Nodwch, rydym yn dangos gwybodaeth sydd yn berthnasol i Gymru yn unig.
Cymru
Caiff y person sy’n eich cynrychioli yn Nhŷ’r Cyffredin ei alw’n Aelod Seneddol, neu AS.
Mae pob person yn y DU yn cael ei gynrychioli gan un AS sy'n gwasanaethu ardal fawr, a elwir yn etholaeth. Ar hyn o bryd mae'r DU wedi'i rhannu'n 650 o etholaethau. Fel arfer byddwch yn ethol eich AS bob pum mlynedd.
Mae eich AS fel arfer yn rhannu ei amser rhwng gwaith yn Nau Dŷ'r Senedd yn San Steffan yn Llundain a gwaith lleol yn eich ardal.