Dadansoddi perfformiad 2020/21: Nod tri

Nod tri

Bod yn ganolfan arbenigedd annibynnol uchel ei pharch, gan ddefnyddio gwybodaeth a dealltwriaeth i wella tryloywder, tegwch ac effeithlonrwydd ein system ddemocrataidd ymhellach, a helpu i'w haddasu i'r oes fodern, ddigidol.

Mae'r maes gwaith hwn yn canolbwyntio ar arloesi ac atgyfnerthu ein sail dystiolaeth.  Mae ein harbenigedd ym meysydd polisi, ymchwil a chyfathrebu yn rhan greiddiol o'r gwaith hwn. 
 

Cyflawniadau allweddol

Er mwyn cyfrannu at arloesi ac atgyfnerthu ein sail dystiolaeth, gwnaethom y canlynol:

  • cyflwyno adroddiad ar Etholiad Cyffredinol Senedd y DU yn 2019 a gwneud argymhellion er mwyn helpu i wella digwyddiadau etholiadol yn y dyfodol
  • comisiynu ymchwil ansoddol gyda'r cyhoedd ledled y DU er mwyn archwilio agweddau at brosesau pleidleisio presennol a mynediad at wybodaeth am etholiadau 
  • rhoi cyngor arbenigol annibynnol i lywodraethau a seneddau Cymru a'r Alban ar newidiadau deddfwriaethol a newidiadau polisi sy'n codi o'u priod agendâu diwygio etholiadol
  • helpu llywodraethau'r DU, Cymru a'r Alban i ddatblygu deddfwriaeth a'i rhoi ar waith er mwyn helpu i ateb yr heriau sy'n gysylltiedig â chynnal etholiadau yn effeithiol yng nghyd-destun cyfyngiadau ym maes iechyd y cyhoedd
  • cyhoeddi cyfres o adnoddau modiwlaidd ar addysg dinasyddiaeth i bobl ifanc 14-18 oed yn yr Alban ac, am y tro cyntaf, yng Nghymru, cyn etholiadau Senedd yr Alban a Senedd Cymru
  • cyflwyno ymateb manwl i ymgynghoriad technegol Llywodraeth y DU a fyddai'n llywio'r broses o ddatblygu gofynion tryloywder newydd (‘argraffnodau’) ar gyfer deunydd ymgyrchu digidol
  • lansio ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd a chefnogi adnodd gwybodaeth ar-lein i gynyddu llythrennedd digidol mewn perthynas ag ymgyrchu ar-lein – datblygu cynnwys mewn partneriaeth â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, Ofcom, Awdurdod Ystadegau'r DU a'r Awdurdod Safonau Hysbysebu
  • monitro'r ffordd y cynhaliwyd digwyddiadau etholiadol ledled y byd yng nghyd-destun cyfyngiadau Covid, er mwyn llywio'r broses o ddatblygu arferion yn y DU
  • cyhoeddi cyfres o adroddiadau ymchwil ar agweddau tuag at bleidleisio cyn yr etholiadau ym mis Mai 2021
  • cyhoeddi canfyddiadau ymchwil ansoddol ar agweddau'r cyhoedd at dryloywder cyllid gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon
  • rhoi tystiolaeth i bwyllgorau seneddol er mwyn sicrhau y byddai ein dadansoddiadau arbenigol o etholiadau a rheoleiddio yn llywio eu gwaith. 
     

Mesurau perfformiad

Mesur Perfformiad
Rydym yn cyhoeddi 100% o'n hadroddiadau o fewn terfynau amser arfaethedig 100%
Cyflawnwyd
Rydym yn rhoi sylwadau ar 100% o'r cynigion polisi a deddfwriaethol perthnasol 100%
Cyflawnwyd
Gweithio o blaid yr argymhellion ynghylch diwygio cyfraith etholiadol gan Gomisiynau Cyfraith Cymru a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon Yn mynd rhagddo

 

