Pwy sy'n eich cynrychioli chi yn y Senedd – Cymru yn unig

We're showing you content for:

Wales only

Nodwch, rydym yn dangos gwybodaeth sydd yn berthnasol i Gymru yn unig.

Pwy sy'n eich cynrychioli chi yn y Senedd – CYMRU YN UNIG

Caiff y bobl sy’n eich cynrychioli yn y Senedd eu galw’n Aelodau o’r Senedd, neu AS.

Rydych yn ethol eich ASau bob pedair blynedd. 

Mae pob person yng Nghymru yn cael ei gynrychioli gan 6 AS. Mae'r 6 AS yma yn cynrychioli eich ardal leol, sef etholaeth.

Mae yna 16 etholaeth ac mae pob un yn cael ei gynrychioli gan 6 AS, gyda 96 Aelodau o'r Senedd yn ei gyfanrwydd.

Yr 16 etholaeth yng Nghymru yw: 

  • Bangor Conwy Môn
  • Clwyd
  • Fflint Wrecsam
  • Gwynedd Maldwyn
  • Ceredigion Penfro
  • Sir Gaerfyrddin
  • Gŵyr Abertawe
  • Brycheiniog Tawe Nedd
  • Afan Ogwr Rhondda
  • Pontypridd Cynon Merthyr
  • Blaenau Gwent Caerffili Rhymni
  • Sir Fynwy Torfaen
  • Casnewydd Islwyn
  • Caerdydd Penarth
  • Caerdydd Ffynnon Taf
  • Pen-y-bont Morgannwg

Gallwch gysylltu ag unrhyw un o'r AS sy'n eich cynrychioli i ofyn cwestiynau am faterion sy'n bwysig i chi. Gallwch siarad â nhw dros y ffôn, trwy e-bost, neu wyneb yn wyneb pan fyddant yn cynnal cyfarfod agored yn eich ardal, a elwir yn gymhorthfa. Gallwch ddod o hyd i’w manylion cyswllt ar wefan y Senedd. 

Gallwch fynd i wefan y Senedd i gael gwybodaeth am ymweld. Neu, gallwch wylio trafodaethau a chyfarfodydd yn fyw, neu ddal i fyny yn nes ymlaen.