Ynghylch ein pŵer i greu Rheoliadau

Mae Senedd y DU wedi rhoi’r pŵer i ni i greu Rheoliadau o dan nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth sylfaenol, gan gynnwys Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 a Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983. 

Ni sy’n creu’r Rheoliadau hyn, nid gweinidogion y llywodraeth.

Lle bo hynny’n angenrheidiol, rydym yn defnyddio ein profiad o weinyddiaeth a rheoleiddiad etholiadau a refferenda i greu Rheoliadau sy’n llenwi manylion ymarferol Deddf er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio’n ymarferol mewn bywyd bob dydd.

Mae gan y Rheoliadau a grëwn effaith gyfreithiol ac maent yn dod yn rhan o’r rheolau sy’n llywodraethu etholiadau a refferenda.

Hyd yma rydym wedi defnyddio ein pwerau i greu pedwar Rheoliad.