Mae ASau yn cael eu hethol i Dŷ’r Cyffredin gan ddefnyddio system o’r enw Cyntaf i’r Felin.
Ar eich papur pleidleisio, fe welwch restr o enwau a phleidiau gwleidyddol – dyma eich ymgeiswyr. Bydd gofyn i chi farcio ‘X’ wrth ymyl un dewis.
Mae'r ymgeisydd gyda'r nifer fwyaf o bleidleisiau yn cael ei ethol ac yn dod yn Aelod Seneddol i chi.
Mae 650 o etholaethau ar draws y DU felly mae yna 650 o ASau.
Fel arfer mae ASau yn cael eu hethol bob pum mlynedd ond gall isetholiadau ddigwydd unrhyw bryd.
Bydd y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn sefyll dros blaid wleidyddol. Gelwir ymgeiswyr nad ydynt yn gysylltiedig â phlaid yn ymgeiswyr annibynnol.
Y blaid wleidyddol gyda’r nifer fwyaf o ASau wedi’u hethol ar draws y DU gyfan sy’n ennill yr etholiad ac yn dod yn Llywodraeth y DU. Maent yn cael eu hadnabod fel y blaid fwyafrifol, sy'n golygu mai nhw sydd â'r nifer fwyaf o ASau.
Cofiwch, nid ydych yn pleidleisio dros y Prif Weinidog. Yn hytrach, mae aelodau o bob plaid wleidyddol yn ethol eu harweinydd eu hunain. Os yw eu plaid yn ennill y mwyafrif, bydd eu harweinydd yn dod yn Brif Weinidog.
Y Prif Weinidog sy’n dewis pwy sy’n cymryd uwch swyddi eraill yn Llywodraeth y DU, megis Canghellor y Trysorlys, yr
Ysgrifennydd Gwladol a’r Ysgrifennydd Tramor.
Dysgwch fwy am ganlyniadau etholiad cyffredinol diwethaf Senedd y DU