Cofnodion Bwrdd y Comisiwn: 13 Mawrth 2019
Meeting overview
Dyddiad: 13 Mawrth 2019
Amser: 9:30am to 12:20pm
Lleoliad: Ystafell Boothroyd, 3 Bunhill Row, Llundain
Dyddiad y cyfarfod nesaf a drefnwyd: 24 Ebrill 2019
Yn bresennol
John Holmes, Cadeirydd
Alasdair Morgan
Alastair Ross
Anna Carragher
Elan Closs Stephens
Joan Walley
Rob Vincent
Sarah Chambers
Stephen Gilbert
Sue Bruce
Bob Posner, Prif Weithredwr
Ailsa Irvine, Cyfarwyddwr, Gweinyddu Etholiadau a Chanllawiau
Louise Edwards, Cyfarwyddwr, Rheoleiddio
Craig Westwood, Cyfarwyddwr, Cyfathrebu ac Ymchwil
Kieran Rix, Cyfarwyddwr, Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
David Bailey, Pennaeth Cynllunio Strategol a Pherfformiad
David Meek, Uwch Gynghorydd, Llywodraethu
Tim Crowley, Pennaeth Ymgyrchoedd a Chyfathrebu Corfforaethol
Natasha Hutchinson, Rheolwr Cyfathrebu Digidol
Ymddiheuriadau a chyflwyniadau
Dim ymddiheuriadau.
Datganiadau o fuddiant
Dim datganiadau o fuddiant newydd.
Cofnodion cyfarfod Bwrdd y Comisiwn ar 13 Chwefror 2019 (EC 14/19)
Penderfynwyd: Y dylid cytuno ar gofnodion cyfarfod Bwrdd y Comisiwn ar 13 Chwefror 2019.
Diweddariad Pwyllgor y Llefarydd
Cadarnhaodd Bob Posner fod y gwrandawiad gyda Phwyllgor y Llefarydd wedi cael ei ohirio tan 18 Mawrth. Rydym ar ddeall nad oedd gan y Trysorlys unrhyw arsylwadau penodol i'w gwneud, ac roedd yn gefnogol o'r gyllideb arfaethedig ar y cyfan, er ei fod yn pryderu na ddylid cynnig cynnydd arall ar gyfer blynyddoedd yn y dyfodol.
Negeseuon allweddol ar gyfer Adroddiad Blynyddol 2018/19 (EC 15/19)
Cyflwynodd Bob Posner y papur yn awgrymu themâu allweddol yn yr adroddiad blynyddol. Roedd angen dod o hyd i'r cydbwysedd cywir rhwng nodi ein cyflawniadau ac ymddangos yn hunanganmoliaethus.
Anogodd y Bwrdd fwy o bwyslais ar y gwaith rydym wedi'i wneud gyda'r gwledydd datganoledig, yn enwedig Cymru a'r Alban. Gellid cael adran annibynnol ar hyn. Awgrymodd y Bwrdd hefyd y dylai'r adroddiad barhau i bwysleisio'r angen i wneud gwaith diwygio deddfwriaethol.
Gofynnodd y Bwrdd am i'r Adroddiad Blynyddol dynnu sylw at enghreifftiau penodol o feysydd cynnydd, efallai yn ôl Cyfarwyddiaeth, ac awgrymodd gynnwys cyfeiriad at y gwaith cynllunio wrth gefn rydym wedi'i wneud i sicrhau parodrwydd ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau pleidleisio posibl, a'r gwaith roeddem wedi'i wneud ar ymgyrchu digidol. Dylai hefyd fod cyfeiriadau at waith y Pwyllgor Archwilio a'r Pwyllgor Cydnabyddiaeth ac Adnoddau Dynol. Dylid sôn am feysydd lle y gwnaethom fethu ein targedau yn ôl yr angen.
Penderfynwyd: Y dylai'r papur gael ei nodi, yn amodol ar y sylwadau a wnaed.
Adolygiad risg blynyddol (EC 16/19)
Cyflwynodd Bob Posner y papur, a nododd fod angen i ni fod yn gyfforddus gyda'r cydbwysedd rhwng awydd am risg a'r gallu i ymdrin â risg. Edrychodd y Pwyllgor Archwilio yn fanwl ar y matrics risg ond roedd angen i'r Bwrdd gymryd trosolwg hefyd.
