Trosolwg

Mae'r adran hon yn darparu trosolwg o'r Comisiwn Etholiadol, ein diben, ein perfformiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a'r risgiau allweddol a allai beryglu ein gallu i gyflawni ein nodau. 

Rydym wedi cynnwys gwybodaeth ariannol gryno yn yr adroddiad ar berfformiad. Mae'r wybodaeth hon yn gyson â'r datganiadau ariannol, lle mae rhagor o fanylion ar gael.

Cafodd y Comisiwn Etholiadol ei sefydlu gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA). Rydym yn annibynnol ar y llywodraeth a phleidiau gwleidyddol ac yn uniongyrchol atebol i Senedd y DU, Senedd Cymru a Senedd yr Alban.

Rydym wedi paratoi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2023/24 yn unol â chyfarwyddyd cyfrifon, a nodir ar dudalen 136,179a gyhoeddir gan Drysorlys EF o dan baragraff 17 (2) o Atodlen 1 PPERA. Rydym wedi paratoi'r adroddiad ar bwerau a sancsiynau ar dudalen 57yn unol â pharagraff 15 Atodlen 19(b) a pharagraff 27 Atodlen 19(c) PPERA.

Preface

Roedd paratoi ar gyfer etholiadau yn 2023 yn dasg fawr, a blaenoriaeth y Comisiwn oedd cefnogi pleidleiswyr, ymgyrchwyr a'r gymuned etholiadol drwy gyfnod o newid.

Y maes ffocws mwyaf sylweddol oedd cyflwyno'r gofyniad ID pleidleiswyr mewn etholiadau lleol yn Lloegr. Yn ogystal â gwneud y bleidlais yn fwy diogel, roedd yn hanfodol bod pob pleidleisiwr yn gallu parhau i ddefnyddio ei bleidlais ac y gallai gweinyddwyr gynnal y systemau newydd yn effeithiol ac yn gyson. Roedd codi ymwybyddiaeth y cyhoedd a chynorthwyo gweinyddwyr etholiadau ar frig ein hagenda. Cafodd yr etholiadau eu cynnal yn ddidrafferth ledled y wlad, sy'n adlewyrchu ymroddiad y staff niferus a aeth gam ymhellach i gyflawni o dan amgylchiadau heriol iawn. O ganlyniad i'n hymgyrch, cododd ymwybyddiaeth yn sylweddol cyn yr etholiadau a gwyddom y gallai'r mwyafrif helaeth o bleidleiswyr gymryd rhan.

Fodd bynnag, dangosodd tystiolaeth fod y gofyniad wedi peri rhwystr i rai pleidleiswyr. Mae un pleidleisiwr a gaiff ei wrthod yn un yn ormod a, gan weithio gydag eraill ar draws y system etholiadol, bydd angen i ni ddwysáu ein hymdrechion ar gyfer etholiadau yn y dyfodol fel nad yw unrhyw un yn colli ei bleidlais.

Mae gwaith sylweddol wedi’i wneud i baratoi ar gyfer etholiadau sy’n cael eu cynnal ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol, gan gynnwys etholiadau cynghorau lleol ledled Lloegr, etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr, a’r etholiad cyffredinol.

Etholiad cyffredinol Senedd y DU yw’r etholiad cyntaf i gael ei gynnal ledled y DU ers i'r Ddeddf Etholiadau gael ei chyflwyno, gan ei gwneud yn ofynnol i ni gynyddu ein hymdrechion i sicrhau bod pawb dan sylw yn deall y newidiadau ac yn gallu chwarae eu rhan. Yn ogystal, mae cyd-destun yr etholiad cyffredinol wedi newid yn sylweddol ers 2019, gyda lefelau cynyddol o gam-drin, bygylu a bygwth ymgeiswyr, ac effaith datblygiadau cyflym mewn technoleg. Un nodwedd sylweddol o waith Comisiwn fu ehangu a dyfnhau'r partneriaethau sydd gennym ag eraill, gan gynnwys llawer o sefydliadau cymdeithas sifil, gorfodi'r gyfraith a rheoleiddwyr eraill.

