac egluro bod yna ystod o ffactorau sy'n dylanwadu ar fy ymddygiadau, gweithredoedd a phenderfyniadau i, a rhai pobl eraill, a bod y rhain yn cynnwys barnau a safbwyntiau moesegol a moesol.
Gallaf wneud penderfyniadau, nodi cyfleoedd a chynllunio camau priodol i sicrhau bod fy llais yn cael ei glywed.
Gallaf drafod a herio safbwyntiau’r rheiny sy’n gwneud penderfyniadau a chynrychiolwyr etholedig yn fy nghymuned ac ar lefel genedlaethol.
Gallaf ddadansoddi ac egluro effaith penderfyniadau a wneir gan unigolion, llywodraethu lleol, cenedlaethol neu fyd-eang, a sefydliadau anllywodraethol, ar bobl, eu hawliau a'r amgylchedd.
Ymweliadau, teithiau a phrosiectau am cyfryngau
Mannau: Prifysgol Bangor (Ffilm, Cyfryngau a Newyddiaduraeth)
Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.
Cam dilyniant 5:
Gallaf werthuso achosion troseddau hawliau dynol a'r gwahanol ffactorau sy'n tanseilio neu'n cefnogi hawliau pobl.
Gallaf werthuso pwysigrwydd y rolau a chwaraeir gan unigolion, cymdeithasau, mudiadau cymdeithasol a llywodraethau wrth barchu ac amddiffyn hawliau dynol pobl.
Gallaf egluro pwysigrwydd y rôl a chwaraeir gan grwpiau, llywodraethau, busnesau a sefydliadau anllywodraethol wrth greu dyfodol cynaliadwy, a sut maent yn effeithio ar bobl a’u hawliau ac ar yr amgylchedd.
Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac wedi’u llunio gan weithredoedd a chredoau dynol.
Cam dilyniant 5:
Gallaf werthuso’n feirniadol ganlyniadau ac arwyddocâd digwyddiadau a newidiadau mewn ystod o gymdeithasau yn y gorffennol a’r presennol.
Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac wedi’u llunio gan weithredoedd a chredoau dynol.
Cam dilyniant 5:
Gallaf gymharu a gwerthuso systemau llywodraethu lleol, cenedlaethol a byd-eang, gan gynnwys systemau llywodraethu a democratiaeth yng Nghymru, gan ystyried eu heffaith ar gymdeithasau yn y gorffennol a’r presennol, a hawliau a chyfrifoldebau dinasyddion Cymru.
Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.
Cam dilyniant 5:
Gallaf egluro pwysigrwydd y rôl a chwaraeir gan grwpiau, llywodraethau, busnesau a sefydliadau anllywodraethol wrth greu dyfodol cynaliadwy, a sut maent yn effeithio ar bobl a’u hawliau ac ar yr amgylchedd.
Rwyf wedi nodi, cynllunio, ystyried a gwerthuso effaith y camau a gymerais yn fy nghymuned leol neu yng Nghymru neu’r byd ehangach, naill ai’n unigol neu ar y cyd. O fewn y cyd-destun hwnnw, rwy’n archwilio fy agweddau, rhagdybiaethau ac ymddygiad yn feirniadol.
Ymweliadau, teithiau a phrosiectau am gwleidyddiaeth