Dadansoddi perfformiad 2020/21: Nod pedwar
Nod pedwar
Darparu gwerth am arian, gan wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau a'n harbenigedd er mwyn darparu gwasanaethau sy'n berthnasol i'r hyn sydd bwysicaf i bleidleiswyr.
Mae'r nod hwn yn darparu ffocws ar gyfer gweithgareddau sy'n cefnogi'r sefydliad ac yn sicrhau bod y bobl fedrus, yr adnoddau, y dechnoleg, y systemau a'r trefniadau llywodraethu priodol gennym. Y nod yw darparu gwasanaethau sy'n effeithlon, yn effeithiol ac yn ddarbodus.
Cyflawniadau allweddol
Er mwyn cefnogi ein sefydliad, gwnaethom y canlynol:
- rhoi ein trefniadau atebolrwydd newydd gyda Senedd Cymru a Senedd yr Alban ar waith, a ddaeth yn weithredol ar 1 Ebrill 2021.
- adolygu ac ailwampio'r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau cyfreithiol
- helpu staff gyda'r heriau a oedd yn gysylltiedig â gweithio gartref yn ystod y pandemig, a pharhau i gefnogi ein rhanddeiliaid a chyflawni blaenoriaethau'r sefydliad
- rhoi ein Strategaeth Pobl newydd ar waith er mwyn cefnogi'r defnydd gorau o'n hadnoddau
- dechrau ymgynghoriad mewnol ar ein strategaeth a'n dull gweithredu Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd
- sefydlu Tasglu Hil yn y Gwaith
- comisiynu adroddiad allanol ar fwlio ac aflonyddu mewn ymateb i'r adborth a gafwyd o'r arolwg staff a phenodi hyrwyddwr i arwain ein hymateb
- rhoi systemau TG newydd ar waith gan gynnwys system e-gaffael newydd a systemau cyfathrebu unedig newydd (gan gynnwys system ffôn, cyfarpar fideogynadledda wedi'i uwchraddio, gwasanaeth negeseua gwib a system cynllunio a pherfformiad newydd)
- adnewyddu ein hamgylchedd gwaith er mwyn cefnogi ffyrdd newydd hyblyg o weithio
- sefydlu menter Sicrhau Ansawdd i'n helpu i wella ein prosesau yn barhaus
Mesurau perfformiad
Mesur | Perfformiad |
---|---|
Dysgu gwersi ymarferol o arferion cyfredol gweithio gartref a gweithio o bell a chynllunio swyddfeydd y dyfodol yn unol â hynny | Yn mynd rhagddo1 |
Cyflawni ein prosiect Ffyrdd o Weithio er mwyn sicrhau newidiadau busnes a weithredir yn ddigidol i adlewyrchu'r disgwyliadau sydd ar gyflogwyr modern, a sicrhau y gall y cyfleusterau TGCh craidd gefnogi'r newidiadau hyn. | Cwblhawyd |
Boddhad rhanddeiliaid a staff ag adnoddau TG | Yn mynd rhagddo2 |
Gweithio gyda Senedd Cymru a Senedd yr Alban i roi ein trefniadau atebolrwydd newydd ar waith, gan gynnwys fformiwla cyllido newydd a chynlluniau busnes ar gyfer Cymru a'r Alban | Cwblhawyd |
Rhoi ein Strategaeth Pobl newydd ar waith | Yn mynd rhagddo |
Cynnal sgoriau ymgysylltu â staff uchel yn yr arolwg staff blynyddol a sicrhau bod dangosyddion megis trosiant staff ar lefelau priodol | Sgôr ymgysylltu â staff: 72% (Cyfartaledd y Gwasanaeth Sifil: 62%) Trosiant staff: 9.23% |
Nodi opsiynau, costau a buddiannau e-gaffael a gweithredu system newydd yn unol â hynny | Cwblhawyd |
Monitro amrywiannau sylweddol ym mhob cyllideb a, lle y bo'n briodol, lleihau'r amrywiannau hyn yn ystod pum mlynedd ein Cynllun Corfforaethol | Cwblhawyd |
Cynnal prosiect i archwilio pa mor dda rydym yn rheoli ymholiadau cwsmeriaid ar draws pob rhan o waith y Comisiwn | Yn mynd rhagddo |
Cefnogi'r sefydliad
Fel gyda phob sefydliad, mae pandemig Covid-19 wedi trawsnewid y ffordd rydym yn gweithio ac wedi cyflwyno heriau mawr, gan gynnwys pobl yn gorfod gweithio gartref bron drwy'r amser yn ystod y flwyddyn adrodd. Ein nod drwy'r cyfnod hwn fu cefnogi llesiant staff a pharhau i ganolbwyntio ar ein rôl bwysig o gyflawni ar ran pleidleiswyr a chefnogi ein rhanddeiliaid etholiadol ar yr un pryd. Cynhaliwyd adolygiad mewnol o'n hymateb cychwynnol dros yr haf, a chynhaliwyd archwiliad mewnol ar ddiwedd y flwyddyn. Canfu'r naill a'r llall ein bod wedi mynd i'r afael â'r sefyllfa'n dda ac wedi dysgu gwersi, yn enwedig ynghylch ffurfioli ein strwythurau gwneud penderfyniadau mewn argyfwng.