Gwelwyd datblygiadau penodol yn nhirwedd etholiadol Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd sydd wedi gofyn am gymorth parhaus o bob rhan o'r Comisiwn, gan gynnwys ein timau yng Nghaerdydd, Caeredin a Belfast. Mae ein rôl yn ymgysylltu ag etholiadau ym mhob un o wledydd y DU yn un o gryfderau penodol y Comisiwn a welwyd yn effeithiol eleni.

Hoffwn gydnabod ein bod wedi wynebu nifer o heriau o fewn y Comisiwn eleni hefyd. Ym mis Awst, gwnaethom gyhoeddi bod y Comisiwn wedi dioddef ymosodiad seiber soffistigedig, gan ddangos pa mor bwysig yw hi fod pob un ohonom yn effro i'r risgiau sy'n wynebu ein prosesau etholiadol. Gwnaethom roi sylw arbennig i gynorthwyo unigolion yr oedd eu data personol mewn perygl ac ymddiheurwn iddynt am beidio â diogelu eu gwybodaeth yn llwyddiannus. Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn gwelliannau i'n systemau er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i Shaun McNally a Rob Vincent am eu cyfraniadau fel Prif Weithredwr a Phrif Weithredwr Dros Dro, yn y drefn honno. Ym mis Mawrth, gwnaethom groesawu Vijay Rangarajan, fel ein Prif Weithredwr newydd, sy'n cynnig dealltwriaeth amrywiol a manwl o etholiadau, annibyniaeth a manwl gywirdeb yn ei ffordd o feddwl a'i frwdfrydedd dros ddemocratiaeth. Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at barhau i weithio gyda'n gilydd.

Yn ogystal, hoffwn ddiolch i'm cyd-Gomisiynwyr a staff y Comisiwn am eu hymroddiad, eu harbenigedd a'u gwydnwch. Mae llwyddiant y Comisiwn yn seiliedig ar ei ddidueddrwydd, ei annibyniaeth a'i broffesiynoldeb, ac rwyf yn hyderus bod gennym dîm sy'n barod i gyflawni ar gyfer pleidleiswyr, ymgyrchwyr a gweinyddwyr etholiadau drwy'r cyfnod prysur sydd o'n blaenau.

John Pullinger CB, Cadeirydd

Roeddwn wrth fy modd i ddechrau fy rôl fel Prif Weithredwr y Comisiwn ym mis Mawrth, wrth i bawb weithio'n galed dros ben i baratoi ar gyfer yr etholiadau lleol a’r Etholiad Cyffredinol.

Mae ymrwymiad a brwdfrydedd pawb sy'n gweithio yn y Comisiwn, ynghyd â'u sgiliau a'u gwybodaeth, wedi cael cryn argraff arnaf, yn ogystal â'r amrywiaeth o bartneriaid gwych sydd gennym.

Mae'n amlwg bod cyflwyno'r Ddeddf Etholiadau wedi arwain at lawer o newid. Mae cod statudol newydd i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, y gyfundrefn ar gyfer argraffnodau digidol, y gofyniad ID Pleidleiswyr, yr estyniad i etholfraint pleidleiswyr tramor, a newidiadau i drefniadau pleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy oll wedi cael eu cyflwyno ac mae llawer iawn o waith wedi cael ei wneud i sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith yn ddidrafferth.

Mae canllawiau, cymorthfeydd cynghori ac adnoddau gwybodaeth wedi cael eu creu i gefnogi'r gymuned etholiadol i ddeall y newidiadau a pharatoi ar eu cyfer. Mae llawer o'r sgyrsiau cynnar rwyf wedi'u cael gyda rhanddeiliaid wedi croesawu cymorth ac arbenigedd y Comisiwn, yn ogystal â’n gwaith ar y cyd ar gyfer yr etholiadau yn 2024.

Rwyf wedi croesawu'r cyfle i gyfarfod â'r rhai rydym yn gweithio agosaf gyda nhw, gan gynnwys seneddwyr, swyddogion canlyniadau a sefydliadau cymdeithas sifil. Rwyf yn gobeithio cael y cyfle i ymgysylltu â mwy dros y misoedd nesaf. Mae cynifer o faterion pwysig a heriau y mae angen i ni ymdrin â nhw gyda'n gilydd, gan gynnwys achosion o godi ofn ar ymgeiswyr, newidiadau ym maes technoleg ac ymgyrchu, a hyder y cyhoedd yn nhryloywder y system cyllid gwleidyddol.

