Yn y cyfnod cyn etholiadau, byddwch yn gweld ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr yn ymgyrchu mewn ffyrdd gwahanol er mwyn ceisio dylanwadu ar sut y byddwch yn pleidleisio.

Mae cyfleu negeseuon i bleidleiswyr yn rhan bwysig o'r broses ddemocrataidd. Mae angen i ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr gyfathrebu â chi er mwyn esbonio eu safbwyntiau a'u polisïau, fel bod gennych y wybodaeth angenrheidiol pan fyddwch yn pleidleisio.

Fodd bynnag, gall y rheolau ynghylch ymgyrchu etholiadol fod yn gymhleth. Dyna pam ein bod wedi gweithio gyda sefydliadau eraill i'ch helpu i ddeall sut mae ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol a sefydliadau eraill yn ymgyrchu am eich pleidlais. Rydym am i chi fod yn hyderus pryd bynnag y byddwch yn dod ar draws deunydd ymgyrchu.