Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2019/20
Trosolwg
Mae’r adran hon yn cynnwys trosolwg ar y Comisiwn Etholiadol, ein diben, ein perfformiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a’r prif risgiau a allai beryglu cyflawni ein hamcanion.
Rydym wedi cynnwys crynodeb o’r wybodaeth ariannol o fewn yr adroddiad perfformiad. Mae hyn yn gyson â’r datganiadau ariannol, lle ceir rhagor o wybodaeth.
Y Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 a wnaeth sefydlu’r Comisiwn Etholiadol. Rydym yn annibynnol ar y llywodraeth a phleidiau gwleidyddol, ac yn uniongyrchol atebol i Senedd y DU a phwyllgor a gadeirir gan Lefarydd Tŷ'r Cyffredin. Rydym hefyd yn adrodd i Senedd yr Alban ar swyddogaethau sy’n ymwneud â’i etholiadau seneddol a llywodraeth leol. Unwaith y bydd y darpariaethau cychwyn wedi eu deddfu, byddwn hefyd yn adrodd i’r Senedd ar ei etholiadau seneddol a llywodraeth leol.
Rydym wedi paratoi ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2019-20 yn unol â chyfarwyddyd cyfrifon sydd wedi ei osod allan ar dudalen 111, wedi ei gyhoeddi gan Drysorlys ei Mawrhydi o dan baragraff 17 (2) Atodlen 1 PPERA.
Rydym wedi paratoi’r adroddiad pwerau a chosbau ar dudalen 39 yn unol â pharagraff 15 Atodlen 19(b) a pharagraff 27 Atodlen 19(c) PPERA.
Foreword
I’r Comisiwn Etholiadol, mae 2019-20 wedi bod yn flwyddyn a nodweddwyd gan amserlen etholiadol brysur a chyfnewidiol. Ym mis Mai, ar ôl cefnogi cyflawni etholiadau llywodraeth leol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, ymatebasom yn gyflym i benderfyniad Llywodraeth y DU i gynnal Etholiadau Senedd Ewrop. Ym mis Hydref, buom yn cefnogi Etholiad cyffredinol Senedd y DU ar 12 Rhagfyr. Yn gynnar yn 2020, mewn ymateb i’r pandemig Covid-19, gwnaethom gynghori a chynorthwyo Llywodraeth y DU wrth ohirio etholiadau mis Mai, gan gydnabod yr effaith ar bleidleiswyr, ymgyrchwyr, ac awdurdodau lleol.
Cyn etholiad 2019, rhoesom gymorth i bawb a fu’n cymryd rhan. Cynaliasom ymgyrchoedd ymwybyddiaeth gyhoeddus i sicrhau bod pawb a oedd yn gymwys yn gallu cofrestru a bwrw eu pleidlais; fe wnaeth un ym mhob 4 person weld ein hymgyrch etholiad cyffredinol ac fe wnaeth gweinyddwyr etholiadol ychwanegu mwy na 1.2 miliwn o bobl at y cofrestrau. Yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr, aethom i’r afael â bron i 9,000 o ymholiadau gan y cyhoedd, ac fe wnaeth bron i 1.3 miliwn o ddefnyddwyr ymweld â’n gwefan, gan roi i bobl y wybodaeth yr oedd ei hangen arnynt i bleidleisio’n hyderus. Cynorthwyasom y nifer uchaf erioed o ymgyrchwyr di-blaid i gymryd rhan yn yr etholiadau, a chyhoeddi gwybodaeth am dros £113 miliwn o roddion a dderbyniwyd gan bleidiau gwleidyddol yn y DU yn 2019, gan sicrhau bod y cyhoedd yn gallu gweld o ble y cafodd pleidiau eu cyllid. Gweithiasom yn agos â Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) a’r Coleg Heddlu i gynhyrchu canllawiau i helpu ymgeiswyr i gynnal ymgyrchoedd parchus ac amddiffyn eu hunain rhag camdriniaeth.
Fe aeth y gymuned etholiadol i’r afael â’r her ac er gwaethaf ansicrwydd ac amserlenni tyn digwyddiadau’r flwyddyn, cyflawnwyd etholiadau llwyddiannus. Fe wnaeth ein hymchwil barn gyhoeddus ganfod bod gan y mwyafrif o’r rheiny a ymatebodd hyder yn y modd y cafodd yr etholiadau hyn eu cynnal (69% ar gyfer yr etholiad cyffredinol), er bod y lefelau hyder yn is na’r hyn a gafwyd mewn arolygon blaenorol, a daeth y pwysau ar y system yn fwyfwy amlwg. Fel gyda phob etholiad, cynorthwyasom waith ein gweinyddwyr etholiadol - fe wnaeth 99% o’r rheiny a ymatebodd i’n harolwg ar ôl y bleidlais ddweud eu bod wedi cael ein canllawiau ac adnoddau yn ddefnyddiol.
