Mae'r Senedd defnyddio system bleidleisio o’r enw System Gyfrannol Rhestr Gaeedig i ethol Aelodau i’r Senedd. Mae’r system hon yn fath o gynrychiolaeth gyfrannol. Mae cynrychiolaeth gyfrannol yn golygu bod nifer yr ymgeiswyr sy’n cael eu hethol ar gyfer pob plaid wleidyddol yn cyfateb yn fras i nifer y pleidleisiau a dderbyniwyd.
Mae yna 16 etholaeth yng Nghymru ac mae pob etholaeth yn cael eu cynrychioli gan 6 Aelod o’r Senedd. Mae'r Senedd yn cynnwys 96 Aelod o'r Senedd.
Fel arfer, caiff Aelodau o'r Senedd eu hethol bob pedair blynedd.
Wrth bleidleisio yn etholiad y Senedd, rwyt ti’n dewis y blaid wleidyddol neu’r ymgeisydd annibynnol rwyt ti am iddynt gynrychioli dy etholaeth yn y Senedd.
Bydd un bleidlais gen ti ac mi fyddi di’n cael un papur pleidleisio. Rho [X] yn y blwch wrth ymyl dy ddewis o blaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol. Gwna’n siŵr dy fod yn darllen y cyfarwyddiadau ar dy bapur pleidleisio a gofynna i’r tîm yn yr orsaf bleidleisio os wyt ti angen help.
Bydd y papur pleidleisio yn dal i ddangos rhestr yr ymgeiswyr ar gyfer pob plaid wleidyddol, ond cofia, rwyt ti’n pleidleisio dros blaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol, yn hytrach nag ymgeiswyr penodol ar restr plaid.
Bydd y papurau pleidleisio yn cael eu cyfrif wedyn er mwyn gweld pwy sy’n cael eu hethol.
Er enghraifft, os wyt ti’n byw yn Aberystwyth dy etholaeth ar gyfer y Senedd yw Ceredigion Penfro. Os bydd Plaid Wleidyddol A yn cael 50% o’r pleidleisiau yn dy etholaeth, byddant yn debygol o gael tri allan o’r chwe sedd. Os bydd Plaid Wleidyddol B yn cael 30%, byddant yn debygol o gael dau allan o’r chwe sedd. Yna os bydd gan ymgeisydd annibynnol ddigon o bleidleisiau, byddant yn ennill y sedd olaf. Y chwe ymgeisydd hyn fydd yr ASau sy’n cynrychioli etholaeth Ceredigion Penfro yn y Senedd.
Mae hyn yn golygu bod seddi yn y Senedd yn cael eu penderfynu ar sail cyfran y pleidleisiau y mae pob plaid yn eu derbyn.