Rydym wedi gwneud cryn dipyn o ymdrech i gefnogi a datblygu ein pobl. Mae ein Strategaeth Pobl yn cynnwys camau i hwyluso diwylliant lle y gall cyflogeion gyflawni eu rolau yn fwy effeithiol. Dechreuom ar y gwaith hwn drwy adolygu ein prosesau rheoli perfformiad a datblygu.
Buddsoddwyd mwy o arian mewn dysgu a datblygu a sicrhawyd bod staff yn ymwybodol o'r amrywiaeth o opsiynau datblygu sydd ar gael.
Rydym hefyd wedi parhau i gyflwyno ein rhaglen datblygu arweinwyr a rheolwyr ar gyfer pob rheolwr.
Parhawyd i gefnogi grwpiau staff a sefydlwyd gennym i fynd i'r afael â meysydd penodol, fel y grŵp ymgysylltu â staff, er mwyn sicrhau bod ein cyflogeion yn rhoi mewnbwn i bolisïau a rhaglenni corfforaethol.
Mae gennym grwpiau dynodedig hefyd i gefnogi staff sy'n wynebu bwlio ac aflonyddu, i gefnogi'r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl ac i hyrwyddo urddas a pharch yn y gwaith. Rydym yn cynnal cysylltiadau cryf â'n hundeb llafur, yr Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol.
Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol ym maes cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym wedi sefydlu Tasglu Hil yn y Gwaith i sicrhau bod lleisiau ein staff du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu clywed ac yn rym dros newid. Rydym wedi paratoi strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd a byddwn yn cynnal ymgynghoriad ar y strategaeth honno. Rydym wrthi'n adolygu ac yn gwella ein proses Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb.
Rydym wedi parhau i drawsnewid y ffordd rydym yn gweithio drwy fuddsoddi'n sylweddol yn ein seilwaith digidol, er mwyn gwella ei gadernid a chefnogi arferion gweithio hyblyg. Bydd y broses o gyflwyno gliniaduron newydd i bob aelod o staff, sydd ar fin cael ei chwblhau, yn sicrhau bod ein harferion gweithio yn fwy effeithlon. Rydym hefyd wedi cyflwyno system gyfathrebu unedig newydd.
Gwnaethom fuddsoddi'n sylweddol yn ein swyddfeydd y flwyddyn hon er mwyn sicrhau ein bod yn barod ar gyfer arferion gweithio newydd a mwy hyblyg ar ôl y pandemig. Mae'r gwaith hwn wedi'i gwblhau ar amser er gwaethaf cyfyngiadau'r pandemig.
Rydym hefyd wedi gwneud gwelliannau sylweddol i'n systemau cyflawni busnes. Rydym wedi rhoi fframwaith rheoli prosiectau newydd ar waith ac wedi sefydlu menter Sicrhau Ansawdd er mwyn ein helpu i sicrhau gwelliant parhaus. Rydym hefyd wedi rhoi system rheoli ac olrhain perfformiad newydd ar waith er mwyn gwella ein dulliau adrodd.
Rydym wedi parhau i weithio gyda'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol hefyd er mwyn gwella'r ffordd rydym yn monitro ein rhwydweithiau a'n llwyfannau.