Yn ychwanegol at yr amserlen etholiadol brysur, cynorthwyasom ein gweinyddwyr etholiadol mewn dwy ardal i gynnal deisebau adalw, ac fe wnaeth y ddwy beri is-etholiad. Adroddasom ar weinyddu’r deisebau hyn, gan rannu argymhellion ar gyfer gwelliannau yn y dyfodol â Llywodraeth y DU. Fe wnaethom hefyd gynorthwyo gyda pharatoadau ar gyfer newidiadau pwysig i’r canfasiad blynyddol, a fydd yn symleiddio archwiliad blynyddol y cofrestrau etholiadol. Rydym wedi datblygu canllawiau ar y broses newydd, fel y gall gweinyddwyr ddeall eu cyfrifoldebau; creasom hefyd ffurflenni hawdd eu defnyddio ar gyfer y cyhoedd. Rydym wedi gweithio’n agos â Chymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol, Cymdeithas Aseswyr yr Alban, Solace, a swyddogion o lywodraethau’r DU i sicrhau ein bod ni oll yn ymgorffori’r newidiadau yn llwyddiannus.
Gwnaethom gadw cofrestrau’r pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr, goruchwylio’r cyfreithiau parthed cyllid gwleidyddol, cyhoeddi ffurflenni ariannol, gweinyddu grantiau datblygu a pholisi, darparu canllawiau a chyngor, a gweithredu rheoleiddio. Mae gennym hanes cryf o lwyddo yn y llysoedd, ond rydym yn ceisio dysgu hefyd gan bob canlyniad. Fe wnaethom hefyd alluogi a chynorthwyo cyrff cysylltiedig yn eu gwaith rheoleiddio, megis yr heddlu, CPS, y Comisiynydd Gwybodaeth, Ofcom, yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol, a’r Comisiynydd Seneddol dros Safonau. Fe wnaethom hefyd ymgysylltu â’r prif gwmnïau cyfryngau cymdeithasol i annog eu rôl yn nhryloywder ymgyrchu gwleidyddol.
Rydym wedi parhau i gryfhau ein perthynas â seneddau yr Alban, Cymru, a’r DU. Mae hyn wedi cynnwys gwerthuso’r cynlluniau peilot a gynhaliwyd yn Lloegr; helpu i baratoi at newidiadau i’r etholfraint yng Nghymru a’r Alban; a chefnogi biliau diwygio etholiadol sylweddol yn seneddau’r Alban a Chymru. Cydweithiasom â Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon ar gynlluniau i gyflawni’r canfasiad llawn y mae’n ofynnol ei gynnal bob 10 mlynedd, a fydd bellach yn digwydd yn 2021.
Rydym yn gweld alinio rhwng ein hargymhellion a mentrau a blaenoriaethau llywodraethau’r DU, megis ymrwymiadau llywodraethau’r DU i amddiffyn democratiaeth, a Senedd yr Alban yn cynnwys nifer o’n hargymhellion yn ei ddeddfwriaeth refferenda newydd. Byddwn yn parhau i annog yr holl lywodraethau i roi ein hargymhellion ar waith, gan gynnwys diwygio’r rheolau ar gyfer ymgyrchu digidol, ac ar gyfer cyfraith etholiadol yn fwy cyffredinol, wedi eu seilio ar yr argymhellion gwych a wnaed gan adroddiad terfynol Comisiynydd y Gyfraith ar y pwnc. Yn 2019, cyhoeddasom ymchwil bwysfawr i gywirdeb a chyflawnder y cofrestrau etholiadol, yn ogystal ag astudiaeth ddichonoldeb ar opsiynau ar gyfer moderneiddio cofrestru etholiadol, gan ddangos buddion posib diwygio yn y maes hwn.
Rydym hefyd wedi ymrwymo i wneud ein diwygiadau ein hunain. Y flwyddyn ddiwethaf, fe wnaethom barhau i adolygu yr holl ddisgrifiadau pleidiau a gynhwyswyd ar y gofrestr, i helpu pleidleiswyr i ganfod ymgeiswyr yn glir ar y papur pleidleisio. Gan gydweithio â’r prif bleidiau gwleidyddol, rydym wedi gwneud cynnydd da ar offeryn ar-lein newydd a fydd yn ei gwneud hi’n haws i bleidiau ac ymgyrchwyr gofrestru gyda ni ac adrodd gwybodaeth ariannol. Mewn system lle mae’r rhan fwyaf yn cydymffurfio â’r rheolau parthed cyllid gwleidyddol, yr hyn sydd orau gennym yw helpu i gynyddu cydymffurfiaeth yn hytrach na chymryd camau gorfodi wedyn. Bydd yr offeryn newydd yn chwarae rôl wrth helpu’r rheiny rydym yn eu rheoleiddio i gyflawni hynny.
