Papurau newydd a newyddiadurwyr
Bydd papurau newydd yn cyhoeddi erthyglau am ymgyrchoedd gwleidyddol yn y cyfnod cyn etholiad, gan gynnwys cyfweliadau ag ymgeiswyr. Gall papur newydd ddewis cefnogi plaid wleidyddol neu ymgeisydd.
Mae yna reolau gwahanol i newyddiadurwyr sy'n gweithio ar y teledu a’r radio. Yn gyffredinol, ni ddylent annog pleidleiswyr i bleidleisio dros ymgeisydd neu blaid wleidyddol benodol. Gofynnir iddynt roi barn annibynnol ar etholiadau ac ymgyrchoedd.
Posteri
Efallai y gwelwch bosteri gwleidyddol yn eich ardal. Mae pleidiau gwleidyddol yn aml yn talu am hysbysfyrddau neu bosteri digidol mewn gorsafoedd trenau ac arosfannau bysiau.
Gallai cefnogwyr pleidiau gwleidyddol a'u haelodau osod posteri yn eu ffenestri neu y tu allan i'w cartrefi i ddangos eu cefnogaeth.
Teledu
Ni chaniateir i bleidiau gwleidyddol hysbysebu ar y teledu. Yn lle hynny, mae'r prif bleidiau gwleidyddol yn cael cyfnod penodol o amser ar y teledu i gyflwyno eu polisïau i bleidleiswyr. Gelwir y rhain yn ddarllediadau etholiadol pleidiau.
Cyfryngau cymdeithasol
Fe welwch hysbysebion gan bleidiau gwleidyddol a grwpiau o gefnogwyr ar gyfryngau cymdeithasol.
Weithiau mae pleidiau gwleidyddol yn gwybod â phwy y maent am siarad felly gallant gyrraedd y bobl hyn yn hawdd trwy'r hysbysebion hyn. Mae hyn yn golygu y gallech weld mwy o hysbysebion ar gyfer un blaid neu grŵp gwleidyddol nag unrhyw un arall.
Maniffestos
Yn y cyfnod cyn y rhan fwyaf o etholiadau, bydd pleidiau gwleidyddol yn cyhoeddi dogfen yn amlinellu eu holl bolisïau a blaenoriaethau. Gelwir hyn yn faniffesto.
Cyhoeddir maniffestos fel arfer yn yr wythnosau cyn y diwrnod pleidleisio. Byddant ar gael ar wefannau’r pleidiau gwleidyddol.
Weithiau mae pleidiau gwleidyddol yn cyhoeddi eu maniffestos mewn fformatau gwahanol sy'n sicrhau bod pawb yn gallu eu darllen, beth bynnag fo'u hanghenion. Os hoffech chi gael maniffesto mewn fformat gwahanol, edrychwch ar wefan y blaid wleidyddol neu cysylltwch â nhw’n uniongyrchol.