Rydym yn cyflwyno adroddiadau i Senedd Cymru a Senedd yr Alban mewn perthynas â'n gwaith polisi ar faterion datganoledig ac, o 1 Ebrill 2021, byddwn yn atebol iddynt yn yr un ffordd ag yr ydym i Senedd y DU ac rydym wedi cytuno ar Ddatganiad o Egwyddorion Cyllido. Yn ogystal â'n hatebolrwydd diwygiedig, bydd hyn yn newid y ffordd y caiff arian ei dderbyn. Bydd £17.2m o'r gyllideb yn dod o'r Gronfa Gyfunol a weinyddir gan Drysorlys EM, bydd £2.6m yn dod o Gorff Corfforaethol Senedd yr Alban a bydd £1.8m yn dod o Gronfa Gyfunol Cymru ar gyfer 2021/22
Effaith Covid-19
Yn sgil y penderfyniad i ohirio'r etholiadau, addaswyd y ffordd roeddem yn ymgymryd â'n gweithgareddau, gan greu cyfleoedd i adolygu arferion gwaith.
Cynhaliwyd adolygiad o'n hymateb i'r pandemig. Canfu'r adolygiad ein bod wedi sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion staff cymorth a'r angen i barhau i gyflawni blaenoriaethau'r sefydliad, a bod y Comisiwn wedi gweithredu'n gyflym ac yn effeithiol.
Cynhaliwyd archwiliad pellach gan ein harchwilwyr mewnol ar ddechrau 2021 a gadarnhaodd y canfyddiadau hyn. Rydym wedi gwneud nifer o newidiadau i wella ein hymateb ymhellach, gan gynnwys sefydlu strwythur rheoli Aur/Arian ffurfiol i gefnogi'r broses o wneud penderfyniadau.
Cyfanswm y costau ychwanegol yr aeth y Comisiwn iddynt wrth helpu staff i weithio gartref oedd £85k. Gallai'r costau hyn gael eu rhannu'n dri maes:
- lwfans gweithio gartref i bob aelod o staff (£67k)
- gwasanaethau cludo (£8k) – i gludo cyfarpar hanfodol o'r swyddfeydd i gyfeiriadau cartref
- prynu cyfarpar ychwanegol i alluogi pobl i weithio gartref yn llwyddiannus (£10k).
Mae'r costau ychwanegol wedi cael eu hamsugno oherwydd tanwariant o ran cyllideb digwyddiadau'r Comisiwn a achoswyd gan y pandemig.
Effaith yr ymadawiad â'r UE
Ni ddisgwylir i unrhyw Etholiadau pellach i Senedd Ewrop gael eu cynnal yn y DU, ac mae'r ddeddfwriaeth etholiadau gysylltiedig wedi'i diddymu.
Yn sgil Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, cyflwynwyd newidiadau i'r rheolau mewn perthynas â rhoddion a benthyciadau a dderbynnir gan bleidiau, ymgeiswyr, ymgeiswyr nad ydynt yn bleidiau a derbynwyr a reoleiddir, a'r broses o gofrestru ymgeiswyr nad ydynt yn bleidiau. Daeth y newidiadau hyn yn weithredol ar 31 Rhagfyr ac roedd angen i'r tîm canllawiau fynd ati i ddiweddaru ei holl ganllawiau ac adnoddau ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon, sef tua 70 o adnoddau canllaw i gyd.
Nid aethpwyd i unrhyw gostau ariannol ychwanegol am gwblhau'r gwaith hwn.
- 1. O ganlyniad i effaith Covid-19, mae newid annisgwyl a sylweddol wedi bod yn ein harferion gweithio dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydym wedi cynnal ymgynghoriad eang â staff yn ystod y cyfnod hwn a byddwn yn treialu dulliau newydd o fynd i'r afael ag amser gweithio a lleoliadau gweithio yn ystod y flwyddyn sydd i ddod ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rydym wedi parhau i uwchraddio seilwaith, dyfeisiau a rhaglenni yn ystod y flwyddyn hon, ond bu oedi wrth ymgymryd â'r gwaith hwn oherwydd effaith Covid-19. Byddwn yn gwerthuso hyn yn ystod y flwyddyn sydd i ddod ↩ Back to content at footnote 2