Yn sylfaen i’n gwaith, rydym wedi gwella ein swyddogaethau adnoddau dynol, cynllunio, a thechnoleg ddigidol. Rydym wedi rhoi ar waith systemau cynllunio, llywodraethiant a chaffael newydd ar-lein. Rydym hefyd wedi buddsoddi mewn datblygu ac ymgysyllu â staff, ac o ganlyniad mae trosiant staff wedi cwympo 19%.
Wrth inni edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod, erys y risgiau a gyflwynir gan gyfraith etholiadol hynafol a chymhleth yn bryder allweddol. Law yn llaw â phwysau parhaus ar adnoddau a chynhwysiant awdurdodau lleol, a system gofrestru hynafol, mae’n cynyddu’r straen ar weinyddwyr etholiadol ac yn methu â chadw’n gyfredol mewn perthynas â datblygiadau technolegol. Rydym yn barod i weithio gyda llywodraethau a rhanddeiliaid eraill i fynd i’r afael â’r heriau hyn.
Edrychwn ymlaen at barhau i weithio â llywodraethau’r DU i sicrhau bod eu cynlluniau cyfredol ar gyfer diwygio yn gallu mynd yn eu blaenau yn effeithiol. Rydym yn cydweithio’n agos â phob llywodraeth ar oblygiadau’r pandemig Covid-19 ar gyfer etholiadau, ac yn trafod ag eraill yn ogystal, i weld pa wersi y gellir eu dysgu a pha newidiadau a allai fod yn ddefnyddiol at y dyfodol.
Amdanom ni
Ein rôl
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb.
Ein gweledigaeth a'n hamcanion
Ein gweledigaeth yw bod yn sefydliad sector cyhoeddus o'r radd flaenaf - arloesol, yn darparu gwerth ac yn gwneud yn iawn yr hyn sydd bwysicaf i bleidleiswyr a deddfwyr.
Yn 2019-20 buom yn gweithio tuag at gyflawni pedwar amcan:
- Galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch
- Sicrhau system reoleiddio fwyfwy dibynadwy a thryloyw mewn cyllid gwleidyddol, goruchwylio cydymffurfiaeth, hyrwyddo dealltwriaeth ymhlith y rhai a reoleiddir a mynd ar drywydd tramgwyddau mewn modd rhagweithiol
- Bod yn ganolfan arbenigedd annibynnol a pharchus, gan ddefnyddio gwybodaeth a mewnwelediad i hyrwyddo tryloywder, tegwch ac effeithlonrwydd ein system ddemocrataidd, a helpu i'w haddasu i'r oes ddigidol fodern
- Darparu gwerth am arian, gan wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau a'n harbenigedd i ddarparu gwasanaethau sy'n ymateb i'r hyn sydd bwysicaf i bleidleiswyr. Mae'r amcan hwn yn sail i’n holl waith, ac yn cynnal y cyfan
Ciplun o’n blwyddyn 2019-20
Ebrill 2019
- Penodwyd Prif Weithredwr newydd
- Cyflawnwyd ymgyrch yn annog pobl i gofrestru i bleidleisio cyn etholiadau lleol yn Lloegr a Gogledd
Mai
- Cefnogwyd cyflawni etholiadau lleol yng Ngogledd Iwerddon a Lloegr
- Cynhaliwyd ymgyrch yn annog pobl i gofrestru i bleidleisio cyn etholiadau Senedd Ewrop, a chynorthwyo cyflawni’r etholiad
- Darparwyd tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020; a rhoddwyd tystiolaeth lafar i Gynulliad Llundain ar ymchwiliad yr Heddlu Metropolitanaidd i Vote Leave
- Cefnogwyd cyflawni’r ddeiseb adalw ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed
Mehefin
- Cyhoeddwyd adroddiad ar gynigion Llywodraeth y DU i ddiwygio’r canfasiad blynyddol
- Darparwyd tystiolaeth lafar i Senedd y DU parthed camwahaniaethu
Gorffennaf
- Cyhoeddwyd ein gwerthusiad o gynlluniau peilot Llywodraeth y DU ar gyfer moddion adnabod pleidleiswyr
- Lansiwyd ein gwefan newydd: electoralcommission.org.uk
- Cyhoeddwyd astudiaethau dichonoldeb ar foderneiddio cofrestru etholiadol
- Darparwyd tystiolaeth lafar i Senedd y DU parthed cyfraith etholiadol ac am y rheolau parthed unrhyw gynulliad dinasyddion neu refferendwm yn y dyfodol
