Nodwch, rydym yn dangos gwybodaeth sydd yn berthnasol i Gymru yn unig.
Cyfrifoldebau Senedd y DU
Mae Senedd y DU yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar y DU gyfan. Mae hefyd yn gwneud penderfyniadau sy'n ymwneud â Lloegr yn unig.
Mae penderfyniadau ar gyfer y DU gyfan yn cynnwys: • amddiffyniad • materion tramor • mewnfudo
Gelwir y rhain yn faterion a gedwir yn ôl.
Mae Senedd y DU yn cynnwys dwy siambr – Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.
Mae’r cyhoedd yn pleidleisio i ddewis y bobl sy’n eistedd yn Nhŷ’r Cyffredin. Nid yw Tŷ’r Arglwyddi yn cael ei ethol gan aelodau’r cyhoedd.
Dim ond ar gyfer Cymru y mae’r Senedd yn gwneud penderfyniadau. Dysgwch fwy am gyfrifoldebau’r Senedd.
Cyfrifoldebau Senedd y DU
Mae Senedd y DU yn gwneud penderfyniadau ynghylch sut mae’r DU yn cael ei rhedeg ac yn gwneud cyfreithiau sy’n effeithio ar fywydau pawb. Mae ei rolau’n cynnwys:
rheoli gwariant ar waith Llywodraeth y DU drwy bleidleisio ar faint o dreth a delir
cynrychioli barn y cyhoedd yn y Senedd
edrych yn fanwl ar bolisi a chamau gweithredu Llywodraeth y DU. Gelwir hyn yn ‘graffu’
trafod materion cyfoes, megis costau byw
Beth yw'r Senedd beth bynnag?
Fideo gan bobl ifanc yn y Blwch Democratiaeth, ein partner llais ieuenctid dros Gymru, 2023.