Rwyf wedi mwynhau dysgu am y gwaith y mae'r Comisiwn yn ei wneud gyda phobl ifanc ac addysgwyr yn arbennig. Cofrestrodd 440 o ysgolion, grwpiau ieuenctid a sefydliadau addysgol eraill ledled y DU i gymryd rhan yn ein Hwythnos Croeso i Dy Bleidlais flynyddol. Gyda'n gilydd, gwnaethom ddathlu'r effaith y gall llais pawb ei chael, gan gynnwys gyda digwyddiad yn Senedd y DU ac ymweliad gan Aelod Seneddol i ysgol leol. Mae mor bwysig ymgysylltu â phobl o oedran ifanc a'u hannog i gymryd rhan mewn democratiaeth a phleidleisio. Edrychaf ymlaen at weld y gwaith hwn yn mynd o nerth i nerth.

Yn fewnol, mae llawer i'w ddathlu ar hyn o bryd, ond mae llawer i'w wneud hefyd. Mae buddsoddiadau pwysig wedi'u gwneud mewn meysydd, gan gynnwys seilwaith TG, amddiffynfeydd seiber, a gwaith uwchraddio i'n swyddfeydd. Rwyf yn ymrwymedig i sicrhau ein bod yn y sefyllfa gryfaf i gadw a denu ystod amrywiol o ddoniau a phrofiad. Byddwn yn parhau i gryfhau ein systemau cyllid, rheoli perfformiad a chaffael.

Rwyf yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf, a gweithio gyda staff a rhanddeiliaid y Comisiwn a'r gymuned etholiadol ehangach i gynnal etholiadau effeithiol ledled y DU. Yn ogystal ag argymell sut y gellir gwella a moderneiddio ein systemau ymhellach i helpu ymgeiswyr, pleidiau, ymgyrchwyr – ac yn enwedig pleidleiswyr.

Mae croeso i chi gysylltu os hoffech drafod sut i ddiogelu a chryfhau prosesau democrataidd y DU.

Vijay Rangarajan, Prif Weithredwr

Ein rôl

Ein rôl

Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y system etholiadol a sicrhau ei huniondeb.

Ein hamcanion strategol

  • Systemau cofrestru a phleidleisio hygyrch
  • Ymgyrchu gwleidyddol tryloyw a chyllid gwleidyddol sy'n cydymffurfio â'r rheolau
  • Gwasanaethau etholiadol lleol cadarn
  • Cyfraith etholiadol deg ac effeithiol
  • System etholiadol fodern a chynaliadwy

Ein gweledigaeth yw sicrhau bod pobl yn gwerthfawrogi ac yn ymddiried mewn etholiadau a refferenda, ac yn cymryd rhan ynddynt. Rydym yn ceisio cyflawni'r weledigaeth hon drwy gyflawni'r amcanion strategol a nodir yn ein Cynllun Corfforaethol.

Yr amcanion strategol hyn yw'r sylfaen ar gyfer gwerthuso perfformiad y Comisiwn ar gyfer y flwyddyn.

Ffactorau galluogi

Er mwyn sicrhau bod gennym ni fel sefydliad yr holl adnoddau i gyflawni'r amcanion hyn, rydym wedi nodi tri gweithgaredd galluogi allweddol.

Rydym yn parhau i ddangos ein hannibyniaeth a'n huniondeb drwy wneud penderfyniadau ar sail y dystiolaeth a bod yn dryloyw ynghylch y rhesymau dros wneud y penderfyniadau hynny, gan seilio ein safbwyntiau polisi a'n hargymhellion ar ddadansoddiad o'r dystiolaeth; cyfleu ein gwaith a'n barn yn effeithiol; darparu gwasanaethau ymatebol i'r rhai rydym yn eu cefnogi; a chynnal trefniadau llywodraethu effeithiol.

Rydym yn rhoi arferion gwaith diwygiedig ar waith er mwyn adlewyrchu newidiadau ehangach yn ein hamgylchedd gwaith a'n diwylliant; denu, cadw a datblygu'r bobl sydd eu hangen arnom; cynnal a gwella safonau rheoli uchel, gyda phwyslais ar ddatblygu ein pobl; ac ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ymhellach ym mhob agwedd ar ein gwaith.

