Gweithgarwch galluogi tri: Sefydliad sy'n dysgu, sy'n gwella'n barhaus ac yn defnyddio adnoddau'n effeithlon

Awn ati'n drylwyr i ddysgu o brofiad a cheisio gwelliant parhaus ym mhob peth a wnawn

Gydag anghenion parhaus i sicrhau ein bod yn rhoi gwerth am arian, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i reoli ein costau a gwneud defnydd effeithiol o'n technoleg, cyllid, amser ac adnoddau. Rydym yn gweithio i gyflawni'r canlynol:

  • Caffael systemau TG sy'n cynnig gwerth am arian ac yn gwella'r gwasanaethau a ddarperir, a'u rhoi ar waith
  • parhau â'n strategaeth ariannol a'i gwella er mwyn cadw'r Comisiwn o fewn cyllidebau y cytunwyd arnynt
  • adeiladu ar ein rheolaethau ariannol er mwyn sicrhau archwiliadau effeithlon
  • parhau i ddatblygu technegau i ddysgu o brofiad, ceisio gwelliant parhaus a dod yn fwy effeithlon ac effeithiol
  • datblygu strategaeth amgylcheddol gorfforaethol sy'n bodloni gofynion polisi a deddfwriaethol i leihau effaith amgylcheddol

Gwaith a wnaed i gyflawni'r nod hwn

  • Gwnaed newid i arweinyddiaeth y Comisiwn, ac ymgymerodd Rob Vincent â'r rôl Prif Weithredwr Dros Dro ym mis Rhagfyr 2023. Ei flaenoriaethau oedd cefnogi staff y Comisiwn i baratoi ar gyfer etholiadau 2024 a pharhau i roi gweddill mesurau'r Ddeddf Etholiadau ar waith. Ymunodd Vijay Rangarajan â'r Comisiwn fel Prif Weithredwr ym mis Mawrth 2024.
  • Gwnaethom barhau i fuddsoddi yn ein seilwaith digidol, gan gynnwys gwaith i wneud ein gwasanaethau yn fwy cadarn, diogel a dibynadwy. Gwnaethom barhau i gymryd camau i wella ein systemau digidol yn dilyn ymosodiad seiber. Gwnaethom uwchraddio systemau TG a seilwaith gweithio symudol, yn ogystal â gwella ein dulliau awdurdodi aml-ffactor er mwyn rhoi lefelau uchel o sicrwydd bod mynediad at ein systemau a'n data yn ddiogel
  • Rydym wedi gweithio ar y cam darganfod ar gyfer y prosiect Cyllid Gwleidyddol Ar-lein newydd. Er y bu oedi wrth gyflawni'r prosiect, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu system sy'n well i'w defnyddwyr. Mae ein tîm prosiect 44 mewnol wedi cwblhau gwaith gydag ymgynghorwyr allanol i benderfynu ar y ffordd ymlaen, gan gynnwys casglu adborth gan bartïon
  • Gwnaethom symud i adeiladau newydd yng Nghaerdydd a Belfast ar ôl i'n lesoedd ddod i ben, ynghyd â chynllunio datblygiadau i'n swyddfa yng Nghaeredin er mwyn cefnogi trefniadau gweithio mwy hyblyg.

Gwaith parhaus a gwaith yn y dyfodol i gyflawni'r nod hwn

  • Cymhwyso gwersi a ddysgwyd dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf mewn perthynas â'n prosesau caffael a chynllunio ariannol drwy gynyddu ein cadernid o fewn y timau cyllid a chaffael.
  • Cyflwyno fframwaith prentisiaeth newydd y Comisiwn, gan ehangu'r cynllun i brentisiaid allanol ymuno â'r Comisiwn ar gynllun prentisiaeth sefydledig, sy'n cefnogi symudedd cymdeithasol ac yn cynnig cyfleoedd i'r rhai o gefndir mwy difreintiedig ddechrau gyrfa gyda ni.
  • Parhau i ddenu a chadw'r doniau mwyaf medrus, drwy ystyried canfyddiadau adolygiad helaeth o gyflogau a gynhaliwyd gan arbenigwr cyflogau a dyfarniadau annibynnol. Bydd y gwaith hwn yn dweud wrthym a yw ein taliadau cydnabyddiaeth yn unol â'r farchnad rydym yn gweithredu ynddi.
  • Caffael System Rheoli Dysgu newydd a'i rhoi ar waith, a fydd yn galluogi prosesau cydweithio, casglu a hyfforddi gwell.
  • Parhau i gynnig ‘oriau dysgu’ i staff, sy'n cwmpasu popeth o iechyd a llesiant i ymwybyddiaeth ariannol, ac ystod eang o sgiliau a phynciau.