Ein gweithgareddau yn ystod y flwyddyn

Arloesi ac atgyfnerthu ein sail dystiolaeth

Gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiad statudol ar y broses o gynnal Etholiad Cyffredinol Senedd y DU ym mis Rhagfyr 2019.  Canfuom fod yr etholiad wedi'i gynnal yn effeithiol ar y cyfan, ond tynnodd ein dadansoddiad sylw at dystiolaeth newydd a oedd yn dangos heriau ar gyfer y dyfodol. Nododd ein hadroddiad fod strwythurau gweinyddu etholiadau'r DU o dan straen sylweddol, a thynnodd sylw at y pryderon cynyddol sydd gan bobl ynghylch rhai agweddau ar ymgyrchu etholiadol. Croesawodd Llywodraeth y DU yr adroddiad, gan nodi ei fod yn ei helpu i sicrhau bod ein democratiaeth yn arwain y byd drwy nodi heriau a chyfleoedd cyfredol. 

Rhoesom gyngor a chymorth arbenigol i lywodraethau a seneddau'r DU, Cymru a'r Alban i'w helpu i ddatblygu polisi a deddfwriaeth i gefnogi'r broses o gynnal etholiadau yng nghyd-destun cyfyngiadau iechyd y cyhoedd. Roedd hyn yn cynnwys cyngor ar 24 o gynigion gwahanol ar gyfer deddfwriaeth ddrafft yn ystod y flwyddyn hon; gwnaeth y mewnbwn a roddwyd gennym helpu i sicrhau y byddai'r rhain yn ymarferol.

Rhoesom gyngor arbenigol i lywodraethau'r DU a'r Alban wrth iddynt fynd ati i ddatblygu cynigion ar gyfer gwella tryloywder deunydd ymgyrchu digidol. Roedd ein profiad helaeth o reoleiddio'r gofyniad cyfredol i ymgyrchwyr gynnwys ‘argraffnod’, sy'n dangos pwy sy'n gyfrifol am argraffu a hyrwyddu deunydd ymgyrchu argraffedig, o fudd i Lywodraeth yr Alban wrth iddi roi gofyniad newydd ar waith ar gyfer deunydd ymgyrchu etholiadol digidol am y tro cyntaf yn y DU.

Rhoesom ymateb cynhwysfawr hefyd i ymgynghoriad technegol Llywodraeth y DU a fyddai'n llywio ei chynlluniau ei hun ar gyfer deddfwriaeth y disgwylir iddi gael ei chyflwyno yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Rhoesom dystiolaeth i bwyllgorau seneddol er mwyn sicrhau y byddai ein dadansoddiad arbenigol ynghylch etholiadau a rheoleiddio yn llywio eu gwaith. Yn Senedd y DU, roedd hyn yn cynnwys y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol, mewn ymateb i'w ymchwiliad i waith y Comisiwn Etholiadol, a sesiwn ar y cyd â'r Gymdeithas Llywodraeth Leol a Chymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol a oedd yn canolbwyntio ar baratoadau ar gyfer yr etholiadau ym mis Mai 2021. Gweithiom hefyd gyda'r Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus mewn ymateb i'w adolygiad o reoleiddio etholiadol.

Yn Senedd Cymru, rhoesom dystiolaeth i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), i Bwyllgor Diwygio Etholiadol y Cynulliad ar ei ymchwiliad i systemau a ffiniau etholiadol, ac i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Fil Senedd ac Etholiadau (Cymru). 

Yn Senedd yr Alban, rhoesom dystiolaeth i'r Pwyllgor Safonau, Gweithdrefnau a Phenodiadau Cyhoeddus ar Fil Etholiadau'r Alban (Etholfraint a Chynrychiolaeth) a Bil Etholiadau'r Alban (Diwygio). Rhoesom dystiolaeth hefyd i'r Pwyllgor Cyllid a Chyfansoddiad ar Fil Refferenda (Yr Alban).

Gwnaethom barhau i ddatblygu ymarferoldeb a chynnwys ein gwefan, gan ddefnyddio dadansoddeg ac adborth o brofion defnyddwyr. Gwnaethom barhau i sicrhau cydymffurfiaeth â chanllawiau hygyrchedd cynnwys gwefannau (WCAG 2.1), gan drosi cynnwys o PDF i HTML.