Cwyn amdanom ni
Gwneud eich cwyn
Os ydych chi'n anfodlon â rhywbeth rydyn ni wedi'i wneud neu â'r gwasanaeth rydyn ni wedi'i ddarparu, gallwch chi wneud cwyn.
Gallwn ystyried cwynion am:
- y gwasanaeth a gawsoch gennym ni
- oedi neu gamgymeriadau yn ein gwaith
- sut y gwnaethom ymdrin â'ch ymholiad neu gyswllt
- sut y gwnaethom ddilyn ein canllawiau neu brosesau cyhoeddedig
- Cydymffurfio â safonau'r Gymraeg
Os yw eich cwyn yn ymwneud â rhywbeth arall, efallai y bydd angen i chi gysylltu â sefydliad gwahanol.
Dim ond drwy'r llysoedd y gellir herio penderfyniadau rheoleiddio. Fodd bynnag, gallwch gwyno am y ffordd y gwnaethom ymdrin â mater.
Dylid gwneud cwynion am weithgaredd plaid yn uniongyrchol gyda'r blaid wleidyddol dan sylw.
Dylid rhoi gwybod am droseddau neu dwyll etholiadol i'r heddlu neu i'ch tîm gwasanaethau etholiadol lleol.
Dewch o hyd i fanylion cyswllt eich gwasanaethau etholiadol lleol
Eich swyddfa gofrestru etholiadol leol sy'n ymdrin â'r materion hyn.
Dewch o hyd i fanylion cyswllt eich gwasanaethau cofrestru etholiadol lleol.
Cyflwynwch eich cwyn ar-lein
Ffyrdd eraill o gyflwyno eich cwyn
Gallwch gyflwyno eich cwyn drwy ysgrifennu atom yn: Complaints, The Electoral Commission, 3 Bunhill Row, London, EC1Y 8YZ
Gallwch hefyd wneud eich cwyn drwy ein ffonio ni ar: 020 7271 0604.
Sut rydym yn ymdrin â chwynion
Rydym yn cymryd cwynion o ddifrif ac ein nod yw ymdrin â nhw’n deg ac yn gyson.
Gallwn ddarparu gwybodaeth mewn gwahanol fformatau a chynnig cymorth os oes angen help arnoch i wneud cwyn. Bydd unrhyw gwynion a dderbynnir yn y Gymraeg yn cael eu hateb yn y Gymraeg.
Darllenwch ein polisi cwynion llawn am ragor o fanylion.
Ar ôl i chi wneud eich cwyn
Ein nod yw ymateb i gwynion o fewn 20 diwrnod gwaith. Er mwyn ein helpu i ymateb i'ch cwyn, efallai y byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth.
Os ydych chi'n anfodlon â chanlyniad eich cwyn, gallwch ofyn iddi gael ei hadolygu yn yr ail gam gan aelod o'n Tîm Gweithredol.
Os ydych chi'n dal yn anfodlon ar ôl cam olaf ein proses gwyno, efallai y byddwch chi'n gallu codi eich pryderon gyda'r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaethau Iechyd.
Gallwch gwyno am sut rydym wedi cadw at, neu wedi methu â chadw at, safonau’r Gymraeg.
I wneud cwyn am hyn, gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio'r un broses â chwyn arferol.
Bydd ein Tîm Cwynion yn delio â'ch cwyn. Mae aelodau'r tîm hwn yn derbyn hyfforddiant ar Safonau'r Gymraeg wrth ddechrau eu rôl yn y Comisiwn Etholiadol a gallant hefyd fynychu sesiynau gloywi os oes angen. Bydd y tîm hwn yn ceisio cyngor, os oes angen, gan Uwch Ymgynghorydd yr Iaith Gymraeg neu dîm Cymru.
Bydd cwynion a wneir am ein cydymffurfiaeth â'r safonau hyn yn cael eu trin o fewn yr un amserlenni â chwynion rheolaidd a wneir i ni.
Os nad ydych chi’n fodlon â'n hymateb i'ch cwyn, gallwch ofyn i'n Prif Weithredwr ei adolygu.
Bydd ein Prif Weithredwr yn ystyried eich cwyn a'n hymateb iddo. Wedyn, byddwn yn cysylltu â chi ag unrhyw wybodaeth neu benderfyniadau pellach.
Os ydych chi’n anfodlon â chanlyniad yr adolygiad, y cam nesaf yw cwyno i Gomisiynydd y Gymraeg.