Nododd y Bwrdd mai'r risg fwyaf difrifol roeddem yn ei wynebu oedd niwed i'n henw da, a gofynnodd am i hyn gael ei adlewyrchu yn fwy penodol yn y matrics risgiau. Mae ymwybyddiaeth o risg i enw da yn cyfateb i nifer o risgiau a nodwyd yn y papur. Roedd hefyd angen edrych eto ar ddiffiniadau coch, oren a gwyrdd i wneud yn siŵr eu bod yn iawn, ac i ystyried y ffordd y gallai cyd-destun y risg newid yn gyflym.
Clywodd y Bwrdd sut roedd gwybodaeth yn cael ei chasglu gan awdurdodau lleol ledled wlad am b'un a oedd ganddynt yr adnoddau a'r gallu i gynnal etholiadau. Adlewyrchwyd y wybodaeth hon yn y sgoriau risg.
Cam gweithredu: Y dylai risg a sicrwydd fod yn bwnc ar gyfer Diwrnod y Comisiynwyr yn y dyfodol.
Ystyried sut i ddiwygio risg un er mwyn cydnabod risg i enw da fel rhywbeth pwysig i'r sefydliad.
Penderfynwyd: Y dylai'r papur gael ei nodi.
Argymhellion o brosiect arloesi a datblygu 4: Gwella ymgysylltiad democrataidd ieuenctid (EC 17/19)
Cyflwynodd Craig Westwood y papur, ac eglurodd y ddau argymhelliad – un ar gyfer prosiect newydd penodol ar helpu i addysgu pobl ifanc am faterion etholiadol, a'r llall ar gyfer gwella darpariaeth gwybodaeth o fewn busnes fel gweithdrefnau arferol. Ar y prosiect, roeddem wedi archwilio gyda meddwl agored sut y byddem yn gweithio gydag addysgwyr i wneud ein gwaith gyda nhw yn y maes hwn. Y nod oedd symud yn ochelgar. I ddechrau byddem yn canolbwyntio ar waith yng Nghymru a'r Alban, oherwydd yr etholfraint oedran is (gwirioneddol ac arfaethedig) a'r etholiadau sydd ar y gorwel i'r deddfwrfeydd datganoledig. Byddai hyn yn rhoi dealltwriaeth bwysig i ni y gellir ei defnyddio i ymestyn y gwaith hwn i weddill y Deyrnas Unedig yn y tymor hwy. Lle y bo'n bosibl, byddai deunydd presennol yn cael ei ddefnyddio, er enghraifft o'r ‘Democracy Cookbook’. Roedd yr ail argymhelliad yn ymwneud â chynnwys dolenni gwell, gan ddefnyddio'r wefan yn bennaf, i ddata pwysig am leoliad gorsafoedd pleidleisio er enghraifft.
Nododd y Bwrdd y sensitifrwyddau gwleidyddol am rai o'r materion hyn, a phryderon gan rai ysgolion ynghylch ymgysylltu â gwleidyddiaeth yn yr ystafell ddosbarth. Nododd y comisiynwyr hefyd fod angen i ni fod yn ymwybodol o'r dulliau o wneud hyn yn dda, ac i gymryd gofal y bydd beth bynnag rydym yn ei gynnig yn addas i'r byd mae athrawon yn gweithredu ynddo. Mynegwyd pryderon hefyd am sut i gyrraedd y rhai nad ydynt mewn addysg ffurfiol.
Trafododd y Bwrdd rôl ddeddfwriaethol y Comisiwn ac i ba raddau roedd cyfyngiadau ar yr hyn y gallem ei wneud o ran addysg. Trafodwyd partneriaid posibl amrywiol yn y gwaith hwn, gan gynnwys y BBC, yr Adran Addysg a Young Scot. Cytunwyd y dylid datblygu ein dull yn ailadroddol er mwyn sicrhau ei fod yn addas at y diben. Nodwyd hefyd, yng nghyd-destun gostwng oedran pleidleisio'r etholfraint i 16 yn yr Alban, fod llawer o waith addysgol o'r fath yn digwydd eisoes.
