25 Medi 2019 Nodiadau o gyflwyniad/trafodaeth anffurfiol i’r Comisiynwyr ar yr arolwg o gywirdeb a chyflawnrwydd
Meeting overview
Dyddiad: Dydd Mercher 25 Medi 2019
Lleoliad: Ystafell Boothroyd, 3 Bunhill Row, Llundain
Who was at the meeting
John Holmes, Cadeirydd
Anna Carragher
Sarah Chambers
Elan Closs Stephens
Alasdair Morgan
Rob Vincent
Stephen Gilbert
Joan Walley
Bob Posner, Prif Weithredwr
Craig Westwood, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil
Kieran Rix, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio
Mel Davidson, Pennaeth Cymorth a Gwella
David Bailey, Pennaeth Cynllunio Strategol a Pherfformiad
David Meek, Uwch-gynghorydd, Llywodraethu
Phil Thompson, Pennaeth Ymchwil
Tom Hawthorn, Pennaeth Polisi
Mark Williams, Rheolwr Polisi
Yr arolwg o gywirdeb a chyflawnrwydd
Rhoddwyd y cyflwyniad gan y Pennaeth Ymchwil, a esboniodd mai diben yr ymchwil oedd rhoi trosolwg o gywirdeb a chyflawnrwydd cofrestrau etholwyr ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon, llywio ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol, a llywio’r ffordd rydym yn cynnal ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth y cyhoedd.
Roedd y cyflwyniad yn cwmpasu’r adroddiad diweddaraf ar ansawdd y 372 o gofrestrau etholwyr yn y DU. Cymerwyd gofal i sicrhau bod yr aelwydydd a samplwyd yn cynrychioli dosbarthiad daearyddol o awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban a wardiau yng Ngogledd Iwerddon. Dyma’r tro cyntaf i faint y sampl yng Nghymru a’r Alban fod yn ddigon mawr i ni lunio amcangyfrifon cadarn ar gyfer yr ardaloedd datganoledig hynny. Er bod ein cyfradd ymateb o 72% yn eithaf uchel, roedd y Bwrdd ar ddeall bod risg o duedd systematig o ran pa aelwydydd a oedd yn debygol o ymateb, yr oedd yn anodd mynd i’r afael â hi.
Canfu’r arolwg nad oedd tua 17% o bleidleiswyr cymwys ym Mhrydain Fawr wedi’u cofrestru’n gywir yn eu cyfeiriad presennol. Yng Ngogledd Iwerddon, nid oedd 25% o bleidleiswyr cymwys wedi’u cofrestru’n gywir. Hefyd, roedd dros 10% o gofnodion ar y cofrestrau ym Mhrydain Fawr ac 20% yng Ngogledd Iwerddon yn anghywir. Cydnabu’r Pennaeth Ymchwil na allai’r astudiaeth fesur yn gywir bleidleiswyr a oedd wedi’u cofrestru mewn mwy nag un etholaeth.
Clywodd y Bwrdd fod pobl ifanc, pobl a oedd wedi symud tŷ yn ddiweddar, a rhentwyr preifat yn llawer llai tebygol o fod wedi’u cofrestru’n gywir. Roedd pobl a oedd wedi byw yn eu cyfeiriad am lai na dwy flynedd yn llawer llai tebygol o fod wedi’u cofrestru’n gywir na’r rhai a oedd wedi byw yn eu cyfeiriad am fwy o amser. Roedd cofnodion rhentwyr preifat ar y gofrestr yn llawer llai tebygol o fod yn gyfredol na chofnodion pobl sy’n berchen ar eu tai eu hunain. Roedd y canfyddiadau hyn yn debyg i ganlyniadau arolygon blaenorol.
Trafododd y Bwrdd gyfraddau cofrestru pleidleiswyr sydd â nodweddion gwahanol. Canfu’r astudiaeth fod cyfraddau cofrestru is ymhlith pleidleiswyr o dan 35 oed o’u cymharu â phleidleiswyr dros 35 oed ym Mhrydain Fawr ac yng Ngogledd Iwerddon. Cafwyd pryder bod y data yn awgrymu cyfraddau cofrestru is ymhlith pobl ifanc yng Ngogledd Iwerddon yn arwain at gyfraddau cofrestru is ymhlith carfanau hŷn; ymddangosai fod pleidleiswyr nad oeddent wedi’u cofrestru’n gywir pan oeddent yn iau yn llai tebygol o fod wedi’u cofrestru’n gywir wrth iddynt fynd yn hŷn.
Ystyriodd y Bwrdd gyfyngiadau’r ymgyrchoedd cofrestru presennol, ynghyd â dulliau newydd o wella cywirdeb a chyflawnrwydd cofrestrau etholwyr. Nododd y Bwrdd y diwygiadau arfaethedig i’r canfasiad blynyddol a oedd eisoes yn mynd rhagddynt.
Ystyriodd y Bwrdd opsiynau a allai wella cywirdeb a chyflawnrwydd y gofrestr. Ymhlith yr opsiynau roedd caniatáu i Swyddogion Cofrestru Etholiadol gael mwy o fynediad at y data cenedlaethol sy’n bodoli eisoes a allai gefnogi prosesau cofrestru mwy awtomataidd neu awtomatig. Trafodwyd hefyd integreiddio cofrestru etholiadol â thrafodion gwasanaethau cyhoeddus eraill, er enghraifft gwneud cais am drwydded yrru neu adnewyddu trwydded yrru, er mwyn ei gwneud yn haws i bleidleiswyr sicrhau bod eu manylion cofrestru yn gywir. Gallai newid i ffurfiau mwy awtomataidd ar gofrestru ar gyfer grwpiau penodol, er enghraifft cofrestru pleidleiswyr ifanc pan fyddent yn cael eu rhif Yswiriant Gwladol cyn eu pen-blwydd yn 16 oed, helpu i wella lefelau cofrestru.
Nododd y Pennaeth Ymchwil yr anawsterau wrth gymharu ffigurau cywirdeb a chyflawnrwydd yn ddibynadwy dros amser a rhwng gwahanol astudiaethau. Esboniodd fod yn rhaid ystyried ffactorau eraill, megis nifer gwladolion yr Undeb Ewropeaidd a oedd yn byw yn y DU ar adeg cymharu. Cafwyd newidiadau i’r etholfraint dros amser hefyd, a fyddai’n effeithio ar y gallu i gymharu ffigurau. Gofynnodd y Bwrdd i’r Pennaeth Ymchwil ystyried gwneud cymhariaeth â gwledydd eraill.
Trafododd y Bwrdd y ffordd orau o gyflwyno canfyddiadau ac argymhellion yr astudiaeth. Ym marn y Bwrdd, roedd yn briodol rhoi gwybodaeth ronynnaidd am nodweddion pleidleiswyr a oedd yn llai tebygol o fod wedi’u cofrestru. Awgrymodd y Bwrdd hefyd y dylid argymell newidiadau i’r broses gofrestru er mwyn lleihau nifer y cofnodion dyblyg yn y system.
Daeth y cyfarfod i ben am 2.35pm.