Dadansoddi perfformiad 2020/21: Nod un

Goal 1

Galluogi'r gwaith o gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion yr etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid o hyd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel ac yn hygyrch.

Mae'r nod hwn yn cynnwys ein rôl i oruchwylio'r broses o gynnal etholiadau ym mhob rhan o'r DU ac mae'n canolbwyntio ar dri maes:  cynnal digwyddiadau etholiadol yn effeithiol, moderneiddio cofrestru etholiadol a manteisio i'r eithaf arno, a mynd i'r afael â thwyll etholiadol. 
 

Cyflawniadau allweddol

Er mwyn helpu i gynnal digwyddiadau etholiadau yn effeithiol, gwnaethom y canlynol:  

  • cyhoeddi canllawiau ac adnoddau, a rhoi cymorth i weinyddwyr etholiadol, ymgeiswyr ac asiantiaid mewn perthynas â'r etholiadau a drefnwyd ym mis Mai 2021, gan gynnwys y rhai a ohiriwyd o fis Mai 2020; roedd hyn yn cynnwys amrywiaeth o ganllawiau atodol ar gyfer gweinyddwyr ac ymgeiswyr ac asiantiaid i'w helpu i gynnal yr etholiadau yng nghyd-destun y pandemig
  • gweithio gyda rhanddeiliaid o bob rhan o'r gymuned etholiadol i nodi a chyhoeddi cyfres o amcanion lefel uchel ar gyfer cynnal etholiadau llwyddiannus yn yr amgylchedd iechyd y cyhoedd a oedd yn datblygu
  • cyhoeddi amrywiaeth o adnoddau y gallai awdurdodau lleol eu defnyddio i'w helpu i rannu negeseuon ynghylch cynnal yr etholiadau'n ddiogel a'r opsiynau pleidleisio a oedd ar gael
  • gweithio gyda Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r Coleg Plismona i ddarparu canllawiau newydd i ymgeiswyr ac ymgyrchwyr ar nodi achosion o fygylu a rhoi gwybod amdanynt
  • gweithio gyda sefydliadau sy'n cefnogi pobl ag anabledd i godi ymwybyddiaeth o sut y gallant gymryd rhan mewn etholiadau a'r cymorth y gallant ddisgwyl ei gael
  • lansio system newydd ar gyfer prosesu ceisiadau i achredu arsylwyr etholiadol 

Er mwyn helpu i foderneiddio cofrestru etholiadol a manteisio i'r eithaf arno, gwnaethom y canlynol:

  • helpu Swyddogion Cofrestru Etholiadol ym Mhrydain Fawr i gynnal y canfasiad blynyddol cyntaf o dan y broses ddiwygiedig; gan gynnwys drwy ddarparu canllawiau a chyngor, a chyhoeddi canllawiau atodol i helpu Swyddogion Cofrestru Etholiadol i reoli'r canfasiad yng nghyd-destun y pandemig
  • cyhoeddi ymateb i'n hymgynghoriad ar safonau perfformiad ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol, a defnyddio'r fframwaith diwygiedig i lywio'r cymorth a'r heriau a roddwyd i Swyddogion Cofrestru Etholiadol drwy gydol y canfasiad
  • gweithio'n agos gyda Phrif Swyddog Etholiadol Gogledd Iwerddon ar y paratoadau ar gyfer y canfasiad cofrestru etholiadol, y disgwylir iddo gael ei gynnal nawr yn 2021

Er mwyn helpu i atal twyll etholiadol, gwnaethom y canlynol:

  • gweithio gyda'r heddlu ac awdurdodau lleol i roi hyfforddiant ac adolygu cynlluniau uniondeb er mwyn helpu i atal twyll etholiadol
  • cyhoeddi data wedi'u diweddaru ar achosion honedig o dwyll etholiadol y rhoddwyd gwybod amdanynt yn ystod 2019, a data newydd ar nifer bach o achosion y rhoddwyd gwybod amdanynt yn ystod 2020
  • gweithio gyda phartneriaid i baratoi ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o dwyll etholiadol, cyn yr etholiadau ym mis Mai 2021
  • cynnal ein cynhadledd flynyddol ar gyfer Pwyntiau Cyswllt Unigol etholiadau'r heddlu ar-lein, ar y cyd â Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu
  • gweithio gydag Academi Troseddau Economaidd Heddlu Dinas Llundain i gynnal pedwar cwrs hyfforddi ar gyfer swyddogion yr heddlu a chyfrannu cynnwys at y cyrsiau hynny
     

Mesurau perfformiad

Mesur Perfformiad
Rydym yn cyhoeddi 100% o'n cynhyrchion canllaw mewn perthynas â chofrestru etholiadol yn brydlon, heb wallau sylweddol

96.7%
Cyflawnwyd1

Rydym yn rhoi cyngor cywir i Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol o fewn tri diwrnod gwaith i dderbyn y cais. (Targed 100%) 99.4%
Cyflawnwyd2
 
Mae ychwanegiadau at gofrestrau etholiadol yn ystod ein hymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth yn cyflawni ein targedau neu'n rhagori arnynt 
(Targed 0% – ni chynhaliwyd unrhyw ymgyrch) 
0%
Cyflawnwyd3  

 

Ein gweithgareddau yn ystod y flwyddyn

Cynnal digwyddiadau etholiadol yn effeithiol

Yn sgil y pandemig a'r penderfyniadau dilynol a gymerwyd gan lywodraethau'r DU, ni chynhaliwyd unrhyw ddigwyddiadau etholiadol yn 2020/21 ar wahân i is-etholiadau llywodraeth leol yn yr Alban. Felly, aeth y Comisiwn ati'n gyflym yn 2020/21 i ganolbwyntio ar gefnogi'r gymuned etholiadol i baratoi ar gyfer yr etholiadau a drefnwyd – ac a aildrefnwyd – ar gyfer mis Mai 2021.

Er mwyn helpu gweinyddwyr i baratoi ar gyfer yr etholiadau a'u cynnal yng nghyd-destun Covid-19, lluniwyd cyfres o ganllawiau atodol ac adnoddau a oedd yn adlewyrchu'r gofynion penodol ar gyfer rheoli etholiadau diogel o ran Covid-19 yn 2021. Bwriedir i'r dogfennau canllaw atodol gael eu darllen ar y cyd â'n cyfres o ganllawiau craidd i Swyddogion Canlyniadau ac fe'u datblygwyd mewn ymgynghoriad agos â'r gymuned etholiadol a chyrff iechyd y cyhoedd ledled Prydain Fawr.

Gwnaethom ddatblygu amrywiaeth eang o ddeunydd gwybodaeth newydd i bleidleiswyr, er mwyn helpu'r cyhoedd i ddeall sut y gallent gymryd rhan yn hyderus yn yr etholiadau a oedd ar ddod o fewn y cyd-destun newydd. Yn eu plith roedd adnoddau a oedd yn canolbwyntio ar roi gwybod i bobl am yr opsiynau pleidleisio a oedd ar gael iddynt, a'u hannog i gynllunio ymlaen llaw, ac adnoddau a oedd yn nodi'r mesurau diogelwch a fyddai ar waith mewn gorsafoedd pleidleisio. Er iddynt gael eu defnyddio'n uniongyrchol gan y Comisiwn, eu prif ddiben oedd helpu awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill i roi gwybodaeth gywir ac amserol i'w cymunedau.