Rydym yn caffael technoleg sy'n cynnig gwerth am arian ac yn gwella'r gwasanaethau a ddarperir, ac yn ei rhoi ar waith, fel y bo'n briodol; yn cynnal strategaeth ariannol ddarbodus gadarn; yn parhau i ddatblygu technegau i ddysgu o brofiad, ceisio gwelliant parhaus a dod yn fwy effeithlon ac effeithiol; ac yn datblygu strategaeth amgylcheddol gorfforaethol sy'n bodloni gofynion deddfwriaethol a gofynion polisi.

Ein rôl ledled y DU

Rydym yn cyflawni ar ran pleidleiswyr ym mhob rhan o'r DU ac mae gennym swyddfeydd yng Nghaerdydd, Belfast, Caeredin a Llundain. Rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban. Rydym yn atebol i Senedd y DU, Senedd Cymru a Senedd yr Alban, a chawn ein hariannu gan bob un o'r rhain am y gwaith a wneir ar etholiadau o dan eu pwerau datganoledig neu bwerau a gadwyd yn ôl. Nid yw cyfraith etholiadol wedi'i datganoli yng Ngogledd Iwerddon ac erys yn fater a gadwyd yn ôl i San Steffan.

Mae'r Comisiwn yn sefydliad ar gyfer y DU gyfan, ac mae'r Bwrdd yn gwneud penderfyniadau yn unol â hynny. O ganlyniad i ofynion deddfwriaethol, dim ond ar y gwaith a wneir mewn perthynas â'n rôl a'n hatebolrwydd i Senedd y DU y mae'r Adroddiad Blynyddol yn canolbwyntio. Mae gwybodaeth ar wahân ar gael mewn perthynas â'n gwaith ar etholiadau datganoledig yng Nghymru a'r Alban, a'n hatebolrwydd i'r seneddau.

Cipolwg ar ein blwyddyn

Chwater un

  • Lansiwyd canllawiau ar y cyd gyda heddluoedd ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon ar ddiogelwch ymgeiswyr a bygylu
  • Cyrhaeddodd ymwybyddiaeth o ID pleidleiswyr yn Lloegr 92% cyn y diwrnod pleidleisio
  • Cynhaliwyd etholiadau mis Mai yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yn effeithiol
  • Cyhoeddwyd dadansoddiad interim o ID pleidleiswyr yn etholiadau mis Mai 2023, gan ddarparu data ar y broses weithredu
  • Cynhaliwyd digwyddiad i holl staff y Comisiwn er mwyn trafod amcanion corfforaethol
  • Agorwyd y ddeiseb adalw gyntaf â'r gofyniad ID pleidleiswyr

Chwater dau

  • Cyhoeddwyd adroddiadau ar ôl y bleidlais ar gyfer etholiadau mis Mai yn Lloegr a Gogledd Iwerddon
  • Cyhoeddwyd ymchwil cywirdeb a chyflawnrwydd ar iechyd cofrestrau etholiadol y DU
  • Cyhoeddwyd bod y Comisiwn wedi dioddef ymosodiad seiber, a'r camau a gymerwyd
  • Cyhoeddwyd datganiadau o gyfrifon ar gyfer pleidiau gwleidyddol er mwyn sicrhau tryloywder
  • Daeth Polisi Gorfodi diwygiedig y Comisiwn i rym
  • Rhoddwyd tystiolaeth i Bwyllgor Ffyniant Bro Senedd y DU ar gofrestru etholiadol

Chwater tri

  • Daeth y drefn newydd ar gyfer argraffnodau digidol i rym, gan roi gwell tryloywder i bleidleiswyr
  • Rhoddwyd tystiolaeth i Bwyllgor Cyfansoddiadol Tŷ'r Arglwyddi ar roi'r gofyniad ID pleidleiswyr ar waith
  • Cynhaliwyd gweminar i Swyddogion Canlyniadau ledled Lloegr i gefnogi eu gwaith cynllunio
  • Daeth newidiadau i bleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy i rym
  • Cyflwynwyd tystiolaeth i'r Pwyllgor Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg mewn perthynas â deallusrwydd artiffisial ac etholiadau
  • Cynhaliwyd tri is-etholiad i Senedd y DU