Roedd trafodaeth hefyd am rolau perthnasol y Comisiwn a phleidiau gwleidyddol i ysbrydoli pobl ifanc i bleidleisio. Nododd y Bwrdd nad dweud wrth bobl am bleidleisio oedd ein rôl, ond cynnig gwybodaeth a chyngor am y ffordd i gofrestru a phleidleisio, a sut i ddeall y system etholiadol yn well. Cytunwyd y dylem ganolbwyntio ar ddarparu adnoddau i gefnogi addysgu yn y cyd-destun hwnnw yn unig, a cheisio addasu ein dull o weithredu wrth i ni ennill mwy o brofiad.
Penderfynwyd: Y dylai'r papur gael ei gymeradwyo, yn amodol ar y sylwadau a wnaed.
Diweddariad ar gynnydd y wefan newydd
Rhoddodd Tim Crowley a Natasha Hutchinson y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect i ddatblygu'r wefan newydd, a gwnaethant ddangos swyddogaeth fwy hyblyg y safle newydd, gan gynnwys cyfleusterau chwilio llawer gwell. Croesawodd y Bwrdd y gwaith sy'n mynd rhagddo
Penderfynwyd: Y dylai'r cyflwyniad gael ei nodi.
Diweddariad y Prif Weithredwr (EC 18/19)
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau wrth gefn ar gyfer digwyddiadau etholiadol annisgwyl. Roedd yn gyfnod prysur iawn ond roedd cynnydd da yn cael ei wneud mewn llawer o feysydd
Yn dilyn her gyfreithiol gan unigolyn, roedd llywodraeth y DU yn disgwyl dyfarniad llys yn fuan iawn o ran p'un a ellir cynnal cynlluniau peilot prawf adnabod yn etholiadau lleol mis Mai.
Clywodd y Bwrdd am y gwaith rhagweithiol roeddem yn ei wneud i gofrestru pleidiau gwleidyddol newydd a gwella'r gofrestr pleidiau yn gyffredinol. Cafwyd ymgysylltiadau calonogol yn y maes hwn. Roeddem hefyd yn cynyddu ein hallgymorth i gymdeithasau aelodau, megis cwmnïau neu gyrff anghorfforedig a oedd yn cynnwys aelodau plaid wleidyddol yn llwyr neu'n bennaf.
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyfreitha cyfredol.
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad gan y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol (PACAC) i'r gyfraith etholiadol. Byddem yn cyflwyno dogfen ysgrifenedig a rhannu'r hyn roeddem wedi'i chyflwyno â phartïon eraill â diddordeb, er mwyn helpu i ddylanwadu ar eu dulliau gweithredu. Nododd y comisiynwyr fod ymchwiliad PACAC yn gyfle pwysig i ni lunio pa newidiadau yr hoffem eu gweld mewn cyfraith etholiadol.
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith diweddar mae'r adran Adnoddau Dynol wedi'i wneud, a'r newidiadau arfaethedig i'n dull o logi staff ar gontractau tymor sefydlog. Cafwyd diweddariad hefyd am archwiliad interim y Swyddfa Archwilio Genedlaethol o'r cyfrifon blynyddol, a oedd wedi mynd yn dda.
Rhoddodd Anna Carragher y wybodaeth ddiweddaraf am Ogledd Iwerddon.
Gadawodd Sue Bruce y cyfarfod ar yr adeg hon.
Cam gweithredu: Dylid rhannu dull gweithredu a chwmpas y cyflwyniad arfaethedig i PACAC am yr ymchwiliad diwygio cyfraith etholiadol â'r Bwrdd.
Penderfynwyd: Y dylai'r papur gael ei nodi.
Blaengynllun o fusnes y Bwrdd 2018-2020 (EC 19/19)
Cam gweithredu: Ystyried ychwanegu cyfarfod Pwyllgor Archwilio ym mis Ebrill.
Ystyried cyfleoedd i gysylltu â chomisiynau etholiadol Awstralia, Seland Newydd a Chanada yn Niwrnod y Comisiynwyr ym mis Gorffennaf.
Ychwanegu pennu cwmpas prosiect moderneiddio pleidleisio at adran “eitemau i'w neilltuo” y cynllun gwaith.
Penderfynwyd: Y dylai'r papur gael ei nodi.
System tracio camau gweithredu (EC 19/20)
Penderfynwyd: Y dylai'r papur gael ei nodi.
Cyfarfod y Cadeirydd a'r Prif Weithredwr a chyfarfodydd mewn deddfwrfeydd datganoledig (EC 21/19)
Penderfynwyd: Y dylai'r papur gael ei nodi.