Moderneiddio cofrestru etholiadol a manteisio i'r eithaf arno

Yn 2020, cynhaliwyd y canfasiad blynyddol cyntaf ym Mhrydain Fawr o dan broses ddiwygiedig newydd a oedd yn caniatáu i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ddefnyddio data cenedlaethol a lleol i nodi cyfeiriadau lle mae'n debygol y bu newid yn y bobl sy'n gymwys i gofrestru i bleidleisio.  Mae hyn yn caniatáu i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ganolbwyntio eu hadnoddau yn y meysydd hynny â'r angen mwyaf. Ystyriwn fod y diwygiadau hyn yn gam pwysig tuag at wella ein system cofrestru etholiadol ac rydym yn bwriadu cyflwyno adroddiad ar y ffordd y cafodd y canfasiad ei gynnal, gan ddefnyddio data a gasglwyd gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol, yn ystod haf 2011.

Roedd ein gwaith i gefnogi'r diwygiadau hyn yn cynnwys darparu canllawiau a chyngor helaeth i helpu gweinyddwyr etholiadol i ddeall eu cyfrifoldebau newydd, llunio a chyflwyno ffurflenni cofrestru pleidleiswyr newydd, a sicrhau bod ein safonau perfformiad newydd ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn gyson â'r broses newydd. Gwnaethom hefyd lunio canllawiau ychwanegol i fynd i'r afael â'r heriau penodol sy'n gysylltiedig â chynnal canfasiad yng nghyd-destun y pandemig.

Mae'r gwaith o graffu ar y cynigion a wnaed gan Swyddfa Gogledd Iwerddon a'n deialog barhaus â'r Prif Swyddog Etholiadol ar gyfer Gogledd Iwerddon ynghylch canfasiad llawn o etholwyr – a gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer 2020 ond y disgwylir iddo gael ei gynnal nawr yn 2021 – wedi helpu i sicrhau bod paratoadau ar gyfer y canfasiad wedi mynd rhagddynt yn dda. Ochr yn ochr â'r gwaith a wnaed gan y Prif Swyddog Etholiadol, byddwn yn cynnal ymgyrch aml-gyfrwng newydd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd ledled Gogledd Iwerddon ac i annog etholwyr i gofrestru yn ystod y cyfnod canfasio. Rydym hefyd wedi ymrwymo i gyflwyno adroddiad ar y ffordd y caiff y canfasiad ei gynnal, ac rydym yn bwriadu ei gyhoeddi cyn etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon ym mis Mai 2022. 

Mynd i'r afael â thwyll etholiadol

Darparwyd canllawiau a chyngor er mwyn helpu Swyddogion Cofrestru Etholiadol, Swyddogion Canlyniadau a'r heddlu i ddelio â thwyll etholiadol. Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, gwnaethom gydweithio ag Academi Troseddau Economaidd Heddlu Dinas Llundain i gynnal pedwar cwrs hyfforddi ar gyfer swyddogion yr heddlu a chyfrannu at y cyrsiau hyfforddi hynny. Aethom ati i drefnu'r 16eg seminar genedlaethol flynyddol ar gyfer Pwyntiau Cyswllt Unigol ar y cyd â'n partneriaid yng Nghyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, gyda'r seminar yn cael ei chynnal ar-lein am y tro cyntaf.  Gwnaethom hefyd gefnogi seminarau ar gyfer Pwyntiau Cyswllt Unigol yng Nghymru a'r Alban, a rhoddwyd briffiadau etholiadol dynodedig i Bwyntiau Cyswllt Unigol newydd. 

Drwy gydol y flwyddyn, anfonodd pob heddlu ledled y DU ddata atom am honiadau o dwyll etholiadol a ddaeth i law ac yr ymchwiliwyd iddynt. Bob blwyddyn, rydym yn cyflwyno adroddiad ar nifer, math a chanlyniad yr honiadau hyn, er mwyn deall yr hyn sydd wedi digwydd a sut y caiff achosion eu datrys. Rhoesom ddiweddariadau ar ganlyniadau achosion y rhoddwyd gwybod amdanynt yn 2019, gan gynnwys rhai a oedd yn gysylltiedig ag Etholiad Cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig, a chyhoeddwyd data hefyd ar y nifer bach o achosion y rhoddwyd gwybod amdanynt yn ystod 2020.