Awst
- Darparwyd tystiolaeth ysgrifenedig i Senedd yr Alban parthed ei Ddeddf Refferenda
Medi
- Cyhoeddwyd canllawiau newydd ar gyfer ymgyrchwyr di-blaid
- Cyhoeddwyd canlyniadau ein hymchwil i gywirdeb a chyfanrwydd cofrestrau etholiadol ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon
- Darparwyd tystiolaeth ysgrifenedig i Senedd yr Alban parthed Deddf Etholiadau’r Alban (Etholfraint a Chynrychiolaeth), a pharthed ei Ddeddf Refferenda
- Cyhoeddwyd adroddiad ar drefn ymgeiswyr ar bapurau pleidleisio yn etholiadau cyngor yn yr Alban
Hydref
- Cyhoeddwyd adroddiadau ar etholiadau mis Mai 2019 ac ar y deisebau adalw yn etholaethau Peterborough, a Brycheiniog a Sir Faesyfed
- Darparwyd tystiolaeth lafar i Senedd yr Alban parthed Deddf Etholiadau’r Alban (Etholfraint a Chynrychiolaeth)
- Ymgynghorwyd ar godau ymarfer gwariant ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol yn etholiadau Senedd Cymru
Tachwedd
- Darparwyd tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig i Senedd yr Alban parthed Deddf Etholiadau’r Alban (Diwygio)
- Cynhaliwyd ymgyrch cofrestru pleidleiswyr cyn etholiad cyffredinol Senedd y DU
Rhagfyr
- Cefnogwyd cyflawni etholiad cyffredinol Senedd y DU
Ionawr 2020
- Darparwyd tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru parthed Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)
- Cyhoeddwyd ymgynghoriad ar safonau perfformiad Swyddogion Cofrestru Etholiadol
Chwefror
- Darparwyd tystiolaeth ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru parthed systemau a ffiniau etholiadol
- Darparwyd tystiolaeth ysgrifenedig i Bwyllgor Dethol Tŷ’r Arglwyddi ar Ddeddf Cofrestru a Gweinyddu Etholiadol 2013
Mawrth
- Darparwyd tystiolaeth ysgrifenedig i Bwyllgor Dethol Tŷ'r Arglwyddi ar Ddemocratiaeth a Thechnolegau Digidol
- Cyhoeddwyd data twyll etholiadol o 2019
Ein blwyddyn mewn rhifau
- Defnyddiwyd £20.0m o adnoddau, gan gynnwys gwariant cyfalaf £879k
- Buddsoddwyd 47% o’n gwariant ar gostau staff (9.4m)
- Cyflawnwyd 72% sgôr ymgysylltu â chyflogeion (65% yn 2018)
- Atebwyd 25,402 o ymholiadau gan y cyhoedd - cynnydd o 408% ar y llynedd
- Cyfrannwyd at fwy na 1.9m o ychwanegiadau at y gofrestr etholiadol yn dilyn tair ymgyrch
- Ymatebwyd i 287 o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth
- Cyhoeddwyd 1,743 o ffurflenni ariannol rheolaidd gan bleidiau ac ymgyrchwyr
- Hysbyswyd 86% o’r ceisiadau cofrestru plaid o’u canlyniad ymhen 30 diwrnod
- Cyhoeddwyd 769 o ddatganiadau cyfrifon blynyddol ar gyfer pleidiau gwleidyddol ac unedau cyfrifyddu
- Cofrestrwyd 36 o ymgyrchwyr di-blaid yn y misoedd cyn etholiad cyffredinol Senedd y DU
- Cwblhawyd 83 o ymchwiliadau, 84% ohonynt o fewn 180 diwrnod
- Rhoddwyd £90,580 o gosbau sifil yn ein rôl fel rheoleiddiwr
- Cyhoeddwyd 100% o’n cynhyrchion canllawiau yn brydlon
- Ymatebwyd i 5,548 o geisiadau am gyngor gan awdurdodau lleol - 99.7% o fewn 3 diwrnod
- Achredwyd 1,167 o sylwedyddion etholiadol - y nifer uchaf ers i ni ddechrau’r cynllun yn 2007
Dadansoddiad o berfformiad
Rydym yn mesur ein perfformiad yn erbyn yr amcanion a osodwyd allan yn ein Cynllun Busnes 2019-20. Rydym wedi canfod gweithgareddau a mesurau perfformiad cyfatebol sy’n cyfrannu at gyflawni pob amcan
Mae Bwrdd y Comisiwn yn cytuno ar ein mesurau perfformiad bob blwyddyn, ac yn derbyn diweddariad cynnydd bob chwarter. Mae’r tudalennau canlynol yn dangos ein perfformiad yn erbyn y mesurau hyn yn 2019-20.