Chwater pedwar

  • Cynhaliwyd Wythnos Croeso i Dy Bleidlais y Comisiwn ledled y DU
  • Lansiwyd ymgyrch newydd i gofrestru pleidleiswyr, gan annog pobl i ymfalchïo yn eu statws cofrestredig
  • Ehangwyd yr etholfraint i alluogi holl ddinasyddion y DU sy'n byw dramor i bleidleisio, ni waeth pryd y gwnaethant adael y DU
  • Cyhoeddodd y Comisiwn mai Vijay Rangarajan yw'r Prif Weithredwr newydd
  • Daeth y Cod Ymddygiad statudol newydd i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau i rym
  • Rhoddwyd tystiolaeth i'r Pwyllgor Safonau ar dirwedd safonau Tŷ'r Cyffredin

Ein blwyddyn mewn ffigurau

  • 296,400 o bleidleiswyr ychwanegol wedi'u cofrestru yn ystod ein hymgyrch (2022-23: 280,498) 
  • 86,649 o ymatebion i ymholiadau cyhoeddus (2022-23: 11,829)
  • 440 o sefydliadau wedi cymryd rhan yn Wythnos Croeso i Dy Bleidlais (2022-23: N/A)
  • 1,500 o bobl wedi cael cymorth rheoleiddio (2022-23: N/A) 
  • 81% o gofrestriadau plaid wedi'u prosesu o fewn yr amserlen darged (2022-23: 82%)
  • 100% o ganllawiau i weinyddwyr wedi'u cyhoeddi ar amser (2022-23: 100%) 
  • Gwerth £101miliwn o roddion wedi'u cyhoeddi (2022-23: N/A)

Dadansoddi perfformiad

Mae Cynllun Corfforaethol y Comisiwn yn nodi'r pum amcan strategol yr ydym yn gweithio i'w cyflawni dros gyfnod y cynllun pum mlynedd, wedi'u hategu gan dri ffactor galluogi allweddol. Mae'r adrannau sy'n dilyn yn nodi'r gwaith a wnaed yn 2023-24 i gyflawni pob amcan ac ategu pob ffactor galluogi, ynghyd â gwaith sy'n mynd rhagddo neu sydd wedi'i gynllunio yn ystod y flwyddyn i ddod.

Fel y dangosir yn yr adran hon, mae'r dangosyddion perfformiad allweddol yn dangos bod y Comisiwn yn cyflawni'r mwyafrif o'r targedau a'i fod ar y trywydd cywir i fodloni'r amcanion allweddol erbyn diwedd cyfnod y Cynllun Corfforaethol.


Mae'r dangosyddion yn dangos ein bod wedi cyflawni llawer o'n nodau blynyddol mewn meysydd allweddol, gan gynnwys rhagori ar y targedau o ran cofrestru pleidleiswyr, rhoi cyngor ac arweiniad amserol i'n rhanddeiliaid, a chyhoeddi gwybodaeth am gyllid pleidiau ac ymgyrchwyr yn amserol er mwyn sicrhau bod y system cyllid gwleidyddol yn dryloyw.

Fodd bynnag, o ganlyniad i gyhoeddi'r ymosodiad seiber ar y Comisiwn ar 8 Awst 2023, cafwyd nifer mwy o geisiadau rhyddid gwybodaeth a cheisiadau am fynediad at ddata gan y testun na'r arfer, a roddodd gryn bwysau ar gapasiti’r tîm. Er bod amseroedd ymateb i geisiadau rhyddid gwybodaeth o fewn y targed o hyd, ni wnaethom gyrraedd ein targed ar gyfer ceisiadau am fynediad at ddata gan y testun oherwydd cynnydd digynsail mewn ceisiadau.

Mae angen gwneud rhagor o waith i gyrraedd targedau ar gyfer cyhoeddi cofrestrau pleidiau ac ymgyrchwyr yn amserol hefyd, a chynnal sgoriau o ran ymgysylltu a llesiant staff.

Lawrlwythwch ein Hadroddiad Blynyddol llawn a'n Cyfrifon 2023/24